Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth yngl â’r hyn y mae cyrff penderfynu'r cyngor wedi'i benderfynu yn ddiweddar.
Neu gallwch ymweld â thudalen Penderfyniadau Dirprwyedig ar gyfer gwybodaeth am benderfyniadau y mae swyddogion penodol y cyngor wedi'u.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/10/2021
Effective from: 08/10/2021
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/10/2021
Effective from: 08/10/2021
Penderfyniad:
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Rheng Flaen yr Aelodau at ei adroddiad a nododd y rhaglen gyfalaf fanwl ar gyfer y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd i gynnal rhwydwaith priffyrdd a chludiant y Cyngor, ymhellach i benderfyniad y Cabinet ar 21 Medi 2021 i gytuno ar £1.5 miliwn ychwanegol o arian cyfalaf ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd yn 2021/22, ac yn amodol ar ystyriaeth gadarnhaol gan y Cyngor ar 29 Medi.
Rhoddwyd manylion i'r Aelodau o'r gwelliannau priffyrdd a nodwyd gan gynnwys ffyrdd cerbydau a gwelliannau i'r troedffyrdd a chyfeiriwyd yr Aelodau at atodiad 1 yr adroddiad a oedd yn manylu ymhellach ar y buddsoddiad i'w wneud. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod y Cyngor yn un o'r ychydig Gynghorau a oedd wedi parhau i wneud buddsoddiadau ystyrlon a sylweddol yn ei rwydwaith priffyrdd.
Croesawodd yr Arweinydd yr adroddiad gerbron yr Aelodau a chyfeiriodd at y gwelliannau a gyflwynwyd eisoes gan y Cyngor gyda £1.304 miliwn o gynlluniau arfaethedig i'w hychwanegu at gerbydffyrdd, a fyddai'n cael eu hategu ymhellach gan £0.100 miliwn i gyflawni gwelliannau draenio trwy gydol y cyfnod. Cyfeiriodd yr Arweinydd hefyd at y cynlluniau arfaethedig gwerth £0.096 miliwn mewn perthynas â llwybrau troed.
Gyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P. Jarman y pwyllgor yngl?n â'r eitem yma.
Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau ar yr heriau sy'n wynebu'r holl Awdurdodau Lleol a chyfeiriodd at y buddsoddiad yr oedd y Cyngor wedi parhau i'w ddatblygu gan ganmol y gwasanaeth am y gwaith a gyflawnwyd a'r hyn mae'n dal i'w gyflawni.
Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD:
1. Nodi a chymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf Atodol ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol yn unol â'r manylion yn yr adroddiad.
2. Nodi bod y dyraniadau presennol yn rhan o raglen gyfalaf 3 blynedd a chytuno i ddirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gyfadran, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol, ymestyn gweithgarwch i gyflawni prosiectau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol lle mae capasiti yn bodoli ar gyfer cyflwyno carlam yn unol â phwrpas y rhaglen ehangach, neu atal rhaglen/rhaglenni ac ailddyrannu cyllid i fanteisio i'r eithaf at y dull darparu.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/10/2021
Effective from: 08/10/2021
Penderfyniad:
Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yr Aelodau gyda gwybodaeth wedi'i diweddaru yn dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd i'r Cabinet ym mis Chwefror 2021 lle cytunodd y Cabinet gwaith cwmpasu ychwanegol yn cael ei wneud gan gynnwys astudiaethau dichonoldeb, lle bo hynny'n briodol, i lywio cynigion posibl ar gyfer newid yn narpariaeth ysgol arbennig y Cyngor.
Dywedwyd wrth yr Aelodau, o ystyried y newidiadau sylweddol a gynlluniwyd yng Nghymru mewn perthynas â'r ddarpariaeth statudol sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion disgyblion wrth weithredu deddfwriaeth newydd, adeiladu ysgol arbennig newydd, a chreu capasiti pellach yn narpariaeth gyfredol yr Awdurdod, y byddai'n sicrhau bod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaethau statudol yn llwyddiannus.
Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yr adroddiad a'r cyfleoedd a fyddai'n mynd i'r afael â'r galw yn ysgol arbennig y Cyngor ac yn darparu ar gyfer y cynnydd mewn disgyblion. Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at y pwysau sy'n wynebu ysgolion arbennig a dywedodd y byddai'r cynnig yn cynyddu nifer yr ysgolion arbennig o bedair i bump, a fyddai'n diwallu anghenion y disgyblion.
Ar y pwynt hwn o'r cyfarfod a gyda chaniatâd yr Arweinydd, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman ar yr eitem hon.
Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau ar y pwysau o fewn ysgolion arbennig a'r angen i gynyddu cyfalaf ychwanegol, gan nodi y byddai'r cynnig yn lleddfu pwysau o'r fath.
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Nodi cynnwys yr adroddiad.
2. Cydnabod y pwysau ar ysgolion arbennig y Cyngor a'r angen am fuddsoddiad sylweddol i gynyddu capasiti a rheoli'r galw cynyddol.
3. Nodi bod buddsoddiad wedi'i gynnwys yn Rhaglen Amlinellol Strategol Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor i fuddsoddi mewn ysgol arbennig newydd ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (RhCT).
4. Derbyn adroddiadau pellach wrth i'r cynnig ddatblygu a symud ymlaen yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, a phrosesau cymeradwyo statudol Ysgolion a Cholegau 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/10/2021
Effective from: 08/10/2021
Penderfyniad:
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant yr wybodaeth ddiweddaraf â'r Aelodau am Raglen Amlinellol Strategol Ysgolion yr 21ain Ganrif ddiwygiedig y Cyngor, a gymeradwywyd mewn egwyddor yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru.
Rhoddwyd trosolwg i'r aelodau o'r prosiectau a ddygwyd ymlaen, gan gynnwys:
· Cwblhau Ysgol Gynradd Hirwaun
· Parhau â'r gwaith yn YGG Aberdâr, sy'n gwneud cynnydd da;
· Parhau â'r gwaith yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, sy'n gwneud cynnydd da;
· Dechrau ar gyfnod ymgynghori (cynllunio) ar gyfer ysgol Gymraeg newydd yn Rhydfelen;
· Mae gwaith dylunio manwl bron wedi'i gwblhau ar gyfer 3 ysgol gynradd newydd a ariennir trwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef Ysgol Gynradd Pont-y-Clun, Ysgol Gynradd Penygawsi ac Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref;
· Mae gwaith sefydlu 2 ysgol pob oed yn mynd rhagddo ym Mhontypridd a'r Ddraenen-wen;
· Mae'r adeilad newydd ar gyfer addysgu'r 6ed a'r gwelliannau eraill i Ysgol Gyfun Bryncelynnog wrthi'n cael eu dylunio
Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y cynnydd sylweddol yng nghyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn gyfle cyffrous i ragor o ddisgyblion a chymunedau elwa ar gyfleusterau addysgol a chymunedol gwell. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod y rhaglen yn caniatáu i ragor o ddisgyblion gael eu haddysgu yn Gymraeg a'i fod yn sicrhau bod modd i ddisgyblion mwy agored i niwed fanteisio ar gyfleusterau Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Nodwyd y byddai'r Rhaglen yn darparu cyfleoedd cyffrous ar gyfer agenda 'ysgolion sy'n canolbwyntio ar y gymuned', gan roi ysgolion wrth galon y gymuned a chaniatáu i'r Cyngor barhau i gyflawni ei nod uchelgeisiol o wneud pob ysgol yn ysgol wych.
Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant am y cynnig cyffrous gyda’r buddsoddiad yn nodi mai cyfanswm y rhaglen wreiddiol oedd £167 miliwn - ac mai cyfanswm y Rhaglen newydd yw £252 miliwn. Dyma gynnydd sylweddol a alluogodd i £85 miliwn arall gael ei fuddsoddi yn ysgolion Rhondda Cynon Taf.
Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet fod y rhaglen yn creu cyfalaf a buddsoddiad ychwanegol ac nad oedd yn arwain at gau cyfleusterau.
Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai y newyddion a siaradodd am yr angen dirfawr am welliannau mewn rhai adeiladau ysgol, er enghraifft ysgol Pen-rhys, gan holi'r Cyfarwyddwr am amserlenni. Ymatebodd y Cyfarwyddwr y byddai'r rhaglen yn para am 5 mlynedd.
Ar y pwynt yma yn y cyfarfod, siaradodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple am yr eitem.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei bod hi'n braf gweld y buddsoddiad ar gyfer y dyfodol yn cael ei gynnig, a fyddai'n caniatáu i bobl ifainc yr Awdurdod fanteisio ar y cyfleusterau gorau, sef yr hyn maen nhw'n ei haeddu.
Dywedodd yr Arweinydd mai hwn oedd y buddsoddiad mwyaf erioed mewn ysgolion, a chroesawodd y buddsoddiad ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Nodi bod y buddsoddiad yn y Rhaglen Amlinellol Strategol gymeradwy wedi cynyddu'n sylweddol o £167 miliwn i £252 miliwn, sef cynnydd o £ 85 miliwn.
2. Derbyn adroddiadau pellach wrth i'r prosiect ddatblygu a symud ymlaen trwy brosesau cymeradwyo Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/10/2021
Effective from: 08/10/2021
Penderfyniad:
Rhoddodd y Prif Weithredwr drosolwg i'r Aelodau o'i adroddiad a oedd yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CJCs).
Atgoffwyd yr Aelodau y darparwyd ar gyfer ffurfio Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) gan ychwanegu y byddai Cyd-bwyllgorau Corfforaethol dros amser yn newid tirwedd a llywodraethu rhai o swyddogaethau lles economaidd, cynllunio strategol a chludiant strategol a gyflawnir ar hyn o bryd gan y cynghorau cyfansoddol sy'n ffurfio'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol ar draws Rhanbarth De Ddwyrain Cymru neu Lywodraeth Cymru neu gorff cyhoeddus arall a noddir gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei fod yn gweithredu fel catalydd i ddatblygu a gweithredu trefniadau cydweithredol ar draws llywodraeth leol, lle mae cynllunio a darparu rhanbarthol yn gwneud synnwyr, gan eu defnyddio fel ffordd o sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru trwy gynnal atebolrwydd ddemocrataidd lleol, lleihau cymlethdodau a gwneud y defnydd gorau o adnoddau.
Aeth y Prif Weithredwr ymlaen i ddweud bod Cabinet ar y Cyd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn Ne Ddwyrain Cymru wedi ceisio bod yn rhagweithiol a chytuno i drosglwyddo'r swyddogaethau o dan gytundeb y Fargen Ddinesig, a gymeradwywyd yn flaenorol gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r deg cyngor ym mis Mawrth 2016, i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru ar 28 Chwefror 2022. Dyma'r dyddiad y daw'r swyddogaethau lles economaidd, cynllunio strategol a chludiant i fodolaeth ar gyfer y Cyd-bwyllgor Corfforaethol newydd.
Diolchodd yr Arweinydd i'r Prif Weithredwr am y diweddariad a chynghorodd y byddai diweddariadau mewn perthynas â Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn dod gerbron y Cabinet a'r Cyngor. Siaradodd yr Arweinydd yn gadarnhaol am fanteision gweithio ar y cyd, yn enwedig trwy drefniadau'r Fargen Ddinesig, a chyfeiriodd at y nifer o brosiectau cadarnhaol a gyflawnwyd trwy waith o'r fath.
Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, a gyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman y Cabinet ar yr eitem hon. Mewn ymateb i rai o sylwadau'r Cynghorydd Jarman mewn perthynas â'r Fargen Ddinesig, dywedodd y Prif Weithredwr fod buddion y trefniadau yn sylweddol uwch na'r hyn y gellid fod wedi'i gyflawni heb drefniadau gweithio o'r fath, gan gyfeirio at brosiectau fel Zipworld.
Adleisiodd yr Arweinydd y sylwadau hyn mewn perthynas â chydweithio a rhoddodd sicrwydd na fyddai Cyd-bwyllgorau Corfforaethol yn cael eu ffurfio oni bai bod hynny yn gweithio'n dda i'r Awdurdod.
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Nodi'r rheoliadau newydd sydd wedi sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru a datblygu'r swyddogaethau canlynol yn y dyfodol ar draws y rhanbarth o 1 Mawrth 2022; (1) lles economaidd, (2) cynllunio datblygu strategol, a (3) datblygu polisïau trafnidiaeth;
2. Nodi penderfyniad Cydbwyllgor Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar 20 Rhagfyr 2021 i drosglwyddo ei swyddogaethau presennol, sydd yn bennaf mewn perthynas â chytundeb y Fargen Ddinesig fel yr ymrwymwyd iddo gan y deg cyngor yn Ne Ddwyrain Cymru ym mis Mawrth 2016, i Gydbwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru ar 28 Chwefror 2022. Mae trosglwyddo'r Fargen Ddinesig o'r Cyd-bwyllgor presennol i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol newydd, yn golygu bod modd i'r broses fod yn ddidrafferth, sy'n cynnwys diogelu lles economaidd rhanbarthol a swyddogaethau cludo presennol.
3. Bod diweddariadau ychwanegol yn cael eu darparu i'r Cabinet a'r Cyngor Llawn, lle bo hynny'n briodol gan fod Llywodraeth Gymru yn darparu mwy o fanylion ar bwerau a chyfrifoldebau Cyd-bwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru a datganoliad posibl pwerau a swyddogaethau o Lywodraeth Cymru i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/10/2021
Effective from: 08/10/2021
Penderfyniad:
Derbyn adroddiad ar y cyd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi nifer o opsiynau i'r Cabinet a allai wella proses recriwtio'r Cyngor er mwyn ei gwneud hi'n haws i Gymuned y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr oresgyn rhwystrau i gyfleoedd gwaith mewn bywyd sifil.
Dywedwyd wrth yr Aelodau mai'r prif gynnig oedd cyflwyno Cynllun Cyfweld Gwarantedig ar gyfer ymadawyr gwasanaeth, milwyr wrth gefn a chyn-filwyr y Lluoedd Arfog os ydynt yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer swyddi gwag.
Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at hanes cadarnhaol yr Awdurdod o weithio gyda lluoedd Arfog a siaradodd am Gyfamod y Lluoedd Arfog a gwobr cydnabod aur. Cyfeiriodd yr Aelod at y sgiliau trosglwyddadwy a oedd gan gyn-filwyr y gallai'r Cyngor elwa ohonynt. Dywedwyd wrth y Cabinet fod Gweithgor y Lluoedd Arfog yn gefnogol iawn o'r cynigion.
Gyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P. Jarman y pwyllgor yngl?n â'r eitem yma.
Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Dirprwy Arweinydd am y gwaith a wnaeth mewn perthynas â'r lluoedd arfog a chyn-filwyr a chroesawodd y cynigion yn yr adroddiad.
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Nodi a chytuno i weithredu Cynllun Cyfweliad Gwarantedig ar gyfer ymadawyr gwasanaeth, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn.
2. Cytuno bod y Cyngor yn gweithio gyda'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gyrfa, sef gwasanaeth recriwtio am ddim i sefydliadau sy'n chwilio am gyn-filwyr uchel eu cymhelliant a phrofiadol, sy'n gadael y Lluoedd Arfog.
3. Cytuno bod y Cyngor yn gweithio gyda Forces Families Jobs, sef gwasanaeth recriwtio am ddim sy'n cefnogi aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog i gael gwaith.
4. Cytuno i gynnwys is-bennawd ar hysbysebion swyddi sy'n croesawu ceisiadau gan y gymuned filwrol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/10/2021
Effective from: 08/10/2021
Penderfyniad:
Rhoddodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant drosolwg i'r Cabinet o weithrediad ac effeithiolrwydd gweithdrefn gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol statudol y Cyngor rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021, a oedd yn cynnwys gwybodaeth am gefndir gweithdrefn gwynion statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, gwybodaeth am wersi a ddysgwyd o gwynion a data perfformiad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant, ynghyd â chyflawniadau ar gyfer 2020/21 a datblygiadau yn y dyfodol.
Diolchodd yr Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg i'r Rheolwr Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid am y gwaith caled a wneir yn gyson wrth ddelio â'r holl sylwadau a dderbynnir. Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet at y dystiolaeth glir o'r gweithdrefnau cadarn sydd ar waith ac roedd yn falch o nodi'r gostyngiad sylweddol yn y cwynion a dderbyniwyd, yn dilyn blwyddyn heriol.
Adleisiodd yr Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet a siaradodd am sut y defnyddiodd y Cyngor y sylwadau a dderbyniwyd i wella ymhellach ar y gwasanaethau a'r ddarpariaeth a ddarperir.
Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant ar y modd proffesiynol yr oedd y gwasanaeth yn delio â'r gynrychiolaeth a dderbyniwyd.
Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD:
1. Nodi cynnwys adroddiad Cwynion Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol (wedi'i atodi fel Atodiad 1 yr adroddiad)
2. Nodi'r gwaith sy wedi'i wneud gan Garfan Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 04/10/2021 - Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 04/10/2021
Effective from: 08/10/2021
Penderfyniad:
Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i'r Cabinet, a ddangosodd ei effeithiolrwydd wrth arfer ei swyddogaethau yn y flwyddyn ariannol flaenorol.
Rhoddwyd crynodeb i'r Aelodau o gyflawniadau allweddol y Bwrdd a'r ffocws ar weithgaredd beirniadol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, oherwydd y pandemig.
Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg i'r Bwrdd am y gwaith a wnaed a siaradodd am yr heriau enfawr a ddaeth o dan y faner ddiogelu. Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at y modelau cyflenwi newydd a gyflwynwyd gan gynnwys llwyfannau technoleg newydd ac asesu risgiau gyda phartneriaid.
Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant i'r staff dan sylw am eu gwaith caled.
Yn dilyn trafod, PENDERFYNWYD:
1. Nodi a chymeradwyo cynnwys Adroddiad Blynyddol Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg ar gyfer 2020/2021.