Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX

Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

5.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y rhai a oedd yn bresennol i gyfarfod hybrid y Cyngor a derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Jane-Davies, J Elliott, M Norris, S Powderhill a K Webb.

 

Roedd y Cynghorwyr a’r swyddogion canlynol yn bresennol yn Siambr y Cyngor:

Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol L Addiscott, M Ashford, J Barton, P Binning, J Bonetto, S Bradwick, J Cook, A Crimmings, R Davies, V Dunn, E Dunning, J Edwards, S Emmanuel, S Evans, D Grehan, B Harris , S Hickman, G Holmes, G Hughes, W Hughes, G Jones, Geraint Jones, W Jones, R Lewis, W Lewis, C Leyshon, M Maohoub, C Middle, A Morgan, N Morgan, S Morgans, D Parkin, C Preedy, S Rees, M Rees-Jones, J Smith, B Stephens, L Tomkinson, S Trask, J Turner a R Williams.

 

Mr C. Bradshaw, Prif Weithredwr, Mr B Davies, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol, Mr A Wilkins, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, Mr C Hanagan, Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, Mr R Evans, Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol a Mr P Mee, Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant.

 

Roedd y Cynghorwyr canlynol yn bresennol ar-lein:

 

Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol R Bevan, J Brencher, G Caple, A Ellis, L Ellis, D Evans, Sera Evans, R Evans, A S Fox, H Gronow, G Hopkins, K Johnson,  C Lisles, K Morgan, D Owen-Jones, W Owen, M Powell, A Roberts, A Rogers, G Stacey, W Treeby, G Warren, M Webber, D Williams, G Williams, T Williams, D Wood a R Yeo.

 

6.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Eitem 9 ar yr Agenda - Adolygiad o Raddau Isaf y Cyngor a Materion o ran Telerau ac Amodau

 

Datganodd y Cynghorydd S Emmanuel y buddiant personol a'r buddiant sy'n rhagfarnu canlynol– “Mae fy ngwraig yn gynorthwy-ydd addysgu gradd 5 ac wedi'i chyflogi gan Gyngor RhCT

 

Datganodd y Cynghorydd W Lewis  y buddiant personol a'r buddiant sy'n rhagfarnu canlynol – “ Mae fy merch-yng-nghyfraith wedi'i chyflogi ar radd 2”

 

Datganodd y Cynghorydd R Lewis y buddiant personol canlynol – “ Cyfeirir at deitl swydd aelod agos o’r teulu yn yr adroddiad er nad yw’n fuddiolwr”

 

Datganodd y Cynghorydd M Powell y canlynol:

Personol – "Rwyf wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad a phleidleisio ar bob mater sy'n ymwneud â'r gyllideb bresennol ac arfaethedig ar gyfer 2022-23, gan y byddai pob un o'r eitemau hynny'n adlewyrchu addasiad i'r gyllideb ac mae fy ngwraig yn gweithio i'r Awdurdod Lleol."

 

 Eitem 10 ar yr Agenda - Penodi Prif Weithredwr

 

Datganodd Mr Paul Mee fuddiant personol – “Byddaf i'n gadael y siambr yn ystod yr eitem hon ac ar ôl i mi gyflwyno fy adroddiad”

 

Eitem 11 ar yr Agenda - Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad - Cwm Taf Morgannwg

 

Datganodd y Cynghorydd R Bevan y buddiant personol a'r buddiant sy'n rhagfarnu canlynol – “Mae fy merch yn gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol”

 

Datganodd y Cynghorydd M Rees-Jones fuddiant personol a buddiant sy'n rhagfarnu – “Rwy’n gweithio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol”

 

Datganodd y Cynghorydd K Morgan fuddiant personol – “Rwy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg”

 

Eitem 16 ar yr Agenda – RHYBUDD O GYNNIG  BRYS

 

Datganodd y Cynghorydd S Trask y buddiant personol canlynol – “Rwy’n aelod o Unite the Union”

 

Datganodd y Cynghorydd R Williams y buddiant personol canlynol – “Rwy’n aelod o Unite the Union”

 

Datganodd y Cynghorydd C Preedy y buddiant personol canlynol – “Rwy’n aelod o Unite the Union”

 

Datganodd y Cynghorydd R Bevan y buddiant personol canlynol – “Rwy’n aelod o Unite the Union”

 

Datganodd y Cynghorydd K Morgan y buddiant personol canlynol – “Rwy’n aelod o’r undeb llafur”

 

Datganodd y Cynghorydd R Yeo y buddiant personol canlynol – “Rydw i wedi ailymuno â GMB yn ddiweddar”

 

Datganodd y Cynghorydd M Webber y buddiant personol canlynol – “Rwy’n aelod o Unison”

 

Datganodd y Cynghorydd Sheryl Evans y buddiant personol canlynol – “Rwy’n aelod o Unison”

 

Datganodd y Cynghorydd G Jones y buddiant personol canlynol – “Rwy’n aelod o Unite the Union”

 

Datganodd y Cynghorydd A Crimmings y buddiant personol canlynol – “Rwy’n aelod o Unison”

 

Datganodd y Cynghorydd J Edwards y buddiant personol canlynol – “Rwy’n aelod o Unison”

 

Datganodd y Cynghorydd R Davies y buddiant personol canlynol – “Rwy’n aelod o Unison”

 

Datganodd y Cynghorydd M Ashford y buddiant personol canlynol – “Rwy’n aelod o Unison”

 

Datganodd y Cynghorydd W Lewis y buddiant personol canlynol – “Rwy’n aelod o GMB”

 

Datganodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Cofnodion pdf icon PDF 366 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn rhai cywir:

 

·       9 Mawrth 2022

·       25 Mai 2022 (CCB y Cyngor)

·       25 Mai 2022 (Cyfarfod arbennig o'r Cyngor)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd canlynol:

 

·                         9 Mawrth 2022

·                         25 Mai 2022 (Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor)

·                         25 Mai 2022 (Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor

 

8.

Cyhoeddiadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd A Morgan fod Canolfan Bowls Dan Do Cwm Cynon yn Aberpennar bellach wedi ailagor ar ôl iddi gael ei defnyddio'n ganolfan frechu a chanolfan profi torfol. Roedd y Cynghorydd Morgan yn dymuno diolch i'r ganolfan a staff y Cyngor am eu gwaith yn ystod y cyfnod hwn. Cyhoeddodd hefyd fod nifer o chwaraewyr wedi cael eu dewis i chwarae yng Ngemau’r Gymanwlad. Dymunodd longyfarch 3 chwaraewr o Glwb Bowls a Chymuned Harlequin, fydd yn cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad ym mis Gorffennaf, sef Ross Owen o Aberpennar a Jarred Green o ardal Gilfach-goch sy'n rhan o dîm o bump. Bydd Paul Brown o Hirwaun hefyd yn cynrychioli Cymru yn rhan o dîm o bedwar yn y gystadleuaeth Para.

 

Roedd y Cynghorydd J Edwards yn dymuno llongyfarch tîm Ynyshir Albions ar eu llwyddiant diweddar. Soniodd y Cynghorydd Edwards am gynnydd y tîm dros y blynyddoedd diwethaf a'r gwelliannau enfawr y mae'r Clwb wedi'u cyflawni i'r eisteddleoedd, y cae a'r maes yn rhan o ymgyrch hunan-ariannu a arweiniodd at sicrhau achrediad haen 3 yn rhan o'r broses ailstrwythuro. Maen nhw wedi symud o haen saith i haen dau mewn dim ond 6 thymor pêl-droed. Aeth y Cynghorydd Edwards ati i longyfarch y tîm ar yr hyn y maen nhw wedi'i gyflawni.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd S Evans fod bachgen lleol Ty Lewis wedi cael ei ddewis i chwarae rygbi dros dîm rygbi Beziers yn Ne Ffrainc yn rhan o gytundeb 3 blynedd. Ychwanegodd fod Ty wedi dechrau ei yrfa rygbi yng nghlwb rygbi Abercwmboi cyn cael ei ddewis i chwarae dros Beziers. Cyhoeddodd y Cynghorydd Evans hefyd fod bachgen lleol arall, Adam De Vet, wedi cael ei ddewis i gynrychioli Cymru yn ystod Pencampwriaethau'r Byd Wako yn Jesolo, Yr Eidal ym mis Hydref 2022. Gofynnodd y Cynghorydd Evans a fyddai modd iddi hi, gyda chaniatâd y Llywydd, rannu'r ffurflen noddi i gefnogi Adam gyda’i daith. Ar ran y Maer, cadarnhaodd y Llywydd y byddai’r ddau yn cael eu gwahodd i barlwr y Maer ynghyd â’u teulu.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd G Jones y bydd G?yl Gerddoriaeth Caradog, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed, yn cael ei chynnal am ddim ar 15/16 Gorffennaf. Bydd ystod eang o gerddorion, corau a cherddoriaeth fyw.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd D Parkin ddeiseb ar ran Cyfeillion Tonyrefail, sy'n mynegi pryderon ynghylch cynigion ar gyfer Safle W.R Bishop ar Ffordd Penrhiwfer.

 

9.

Datganiadau

Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganiadau gan Arweinydd y Fwrdeistref Sirol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan mewn perthynas â Llifogydd a'r Gronfa Bensiwn:

 

 

Datganiad – Cronfa Bensiwn

 

Dywedodd yr Arweinydd fod Cronfa Bensiwn RhCT bob amser wedi buddsoddi ei hasedau mewn ffordd gyfrifol ac yn ymgysylltu â chwmnïau er mwyn sicrhau trawsnewidiad carbon trefnus.  Mae hyn eisoes wedi arwain at leihad parhaus yn ein daliadau tanwydd ffosil a sefydlu egwyddorion dadfuddsoddi

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd ei fod wedi gofyn i swyddogion weithio gyda'r Pwyllgor Pensiynau, yn rhan o'n nodau newid yn yr hinsawdd, i adolygu opsiynau ar gyfer pennu targed ar gyfer dadfuddsoddi gweddill ein buddsoddiadau o asedau yn ymwneud ag echdynnu tanwydd ffosil. 

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod yn gobeithio gweld hyn erbyn 2030, er bod rhai awdurdodau lleol wedi pennu targedau sy'n gynharach na hynny. Roedd yr Arweinydd wedi cydnabod bod gan y Cyngor gyfrifoldebau mewn perthynas â'r Gronfa Bensiwn a’n bod yn cyd-fuddsoddi â chronfeydd eraill ledled Cymru. I gloi, pwysleisiodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn cymryd ei gyfrifoldebau o ddifrif a bydd cynlluniau i ddadfuddsoddi yn cael eu pennu yn ystod y misoedd nesaf.

 

Datganiad – Llifogydd

 

Dywedodd y Cynghorydd Morgan fod 52 o brosiectau wedi cyrraedd y cam dylunio erbyn hyn, a rhoddodd wybodaeth am nifer o’r rhain:

 

      Dechreuwyd gwaith yn rhan o Gynllun Lliniaru Llifogydd ar ran uchaf Teras Bronallt, Abercwmboi, dros wythnos yn ôl. Amcangyfrifir bod y gwaith gwerth £720,000

 

·       Bydd Cam 1 y cynllun llifogydd yn Nhreorci yn cychwyn yr wythnos nesaf. Amcangyfrifir bod y gwaith gwerth £605,000

 

·       Gorllewin Parc Cae Felin, Hirwaun (cynllun ail-leinio cwlfert) y mae disgwyl iddo ddechrau ym mis Awst. Amcangyfrifir bod y gwaith gwerth £165,000

 

·       Gorsaf Bwmpio Glenbói yn Aberpennar - mae'r tendr wedi dychwelyd gydag amcangyfrif o werth o £1.3 miliwn

 

·Heol Bryn-tyle a Ffordd y Cae ?d yn Rhydfelen. Amcangyfrifir bod y gwaith gwerth £250,000

 

·Leinio cwlferi ym Mhentre. Amcangyfrifir bod y gwaith gwerth £175,000.

·Mae buddsoddi mewn cynlluniau lliniaru llifogydd a draenio hefyd yn flaenoriaeth i'r Cyngor - yn rhan o Raglen Gyfalaf gwerth £26.3 miliwn ar gyfer Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol yn 2022/23.

 

·Yn ogystal â hyn, mae dros £6.5 miliwn wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith a difrod sy’n gysylltiedig â Storm Dennis eleni. Mae gwaith dymchwel Pont Castle Inn yn Nhrefforest wedi dechrau. Cadarnhaodd yr Arweinydd y bydd proffil pellach yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

·Mae bron i £500,000 wedi’i sicrhau yn rhan o gynlluniau Ffyrdd Cydnerth, prosiectau graddfa fach a fydd yn diogelu ffyrdd a llwybrau bysiau allweddol. Bydd llawer o'r prosiectau llifogydd ffyrdd hefyd yn diogelu cartrefi ac eiddo. Mae cyllid pellach gwerth £3.3 miliwn wedi'i sicrhau ar gyfer cynlluniau llifogydd. Bydd yr arian yma'n talu am nifer o gynlluniau llai a gwaith uwchraddio cwlferi, cyrsiau d?r a ffosydd.

 

        Mae cyllid pellach gwerth £7 miliwn wedi'i wario ers Storm Dennis ar domenni glo, yn bennaf ar gamau 1-3 o gynllun tomen Tylorstown. Mae gwaith hefyd wedi'i gynnal gyda Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Cwestiynau gan yr Aelodau pdf icon PDF 246 KB

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Davis i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

 

“Yn sgil y buddsoddiad nesaf ar gyfer mannau chwarae ledled RhCT a gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar, all yr Aelod o'r Cabinet gadarnhau a yw'r maes yma'n parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer y weinyddiaeth newydd?

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol Crimmings:

 

Dywedodd y Cynghorydd Crimmings fod buddsoddi mewn mannau chwarae yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r weinyddiaeth hon ac fel y nodwyd ym maniffesto Gr?p Llafur RhCT ar gyfer tymor y Cyngor hwn, bydd y weinyddiaeth yn parhau i ymrwymo i fuddsoddi mewn mannau chwarae i blant gan wella o leiaf 75 ohonyn nhw yn ystod y pum mlynedd nesaf.

 

Yn ogystal â'r buddsoddiad yma, bydd 10 Ardal Gemau Amlddefnydd newydd yn cael eu datblygu ledled RhCT. Fis diwethaf, cyhoeddwyd manylion rhaglen fuddsoddi'r Cyngor ar gyfer 2022/23. Bydd hyn yn cynnwys gwella cyfleusterau 19 o fannau chwarae i blant yn rhan o fuddsoddiad gwerth £672,000. Ychwanegodd y Cynghorydd Crimmings fod disgwyl i fan chwarae Bryn Hyfryd yn ward y Cynghorydd Davis gael ei wella yn rhan o waith adnewyddu rhannol o dan y rhaglen hon.

 

Dywedodd y Cynghorydd Crimmings y bydd cyfanswm o £4.8 miliwn wedi'i ddyrannu i gyflawni gwelliannau mewn tua 130 o gyfleusterau ledled RhCT yn y saith mlynedd diwethaf, gan gynnwys y buddsoddiad eleni.

 

Dim Cwestiwn Ategol

 

2.  Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan i’r Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Harris:

“Mae'r arfer bresennol o roi pobl ifainc i fyw yng nghanol ardaloedd preswyl a ddatblygwyd yn wreiddiol ar gyfer pobl h?n i fyw ynddyn nhw yn creu problemau enfawr.  Ydy’r Cyngor yn fodlon ystyried, unwaith eto, neilltuo rhai ardaloedd preswyl ar gyfer pobl h?n yn unig?”

 

Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Harris:

 

Dywedodd y Cynghorydd Harris fod gan ddatblygiadau tai cymdeithasol sydd wedi'u creu'n benodol ar gyfer pobl h?n, megis tai lloches neu lety i bobl h?n, feini prawf o ran oedran (60 oed neu'n h?n, ac mewn rhai achosion 55 oed neu'n h?n). Os yw pobl iau wedi derbyn lle mewn datblygiadau tai cymdeithasol eraill, mae hyn gan nad yw'r cynllun wedi'i ddatblygu ar gyfer pobl h?n yn benodol, ond mae'n bosibl bod polisi gosod lleol wedi cael ei roi ar waith ar ryw adeg i sicrhau mai dim ond preswylwyr h?n oedd yn byw yno.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Harris fod polisïau gosod lleol yn bolisïau dros dro ac felly unwaith y maen nhw'n dod i ben, bydd unrhyw ddyraniadau pellach yn cael eu gwneud gan flaenoriaethu'r bobl sydd â'r angen mwyaf am dai. Os oes problemau parhaus mewn datblygiad penodol, bydd y Gymdeithas Dai yn cysylltu â'r Cyngor i drafod gweithredu polisi gosod lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Harris y byddai'r polisi yn nodi'r meini prawf ar gyfer dyrannu eiddo yn seiliedig ar y dystiolaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad - Cwm Taf Morgannwg pdf icon PDF 249 KB

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran, Gwasanaethau Cymuned a

Gwasanaethau i Blant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Llywydd wybod mai'r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad - Cwm Taf Morgannwg fyddai'n cael ei drafod nesaf, er nad yw hyn yn cyd-fynd â threfn yr agenda, er mwyn i Gyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant adael y cyfarfod gan fod adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol yn cyfeirio ato fe mewn perthynas â phenodi Prif Weithredwr.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant yr adroddiad, sy'n cynnig trosolwg o'r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad (MSR) yn unol ag Adran 144B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae rhwymedigaeth statudol ar yr Awdurdodau Lleol i lunio'r asesiad yma bob pum mlynedd ac i wneud hynny ar lefel ranbarthol mewn partneriaeth â'r Bwrdd Iechyd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod yr adroddiad yn rhoi asesiad o ddau

beth, digonolrwydd gofal a chymorth i fodloni galw ein poblogaeth a sefydlogrwydd y farchnad mewn perthynas â'r gwasanaethau rheoleiddiedig sy'n darparu gofal. Ychwanegodd fod yr wybodaeth, fel sydd wedi'i nodi'n llawn yn yr atodiadau, yn darparu asesiad manwl o ddigonolrwydd a sefydlogrwydd ar draws yr holl ddarpariaeth ofal sy’n cynnwys oedolion, plant, anableddau dysgu, iechyd meddwl, cynhalwyr di-dâl ac eraill.

 

Awgrymodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y bydd angen i'r Cyngor a'i bartneriaid drafod y canfyddiadau a'r argymhellion allweddol sydd wedi'u crynhoi yn adran 4 o'r adroddiad er mwyn llywio gwaith datblygu'r Strategaethau a'r Gwasanaeth Comisiynu dros y pum mlynedd nesaf, yn ogystal â llywio'r cynllun rhanbarthol gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Tynnwyd sylw at bedwar maes allweddol fel meysydd ffocws ar gyfer Cyngor Rhondda Cynon Taf, ac mae'r rhain wedi'u cefnogi gan y dystiolaeth yn yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, sef pwynt 3.3 yn yr adroddiad.

 

I gloi, tynnodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant sylw'r Aelodau at yr argymhellion, yn enwedig bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn unol â dyletswyddau statudol y Cyngor.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fod Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi penderfynu yn ei gyfarfod diweddar i gynnal gwaith cyn y cam craffu mewn perthynas â'r materion sy’n ymwneud â gofal preswyl a nodir yn rhaglen waith y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

          1. Nodi'r negeseuon allweddol a'r argymhellion, a

 

· Cymeradwyo'r adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Ranbarthol;

 

· Cymeradwyo'r blaenoriaethau strategol tymor byr - tymor canolig canlynol ar gyfer Rhondda Cynon Taf sy’n deillio o’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad:

 

                i.         Adolygiad strategol o lety â gofal ar gyfer pobl sy'n agored i niwed i sicrhau bod darpariaeth yn y dyfodol yn diwallu anghenion pobl ag anghenion cymhleth fel sydd wedi'i nodi yn yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad a'n bod ni'n  manteisio i'r eithaf ar ein cyfleusterau;

 

              ii.         Cryfhau ymateb y Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd o ran sicrhau bod digon o leoliadau ar gael ar gyfer plant sy'n derbyn gofal drwy gynyddu'r ddarpariaeth leol ddi-elw (gofal preswyl a gofal maeth) a hynny er mwyn diwallu anghenion plant yn nes at eu  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Calendr O Gyfarfodydd Ar Gyfer 2022-2023 pdf icon PDF 163 KB

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu mewn perthynas â'r calendr o gyfarfodydd arfaethedig ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2022-2023.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad gan roi gwybod bod gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas ag amseroedd cyfarfodydd, sydd wedi dod i law ers CCB y Cyngor ac sy'n deillio o'r arolwg i Aelodau Etholedig, wedi llywio'r calendr o gyfarfodydd terfynol. Mae'r calendr i'w weld yn Atodiad 1.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sylw at ganlyniadau allweddol yr arolwg i Aelodau mewn perthynas ag amseroedd cyfarfodydd, lefel y gefnogaeth sydd ar gael i Aelodau gan Uned Fusnes y Cyngor a chynnal cyfarfodydd y tu allan i wyliau ysgol. Er bod gofyniad statudol ar Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i gynnal arolwg mewn perthynas ag amseroedd cyfarfodydd â'r holl Aelodau, nododd nad ydyn wedi'n rhwymo i'r wybodaeth yn yr adroddiad a dylai cadeiryddion y pwyllgorau ei defnyddio fel canllaw wrth bennu amser ar gyfer eu cyfarfodydd priodol.

 

I gloi, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd adroddiad manylach

yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn y dyfodol er mwyn trafod canlyniadau'r ymatebion a ddaeth i law, yn ogystal â Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a fydd yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref.

 

Nodwyd y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal cyn cyfarfod y Cyngor ym mis Medi gyda chynrychiolwyr o Trivallis a bydd sesiynau tebyg yn cael eu cyhoeddi maes o law.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:

 

1. Nodi cynnwys yr adroddiad; ac wrth wneud hynny, nodi'r ymatebion i'r Arolwg Aelodau Etholedig mewn perthynas ag Amser y Cyfarfodydd, fel yr amlinellir ym mharagraff 4.

 

2.  Nodi'r Calendr o Gyfarfodydd arfaethedig ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-23, fel sydd ynghlwm yn Atodiad 1 yr adroddiad; a

 

         3.  Nodi bod y calendr drafft yn destun newid, yn seiliedig ar ofynion busnes dros flwyddyn nesaf y Cyngor. Caiff unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau eu gwneud ar y cyd â chadeiryddion y pwyllgorau priodol.

 

 

13.

Rhaglen Waith y Cyngor 2022/23 pdf icon PDF 189 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Raglen Waith y Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23 gan ddweud y byddai unrhyw newidiadau a diweddariadau yn cael eu hadrodd ar lafar i'r Cyngor bob mis, bydd hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau i'r rhaglen waith y cytunwyd arni.

 

Yn dilyn trafodaeth mewn perthynas â'r rhaglen waith (Atodiad 1) ac ar ôl cael cadarnhad y byddai cynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus eraill megis Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, yn ogystal â Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, yn cael eu gwahodd i sesiwn cyn cyfarfod y Cyngor i Aelodau Etholedig.

 

PENDERFYNWYD:

 

1. Nodi'r Rhaglen Waith ddrafft sydd wedi'i chynnwys yn Atodiad 1 i'r adroddiad; a

 

2.  Cymeradwyo'r Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-2023 (gyda diwygiadau priodol lle bo angen) a derbyn diweddariadau pellach gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fel y bo'n briodol.

 

14.

Adroddiad ar Benderfyniadau Gweithredol Brys pdf icon PDF 203 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheolau Gweithdrefn Trosolwg a Chraffu 17.2(a), cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu drosolwg o'r Penderfyniadau Brys a gyflwynwyd gan Bwyllgor y Cabinet a Phenderfyniadau Dirprwyedig Swyddog Allweddol Brys a gyflwynwyd y tu allan i Bwyllgor y Cabinet yn ystod y cyfnod Ionawr - Mehefin 2022.

Darparodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol ddiweddariad mewn perthynas â Chynllun Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru yn sgil y Penderfyniad Brys a gafodd ei wneud gan yr Arweinydd yn ystod y cyfnod Ionawr-Mehefin 2022. Ychwanegodd fod 5,000 o lythyrau atgoffa wedi'u hanfon at drigolion i'w hannog nhw i wneud cais am y taliad o £50 i deuluoedd. Cadarnhaodd fod yr holl daliadau Prydau Ysgol am Ddim wedi cael eu talu.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi'r wybodaeth

sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad.

 

15.

Adolygiad o Raddau Isaf y Cyngor a Materion o ran Telerau ac Amodau pdf icon PDF 170 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

 

 

Yn unol â Chofnod Rhif 4 o Gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Mai 2022, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol fod y Pwyllgor Penodiadau wedi penderfynu ar 5 Gorffennaf 2022 y dylid penodi Mr. Paul Mee i swydd y Prif Weithredwr, a hynny'n dilyn y broses asesu a'r broses gyfweld. Roedd modd iddo gadarnhau argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Penodiadau, a gafodd ei wneud ar ail ddiwrnod y broses, sef y dylid penodi Mr Paul Mee i swydd y Prif Weithredwr.

 

Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodiadau, y Cynghorydd Ros Davies, fod y penderfyniad i benodi Mr Paul Mee i swydd y Prif Weithredwr yn benderfyniad unfrydol.

 

PENDERFYNWYD – cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau ynghylch

penodi Mr. Paul Mee i swydd barhaol y Prif Weithredwr o 1 Rhagfyr 2022.

 

16.

Penodi Prif Weithredwr pdf icon PDF 211 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chofnod Rhif 4 o Gyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 25 Mai 2022, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol fod y Pwyllgor Penodiadau wedi penderfynu ar 5 Gorffennaf 2022 y dylid penodi Mr. Paul Mee i swydd y Prif Weithredwr, a hynny'n dilyn y broses asesu a'r broses gyfweld. Roedd modd iddo gadarnhau argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Penodiadau, a gafodd ei wneud ar ail ddiwrnod y broses, sef y dylid penodi Mr Paul Mee i swydd y Prif Weithredwr.

 

Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodiadau, y Cynghorydd Ros Davies, fod y penderfyniad i benodi Mr Paul Mee i swydd y Prif Weithredwr yn benderfyniad unfrydol.

 

PENDERFYNWYD – cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau ynghylch

penodi Mr. Paul Mee i swydd barhaol y Prif Weithredwr o 1 Rhagfyr 2022.

 

17.

ADRAN 3A – CYNLLUN DIRPRWYO'R ARWEINYDD – SWYDDOGAETHAU GWEITHREDOL pdf icon PDF 148 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu a Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol, ar Gynllun Dirprwyo Swyddogaethau Gweithredol yr Arweinydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Gynllun Dirprwyo Swyddogaethau Gweithredol yr Arweinydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/2023 a rhoddodd wybod i'r Cyngor Llawn am y cylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer Is-bwyllgorau'r Cabinet ar faterion y Gymraeg a'r Hinsawdd, sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad 1.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y ddau Gr?p Llywio dan sylw bellach yn Is-bwyllgorau'r Cabinet a bod ganddyn nhw awdurdod dirprwyedig gan Arweinydd y Cyngor i wneud penderfyniadau gweithredol yn unol â'u cylch gorchwyl. Ychwanegodd nad yw'r trefniadau diwygiedig hyn ar gyfer gwneud penderfyniadau yn atal unrhyw amgylchiadau lle byddai modd i'r is-bwyllgorau gyfeirio mater o arwyddocâd strategol i'r Cabinet er mwyn gwneud penderfyniad.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at aelodaeth y cynllun a chadarnhaodd fod y Cynghorydd C Lisles wedi'i henwebu gan Arweinydd Gr?p Annibynnol RhCT i Bwyllgor CYSAG.

 

Rhoddwyd gwybod y bydd rhagor o fanylion am yr hyrwyddwyr yn cael eu rhannu a'u dosbarthu maes o law.

 

PENDERFYNWYD nodi Adran 3A - Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau Gweithredol yr Arweinydd, sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad 1.

 

 

18.

Aelodaeth y Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 309 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd o’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a  Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ar Aelodaeth y Pwyllgor Safonau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol ei adroddiad ar y cyd mewn perthynas â'r broses i'w dilyn i lenwi lleoedd gwag Pwyllgor Safonau'r Cyngor, yn benodol Aelod Annibynnol (lleyg) ac aelod cynrychioli'r Cyngor Cymuned (ynghyd ag Aelod wrth gefn).

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod cyfnod swydd un o'r aelodau annibynnol, Mr. Mel Jehu, a'r Aelod o'r Cyngor Cymuned, y Cynghorydd Ray Butler, yn dod i ben ac felly mae angen ystyried penodi aelod annibynnol newydd ac aelod o'r Cyngor Cymuned.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr y weithdrefn benodi arfaethedig yn unol â Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 mewn perthynas â'r Aelod Annibynnol, gan gynnwys hysbysebu'r swydd wag a gofynion y panel penodi. Hefyd, rhoddodd wybod i'r Cyngor am y weithdrefn i benodi Aelod Cyngor Cymuned newydd ac y byddai argymhelliad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Llawn

maes o law.

 

Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD bod y Cyngor yn:

 

 

1.  Cytuno i hysbysebu rôl yr Aelod Annibynnol (lleyg) ar gyfer Pwyllgor Safonau'r Cyngor, yn seiliedig ar y meini prawf sydd wedi'i sefydlu a'i nodi yn yr adroddiad;

 

2.   Cytuno i ymgynghori â Chynghorau Cymuned mewn perthynas â gwahodd ceisiadau gan Gynghorwyr Cymuned ar gyfer swydd wag yr Aelod Cyngor Cymuned (ynghyd ag Aelod wrth gefn) ar gyfer Pwyllgor Safonau'r Cyngor;

 

3.   Yn amodol ar 2.1 a 2.2 uchod, sefydlu Panel Penodiadau i ystyried ceisiadau i benodi Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau am gyfnod o chwe blynedd ac Aelod Cyngor Cymuned (ynghyd ag Aelod wrth gefn) am gyfnod hyd at yr etholiadau cyffredin nesaf (yn 2027);

 

4    Enwebu tri Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol (2 o'r gr?p rheoli ac 1 o gr?p yr wrthblaid fwyaf) a Chadeirydd presennol y Pwyllgor Safonau i fod yn aelodau o'r Panel Penodiadau;

 

5    Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol i benodi Cynghorydd Cymuned i'r Panel Penodiadau; a

 

6    Cytuno i dderbyn adroddiad pellach ac ystyried unrhyw argymhellion sy'n deillio o'r Panel Penodiadau sy'n cwrdd i gyfweld ag unrhyw ymgeiswyr sy'n ymgeisio am y rolau gwag, yn amodol ar yr uchod.

 

19.

Adolygiad Blynyddol Cylch Rheoli’r Trysorlys 2021/22 pdf icon PDF 233 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol ar Adolygiad Blynyddol Cylch Rheoli’r Trysorlys ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn unol â gofynion Cod Ymarfer Rheoli'r Trysorlys y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth a Chod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth, rhannodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol wybodaeth â'r Aelodau mewn perthynas â:

 

 

 

 

 

·    Gweithgarwch Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2021/22; a

·    Gwir Ddangosyddion Darbodus a Dangosyddion y Trysorlys ar gyfer 2021/22

 

Cyn mynd ati i nodi meysydd allweddol yr adroddiad, dywedodd y Cyfarwyddwr fod

gweithgareddau Rheoli'r Trysorlys y Cyngor yn cael eu rheoleiddio a'u llywodraethu gan

nifer o godau ymarfer ac maen nhw wedi cael eu hadolygu yn ystod y flwyddyn ariannol

ddiwethaf gan y Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad blaenorol. Cadarnhaodd fod yr

adroddiad blynyddol yn bodloni gofynion y codau priodol y mae'r Cyngor wedi cydymffurfio

â nhw yn ystod y flwyddyn.

 

I gloi, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y bydd hyfforddiant Rheoli'r Trysorlys ar gyfer Aelodau

Etholedig yn cael ei drefnu ochr yn ochr â chyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

ym mis Medi.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

a)             Nodi cynnwys yr adroddiad; a

b)            Cytuno ar y cynigion ariannu ar gyfer y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy fel

sydd wedi'u nodi yn adran 13.

         

 

20.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Llywydd ei fod o’r farn ei bod yn briodol caniatáu’r Rhybudd o Gynnig Brys yn unol â Rheol Gweithdrefn 10.5 y Cyngor ar y sail na fyddai modd cyflwyno’i gynnwys yn rhesymol cyn y dyddiad cau ac wrth ystyried y ffaith y cafodd y Sesiwn Gwybodaeth Ymgynghori Ranbarthol i Weithwyr ei chynnal ar 27 Mehefin, fyddai'r rhybudd o gynnig ddim yn berthnasol erbyn cyfarfod y Cyngor ym mis Medi.

 

21.

Rhybudd O Gynnig Brys pdf icon PDF 116 KB

Rhybudd O Gynnig Brys  – Eitem 16

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau:

A. Morgan, M. Webber, L. Addiscott, M. D. Ashford, J. Barton. D. R. Bevan, J. Bonetto, S. Bradwick, J. Brencher, G. Caple, J. Cook, A. Crimmings, S. J. Davies, R. Davis, V. Dunn, E. L. Dunning, J. Edwards, J. A. Elliott, L. Ellis, S. Emanuel, R. Evans, A. S. Fox, R. Harris, S. Hickman, G. Holmes, G. Hopkins, W. Hughes, G. Jones, G. O. Jones, R. R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, M. Maohoub, C. Middle, N. H. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, D. Parkin, S. Powderhill, C. Preedy, S. Rees, M. Rees-Jones, A. Roberts, J. Smith, G. Stacey, L. A. Tomkinson, W. Treeby, J. Turner, G. L. Warren, K. Webb, D. Williams, G. E. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo.

 

Yn dilyn y Sesiwn Gwybodaeth Ymgynghori Ranbarthol i Weithwyr a gafodd ei chynnal ar 27 Mehefin, mae'r Cyngor yma'n nodi:

 

Bod Llywodraeth Leol wedi dioddef toriadau o dros 50% i gyllid gan lywodraeth ganolog ers 2010. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad o £1 biliwn yng nghyllid ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru rhwng 2010 a 2020. Mae RhCT wedi dioddef gostyngiad o £95 miliwn mewn cyllid refeniw dros y cyfnod yma.

 

Er gwaethaf y toriadau difrifol wedi'u gosod gan Lywodraeth San Steffan, mae Awdurdodau Lleol Cymru wedi cael rhywfaint o amddiffyniad gan Lywodraeth Cymru. Serch hynny, dim ond mor bell ag osgoi argyfyngau yn y gwasanaethau rheng flaen hanfodol y mae holl drigolion yn dibynnu arnyn nhw y mae'r amddiffyniad yma wedi mynd.

 

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cynghorau wedi arwain y ffordd o ran ymdrechion yn erbyn pandemig Covid-19, gan barhau i gynnig ystod enfawr o wasanaethau a chymorth hanfodol i'n cymunedau. Yn ystod y cyfnod yma ac yn fwy nag erioed o'r blaen, mae Llywodraeth Leol wedi dangos pa mor angenrheidiol y mae. Mae Covid wedi arwain at gynnydd enfawr mewn gwariant a cholled incwm. Wrth i ni ddechrau goresgyn y pandemig, mae angen rhagor o gymorth gan San Steffan ar Awdurdodau Lleol ac ysgolion. Aeth ein gweithwyr y Cyngor ac ysgolion ati i gadw'n cymunedau'n ddiogel trwy gydol y pandemig, gan roi eu hunain mewn perygl sylweddol yn aml, wrth iddyn nhw weithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd, darparu tai o safon, sicrhau bod addysg ein plant yn parhau ac i ofalu am yr henoed a phobl sy'n agored i niwed.

 

Ers 2010, mae'r gweithlu llywodraeth leol wedi dioddef blynyddoedd o gyfyngiadau ar gyflog, gyda gostyngiad o 27.5% yng ngwerth y rhan fwyaf o bwyntiau cyflog ers 2009/10. Mae staff bellach yn wynebu'r argyfwng costau byw gwaethaf ers cenhedlaeth. Cyfartaledd rhagolygon mynegai prisiau manwerthu'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) yw 9.8% yn 2022, a'r ffigwr presennol yw 11.1%.

 

O ganlyniad i'r argyfwng costau byw, mae rhaid i nifer o staff wneud dewisiadau amhosibl rhwng bwyd, gwres a thalu am eitemau hanfodol eraill. Dyma sefyllfa ofnadwy i unrhyw un fod ynddi.

 

Ar yr un pryd, mae gweithwyr wedi wynebu beichiau gwaith  ...  view the full Cofnodion text for item 21.