Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Hannah Jones - Uned Busnes y Cyngor 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

68.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Côd Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

Y Cyfarwyddwr AD – Eitem 3 – Cyllideb Refeniw'r Cyngor: “Mae fy merch yn gweithio yn y Gwasanaeth Llyfrgelloedd.”

 

Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol - Eitem 14 - Adroddiad CAMP: “Mae Canolfan Gymuned y Graig yn fy ward i”

 

69.

Cofnodion pdf icon PDF 205 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Hydref yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref, 2023 yn rhai cywir.

70.

Cyllideb Refeniw 2024/25 y Cyngor - Mesurau Cynnar ar gyfer Cwtogi Cyllideb pdf icon PDF 164 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a  Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen, sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am benderfyniadau gweithredol a mesurau ar gyfer lleihau’r gyllideb sylfaenol sydd eisoes wedi’u nodi a’r goblygiadau ariannol canlyniadol sydd i'w cynnwys yn rhan o Gyllideb a Chynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Digidol a Rheng Flaen adroddiad sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet am benderfyniadau gweithredol a mesurau ar gyfer cwtogi’r gyllideb sylfaenol sydd eisoes wedi’u nodi, yn ogystal â’r goblygiadau ariannol canlyniadol sydd i'w cynnwys yn rhan o Gyllideb a Chynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor. 

 

Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i ddweud bod yr adroddiad yn nodi nifer o fesurau cynnar i gwtogi'r gyllideb a diweddariadau cyllideb gwerth cyfanswm o £9.086 miliwn, i'w cynnwys yn y gofyniad cyllidebol a'r strategaeth gyllideb ddrafft ar gyfer 2024/25.  Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r amserlen ar gyfer cytuno ar Strategaeth Cyllideb Refeniw 2024/25, Pennu Lefel Treth y Cyngor a'r Rhaglen Gyfalaf 3 blynedd.

 

Dywedodd yr Arweinydd nad yw'r cynigion yn mynd i'r afael â'r holl fwlch yn y gyllideb, ond bod hyn yn pwysleisio pa mor sylweddol yw'r heriau y mae'r Awdurdod yn eu hwynebu.  Ychwanegodd y bydd yr Awdurdod yn parhau i wneud penderfyniadau i sicrhau bod cyllideb gytbwys yn cael ei chynnal, tra hefyd yn parhau i fod mor effeithlon â phosibl a sicrhau'r effaith lleiaf posibl ar gymunedau. Rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau bod yr adroddiad yn cynnig mân newidiadau gweithredol sy'n ystyried y galw a arweinir gan dystiolaeth, a bod mân addasiadau yn cael eu cynnig i leihau'r effaith ar ddefnyddwyr.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol fod dull rhagweithiol a fabwysiadwyd yn flaenorol gan y Cyngor wedi rhoi'r awdurdod mewn sefyllfa dda yn y cyfnod heriol a wynebwyd gennym yn flaenorol.  Ychwanegodd fod angen i ni barhau i wneud penderfyniadau mewn modd amserol i sicrhau bod gwasanaethau'r Cyngor yn cael eu darparu'n llwyddiannus yn y dyfodol

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, cafodd yr Aelod nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K. Morgan, gyfle i annerch y Cabinet.

 

Ymatebodd yr Arweinydd i'r sylwadau a godwyd a dywedodd fod y cynigion yn ymwneud â meysydd nad ydynt ynghlwm â chyflogau'r awdurdod lleol, ac nad ydynt yn caniatáu ar gyfer cynnydd o ran chwyddiant. Dywedodd fod y Cyngor wedi ymgysylltu ag Undebau Llafur ymlaen llaw, a bod adborth gan staff y gwasanaeth wedi llywio'r adroddiadau sydd gerbron yr Aelodau o ran y defnydd o wasanaethau.  Atgoffodd y Cabinet y bydd y Cyngor yn gweithio gyda rheolwyr i sicrhau bod gwasanaethau effeithiol yn parhau i gael eu darparu.  Daeth i'r casgliad y byddai'r cynigion yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor Craffu cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno i'r Cyngor llawn.  

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

  1. Nodi'r newidiadau gweithredol a'r mesurau/diweddariadau o ran cwtogi'r gyllideb sylfaenol sydd wedi'u nodi gan Uwch Arweinwyr y Cyngor, ac y mae modd eu cynnwys yng nghyllideb y flwyddyn nesaf a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig; a

Nodi cyllideb 2024/25 ac amserlen pennu lefel Treth y Cyngor fel sydd ynghlwm yn Atodiad 2 i'r adroddiad

71.

Adolygiad o Bolisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor pdf icon PDF 370 KB

Derbyn adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal Strydoedd a Thrafnidiaeth, sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gychwyn ymgynghoriad â phartïon â buddiant a rhanddeiliaid perthnasol mewn perthynas â Pholisi Cludo Disgyblion newydd arfaethedig, fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal Strydoedd a Thrafnidiaeth adroddiad sy'n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gychwyn ymgynghoriad â phartïon â buddiant a rhanddeiliaid perthnasol mewn perthynas â Pholisi Cludo Disgyblion newydd arfaethedig. 

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden fod y Cyngor, ers bron i 10 mlynedd, wedi darparu mynediad i gludiant ysgol am ddim i fwy na 9,000 o ddisgyblion yn ôl disgresiwn gan fynd y tu hwnt i’r gofyniad cyfreithiol a nodir gan Lywodraeth Cymru.  Aeth hi ymlaen i nodi bod yr Awdurdod wedi dewis gwneud hyn yn gyson gan ein bod ni'n deall yr effaith sylweddol y mae cludiant ysgol am ddim yn ei gael ar ein cymuned. Serch hynny, dywedodd, o ganlyniad i danariannu sylweddol gan Lywodraeth y DU a bwlch yn y gyllideb o £85 miliwn dros y tair blynedd nesaf, rhaid i'r Cabinet ystyried cynigion a gyflwynwyd gan Swyddogion sy'n adolygu achosion lle mae ein gwasanaethau'n mynd y tu hwnt i'r gofyniad statudol.  Daeth i’r casgliad y byddai’r cynnig yma, os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet, yn ceisio ymgynghori â rhieni/cynhalwyr i drafod y newidiadau i’r gwasanaeth a gyflwynwyd a chroesawir trafodaeth gyda’r rhai sy'n cael eu heffeithio gan hyn.

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai'r cynigion a osodwyd gan Swyddogion yn cysoni'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion cynradd, uwchradd a choleg yn y brif ffrwd â'r gofynion pellter statudol a nodir gan Lywodraeth Cymru ac yn sicrhau arbedion o £2.5 miliwn mewn blwyddyn lawn. Hyd yn oed ar ôl cyflwyno'r cynigion yma, byddai miloedd o ddisgyblion yn cael Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol.

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Chynhwysiant na fydd unrhyw newidiadau'n cael eu gwneud ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a bydd cludiant yn parhau i gael ei ddarparu i'r disgyblion yma.   Ychwanegodd y gallai disgyblion ag anableddau fod â hawl i gael cymorth gyda chludiant o'r cartref i'r ysgol neu'r coleg. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sut yr ymgynghorir â rhieni/cynhalwyr yn y dyfodol, cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y cynhelir ymgynghoriad chwe wythnos, gyda chyfleoedd i'r cyhoedd gymryd rhan ar-lein neu ddod i gyfarfodydd mynediad agored er mwyn ymgysylltu â'r Cyngor wyneb yn wyneb.

 

Gyda chytundeb yr Arweinydd, rhoddwyd caniatâd i’r Aelodau canlynol, sydd ddim yn Aelodau o'r Pwyllgor, annerch y Cabinet:

 

  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Johnson
  • Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol K Morgan

 

Mewn ymateb i sylwadau'r Aelodau, dywedodd yr Arweinydd fod swyddogion ers blynyddoedd lawer wedi gweithio ar fanteisio i'r eithaf ar lwybrau trafnidiaeth, wedi sicrhau bod gwaith ymgysylltu rheolaidd yn cael ei gynnal gydag ysgolion ac wedi trefnu bod cynllunio traws-gyfarwyddiaeth rheolaidd yn digwydd i wrthbwyso costau. Serch hynny, mae'r Cyngor wedi gweld cynnydd o £4 miliwn mewn costau yn y ddwy flynedd ddiwethaf a bydd hyn yn parhau i dyfu.  Ychwanegodd yr Arweinydd fod y rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol eraill eisoes yn gwneud hyn, ac er nad yw hwn yn benderfyniad yr oedden ni'n awyddus i'w wneud, mae'r heriau ariannol  ...  view the full Cofnodion text for item 71.

72.

Parhad Darpariaeth Clwb Brecwast am Ddim mewn ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig a chyflwyno tâl am yr elfen gofal plant ychwanegol pdf icon PDF 224 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant sy’n ceisio cymeradwyaeth i gynnal proses ymgynghori ar gyflwyno tâl am yr elfen gofal plant ychwanegol sydd ar gael cyn i’r ddarpariaeth clwb brecwast ddechrau yn yr ysgolion cynradd ac arbennig yn Rhondda Cynon Taf, gan nodi y byddai disgyblion sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim yn cael eu hethrio rhag talu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yr adroddiad i geisio caniatâd i ymgynghori ar gyflwyno tâl ar gyfer yr elfen gofal plant ychwanegol, sydd ar gael cyn i'r ddarpariaeth clwb brecwast am ddim ddechrau mewn ysgolion cynradd ac arbennig yn Rhondda Cynon Taf, gan nodi y byddai disgyblion sy'n cael Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) yn cael eu heithrio o unrhyw dâl. Yn ogystal â hynny, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai'r cynnig yn cynhyrchu incwm ychwanegol, a fyddai'n cael ei neilltuo a'i ail-fuddsoddi yn ôl i gyllidebau ysgolion.

 

 Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg fod y Cyngor yn cydnabod gwerth sylweddol darpariaethau clybiau brecwast yn ein cymuned. Serch hynny, nododd fod angen i'r Cyngor adolygu meysydd lle rydyn ni'n darparu gwasanaeth y tu hwnt i'r hyn yr ydyn ni'n cael ein hariannu i'w ddarparu.  Mae pob un o'r 92 ysgol yn Rhondda Cynon Taf a 3 ysgol arbennig yn darparu clybiau brecwast am ddim, ac mae pob disgybl, o'r dosbarth meithrin hyd at flwyddyn 6, yn gymwys i'w mynychu.  Ailadroddodd yr Aelod o'r Cabinet na fydd y gwasanaeth brecwast am ddim yn cael ei effeithio neu ei leihau gan y cynigion a gyflwynwyd gan Swyddogion o gwbl.  Byddai’r cynnig i gyflwyno ffi gofal plant dyddiol o £1 yn cael ei gyflwyno dim ond i rieni/cynhalwyr sy’n defnyddio’r ddarpariaeth gofal plant ychwanegol a gynigir CYN i’r clwb brecwast ddechrau o 8-8:30am.  Croesawodd y ffaith y byddai'r incwm yn sgil y cynnig yn cael ei ailfuddsoddi mewn cyllid ysgolion, er mwyn gwrthbwyso pwysau o ran costau. 

Amcangyfrifir mai bwlch cyllidebol y Cyngor dros y tair blynedd nesaf ar hyn o bryd yw £85.4 miliwn. Mae hyn yn cynnwys bwlch gwerth £35 miliwn ar gyfer 2024/25.  Gallai'r cynigion yma gynhyrchu incwm blynyddol amcangyfrifedig mewn blwyddyn lawn o £495 heb unrhyw newid yn lefel y gwasanaeth a ddarperir i'r rhai sydd angen Brecwast Ysgol Am Ddim. Croesawodd  drafodaeth bellach drwy'r broses ymgynghori a gynigir.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

 

1.    Ystyried cynnwys yr adroddiad hwn ynghyd ag asesiadau effaith cysylltiedig;       

2.    Cytuno i gychwyn ymgynghoriad gyda defnyddwyr gwasanaeth, rhanddeiliaid allweddol a darpar ddefnyddwyr gwasanaeth ar y cynnig i godi ffi am yr elfen gofal plant ychwanegol sydd ar gael cyn dechrau darpariaeth clwb brecwast am ddim;

3.    Yn cytuno y dylai disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim gael eu heithrio o’r tâl arfaethedig ac y dylid ceisio barn drwy’r broses ymgynghori ynghylch a ddylid ystyried unrhyw gategorïau pellach o gonsesiynau (megis uchafswm tâl ar gyfer rhieni/cynhalwyr sydd â mwy nag un plentyn yn defnyddio'r ddarpariaeth); ac

4.    Yn amodol ar 2.2 uchod, cytuno i dderbyn adroddiad pellach yn crynhoi canlyniadau ac adborth o'r broses ymgynghori, ynghyd ag asesiadau effaith wedi'u diweddaru, i benderfynu a yw'r Cabinet yn dymuno bwrw ymlaen â'r cynnig ai peidio, ac os felly, sut hynny.

 

73.

Gwasanaethau Oriau Dydd o ran Anableddau Dysgu pdf icon PDF 479 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad ar y  Strategaeth gyd-gynhyrchu arfaethedig  ar gyfer Gwasanaethau Oriau Dydd a model gweithredu ar gyfer pobl ag anabledd dysgu. Mae hefyd yn nodi argymhellion ynghylch y camau nesaf ar gyfer ailfodelu Gwasanaethau Oriau Dydd y Cyngor yn unol â'r strategaeth gwasanaeth oriau dydd a'r model gweithredu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad sy'n rhoi gwybod i'r Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad ar y Strategaeth gyd-gynhyrchu arfaethedig ar gyfer Gwasanaethau Oriau Dydd a model gweithredu ar gyfer pobl ag anabledd dysgu. Mae hefyd yn nodi argymhellion ynghylch y camau nesaf ar gyfer ailfodelu Gwasanaethau Oriau Dydd y Cyngor yn unol â'r strategaeth gwasanaeth oriau dydd a'r model gweithredu.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn rhan o adolygiad i wella gofal cymdeithasol, y byddai'r cynigion yn gwella'r ddarpariaeth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd drwy hybu annibyniaeth a defnyddio cyfleusterau lleol. Ychwanegodd fod y cynigion yn seiliedig ar broses ymgynghori gynhwysfawr a phwysleisiodd na fydd lefel y gofal yn newid, ond y bydd yn darparu cyfleoedd i osgoi unigedd, gwella annibyniaeth, creu rhagor o ddewis o ran llety a chael gwaith cyflogedig.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y cynhelir ymgynghoriad i weithio gyda staff, defnyddwyr y gwasanaeth ac Undebau Llafur i gefnogi'r newidiadau a amlinellwyd.  Daeth i'r casgliad y byddai unrhyw arbedion a wneir yn rhan o'r newid hwn yn cael eu hailfuddsoddi yn y gwasanaethau cymdeithasol

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

1.    Ystyried yr adborth i'r ymgynghoriad ar y Strategaeth Gwasanaethau Oriau Dydd arfaethedig a'r model gweithredu ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yr wybodaeth a ddarperir yn yr adroddiad yma, yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (gan gynnwys y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol) ac Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg.

2.    Yn amodol ar bwynt 1 uchod, cymeradwyo gweithredu'r Strategaeth Gwasanaethau Oriau Dydd a model cydweithredu arfaethedig ar gyfer pobl ag anableddau dysgu fel yr ymgynghorwyd arno, gan gynnwys y bwriadau comisiynu arfaethedig a datblygiadau yn y farchnad fel rhan o'r rhaglen drawsnewid anabledd dysgu arfaethedig.

3.    Yn amodol ar bwynt 2 uchod, cymeradwyo yr ailfodelu darpariaeth gwasanaeth oriau dydd y Cyngor ar ffurf strwythur Dwyrain a Gorllewin newydd,  gan gynnwys grwpiau cymunedol llai i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn ffordd sy'n cyflawni'r canlyniadau unigol gorau posibl i bobl, yn seiliedig ar angen a galw, tra'n gwneud y defnydd gorau o adnoddau'r Cyngor.

4.    Yn amodol ar bwynt 2 uchod, yn cymeradwyo dadgomisiynu Learning Curve Trefforest, sydd wedi bod ar gau ers mis Chwefror 2020 oherwydd difrod sylweddol a achoswyd gan Storm Dennis.

Yn amodol ar bwynt 2 uchod, cymeradwyo adolygiad a gynhyrchwyd ar y cyd o brosiectau seiliedig ar waith y Cyngor i ystyried opsiynau gofal a chymorth amgen  gyda darparwyr trydydd sector a byw â chymorth a gomisiynwyd, ac asiantaethau cyflogaeth â chymorth a chyflogwyr i fodloni gofynion personol yn well yn ogystal â sicrhau canlyniadau mwy cost effeithiol.

74.

Sylfaen Treth y Cyngor 2024/25 pdf icon PDF 176 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng-flaen, sy'n gosod yn ffurfiol Linell Waelod (Sylfaen) Treth y Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau yr adroddiad i'r Cabinet, sy'n nodi Sylfaen Treth y Cyngor yn ffurfiol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24.  Dywedodd y Swyddog mai'r Sylfaen Treth y Cyngor gros a gyfrifwyd ar gyfer 2024/25 yw £81,950.53.  Felly, cynigiwyd y dylid amcangyfrif mai 97.25% yw'r gyfradd gasglu. Mae hyn yn cynhyrchu Sylfaen Treth y Cyngor net o £79,696.89.  Mae hyn yn golygu y byddai swm o £79,697 yn cael ei godi i fodloni gofynion cyllideb y Cyngor am bob £1 a gaiff ei godi mewn Treth y Cyngor y flwyddyn nesaf.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol yr adroddiad a dywedodd fod y cynigion yn cyd-fynd â'r cynllun Corfforaethol ac yn ofyniad statudol. 

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

  1. Yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth y Cyngor) (Cymru) 1995 fel y'i diwygiwyd, y swm sydd wedi'i gyfrifo gan y Cyngor fel ei sylfaen dreth net ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24, fydd £79,696.89.
  2. Bydd sylfaen dreth 2024/25 at ddibenion gosod Treth y Cyngor yn cael ei nodi yn Atodiad 1 yr adroddiad, ar gyfer pob cymuned ddiffiniedig yn y Fwrdeistref Sirol.

 

75.

Adroddiad ar gyflawniad y Cyngor – 30 Medi 2023 (Chwarter 2) pdf icon PDF 438 KB

Derbyn adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen sy'n rhoi trosolwg i Aelodau o gyflawniad y Cyngor dros chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol hon hyd at 30 Medi 2023, yn ariannol a gweithredol fel ei gilydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cyllid a Gwella, grynodeb i'r Aelodau am gyflawniad y Cyngor, ar sail chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol yma (hyd at 30 Medi 2023), o ran materion ariannol a gweithredol.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am yr adroddiad sy'n rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r pwysau sylweddol ar wasanaethau rheng flaen o ran costau. Dywedodd ei bod yn cael ei sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo i ddod â gorwariant a ragwelir yn unol â'r gyllideb erbyn diwedd y flwyddyn a bod cynnydd yn cael ei wneud i gyflawni blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol.  

 

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

Refeniw

 

1.    Nodi a chytuno ar sefyllfa refeniw Cronfa Gyffredinol y Cyngor fel y mae ar 30 Medi 2023 (Adran 2 o'r Crynodeb Gweithredol).

2.     Cymeradwyo'r trosglwyddiadau sydd wedi eu rhestru yn Adrannau 2a–e o'r Crynodeb Gweithredol, sy'n uwch na'r trothwy o £0.100 miliwn yn unol â Rheolau Gweithdrefn Ariannol y Cyngor.

 

Cyfalaf

 

3.    Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y Cyngor fel y mae ar 30 Medi 2023 (Adrannau 3a-e o'r Crynodeb Gweithredol).

4.    Nodi manylion Dangosyddion Materion Darbodusrwydd Cylch Rheoli'r Trysorlys fel y mae ar 30 Medi 2023 (Adran 3f o'r Crynodeb Gweithredol).

 

Blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol

 

5.     Nodi diweddariadau cynnydd Chwarter 2 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor (Adrannau 5 a – c o'r Crynodeb Gweithredol) sy'n cynnwys diweddariadau mewn perthynas â gwaith parhaus y Cyngor i gyflawni ei uchelgeisiau o ran Newid yn yr Hinsawdd.

 

76.

Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol 2022-2023 pdf icon PDF 148 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n cyflwyno Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022-23 i'r Cabinet.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu  Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Rhianta Corfforaethol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2022 i 2023 i'r Aelodau.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol i’r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr iawn ac am barhau i sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei rhoi i’n plant a phobl ifainc ar ôl pandemig Covid-19.  Mae'r adroddiad yn amlygu ein hymroddiad i fuddsoddi a chefnogi ein plant a'n pobl ifainc, a diolchodd hefyd i Aelodau'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol am eu gwaith.  

 

PENDERFYNODD y Cabinet nodi cynnwys yr adroddiad.

77.

Rhaglen Gyfalaf Atodol ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol pdf icon PDF 154 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal Strydoedd a Thrafnidiaeth, sy'n nodi'r rhaglen gyfalaf atodol ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol, yn dilyn cymeradwyo buddsoddiad 2023/24 ychwanegol gan y Cyngor ar 20 Medi 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth yr adroddiad, a oedd yn nodi'r rhaglen gyfalaf atodol ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol.  Roedd yr adroddiad yn nodi nifer o gynigion ar gyfer gwelliannau i'w cyflawni i wella Isadeiledd y Priffyrdd yn ogystal â chyllid a ddyrannwyd i wella gwaith a strwythurau draenio.

 

Cefnogodd yr Arweinydd yr argymhellion yn yr adroddiad, a oedd yn nodi nifer o fuddsoddiadau mewn gwasanaethau a phrosiectau allweddol sy’n cyd-fynd ag ymrwymiadau’r maniffesto a’r cynllun corfforaethol gyda buddsoddiad o dros £5 miliwn wedi’i gynnig mewn strwythurau, ffyrdd a draenio ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

 

1.    Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf Atodol ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad yma.

 

Cytuno bod y dyraniadau presennol yn rhan o raglen gyfalaf 3 blynedd a dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Priffyrdd, Gofal y Strydoedd a Thrafnidiaeth, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor a’r Dirprwy Brif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyfadran, Gwasanaethau Cyllid, Digidol a Rheng Flaen, i ymestyn gweithgarwch i gyflawni prosiectau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol. Ymhellach, i gyflymu darpariaeth yn unol â phwrpas y rhaglen ehangach os oes modd, neu atal rhaglenni/prosiectau ac ailddyrannu cyllid i optimeiddio’r ddarpariaeth.

78.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23 pdf icon PDF 126 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno drafft terfynol Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022/23 i'r Cabinet i'w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2022/23 i'r Cabinet i'w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.  Mae'r adroddiad yn nodi cyflawniad Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor y llynedd, gan amlygu'r cyfeiriad a'r blaenoriaethau a osodwyd ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr a rhagorol sy'n dangos ymrwymiad y Cyngor i ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol i'n trigolion mwyaf agored i niwed.  Aeth ymlaen i nodi bod yr adroddiad yn amlygu ehangder aruthrol y gwaith a gyflawnwyd gan y staff ymroddedig sy'n gweithio'n galed, ac yn dangos atebolrwydd y Cyngor i'r rhai yn y gymuned sy'n dibynnu ar yr Awdurdod am gefnogaeth hanfodol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022/23 (Atodiad 1).

79.

Adborth y Pwyllgorau o ran Rhag-graffu pdf icon PDF 148 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sy'n rhoi adborth a sylwadau mewn perthynas â'r eitemau y rhag-graffwyd arnyn nhw gan Bwyllgorau Craffu thematig y Cyngor yn dilyn cyfarfodydd diweddar y Pwyllgorau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i'r Cabinet, a oedd yn manylu ar y gwaith rhag-graffu a wnaed gan Bwyllgorau Craffu thematig y Cyngor, gan gynnwys adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn rhan o agenda'r Cabinet heddiw.  

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol o blaid yr argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad a chymerodd y cyfle i ddiolch i’r Pwyllgor Craffu - Gwasanaethau Cymuned am ei gyfraniad gwerthfawr.

PENDERFYNODD y Cabinet nodi sylwadau'r Pwyllgorau Craffu yn dilyn rhag-graffu ar yr eitemau a restrir yn adran 5 o'r adroddiad.

80.

Trafod cadarnhau’r cynnig isod yn benderfyniad:

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet: Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

81.

Rheoli Portffolio Tir ac Adeiladau'r Cyngor: Diweddariad ar Gynnydd hyd yma

Derbyn adroddiad eithriedig Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor, sy'n nodi hynt gwaith rheoli portffolio tir ac adeiladau'r Cyngor hyd nes y bydd Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol (2024-2030) yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet yn y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor yr adroddiad, sy'n nodi hynt gwaith rheoli portffolio tir ac adeiladau'r Cyngor hyd nes y bydd Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol (2024-2030) yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet yn y dyfodol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet ystyried y cynnydd diweddaraf ar gyfer rheoli portffolio tir ac adeiladau'r Cyngor fel y manylir yn yr adroddiad.

 

82.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion brys y mae'r Cadeirydd yn eu gweld yn briodol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim