Lleoliad: Hybrid
Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd 01443 424098
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
Croeso Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Llywydd Aelodau i gyfarfod hybrid y Cyngor.
|
|||
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cyngor, a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023, yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023 yn rhai cywir (yn amodol ar ddileu enw'r Cynghorydd S Trask o'r rhestr o bobl a oedd yn bresennol yn y cyfarfod am 4pm).
|
|||
Cyhoeddiadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y cyhoeddiadau canlynol eu gwneud:
Ø Roedd y Cynghorydd R Harris yn dymuno llongyfarch y chwaraewr rygbi, Adam Beard, a ddathlodd chwarae ei 50fed gêm dros Gymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn ddiweddar. Roedd hefyd wedi dymuno pob lwc i garfan rygbi Cymru ar gyfer ei gêm yn erbyn Awstralia ar y penwythnos.
Ø Arweiniodd y Cynghorydd M Maohoub y Cyngor i gynnal munud o dawelwch er cof am y bobl a gollodd eu bywydau yn y digwyddiadau trasig diweddar ym Morocco a Libya.
Ø Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y cyhoeddiad canlynol, yn absenoldeb y Cynghorydd W Treeby, mewn perthynas â rhoddion i elusennau'r Cynghorydd Treeby yn ystod ei chyfnod fel Maer Rhondda Cynon Taf ym Mlwyddyn 2022/23 y Cyngor:
Ambiwlans Awyr Cymru £26,100 Cymdeithas Strôc £26,100 Mae'r ddau swm yma'n cynnwys £24,000 o arian ICCM yr un. Green Meadow Riding School for the Disabled £2,100 Cyfanswm: £54,300
|
|||
Cwestiynau gan yr Aelodau PDF 239 KB Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol Gweithdrefn 9.2 y Cyngor.
(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
1. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Evans i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:
“A oes modd i'r Arweinydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran cynllun Pont Britannia?” Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:
Nododd yr Arweinydd fod y cwestiwn yma'n ymwneud â chynllun Heol Eirw / Pont Imperial sy'n symud ymlaen tuag at ei gamau olaf. Mae berynnau newydd wedi cael eu gosod ac mae gwaith atgyweirio wedi cael ei gynnal ar ganllawiau a strwythur dur y bont, gan gymryd lle'r rhannau sydd wedi cyrydu. Mae hen baent y bont gyfan, sef wyneb ychydig yn llai na 3,000 metr sgwâr, wedi cael ei dynnu ac mae'r bont wedi cael ei hailbaentio. Ychwanegodd yr Arweinydd fod wyneb y ffordd wedi cael ei dynnu er mwyn gwneud y bont yn wrth-dd?r a bydd angen atgyweirio'r gwaith llenwi concrit yn gyntaf. Bydd hyn yn ychwanegu ambell i wythnos at y rhaglen. Dywedodd fod modd i gynlluniau mawr, fel yr un yma a chynlluniau cynnal a chadw strwythurau neu osod rhai newydd, darfu'n lleol felly mae'r Cyngor yn ddiolchgar i drigolion am eu hamynedd a'u cydweithrediad.
Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Evans: “Oes modd i'r Arweinydd esbonio pwysigrwydd rhaglen atgyweiriadau strwythurol a chynnal a chadw yn RhCT?” Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE:
Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn bwysig iawn a bod y Cyngor wrthi'n gosod nifer o bontydd newydd ledled y Fwrdeistref Sirol, ochr yn ochr â'r rhaglen gyfalaf. Fe wnaeth yr Arweinydd gydnabod y tarfu y mae hyn yn ei achosi ond heb fuddsoddi yn y strwythurau, bydden nhw'n cau. Byddai hyn yn arwain at oblygiadau a tharfu hirdymor i drigolion lleol, a hynny hyd nes y bydd strwythurau newydd yn cael eu gosod. Esboniodd yr Arweinydd fod buddsoddi parhaus yn dilyn Storm Dennis yn anochel a bod angen y buddsoddiadau yma'n fawr. Esboniodd y bydd strwythurau newydd yn parhau i gael eu gosod wrth i amser fynd heibio a chyn iddyn nhw waethygu gormod fydd yn cael goblygiadau difrifol ac yn arwain at darfu ar gyfer trigolion lleol.
2. Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol H Gronow i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings:
“Fyddai modd i'r Aelod o'r Cabinet perthnasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am dipio'n anghyfreithlon ledled y Fwrdeistref Sirol?”
Ymateb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings:
Nododd y Cynghorydd Crimmings nad yw Cyngor Rhondda Cynon Taf yn goddef tipio'n anghyfreithlon a'n bod ni'n defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni i ddal y rheiny sy'n tipio'n anghyfreithlon yn ein trefi a'n cefn gwlad a'u dwyn i gyfrif. Nododd y Cynghorydd Crimmings fod y broses o gael gwared ar sbwriel wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn y Fwrdeistref Sirol yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd. Dyma arian a ddylai ... view the full Cofnodion text for item 42. |
|||
Rhaglen Waith Y Cyngor 2023/24 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr wybodaeth ddiwedaraf mewn perthynas â Rhaglen Waith y Cyngor sydd eisoes wedi'i mabwysiadu a'i chyhoeddi. Rhoddodd wybod y bydd unrhyw eitemau wedi'u gohirio o'r mis yma yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf y Cyngor ar 25 Hydref. Y cyfarfod hwnnw fydd cyfarfod hybrid olaf y Cyngor cyn i waith ddechrau i ddatgomisiynu siambr y Cyngor yng Nghwm Clydach i'w symud i Bontypridd. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai gwahoddiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddod i gyfarfod o'r Cyngor yn cael ei ohirio a'i aildrefnu ar ôl i'r gwaith symud ddod i ben. I gloi, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai angen trafod adroddiad Cydbwysedd Gwleidyddol ym mis Hydref o ganlyniad i gael gwybod am gr?p gwleidyddol newydd yn cael ei ffurfio, sef y Gr?p Annibynnol, sy'n cynnwys y Cynghorydd W Jones a'r Cynghorydd W Owen
|
|||
Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2023/24 - 2026/27 PDF 143 KB Derbyn adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen sy'n rhoi'r diweddaraf am y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||
Adolygiad o Delerau ac Amodau'r Cyngor PDF 92 KB Derbyn adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr, Dirprwy Brif Weithredwr, Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen a Chyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol yr adroddiad ar y cyd i roi gwybod i'r Cyngor am y cynnig mewn perthynas â newid telerau ac amodau cyflogaeth staff.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod am yr ymrwymiad i barhau i adolygu materion pellach o ran telerau ac amodau, a gafodd eu codi gan undebau llafur cydnabyddedig, a hynny yng ngoleuni angen gweithredol a'r angen am wasanaethau, yn dilyn y newid a gafodd ei gymeradwyo gan y Cyngor yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2022. Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw Aelodau at yr ychwanegiad sy'n cael ei gynnig, fel sydd wedi'i nodi yn adran 4 yr adroddiad, am weithio unrhyw oriau ar ddydd Sul, bydd staff yn cael cyflog hanner amser ychwanegol o 1 Tachwedd 2023. Bydd y drefn bresennol, sef traean yn ychwanegol o unrhyw oriau sy'n cael eu gweithio ar ddydd Sadwrn, yn parhau.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:
1. Bod y Cyngor yn cytuno cyflwyno cyfradd cyflog ddiwygiedig yn seiliedig ar dalu cyflog hanner amser ychwanegol ar gyfer unrhyw oriau sy'n cael eu gweithio ar ddydd Sul;
2. Bod y newid yma'n cael ei gyflwyno o 1 Tachwedd 2023.
(Nodi: Datganodd y Cynghorydd W Treeby y buddiant personol canlynol – “Mae fy nau fab yn gweithio i'r Cyngor”).
|
|||
Blaenoriaethau Buddsoddi'r Cyngor PDF 124 KB Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gyfadran Cyllid, Gwasanaethau Digidol a Gwasanaethau Rheng Flaen adroddiad y Cabinet a nododd y sefyllfa o ran y cyfle i'r Cyngor fuddsoddi ymhellach yn ei feysydd â blaenoriaeth, yn unol â Chynllun Corfforaethol 'Gwneud Gwahaniaeth' 2020-2024. Roedd yr adroddiad yn gofyn am gytundeb y Cyngor o ran y buddsoddiad ychwanegol gwerth £7.730 miliwn ar draws y meysydd sydd wedi'u nodi ym mharagraff 4.1 yr adroddiad fydd, os bydd yn cael ei gymeradwyo, yn cael ei gynnwys yn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor.
Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:
|
|||
Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad PDF 90 KB Trafod Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad drafft y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth Aelodau o Bolisi Cyfarfodydd Aml-leoliad drafft Rhondda Cynon Taf (i'w weld yn Atodiad 1) ar ôl i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a Chadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Craffu ei drafod.
Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y polisi drafft yn ceisio cynnwys y trefniadau a'r arferion gweithio da y mae'r Cyngor wedi'u mabwysiadu, a hynny'n dilyn cwrdd ar-lein yn unig ar ddechrau'r pandemig ac yn dilyn dull hybrid erbyn hyn yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae darlledu'r cyfarfodydd wedi cryfhau'r cyfle i'r cyhoedd weld yr hyn sy'n digwydd ac mae hyn wedi hyrwyddo amrywiaeth yn Siambr y Cyngor.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod bod y polisi drafft yn ceisio gwneud y dulliau sydd wedi'u rhoi ar waith hyd yn hyn yn ffurfiol, gan gydnabod yr angen i gyfarfodydd hybrid gael eu cynnal yn ôl y safonau proffesiynoldeb priodol. Mae hefyd yn nodi nifer o reolau pwysig o ran ymddygiad priodol mewn cyfarfodydd (a rheolau 'cadw t?' cyffredinol) o ran amgylchedd cyfarfodydd. Dyma'r tro cyntaf i hyn gael ei gynnwys mewn polisi cyfarfodydd aml-leoliad ffurfiol. Wrth gyflwyno ei adroddiad, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y polisi drafft wedi cael ei drafod a'i gymeradwyo gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd a Chadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Craffu. Yn dilyn hyn, cafodd nifer o newidiadau eu cynnig ac maen nhw i'w gweld mewn coch yn yr atodiad. Mae'r newidiadau hefyd wedi cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol sydd wedi argymell bod y Cyngor yn eu mabwysiadu.
I gloi, tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sylw Aelodau at ddau faes mwy manwl yn y polisi, mewn perthynas â defnyddio camerâu yn adran 6 yr adroddiad, ac mewn perthynas â phresenoldeb mewn lleoliad sy'n sicrhau bod yr un safonau o ran proffesiynoldeb yn cael eu cynnal. Mae hyn yn unol â'r dull cyson sydd wedi'i fabwysiadu ac mae disgwyl i holl weithwyr y Cyngor ei ddilyn hefyd. Mae hyn wedi'i gymeradwyo'n ffurfiol yn ddiweddar yn rhan o drefniadau gweithio hyblyg a gweithio gartref y Cyngor.
Mewn ymateb i ymholiad o ran cymryd rhan mewn lleoliadau o bell, o gerbydau yn bennaf, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at adran 9 yr adroddiad a phwysleisiodd bwysigrwydd cymryd rhan o leoliad cyfrinachol, sy'n broffesiynol ac yn addas ar gyfer y cyfarfod ffurfiol. Cadarnhaodd y trefniadau presennol ar gyfer cofnodi pleidleisiau a'r bwriad i roi'r system bleidleisio electronig hybrid ar waith yn y swyddfa newydd yn Llys Cadwyn, Pontypridd.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:
|
|||
Sefydlu Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu y Cydbwyllgor Corfforaethol PDF 133 KB Trafod adroddiad y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd a Chyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad ar y cyd a oedd yn gofyn am gytundeb y Cyngor o ran sefydlu Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu yn rhan o drefniadau llywodraethu mewn perthynas â Chydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru (CJC).
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod bod y broses o drosglwyddo swyddogaethau Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRCD) i'r cydbwyllgor corfforaethol, o ganlyniad i'w synergedd mewn perthynas â'i gylch gwaith ar gyfer Datblygu Economaidd, yn mynd rhagddi, gan weithio tuag at statws gweithredu llawn y flwyddyn nesaf yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod bod yr adroddiad yn cynnig bod y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu presennol yn darparu'r trefniadau craffu ar gyfer y CJC, o dan gylch gorchwyl ar wahân, gan y byddai'r trefniant presennol yma'n bodloni bwriad Llywodraeth Cymru orau, fel sydd wedi'i nodi yn y canllawiau statudol. Nododd hefyd y byddai pob Awdurdod Lleol yn penodi un aelod gwirioneddol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai hyn yn broses trosglwyddo trefniadau craffu presennol CCRCD i'r CJC newydd. Byddai'r rheoliadau'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r 10 Awdurdod Lleol cyfansoddol benodi'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu yn Bwyllgor Trosolwg a Chraffu y CJC.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y cafodd y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu gyfarfod ar 27 Gorffennaf 2023 a'i fod wedi cytuno mewn egwyddor â'r cynnig. Mae llythyr gan Gadeirydd y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu at Swyddog Monitro Dros Dro'r CJC dyddiedig 27 Gorffennaf 2023 wedi'i atodi i'r adroddiad yn Atodiad 1. Cafodd y Cyngor wybod bod cylch gorchwyl drafft wedi'i gynnwys yn yr atodiadau a chynigiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei bod hi'n bosibl y byddai'r Cyngor yn dymuno rhoi cyfle i Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu newydd y CJC adolygu'r cylch gorchwyl arfaethedig a bod unrhyw newidiadau'n cael eu hadrodd i'r awdurdodau lleol cyfansoddol.
I gloi, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai cyfle i asesu dyfodol y CJC a'i flaenoriaethau yn dilyn ceisiadau gan nifer o Aelodau am ragor o wybodaeth mewn perthynas â nhw.
Siaradodd Is-gadeirydd Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu CCRCD, y Cynghorydd D R Bevan, am y cyfle a gawson nhw i rag-graffu ar y cynigion a'u cymeradwyo yn yr haf, a chytunodd â'r cynnig am argymhelliad ychwanegol bod Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu newydd y CJC yn cael cyfle i adolygu'i gylch gorchwyl.
PENDERFYNWYD:
1. Penodi'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu yn Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu y CJC;
2. Cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer ei swyddogaethau mewn perthynas â'r CJC, fel sydd yn Atodiad 2;
3. Nodi penodiad Cyngor Rhondda Cynon Taf fel awdurdod cyfrifol y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu.
4. Nodi y bydd Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Cyngor RhCT a'r CJC yn cael ei drefnu maes o law ar gyfer cost gweinyddu Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu'r CJC.
5. Rhoi cyfle i Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu'r CJC adolygu'r cylch gorchwyl arfaethedig a rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i'r awdurdodau lleol cyfansoddol.
|
|||
Newid i Aelodaeth Corff Allanol PDF 151 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a oedd yn gofyn bod y newid arfaethedig i gynrychiolwyr presennol ar Gorff Llywodraethu Coleg y Cymoedd ar gyfer gweddill y cyfnod pedair blynedd (yn dod i ben yn 2025) yn cael ei drafod. Cynigiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Cyngor yn trafod penodi Ms Kate Owen fel y swyddog sydd wedi'i enwebu yn lle Mrs G Davies, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, yn dilyn ei hymddiswyddiad o'r swydd.
Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:
1. Derbyn enwebiadau Aelodau i gynrychioli'r Cyngor ar Gorff Llywodraethu Coleg y Cymoedd ar gyfer gweddill y cyfnod;
2. Cytuno i benodi Kate Owen fel y swyddog sydd wedi'i enwebu yn lle Mrs G Davies, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, yn dilyn ei hymddiswyddiad o'r swydd; a
3. Bod gohebiaeth yn cael ei hanfon i Goleg y Cymoedd yn rhoi gwybod am y penodiad (a newid) i gynrychiolwyr y Cyngor sydd wedi'u henwebu. |
|||
Penodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 85 KB Derbyn adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol yr adroddiad ar y cyd a oedd yn gofyn am gadarnhad o benderfyniad y Pwyllgor Penodiadau mewn perthynas â phenodi'r ymgeisydd sydd wedi'i ddewis i swydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cafodd Aelodau wybod bod y Pwyllgor Penodiadau wedi penderfynu argymell yn unfrydol fod Mr Neil Elliott yn cael ei benodi i swydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn cwblhau'r broses recriwtio a dewis a dethol ffurfiol.
Roedd Aelodau'n dymuno mynegi eu bod nhw o blaid y penodiad a PHENDERFYNWYD:
i. Cadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Penodiadau y dylid penodi Mr Neil Elliot i swydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol; a
ii. Nodi mai dyddiad dechrau Mr Elliot yn y swydd yma fydd dydd Iau 21 Medi 2023.
|