Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Jess Daniel - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 01443 424110
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Cafodd y datganiadau o fuddiant personol canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:
(1) Yn unol â'r Cod Ymddygiad, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Williams fuddiant personol yngl?n â Chais Rhif: 15/0666 – Estyniad gorllewinol i'r chwarel bresennol, i gynnwys echdynnu 10 miliwn tunnell ychwanegol o dywodfaen pennant yn raddol, adeiladu byndiau sgrinio, gwaith cysylltiedig, a chydgrynhoi'r holl ganiatadau cynllunio mwynau blaenorol yn Chwarel Craig yr Hesg, gan gynnwys estyn y dyddiad gorffen ar gyfer chwarela a chynllun adfer cyffredinol (gwybodaeth ychwanegol wedi'i nodi yn yr adroddiad "Materion Lles a Iechyd yr Amgylchedd") Chwarel Craig yr Hesg, Heol Berw, Pontypridd. "Rwyf eisoes wedi dod i benderfyniad ar y cais yma ac rwyf wedi bod wrthi'n trafod â thrigolion". (2) Yn unol â'r Cod Ymddygiad, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P. Jarman fuddiant personol yngl?n â Chais Rhif: 15/0666 – Estyniad gorllewinol i'r chwarel bresennol, i gynnwys echdynnu 10 miliwn tunnell ychwanegol o dywodfaen pennant yn raddol, adeiladu byndiau sgrinio, gwaith cysylltiedig, a chydgrynhoi'r holl ganiatadau cynllunio mwynau blaenorol yn Chwarel Craig yr Hesg, gan gynnwys estyn y dyddiad gorffen ar gyfer chwarela a chynllun adfer cyffredinol (gwybodaeth ychwanegol wedi'i chyflwyno). "Rwy'n adnabod un o'r siaradwr cyhoeddus." (Nodwch: doedd y person yma a oedd wedi gofyn am gael annerch y pwyllgor ddim yn bresennol i wneud hynny.)
(3) Yn unol â'r Cod Ymddygiad, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Williams fuddiant personol yngl?n â Chais Rhif: 15/0666 – Estyniad gorllewinol i'r chwarel bresennol, i gynnwys echdynnu 10 miliwn tunnell ychwanegol o dywodfaen pennant yn raddol, adeiladu byndiau sgrinio, gwaith cysylltiedig, a chydgrynhoi'r holl ganiatadau cynllunio mwynau blaenorol yn Chwarel Craig yr Hesg, gan gynnwys estyn y dyddiad gorffen ar gyfer chwarela a chynllun adfer cyffredinol (gwybodaeth ychwanegol wedi'i chyflwyno). "Rwy'n adnabod un o'r siaradwr cyhoeddus." (Nodwch: doedd y person yma a oedd wedi gofyn am gael annerch y pwyllgor ddim yn bresennol i wneud hynny.)
|
|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Grehan.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr, 2019.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2019 yn rhai cywir.
|
|
RHIF Y CAIS: 15/0666 PDF 352 KB Estyniad gorllewinol i'r chwarel bresennol, i gynnwys echdynnu 10 miliwn tunnell ychwanegol o dywodfaen pennant yn raddol, adeiladu byndiau sgrinio, gwaith cysylltiedig, a chydgrynhoi'r holl ganiatadau cynllunio mwynau blaenorol yn Chwarel Craig yr Hesg, gan gynnwys estyn y dyddiad gorffen ar gyfer chwarela a chynllun adfer cyffredinol (gwybodaeth ychwanegol wedi'i nodi yn yr adroddiad "Materion Lles ac Iechyd yr Amgylchedd") Chwarel Craig yr Hesg, Heol Berw, Pontypridd
Cofnodion: Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod: · Graham Jenkins (Asiant) · Jacob Williams (Gwrthwynebydd) · Lacie Mai Davies (Gwrthwynebydd) · Mr R. A. Davies (Gwrthwynebydd) · Dr Gareth Lloyd (Gwrthwynebydd) · Mr Keith Lewis (Gwrthwynebydd) · Sian Griffiths (Gwrthwynebydd) · Roy Spry (Gwrthwynebydd) · Simon Pritchard (Gwrthwynebydd)
Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr Clayton Jones (Gwrthwynebydd) na Tara Mardon-Hughes (Gwrthwynebydd) a oedd wedi gofyn am annerch yr Aelodau ar y cais yn bresennol i wneud hynny.
Ymarferodd yr Asiant Graham Jenkins yr hawl i ymateb i'r sylwadau a gafodd eu gwneud gan y gwrthwynebwyr.
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Pickering, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.
(Nodwch: Ar ôl datgan buddiant yn y cais yn flaenorol (Cofnod Rhif 180), arferodd yr Aelod o'r Pwyllgor/Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Williams, ei hawl i annerch y Pwyllgor ar y cais o dan adran 14(2) o'r Cod Ymddygiad. Amlinellodd ei bryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ddilynol).
Amlinellodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys pum llythyr 'hwyr'. Cyflwynwyd y llythyr cyntaf gan Vikki Howells AC yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig oherwydd yr effaith y byddai'n ei chael ar eiddo trigolion lleol, a'u hiechyd a'u lles, yn ogystal â'r cynnydd posibl mewn cerbydau a fyddai'n achosi problemau o ran traffig a'r priffyrdd. Amlinellodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys y llythyrau 'hwyr' eraill hefyd – cyflwynwyd y rhain gan Gyngor Tref Pontypridd a thrigolion lleol yn gwrthwynebu'r cynnig.
Hefyd, cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn 2016 gan y cyn Aelod Seneddol Owen Smith yn amlinellu pryderon ynghylch y cais.
Dywedodd Pennaeth Materion Cynllunio wrth yr Aelodau fod yr holl faterion a nodwyd yn y llythyrau wedi cael sylw yn yr adroddiad.
Adroddodd Pennaeth Materion Cynllunio ar lafar am gywiriad i eiriad amod 27 sydd wedi'i restru yn yr adroddiad. Cadarnhaodd eiriad yr amod newydd, sef:
Rhwng 19:00 a 07:00 ni chaiff y Lefel S?n Barhaus Cyfwerth â maes rhydd LAeq (1 awr) o ganlyniad i waith ar y safle fod yn uwch na 42 dB LAeq ym mhob eiddo sensitif i s?n a nodwyd yn Nhabl 1 sydd wedi'i osod yn amod 26 uchod.
Dywedodd Pennaeth Materion Cynllunio wrth y pwyllgor fod y Cyngor wedi gofyn am gyngor arbenigol ar y cais hwn, oherwydd nad oes ganddo arbenigwr ym maes cynllunio mwynau. Cyflwynodd Mr H. Towns, Rheolwr Cynllunio Mwynau a Gwastraff Cyngor Sir Caerfyrddin. Yna, rhoddodd Mr H. Towns drosolwg i'r pwyllgor o'r adroddiad gerbron yr Aelodau a'r rhesymau dros yr argymhelliad ac aeth i'r afael â materion a godwyd gan y siaradwyr cyhoeddus.
Yn dilyn trafodaeth hir, roedd yr Aelodau o blaid gwrthod y cais uchod yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, oherwydd roeddent o'r farn bod yna pryderon dybryd nad oedd y cynigion yn darparu ar gyfer ... view the full Cofnodion text for item 185. |
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 18/01/2020 a 24/01/2020.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 18/01/2020 a 24/01/2020.
|