Cynghorau Tref a Chymuned

Cynghorau Cymuned / Tref yw'r dull mwyaf lleol o lywodraethu yng Nghymru a Lloegr. Maen nhw'n annibynnol o lefelau eraill o lywodraeth leol, h.y. Cyngor Bwrdeistref Sirol. Serch hynny, maen nhw'n cynnal perthynas waith agos â nhw. Mae 11 Cyngor Cymuned yn RhCT ac un Cyngor Tref - ym Mhontypridd.

Mae gan Gynghorwyr Tref/Cymuned ddiddordeb gweithredol yn eu cymunedau lleol. Maen nhw'n cynrychioli pobl leol ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda nhw ac eraill pan fo angen. Maen nhw'n helpu i hwyluso'r ddarpariaeth o wasanaethau a chyfleusterau lleol a gwneud penderfyniadau sy'n ffurfio polisi eu Cyngor.

Dyw Cynghorwyr Tref/Cymuned ddim yn cael eu talu ac maen nhw'n gorfod gweithredu yn ôl Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol a datgan eu buddiannau ariannol. Rhaid i Gynghorwyr Tref/Cymuned hefyd ddatgan diddordeb personol neu ragfarn mewn unrhyw fater o dan drafodaeth mewn cyfarfod Cyngor Cymuned/Tref.

Manylion cyswllt ar gyfer Cynghorau Tref/Cymuned lleol

Cyngor Cymuned Ynys-y-bŵl a Choed y Cwm

Cyngor Cymuned y Rhigos

Cyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn

Cyngor Tref Pontypridd

Cyngor Cymuned Llanilltud Faerdref

Cyngor Cymuned Llantrisant

Cyngor Cymuned Llanharan

Cyngor Cymuned Llanhari

Cyngor Cymuned Tonyrefail

Cyngor Cymuned Y Gilfach-goch

Cyngor Cymuned Pont-y-clun

Cyngor Cymuned Ffynnon Taf a Nantgarw