Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Jess Daniel - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 01443 424110
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J.Bonetto, D. Grehan, G. Hughes a S. Powderhill.
|
|
DATGANIAD BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Rees fuddiant personol yn Eitem 6: Cais 19/0660/10 - Defnyddio tir ar gyfer gweithgareddau cyflymder isel, nad ydyn nhw'n gystadleuol, fel profi cerbydau, hyfforddiant gyrwyr/beicwyr, profiadau i gwsmeriaid, gweithgareddau hyrwyddo, diwrnodau lansio cynnyrch, ffilmio a ffotograffiaeth ac ati o ran beiciau modur a cheir. "Mae'r ymgeiswyr yn gwneud cyfraniad at gr?p Ffrindiau Parc Aberdâr y rwy'n aelod ohono."
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2020.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei hystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
Trosi eglwys yn 8 fflat (derbyniwyd cynllun parcio diwygiedig ar 06/12/2019) EGLWYS SAESNEG BEDYDDWYR CALFARI, CLIFF TERRACE, TREFFOREST, PONTYPRIDD
Cofnodion: PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn cynnal ymweliad safle gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu i ystyried yr effaith negyddol bosibl y gallai'r datblygiad ei chael ar y gymuned leol a phroblemau ar y priffyrdd mewn perthynas â pharcio.
|
|
Estyniad llawr cyntaf yn y cefn 16 STRYD LLYWELYN, HENDREFORGAN,Y GILFACH-GOCH, Y PORTH, CF39 8UA
Cofnodion: Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Roberts, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei chefnogaeth i'r datblygiad arfaethedig. Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio yr adroddiad i'r pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, roedd yr aelodau o blaidcymeradwyo'r cais uchod yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu gan eu bod o'r farn bod y newid i faint yr estyniad y gwnaed cais amdano yn dderbyniol. Nododd yr aelodau hefyd nad oedd y cymdogion wedi gwrthwynebu'r cais. O ganlyniad i hynny, caiff y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
|
Defnyddio tir ar gyfer gweithgareddau cyflymder isel, nad ydyn nhw'n gystadleuol, fel profi cerbydau, hyfforddiant gyrwyr/beicwyr, profiadau i gwsmeriaid, gweithgareddau hyrwyddo, diwrnodau lansio cynnyrch, ffilmio a ffotograffiaeth ac ati o ran beiciau modur a cheir (derbyniwyd y Datganiad Dylunio a Mynediad Diwygiedig ar 12/02/20) (derbyniwyd ffin ddiwygiedig y llinell goch ar 12/02/20) (derbyniwyd y Cynllun Splay Vision diwygiedig ar 12/02/20). TIR AR SAFLE CWM HWNT, ODDI AR HEOL Y MYNYDD/HEOL Y PLWYF/Y RHIGOS, HIRWAUN, CF44 9UR
Cofnodion: Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Simon Thrussel (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau. Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Thomas, nad yw'n aelod o'r pwyllgor, am y cais ac amlygodd bryderon yngl?n â llygredd s?n, cyfyngiadau cyflymder a mynediad i'r ffordd, gan ofyn i'r pwyllgor ystyried llwybr mynediad amgen. Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio yr adroddiad i'r pwyllgor a nododd bryderon yr aelod lleol ynghylch mynediad i'r ffordd. Rhoddodd Pennaeth Materion Cynllunio wybod i'r Aelodau nad oedd adran y Priffyrdd wedi gwrthwynebu'r cais oherwydd bod Gorchymyn Rheoli Traffig a gwelliannau o ran gwelededd yn eu lle. Nododd yr aelodau yr hwb posibl i dwristiaeth a allai ddod yn sgil y cais, ac er bod rhai wedi lleisio pryderon yngl?n â gorfodi cyfyngiadau cyflymder, roedd yr Aelodau o'r farn fod cais yn un cyfrifol ac o fudd i'r ardal. Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNODD y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Cadw newid tir o fod yn wag i safle ar gyfer un teulu o deithwyr (ailgyflwyno ôl-weithredol). ROSE ROW, HEOL PENDERYN, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9SQ
Cofnodion: Yn unol â'r gweithdrefnau mabwysiedig, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol.Cafodd bob un bum munud i annerch yr Aelodauyngl?n â'r cynnig uchod:
· Ms Dassy Jones (Ymgeisydd) · Mrs Trudy Aspinwall (Cefnogwr) · Mr Henry Mochan (Cefnogwr) · Mr Peter Baines (Cefnogwr)
Siaradodd yr Aelodau lleol, Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol G. Thomas a K. Morgan, nad ydynt yn aelodau o'r Pwyllgor, am y cais gan nodi eu gwrthwynebiad yn seiliedig ar bryderon ynghylch diogelwch ar y priffyrdd a phroblemau mynediad.
Amlinellodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys un llythyr 'hwyr' oddi wrth Gyngor Cymuned Hirwaun a Phenderyn a oedd yn amlygu pryderon ynghylch diogelwch ar y priffyrdd.
Parhaodd Pennaeth Materion Cynllunio trwy gyflwyno'r cais i'r Pwyllgor ac amlinellu cefndir y cais.
Roedd yr Aelodau'n cydymdeimlo â'r sefyllfa a amlinellwyd gan y siaradwyr cyhoeddus ond fe nodon nhw brofiadau personol mewn perthynas â diogelwch ar y ffordd yn yr ardal gan amlygu pryderon am y problemau sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad yngl?n â'r priffyrdd.
Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNODD y Pwyllgor wrthod cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adeiladu annedd ar wahân, sawl haen ac iddi dair ystafell wely. TIR YN NHERAS GLANFFRWD, YNYS-Y-B?L, PONTYPRIDD, CF37 3LW
Cofnodion: Yn unol â'r gweithdrefnau mabwysiedig, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol.Cafodd bob un bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr Randell (Ymgeisydd) · Ashley Rees (Cefnogwr) · Mrs Williams (Gwrthwynebydd)
(NODWCH: Gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Williams, sy'n aelod o'r Pwyllgor, y cyfarfod ar y pwynt hwn.)
Arferodd Mr Randell (Ymgeisydd) ei hawl i ymateb i sylwadau'r gwrthwynebydd.
Siaradodd yr Aelod lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Pickering, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, gan fynegi ei chefnogaeth i'r cais ac awgrymodd y byddai'n fuddiol i'r Aelodau ymgymryd ag Ymweliad Safle cyn dod i benderfyniad ar y cais hwn.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor a chafodd yr aelodau wybod bod ceisiadau o natur debyg wedi'u gwrthod yn yr ardal yn ddiweddar.
Trafododd yr aelodau fanteision cynnal ymweliad safle i ystyried y cais hwn i ddeall daearyddiaeth yr ardal.
Yn dilyn trafodaethPENDERFYNWYD gohirio'r Cais er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Ymweliad Safle i gael dealltwriaeth glir o safle a lleoliad y datblygiad arfaethedig a'r rhesymau dros wrthod ceisiadau blaenorol cyn trafod y cais cyfredol.
|
|
Adeiladu 5 annedd ar wahân ynghyd â ffordd wasanaeth a gwaith cysylltiedig (derbyniwyd y cynllun safle diwygiedig ar 28.03.19). TIR GWAG ODDI AR STRYD MEIRION, ABERDÂR, RhCT
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai angen mynediad i Stryd Meirion i gyflawni'r cais yma, gan fod pryder y gallai hyn achosi problemau i drigolion lleol. Eglurodd Swyddog y Priffyrdd fod y cynlluniau'n dangos ei fod yn annhebygol y byddai angen mynediad trwy Stryd Meirion gan fod y gyffordd wedi'i lleoli ger Ffordd Osgoi Aberdâr.
Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNODD y Pwyllgor gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhellion y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Garej ar y llawr caled presennol gyda phatio ar y to. (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 04/12/2019). (Derbyniwyd y Cyfrifiadau Strwythurol ar 04/12/2019). 65 TYNYBEDW TERRACE, TREORCI, CF42 6RL
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cynnig, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adeiladu ystafell ddosbarth unllawr wedi'i chysylltu â'r ysgol gyfredol (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 17/01/20). YSGOL ARBENNIG BRESWYL T? COCH, LANSDALE DRIVE, TON-TEG, PONTYPRIDD, CF38 1PG
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cynnig, PENDERFYNWYD cymeradwyo/gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Gosod mast Polyn Telegraph 14.097m sy'n cynnwys 3 antena wedi'u gorchuddio a dysglau trosglwyddo 2x 300mm, gosod 2 gabinet offer, 1 cabinet mesurydd trydanol, 1 generadur a dysgl loeren 1x 1200mm ar bolyn 2.6m o uchder, a chyfansoddyn ffens wedi'i fyrddio ar gyfer Rhwydwaith Argyfyngau Gwasanaeth EE, gyda gwaith cysylltiedig. FFORDD Y RHIGOS TUA'R GORLLEWIN, A4061 Y RHIGOS, HIRWAUN, CF44 9UE
Cofnodion: Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Thomas, nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gefnogaeth i'r cais.
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 27/01/2020 a 21/02/2020.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio – mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi eu Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 27/01/2020 hyd at 21/02/2020.
|