Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Derbyn adroddiad ar y cyd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi nifer o opsiynau i'r Cabinet a allai wella proses recriwtio'r Cyngor er mwyn ei gwneud hi'n haws i Gymuned y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr oresgyn rhwystrau i gyfleoedd gwaith mewn bywyd sifil.
Dywedwyd wrth yr Aelodau mai'r prif gynnig oedd cyflwyno Cynllun Cyfweld Gwarantedig ar gyfer ymadawyr gwasanaeth, milwyr wrth gefn a chyn-filwyr y Lluoedd Arfog os ydynt yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer swyddi gwag.
Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at hanes cadarnhaol yr Awdurdod o weithio gyda lluoedd Arfog a siaradodd am Gyfamod y Lluoedd Arfog a gwobr cydnabod aur. Cyfeiriodd yr Aelod at y sgiliau trosglwyddadwy a oedd gan gyn-filwyr y gallai'r Cyngor elwa ohonynt. Dywedwyd wrth y Cabinet fod Gweithgor y Lluoedd Arfog yn gefnogol iawn o'r cynigion.
Gyda chaniatâd yr Arweinydd, anerchodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P. Jarman y pwyllgor yngl?n â'r eitem yma.
Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Dirprwy Arweinydd am y gwaith a wnaeth mewn perthynas â'r lluoedd arfog a chyn-filwyr a chroesawodd y cynigion yn yr adroddiad.
Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:
1. Nodi a chytuno i weithredu Cynllun Cyfweliad Gwarantedig ar gyfer ymadawyr gwasanaeth, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn.
2. Cytuno bod y Cyngor yn gweithio gyda'r Bartneriaeth Trosglwyddo Gyrfa, sef gwasanaeth recriwtio am ddim i sefydliadau sy'n chwilio am gyn-filwyr uchel eu cymhelliant a phrofiadol, sy'n gadael y Lluoedd Arfog.
3. Cytuno bod y Cyngor yn gweithio gyda Forces Families Jobs, sef gwasanaeth recriwtio am ddim sy'n cefnogi aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog i gael gwaith.
4. Cytuno i gynnwys is-bennawd ar hysbysebion swyddi sy'n croesawu ceisiadau gan y gymuned filwrol.
The need to provide Cabinet with a number of options that could improve the Council’s recruitment process, so as to make it easier for the Armed Forces Community and veterans to overcome barriers to civilian employment.
Dyddiad cyhoeddi: 04/10/2021
Dyddiad y penderfyniad: 04/10/2021
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 04/10/2021 - Cabinet
Effective from: 08/10/2021
Dogfennau Cysylltiedig: