Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Julia Nicholls -Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

2.

Ethol Llywydd y Cyngor

a)    Ethol Llywydd y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD – ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes i fod yn Llywydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

Yn dilyn hyn, cymerodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes y Gadair ac anerchodd y Cyngor yn ei rôl fel Llywydd.

 

 

3.

Etholiadau a Phenodiadau pdf icon PDF 179 KB

Trafod adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ethol Dau Ddirprwy Lywydd y Cyngor

 

PENDERFYNWYD – ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Sheryl Evans i fod yn Ddirprwy Lywydd cyntaf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

PENDERFYNWYD – ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Barry Stephens yn ail Ddirprwy Lywydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

 

Derbyn anerchiad gan Faer y Cyngor ar gyfer 2022-2023.

 

Nododd y Maer diweddaraf, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Treeby, fod y flwyddyn ddiwethaf fel Maer wedi bod yn fraint iddi. Rhoddodd ddiolch i drigolion, cymunedau a swyddogion oedd wedi ei chefnogi hi a'i helusennau. Ei phrif uchafbwyntiau'r flwyddyn oedd ymgysylltu â disgyblion ysgolion ledled RhCT a chwrdd â Chyn-filwyr RhCT.

 

Dywedodd y Cynghorydd Treeby ei bod wedi sicrhau dau grant gwerth £24k ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru a'r Gymdeithas Strôc, a rhoddodd ddiolch i bawb a oedd wedi ei helpu i wneud hyn. Dymunodd yn dda i'r Maer newydd ar gyfer y dyfodol.

 

Wrth ymateb i hyn, talodd Aelodau deyrnged i'r Maer sy'n ymddeol am ei holl waith ac ymdrechion caled yn ystod ei chyfnod yn y rôl.

 

Ethol Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024.

 

PENDERFYNWYD - ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis yn Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024.

 

Dywedodd Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024 fod cael ei hethol yn Faer Rhondda Cynon Taf yn anrhydedd enfawr. Talodd deyrnged i'r Maer diweddaraf, y Cynghorydd Treeby, am ei gwaith caled ac ymrwymiad i'r rôl.

 

Cyhoeddodd y Cynghorydd Lewis mai Mr Christopher Lewis a Dilys Jouvenat fyddai ei chydweddogion yn ystod ei chyfnod fel Maer RhCT. Yr elusennau y mae wedi'u dewis yw Brain Tumour Research, Natasha Allergy Research Foundation, SANDS (Cymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion) a Hope Rescue, yn ogystal â chefnogi'r Eisteddfod Genedlaethol sydd ar ddod a'r Lluoedd Arfog.

 

Edrychodd y Cynghorydd Lewis ymlaen at weithio'n agos gyda'r Dirprwy Faer.

 

Dymunodd y Llywydd ac Arweinwyr y Grwpiau/Dirprwy Arweinwyr y Grwpiau yn dda i'r Maer newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Penodi Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023 - 2024.

 

PENDERFYNWYD - ethol Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Owen-Jones yn Ddirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024.

 

Llongyfarchodd y Dirprwy Faer y Maer newydd, yn ogystal â diolch am yr anrhydedd o gael ei ethol yn Ddirprwy Faer ar gyfer 2023-24.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Owen-Jones ei gydweddog sef ei ferch, Abbey Louise Owen-Jones.

 

Penodi Arweinydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD – penodi Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/2024.

 

Rhoddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE ddiolch am gael ei ailbenodi'n Arweinydd y Cyngor. Nododd ei fod wedi bod yn Arweinydd Cyngor RhCT ers 2014 ac mae ei ailbenodiad yn golygu mai dyma'r cyfnod hiraf gan Arweinydd y Fwrdeistref Sirol. Aeth ati i gydnabod yr anrhydedd o gael ei ethol yn Arweinydd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Swyddogaethau Gweithredol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r Cabinet a'u swyddogaethau unigol, fel y ganlyn: -

 

· Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Morgan OBE, Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi

 

·   Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor

 

·   Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Norris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Datblygu a Ffyniant

 

·   Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg

 

·   Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

·   Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol B Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau

 

·   Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Crimmings, Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden

 

·   Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol C Leyshon, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol

 

5.

Cydbwysedd Gwleidyddol y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ei adroddiad ar y cyd â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i Aelodau am ganlyniad yr adolygiad o Gydbwysedd Gwleidyddol yr Awdurdod ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

Amlygodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ganlyniadau'r adolygiad a gynhaliwyd a'r seddi sydd ar gael sydd angen eu llenwi gan y grwpiau gwleidyddol priodol fel y nodir yn nhablau A a B yr atodiad i'r adroddiad. Dywedodd fod Adran 5 yn gofyn bod y Cyngor yn penderfynu ar ddyraniad y rhybuddion o gynnig ar gyfer blwyddyn newydd y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD-

 

 

1.         Mabwysiadu'r cynllun ar gyfer dyrannu seddi i'r gwahanol gyrff a grwpiau gwleidyddol y mae Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn gymwys iddo, fel y manylir yn yr Atodiad i'r adroddiad yma;

 

2.         Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i benodi i gyrff gwleidyddol cytbwys, pan fydd yn derbyn hysbysiad o ddymuniadau'r grwpiau gwleidyddol, yn amodol ar dderbyn unrhyw geisiadau dilynol i newid aelodaeth y Pwyllgorau sydd wedi'u cyfeirio at y Cyngor;

 

3.        Bod y dyraniad o ran cyflwyno Rhybuddion o Gynnig ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024 fel y ganlyn:-

 

Llafur - 12

Plaid Cymru - 5

Gr?p Annibynnol RhCT - 2

Y Blaid Geidwadol - 1

 

 

6.

PENODI AELODAU PWYLLGORAU 2023-2024 pdf icon PDF 173 KB

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhannu argymhellion mewn perthynas â phenodi Aelodau i'r Pwyllgorau canlynol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad, a oedd yn gofyn am benodi Pwyllgorau'r Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024.

 

PENDERFYNWYD penodi'r Pwyllgorau sydd wedi'u nodi isod ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024:

 

 

a)   Pwyllgor Cynllunio a Datblygu (x11 Aelod)

 

b)  Pwyllgor Trwyddedu (x11 Aelod)

 

c)   Pwyllgor Penodiadau (x5 Aelod)

 

d)  Pwyllgor Apeliadau / Apeliadau'r Gweithwyr / Apeliadau'r Prif Swyddogion (x5 Aelod)

 

e)  Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (x14 Aelod)

 

f)    Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant (x14 Aelod)

 

g)  Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned (x14 Aelod)

 

h)  Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant (x14 Aelod)

 

i)    Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio (x6 Aelod) 

 

j)    Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd (x17 Aelod)

 

k)   Pwyllgor Safonau (x2 Aelod)

 

l)    Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol (x8 Aelod)

 

m) Pwyllgor y Gronfa Bensiwn (x5 Aelod)

 

n)  Cydbwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (x2 Aelod)

 

7.

PENODI CADEIRYDDION AC IS-GADEIRYDDION PWYLLGORAU 2023-2024 pdf icon PDF 155 KB

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ei adroddiad, roedd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yn gofyn i'r Cyngor ystyried penodi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau'r Cyngor ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024, a PHENDERFYNWYD:

 

1.       Penodi'r Aelodau canlynol i swyddi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion:

·       Pwyllgor Cynllunio a Datblygu

Cadeirydd – Y Cynghorydd S Rees

Is-gadeirydd – Y Cynghorydd W Lewis

 

·       Pwyllgor Trwyddedu

Cadeirydd – Y Cynghorydd A S Fox

Is-gadeirydd – Y Cynghorydd G Stacey

 

·       Pwyllgor Penodiadau

Cadeirydd – Y Cynghorydd S J Davies

Is-gadeirydd – Y Cynghorydd M Webber

 

·       Pwyllgor Apeliadau / Apeliadau'r Gweithwyr / Apeliadau'r Prif Swyddogion

Cadeirydd – Y Cynghorydd R Williams

Is-gadeirydd – Y Cynghorydd L Addiscott

 

·       Pwyllgor y Gronfa Bensiwn

Cadeirydd – Y Cynghorydd M Norris

Is-gadeirydd – Y Cynghorydd M Ashford

  

2.     Penodi Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Webber yn Is-gadeirydd ar y pwyllgor hwnnw, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (y 'Mesur');

 

3.   Cytuno y dylai'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fod yn gyfrifol am benodi'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwnnw, yn unol â'r adroddiad;

 

4.   Bod penodiad Cadeirydd y Pwyllgor Craffu -  Addysg a Chynhwysiant yn cael ei ddyrannu i Gr?p Plaid Cymru;

 

5.     Yn unol â'r enwebiadau a dderbyniwyd gan y Grwpiau Gwleidyddol priodol, bod yr Aelodau canlynol yn cael eu penodi'n Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu sydd wedi'u nodi isod:--

 

Pwyllgor

Cadeirydd

Is-gadeirydd

 

 

 

Trosolwg a Chraffu

J Edwards

B Stephens

Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant

C Middle

G Warren

Gwasanaethau Cymuned

J Bonetto

R Davis

Addysg a Chynhwysiant

Sera Evans

K Webb

 

6.     Nodi penodiad y Dirprwy Lywydd, y Cynghorydd Sheryl Evans, yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol;

 

7.  Nodi, yn dilyn pontio i un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer Cwm Taf Morgannwg, y bydd adroddiad sy'n amlinellu'r trefniadau craffu newydd yn cael ei gyflwyno gerbron Aelodau ym mis Mehefin. Bydd yr adroddiad yn adlewyrchu'r diwygiad i'r trefniadau craffu ar y cyd sydd ar waith ar hyn o bryd;

 

8.   Nodi y dylai unigolion sy'n cyflawni'r rolau Cadeiryddion canlynol dderbyn Cyflog Uwch yn unol ag argymhellion Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol

       (Hyd at uchafswm o 19):

 

Y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu

Y Pwyllgor Trwyddedu

Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu

Y Pwyllgor Craffu – Addysg a Chynhwysiant

Y Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned

Y Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant

Y Pwyllgor Apeliadau

Y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Pwyllgor y Gronfa Bensiwn

 

9.   Nodi'r angen i gyhoeddi a chyflwyno'r rhestr o gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer 2023-24 erbyn 31 Gorffennaf 2023.

 

 

8.

CYRFF LLED FARNWROL/PWYLLGORAU AD HOC 2023-2024 pdf icon PDF 149 KB

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd ei adroddiad mewn perthynas â phenodi Aelodau i'r Cyrff Lled-Farnwrol/Pwyllgorau Ad Hoc ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023 - 2024, yn amodol ar gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor fel y nodir yn adran 3 yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD  penodi'r canlynol:

 

1.   Pwyllgor Llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol (Penodiadau) (5 Aelod). (4 Llafur, 1 Plaid Cymru):

 

Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol R Lewis, G Stacey, J Brencher, S Hickman a Sera Evans

 

2.     Panel Ymddeol yn Gynnar o Wirfodd / Ymddiswyddo (5 Aelod – 4 Llafur, 1 Plaid Cymru):

 

Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M Webber, L Tomkinson, J Bonetto, G Jones a D Grehan.

 

3.     Cydbwyllgor Ymgynghori (4 Aelod):

 

Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A Crimmings, R Lewis, M Webber ac A Morgan OBE

 

9.

CYRFF ALLANOL pdf icon PDF 269 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad i ystyried penodi Aelodau i Gyrff Allanol a Chydbwyllgorau Anweithredol. Tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sylw Aelodau at y rôl wag ar Gorff Allanol Trivallis ar ôl i'r Cynghorydd B Stephens ymddiswyddo o'r rôl:-

 

PENDERFYNWYD – penodi'r Aelodau sydd wedi'u nodi isod i'r Cyrff Allanol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-2024

 

a)    AgeConcern Cymru (Y Cynghorydd G Caple)

b)    Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru (C.L.A.W.) (Y Cynghorydd C Leyshon)

c)     Pwyllgor Bowls Dan Do Cwm Cynon (Y Cynghorydd A Morgan OBE)

ch) Elusen Edward Thomas (Y Cynghorwyr R Lewis, R Williams, A S Fox ac A Dennis) 

d)    Cyngor Cyswllt Cymru (Y Cynghorwyr M Webber a C Leyshon)

dd) The Alliance (Y Cynghorwyr G Jones, E Dunning a D Parkin) 

e)    Pwyllgor Cyswllt Safle Glofa'r T?r (Y Cynghorwyr L Addiscott, S Emmanuel ac A Rogers) 

f)      Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Y Cynghorwyr A Morgan OBE, M Webber, C Leyshon, R Lewis ac A Crimmings)

ff)    Bwrdd Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Y Cynghorwyr A Morgan OBE a M Webber)

g)    Busnes mewn Ffocws (Y Cynghorydd M Norris)

ng) Trivallis (Y Cynghorydd C Middle)

 

 

PENDERFYNWYD penodi cynrychiolwyr y Cyngor i'r Cydbwyllgorau Anweithredol canlynol:

 

a)    Awdurdod Tân ac Achub De Cymru (Y Cynghorwyr S Bradwick, A Roberts, G Holmes a G Williams)

b)    Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Y Cynghorydd S Emmanuel)

c)     Panel Troseddau Heddlu De Cymru (Y Cynghorwyr B Harris a L Addiscott)

 

(Noder: Roedd yr Aelodau canlynol am gofnodi eu bod nhw wedi pleidleisio o blaid penodi'r Cynghorydd A O Rogers fel cynrychiolydd i Gydbwyllgor Anweithredol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

Y Cynghorwyr S Evans, D Grehan, A Ellis, P Evans, H Gronow, D Wood, S Trask, K Johnson, M Powell, C Lisles, P Binning a D Evans)

 

10.

CALENDR CYFARFODYDD 2023-2024 pdf icon PDF 288 KB

Trafod adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu mewn perthynas â'r calendr o gyfarfodydd arfaethedig ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2023-2024.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ei adroddiad, ceisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu gymeradwyaeth ar gyfer Calendr Cyfarfodydd 2023-2024 sydd wedi'i nodi yn Atodiad 1, a chyfeiriodd at yr hyblygrwydd fyddai ei angen

gan fod modd i'r calendr newid yn sgil gofynion busnes y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at ganlyniadau'r arolwg a gafodd ei gynnal yn unol ag Adran 6(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 ac mae crynodeb i'w weld yn adran 4 yr adroddiad. Ychwanegodd, mewn perthynas â'r gofyniad statudol i gynnal arolwg i Aelodau o ran amseroedd cyfarfodydd, nad oes rheidrwydd ar y Cyngor i wneud newidiadau ar sail yr adborth yma. Cadeiryddion perthnasol fydd yn gyfrifol am benderfynu ar hyn yn unol â gofynion busnes y Cyngor.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

1.         Cytuno ar y Calendr o Gyfarfodydd arfaethedig ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-24, fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

2.         Nodi bod modd i'r calendr drafft yma newid, yn seiliedig ar ofynion busnes dros flwyddyn nesaf y Cyngor. Caiff unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau eu gwneud ar y cyd â chadeiryddion y pwyllgorau priodol;

 

3.         Cytuno, ac eithrio cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu, na fydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau'r ysgol, yn amodol ar anghenion busnes brys.

 

11.

Adroddiadau Blynyddol 2022/23 pdf icon PDF 207 KB

Derbyn yr Adroddiadau Blynyddol canlynol:

 

·       Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2022/23 - Mr Chris Jones, Cadeirydd

 

·       Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2022/23 - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Edwards, Cadeirydd

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a roddodd Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23 i'r Cyngor, gyda chyfle i'r Cadeiryddion gyfrannu at fusnes y ddau bwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor.

 

Cafodd Mr Christopher Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a Chynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Edwards, Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, eu croesawu gan Aelodau er mwyn iddyn nhw gyflwyno eu hadroddiadau ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/2023.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD nodi cynnwys adroddiadau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022/23.