Lleoliad: Hybrid
Cyswllt: Julia Nicholls - Democratic Services 01443 424098
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Llywydd bawb i gyfarfod hybrid cyntaf y Cyngor a chyhoeddodd enwau'r Cynghorwyr a oedd yn bresennol yn Siambr y Cyngor:
Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A Morgan, A Crimmings, G Caple, S Bradwick, R Williams, LM Adams, L Walker, J Davies, S Trask a L Hooper.
Roedd y Swyddogion canlynol hefyd yn bresennol yn Siambr y Cyngor:
Mr C Bradshaw, Prif Weithredwr, Mr B Davies, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol, Mr P Nicholls, Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cyfreithiol a Mr C Hanagan, Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Belzak, A Chapman, J James AS, K Jones, M Fidler Jones, K Morgan, D Owen-Jones, S Pickering, SM Powell, S Rees-Owen, G Stacey, M Tegg , M Weaver a M Webber.
|
|||
Datganiad o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â gofynion Côd Ymddygiad y Cyngor
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agenda y mae eu buddiant yn ymwneud ag e a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant personol sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd sawl datganiad o fuddiant personol ei wneud nes ymlaen yn y cyfarfod mewn perthynas â'r agenda (gweler Cofnod Rhif 103 – Rhybudd o Gynnig).
|
|||
Cyhoeddiadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ø Roedd y Cynghorydd S Powderhill a’r Cynghorydd C Leyshon wedi canmol Melissa Foster a Christina Prewitt ar eu haddewid i gasglu sbwriel am 365 diwrnod, gan ddechrau ar Nos Galan 2020 a gorffen ar Nos Galan 2021. Cyhoeddwyd eu bod nhw wedi casglu sbwriel mewn llawer o ardaloedd lleol megis Trallwng, Trefforest, Y Ddraenen Wen, Beddau, Glyn-taf, Cilfynydd, Radur, Castell Coch ac Ogwr hyd yma yn ogystal â lleoliadau ymhellach i ffwrdd fel Windermere a Kendall. Gofynnwyd bod llythyr gan y Maer yn cael ei anfon at Melissa a Christina i gydnabod eu hymdrechion.
Ø Cyhoeddodd y Cynghorydd Sera Evans fod Ysgol Gynradd y Parc yng Nghwm-parc wedi derbyn gwobr 'Calon y Gymuned' gan Sefydliad Ymgysylltu â'r Gymuned a dyma'r ysgol gyntaf yng Nghymru i ennill y wobr. Mae’r ysgol wedi bod yn cefnogi ei disgyblion, teuluoedd a’r gymuned gyda gweithgareddau fel dosbarthiadau tylino babanod, sesiynau i deuluoedd â phlant bach, prosiectau eco-gymunedol, ymweld â’r gr?p dementia lleol ddwywaith y mis, cynnig cyfleoedd hyfforddi yn ogystal â chynnal gweithdai i'r gymuned a darparu pecynnau bwyd angenrheidiol. Dyfarnwyd y wobr 'Hyrwyddwr Cymunedol Eithriadol' i Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yr Ysgol, Leanne Gough, gan gydnabod ei hangerdd dros les ei disgyblion a'u teuluoedd yng Nghwm-parc. Gofynnodd y Cynghorydd bod y Maer yn anfon llythyr i gydnabod cyflawniad yr ysgol.
Ø Cyhoeddodd y Cynghorydd A Cox fod ‘House of Hansen’ sydd wedi’i leoli ar Stryd Hannah, Porth wedi ennill ‘Salon Harddwch y Flwyddyn 2021’ yng ngwobrau Gwallt a Harddwch Cymru. Dyma gwmni o'r Porth sydd wedi bod yn y dref ers dros 10 mlynedd ac mae'r busnes hefyd yn cynnig hyfforddiant harddwch i unigolion. Gofynnodd y Cynghorydd Cox bod y Maer yn anfon llythyr at Stacey Hansen a'r salon i gydnabod y wobr.
|
|||
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod arbennig y Cyngor a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2021 am 3.30pm yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNODD y Cyngor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd (3.30pm) yn rhai cywir.
|
|||
Datganiadau Yn unol â Rheol 2 o Weithdrefn Llywodraethu Agored Cyfarfodydd y Cyngor, derbyn datganiadau gan Arweinydd y Cyngor a/neu Gynghorwyr sy'n Aelodau Portffolio o'r Cabinet:
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad ynghylch y datblygiadau diweddaraf o ran Covid ar lefel lleol a chenedlaethol. Dywedodd fod y nifer uchaf o achosion erioed, sef cyfanswm o 78,600 o achosion, wedi'u cofnodi ledled y DU. Roedd sefyllfa fwy sefydlog i'w gweld yn Rhondda Cynon Taf dros y 7 diwrnod diwethaf, er mae'n debygol y bydd hyn yn newid dros yr wythnosau nesaf gyda chynnydd cyflym yn nifer yr achosion, yn enwedig gyda dyfodiad yr amrywiolyn newydd, sef Omicron. Hyd yma mae 3 achos o Omicron wedi'u cadarnhau yng Nghwm Taf Morgannwg.
Roedd yr Arweinydd wedi diolch i'r swyddogion hynny o garfan yr awdurdod lleol am eu cyfraniad nhw at y rhaglen frechu, ychwanegodd fod 105 o staff y Cyngor yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r targed o roi 50,000 o frechlynnau'r wythnos. Bydd y ffigur yma'n cynyddu i rhwng 140 a 150 o staff i gefnogi’r GIG yng ngoleuni targedau newydd a osodwyd gan Lywodraethau Cymru.
Pwysleisiodd yr Arweinydd fod modd i bawb sydd heb gael y brechlyn cyntaf neu'r ail frechlyn fynd i Ganolfan Frechu heb apwyntiad. O ran y brechlyn atgyfnerthu, pwysleisiodd bwysigrwydd mynychu'r apwyntiadau a neilltuwyd gan fod nifer fawr o staff y Cyngor wedi gorfod cael eu hadleoli i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y galwadau gan drigolion sy'n dymuno newid/ymholi ynghylch eu hapwyntiadau. Roedd yr Arweinydd yn annog pawb i ddefnyddio'r cyfleuster ar-lein lle bo modd ac yn achos yr holl drigolion sy'n gaeth i'r t?, mae meddygon teulu lleol yn trefnu ymweliadau â thai ac felly nid yw'n broblem i ganolfan alwadau'r Cyngor.
I gloi, pwysleisiodd yr Arweinydd y bydd yr amrywiolyn newydd yn arwain at nifer fawr o heintiau a bydd modd iddo effeithio ar nifer y staff sydd ar gael, yn enwedig yn y sector gofal cymdeithasol, sydd bob amser yn heriol. Ychwanegodd y byddai diweddariadau pellach yn cael eu darparu maes o law.
|
|||
Cwestiynau gan yr Aelodau PDF 542 KB Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.
(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||
Rhaglen Waith Y Cyngor 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu nad oedd unrhyw newidiadau o ran Rhaglen Waith y Cyngor 2021/22 sydd wedi'i mabwysiadu a'i chyhoeddi.
|
|||
Amrywiaeth mewn Democratiaeth PDF 284 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a geisiodd gymeradwyaeth y Cyngor mewn perthynas â'r 'Datganiad Amrywiaeth' fel addewid ffurfiol y Cyngor i ddod yn Gyngor Amrywiol. Aeth e ati i atgoffa Aelodau o'r penderfyniad a wnaethpwyd gan Aelodau i ddod yn Gyngor Amrywiol yn y cyfarfod arbennig o'r Cyngor a gynhaliwyd ar 26 Mai 2021. Roedd trafodaeth am gyfres o argymhellion gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac roedd pob Gr?p Gwleidyddol o blaid. RhCT oedd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i wneud yr addewid.
Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio'n sylweddol ar yr agenda amrywiaeth ac mae nifer o argymhellion wedi dod i'r amlwg o waith Amrywiaeth mewn Democratiaeth Llywodraeth Cymru ac mae sylw yn cael ei roi i'r rhain trwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Rhannwyd manylion gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth mewn perthynas â'r Gweithgor a sefydlwyd gan Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i fwrw ymlaen â'r mater a hyrwyddo cyfranogi ac ymgysylltu cyn etholiadau llywodraeth leol 2022. I gydnabod y gwaith sydd wedi'i gynnal a'r blaenoriaethau parhaus fel sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad sydd wedi'i atodi, cynigir mabwysiadu'r datganiad amrywiaeth.
Ar ôl trafod yr adroddiad ac atodiadau cysylltiedig, PENDERFYNWYD:
1. Mabwysiadu'r ‘Datganiad Amrywiaeth’ sydd wedi'i atodi, yn amodol ar gynnwys y pwynt ychwanegol canlynol “i annog pob Aelod i fod yn rhan o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i helpu i'w hamddiffyn nhw ar ôl ymddeol” a bwrw ymlaen â'r datganiad fel addewid ffurfiol y Cyngor i ddod yn Gyngor Amrywiol.
|
|||
Adroddiadau Blynyddol 2020/21 PDF 240 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Trwy ei adroddiad, cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a'r Pwyllgor Archwilio ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/21. Ychwanegodd gan nodi bod y ddau adroddiad blynyddol wedi'u cymeradwyo gan y Pwyllgorau priodol ar gyfer eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn.
Yn dilyn sylwadau gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Hooper, a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio, Mr C Jones, PENDERFYNWYD nodi'r Adroddiadau Blynyddol ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a'r Pwyllgor Archwilio ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/21 (yn amodol ar gywiro gwall argraffu ar dudalen 3 Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Democrataidd).
|
|||
Trafod y Rhybudd o Gynnig isod sydd wedi’i gyflwyno yn enwau:
S. Bradwick, M. Forey, L. M. Adams, J. Barton, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, S. Evans, G. Jones, M. Fidler Jones, A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo
Dylai banciau fod yn wasanaeth hanfodol yn ein cymunedau, gan gynnig mynediad cyfleus i drigolion i'w harian a'u galluogi nhw i ofalu am unrhyw faterion ariannol personol. Yn aml, maen nhw wedi'u lleoli yng nghanol ein trefi, yn agos at gyfleusterau a siopau hanfodol eraill. Yr hysbysiad sy'n nodi y bydd cwmni Barclays yn cau ei gangen yn Sgwâr Fictoria yn Aberdâr ym mis Mawrth 2022 yw'r enghraifft ddiweddaraf o wasanaethau ariannol yn cael eu tynnu’n ôl o gymunedau Rhondda Cynon Taf. Os bydd y cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, byddan nhw'n cael effaith niweidiol ar y cyfleoedd sydd gan ein trigolion i ddefnyddio'r cyfleusterau yma, yn ogystal â chael effaith ar fywiogrwydd canol ein trefi. Mae'r Cyngor wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein canol trefi yn llefydd deniadol a chroesawgar ar gyfer y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, yn enwedig ar ôl yr anawsterau eithriadol y mae masnachwyr lleol wedi'u hwynebu yn ystod y 18 mis diwethaf. Mae Aberdâr eisoes wedi gweld NatWest a HSBC yn tynnu eu gwasanaethau o'r dref, tra bod Trefforest, Treorci, Porth ac Aberpennar ymhlith yr ardaloedd eraill sydd hefyd wedi gweld banciau'n cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ni fydd y sicrwydd sy'n cael ei ddarparu gan Barclays ynghylch y gwasanaethau agosaf ym Merthyr Tudful a Phontypridd yn fawr o gysur i nifer o bobl, bydd y daith i'r naill gangen yn cymryd rhwng 40-50 munud. Mae'r Cyngor hwn yn dymuno cofnodi ei wrthwynebiad i'r cynlluniau i gau Banc Barclays yn Aberdâr ac yn penderfynu: · Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Bennaeth Cysylltiadau Corfforaethol Wales and West a Phrif Weithredwr Banc Barclays i alw am ailystyried y cynlluniau.
· Gofyn bod y Cyngor yn ceisio sicrhau bod y buddion cymdeithasol sy'n gysylltiedig â chynnal cyfleusterau bancio lleol yn ein cymunedau yn cael eu cynnwys yn rhan o'n perthynas â'r sector bancio yn y dyfodol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol yn enwau Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol: S. Bradwick, M. Forey, L. M. Adams, J. Barton, D. R. Bevan, H. Boggis, J. Bonetto, J. Brencher, A. Calvert, G. Caple, A. Crimmings, A. Davies-Jones, L. De- Vet, J. Edwards, J. Elliott, S. Evans, G. Jones, M. Fidler Jones, A. Fox, E. George, M. Griffiths, J. Harries, G. Holmes, G. Hopkins, R. Lewis, W. Lewis, C. Leyshon, A. Morgan, S. Morgans, M. A. Norris, D. Owen-Jones, S. Pickering, S. Powell, S. Rees, A. Roberts, J. Rosser, G. Stacey, M. Tegg, G. Thomas, W. Treeby, R. K. Turner, M. Webber, D. Williams, R. Williams, T. Williams, R. Yeo
Dylai banciau fod yn wasanaeth hanfodol yn ein cymunedau, gan gynnig mynediad cyfleus i drigolion i'w harian a'u galluogi nhw i ofalu am unrhyw faterion ariannol personol. Yn aml, maen nhw wedi'u lleoli yng nghanol ein trefi, yn agos at gyfleusterau a siopau hanfodol eraill. Yr hysbysiad sy'n nodi y bydd cwmni Barclays yn cau ei gangen yn Sgwâr Fictoria yn Aberdâr ym mis Mawrth 2022 yw'r enghraifft ddiweddaraf o wasanaethau ariannol yn cael eu tynnu'n ôl o gymunedau Rhondda Cynon Taf. Os bydd y cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, byddan nhw'n cael effaith niweidiol ar y cyfleoedd sydd gan ein trigolion i ddefnyddio'r cyfleusterau yma, yn ogystal â chael effaith ar fywiogrwydd canol ein trefi. Mae'r Cyngor wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein canol trefi yn llefydd deniadol a chroesawgar ar gyfer y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, yn enwedig ar ôl yr anawsterau eithriadol y mae masnachwyr lleol wedi'u hwynebu yn ystod y 18 mis diwethaf. Mae Aberdâr eisoes wedi gweld NatWest a HSBC yn tynnu eu gwasanaethau o'r dref, tra bod Trefforest, Treorci, Porth ac Aberpennar ymhlith yr ardaloedd eraill sydd hefyd wedi gweld banciau'n cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf Ni fydd y sicrwydd sy'n cael ei ddarparu gan Barclays ynghylch y gwasanaethau agosaf ym Merthyr Tudful a Phontypridd yn fawr o gysur i nifer o bobl, bydd y daith i'r naill gangen yn cymryd rhwng 40-50 munud. Mae'r Cyngor hwn yn dymuno cofnodi ei wrthwynebiad i'r cynlluniau i gau Banc Barclays yn Aberdâr ac yn penderfynu: · Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at Bennaeth Cysylltiadau Corfforaethol Wales and West a Phrif Weithredwr Banc Barclays i alw am ailystyried y cynlluniau.
· Gofyn bod y Cyngor yn ceisio sicrhau bod y buddion cymdeithasol sy'n gysylltiedig â chynnal cyfleusterau bancio lleol yn ein cymunedau yn cael eu cynnwys yn rhan o'n perthynas â'r sector bancio yn y dyfodol.
Yn y cyfarfod, cyhoeddodd y Cadeirydd, yn unol â Rheol 10.4.1 o Weithdrefn y Cyngor, fod y diwygiad canlynol i'r Rhybudd o Gynnig wedi'i dderbyn gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol P. Jarman, A. Cox, J. Williams, D. Grehan, G. Davies, J. Davies, J. Cullwick, K. Morgan, L. Jones, E. Stephens, S. Rees-Owen, M. Weaver, E. Webster, A. Chapman, S. Evans, H. Fychan ac E. Griffiths.
Roedd y cynnig diwygiedig yn nodi: Dylai banciau fod yn wasanaeth hanfodol yn ein ... view the full Cofnodion text for item 103. |