Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  07385406118

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

98.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

 

99.

Cofnodion pdf icon PDF 159 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2022 a 12 Rhagfyr 2022 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD y Cabinet gymeradwyo cofnodion y cyfarfod, a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2022 ac 16 Rhagfyr 2022, yn rhai cywir.

 

 

100.

Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU: Grant Cymunedol Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 189 KB

Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned a Chyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n rhannu manylion cynnig i sefydlu a chynnal Grant Cymunedol ar gyfer Rhondda Cynon Taf, gan ddefnyddio'r dyraniad gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Celfyddydau, Diwylliant a Llyfrgelloedd gynnig i sefydlu a darparu Grant Cymunedol ar gyfer Rhondda Cynon Taf, gan ddefnyddio'r dyraniad gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

 

Bwriad y grant yma yw cryfhau gwead cymdeithasol, cefnogi ymgysylltu â'r gymuned, ac annog ymdeimlad o falchder a pherthyn yn ein cymunedau lleol. Esboniwyd bod y Cyngor wedi derbyn £4.3miliwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU er mwyn gwella capasiti ac isadeiledd i adfer mannau yn y gymuned, gan osod sylfaen ar gyfer datblygiad cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol, gan feithrin perthynas ar lefel  leol.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau wedi croesawu'r argymhellion i sefydlu Grant Cymunedol gan wahodd ceisiadau gan sefydliadau'r Trydydd Sector a Grwpiau Cymunedol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a Chwmnïau i wneud cais, yn rhan o broses gystadleuol, sy'n sicrhau dull agored a chlir.

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion gan nodi y byddai'r grantiau ar raddfa fwy yn cael eu cyflwyno yn ystod ail gam y broses. Roedd yr Arweinydd o'r farn y byddai'r cyllid yn cael ei groesawu gan y Trydydd Sector, ac esboniodd y byddai modd defnyddio'r arian i ddenu rhagor o gyllid. Ychwanegodd yr Arweinydd fod Awdurdodau Lleol eraill wedi mabwysiadu dull tebyg.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Trafod cynnwys yr adroddiad;

2.    Sefydlu a darparu Grant Cymunedol Rhondda Cynon Taf - Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad; a

3.    Cytuno i sicrhau bod y Grant Cymunedol yn cydymffurfio â thelerau ac amodau Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a'i ddirprwyo i'r Uwch Swyddog Cyfrifol, sef Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

101.

Strategaeth Adnoddau Dynol a Chynllun Gweithlu'r Cyngor 2023-2028 pdf icon PDF 497 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol, sy'n galluogi'r Cabinet i drafod, adolygu a chymeradwyo Strategaeth Adnoddau Dynol 2023-28 a Chynllun Gweithlu'r Cyngor 2023-28.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Uwch Swyddog Datblygu'r Gweithlu fanylion y Strategaeth Adnoddau Dynol ar gyfer 2023-28 a Chynllun Gweithlu'r Cyngor ar gyfer 2023-28 â'r Cabinet.

 

Mae'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithlu yn pennu cyfeiriad strategol a gweithredol o ran sut bydd y Cyngor yn defnyddio ac yn datblygu'i weithlu er mwyn cyflawni gweledigaeth a blaenoriaethau'r Cyngor mewn hinsawdd o newid ac ansicrwydd ariannol.

 

Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r swyddog am yr adroddiad cynhwysfawr gan nodi bod y datganiad sefyllfa terfynol yn dangos hyblygrwydd y gweithlu ac yn sicrhau bod gan staff y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i fodloni anghenion trigolion. Cafodd hyn ei amlygu yn ystod Storm Dennis a phandemig Covid.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd o'r farn bod y Cynllun yn ofalus ond yn uchelgeisiol, a hynny yng ngoleuni'r heriau ariannol y mae'r Awdurdod Lleol yn eu hwynebu. Nododd y byddai'r cynllun yn helpu gyda gweithlu amrywiol, cefnogi cyflawniad ac o ran gofalu am lles y staff.  Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd fod y Cynllun yn adlewyrchu perthynas gadarnhaol gyda'r Undebau Llafur, ac roedd hi wedi annog pob aelod o staff i ddod yn Aelod.

 

Daeth y Dirprwy Arweinydd i ben drwy bwysleisio pa mor bwysig yw hi i gynnal perthynas gadarnhaol gyda'r Lluoedd Arfog gan nodi ei bod hi'n falch bod yr Awdurdod wedi llwyddo i gynnal ei Wobr Aur.

 

PENDERFYNODD yCabinet:

1.             Cymeradwyo Strategaeth Adnoddau Dynol 2023-28;

2.             Cymeradwyo Cynllun Gweithlu'r Cyngor 2023-28;

3.             Cytuno y bydd Cynllun Gweithlu'r Cyngor yn cael ei gyflawni trwy gynlluniau a strategaethau cysylltiedig megis Cynlluniau Cyflawni a Gweithlu adrannol, Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor, Strategaeth Ddigidol a Strategaeth Swyddfeydd.

4.             Cytuno y bydd gwaith monitro yn cael ei gynnal ar ffurf datganiad o sefyllfa blynyddol, gan ddarparu data ar gynnydd tuag at gyflawni nodau'r Strategaeth Adnoddau Dynol a Chynllun Gweithlu'r Cyngor.

 

 

102.

Gwasanaethau Gwastraff - Strategaeth Rheoli Gwastraff Ddiwygiedig pdf icon PDF 242 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n rhoi adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal am gyfnod o 5 wythnos rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023. Roedd yr ymgynghoriad yma'n ymwneud â'r diwygiadau arfaethedig i drefniadau rheoli gwastraff gweithredol y Cyngor o ran trefniadau casglu gwastraff a gwastraff ailgylchu yn y dyfodol. Bwriad hyn yw cynyddu'r gyfradd ailgylchu ledled RhCT, gan gynnig effeithlonrwydd ariannol ac helpu'r Cabinet i wneud penderfyniad yngl?n â'r ffordd ymlaen.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Pennaeth y Gwasanaethau Gofal y Strydoedd adborth o ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal dros gyfnod o 5 wythnos rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023. Roedd yr ymgynghoriad yma'n ymwneud â'r diwygiadau arfaethedig i drefniadau rheoli gwastraff gweithredol y Cyngor o ran  trefniadau ar gyfer casglu sbwriel ac ailgylchu a fydd yn helpu trigolion ledled RhCT i ailgylchu rhagor yn y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn sicrhau arbedion o ran effeithlonrwydd ariannol ac yn helpu i lywio penderfyniad y Cabinet o ran ffordd ymlaen.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden ar y cyfle i ddiolch i'r swyddog am yr adroddiad manwl, yn ogystal â diolch i'r garfan ymgynghori am y gwaith sydd wedi'i gynnal, a'r trigolion am ymgysylltu â'r broses.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi cydnabod uchelgais Cymru sef sicrhau bod 70% o holl wastraff eiddo yn cael ei ailgylchu erbyn 2025. Roedd yn falch o nodi bod Rhondda Cynon Taf yn gweithio tuag at y targed, er mwyn osgoi dirwyon mawr. 67.48% yw'r gyfradd ailgylchu ar hyn o bryd.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn cefnogi'r cynigion sydd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad. Byddai hyn yn arwain at gynnydd yn y cyfraddau ailgylchu, gostyngiad yn ôl-troed Carbon y Cyngor ac arbedion ariannol posibl gwerth bron i £1.5miliwn. Cytunodd yr Aelod o'r Cabinet â'r swyddogion a oedd wedi nodi y byddai cyfathrebu clir ac ymgysylltu â thrigolion yn hollbwysig wrth sicrhau llwyddiant unrhyw newidiadau sy'n cael eu rhoi ar waith.

 

O ran y 4000+ o ymatebion a dderbyniwyd, roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi bod Swyddogion wedi mynd i'r afael â'r pryderon a gafodd eu codi gan drigolion mewn perthynas â biniau ar olwynion 120litr, gan nodi y bydd modd i drigolion roi bag ychwanegol allan i'w gasglu. O ran cynnal cynllun peilot ar gyfer sachau ailgylchu y mae modd eu hailddefnyddio, nododd yr Aelod o'r Cabinet fod canran uchel o drigolion o blaid y newid ond nododd fod rhai strydoedd yn fwy addas nag eraill, dyma'r rheswm dros gynnal y cynllun peilot.

 

Holodd yr Aelod o'r Cabinet pa fesurau sydd ar waith i liniaru pryderon trigolion sydd â theuluoedd mawr, teuluoedd ifainc neu'r rheiny sy'n byw mewn tai llai o faint, pe byddai'r Cabinet yn cymeradwyo'r cynigion.  Dymunodd y swyddog ddiolch i'r Aelod o'r Cabinet am holi'r cwestiwn, a phwysleisiodd y byddai'r gwasanaeth yn parhau fel y mae ar hyn o bryd gan y bydd tri bag du yn cael eu casglu bob tair wythnos. O ran teuluoedd mwy, esboniodd y swyddog y byddai modd i'r teuluoedd hynny sydd â bin ar olwynion 120litr roi bag ychwanegol er mwyn helpu i liniaru'r effaith. O ran storio bagiau ailgylchu y mae modd eu hailddefnyddio, pwysleisiodd y swyddog y bydd cynllun peilot yn cael ei gynnal a bydd barn trigolion, boed hynny'n gadarnhaol neu'n negyddol, yn cael eu rhannu â'r Cabinet cyn pennu ffordd ymlaen. O ran storio bagiau du, pwysleisiodd y swyddog y byddai'r rhan fwyaf o wastraff o'r cartref  ...  view the full Cofnodion text for item 102.

103.

Adolygiad Gwasanaeth o'r Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned pdf icon PDF 627 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhoi adborth o'r ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023 mewn perthynas â'r diwygiadau arfaethedig i Wasanaeth Prydau yn y Gymuned y Cyngor.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wybod i'r Cabinet am ganlyniad yr ymgynghoriad diweddar mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned y Cyngor.    

 

Dymunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Ieuenctid a'r Gymraeg ddiolch i'r swyddogion o'r garfan Addysg a'r garfan ymgynghori am gynnal yr ymgynghoriad; a'r rheiny oedd wedi ymgysylltu â'r broses ymgynghori.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am y sefyllfa ariannol heriol a chynnydd o ran chwyddiant, a oedd wedi ysgogi'r Cyngor i gynnal yr adolygiad a'r ymgynghoriad dilynol.  Aeth yr Aelod o'r Cabinet ymlaen i bwysleisio pa mor heriol yw hi i ddarparu'r gwasanaeth fel y mae ar hyn o bryd gan ystyried y cynnydd o ran costau a'r gostyngiad yn nifer y defnyddwyr gwasanaeth. 

 

Wrth ymateb i'r ymatebion i'r ymgynghoriad, esboniodd yr Aelod o'r Cabinet fod Cyngor Bwrdeistref Sirol RhCT ymhlith y nifer fach o Awdurdodau Lleol yng Nghymru sy'n cynnig gwasanaeth prydau yn y gymuned gan nodi bod yr ymatebion yn dangos ei bod hi'n bwysig cynnal y gwasanaeth.  Er hynny, roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn mai Opsiwn 3 fyddai'r ffordd orau o sicrhau gwasanaeth cynaliadwy. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod y 50c yn cymharu'n ffafriol â darparwyr eraill, yn enwedig o ran darparwyr preifat.

 

Wrth ymateb i'r pryderon a godwyd gan aelodau o'r cyhoedd o ran opsiwn ar gyfer pryd o fwyd poeth neu bryd o fwyd wedi’i rewi, roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi pwysleisio na fyddai'r rheiny sy'n derbyn pryd o fwyd poeth yn gweld unrhyw newid i'r gwasanaeth, ond bydd modd i'r rheiny sy'n derbyn pryd o fwyd wedi'i rewi ddewis pryd maen nhw'n cael y pryd o fwyd. Ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet fod Aelodau'n cydnabod pwysigrwydd cynnal gwiriadau lles, sy'n cynrychioli cam cadarnhaol tuag at fynd i'r afael ag unigrwydd.

 

Daeth yr Aelod o'r Cabinet i ben drwy ofyn bod swyddogion yn cynnal adolygiad o'r defnyddwyr gwasanaeth, os yw Aelodau'n penderfynu dewis Opsiwn 3, er mwyn sicrhau bod gyda nhw'r offer sydd ei angen i gynhesu'r prydau yma, pe byddan nhw'n dewis pryd o fwyd wedi'i rewi.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd o blaid Opsiwn 3 gan bwysleisio pwysigrwydd cynnal gwiriadau lles gan ganmol staff am eu gwaith. Nododd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Pwyllgorau Craffu, sydd hefyd yn nodi mai Opsiwn 3 yw'r opsiwn a ffefrir wrth symud ymlaen.

 

Nododd yr Arweinydd nad yw'r Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned yn wasanaeth statudol, ond esboniodd bod y weinyddiaeth wedi ceisio diogelu'r gwasanaeth yn ystod cyfnodau cynni. Esboniodd yr Arweinydd fod y bwlch yn y gyllideb llawer yn fwy na blynyddoedd blaenorol, felly mae angen adolygu holl feysydd y Cyngor.

 

Nododd yr Arweinydd fod un opsiwn yn cynnwys cael gwared ar y gwasanaeth ond roedd yr Arweinydd o'r farn ei bod hi'n bwysig cadw'r gwasanaeth yn fewnol lle bo modd. Adleisiodd yr Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet o ran cynnal asesiad gwendid i sicrhau bod gan ddefnyddwyr gwasanaeth yr offer cywir ac offer sy'n gweithio, pe byddai'r Cabinet yn pennu ffordd ymlaen;  ...  view the full Cofnodion text for item 103.

104.

Meithrinfeydd sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor - Trefniadau Darparu Gwasanaeth Diwygiedig pdf icon PDF 273 KB

Derbyn adroddiad gan Gyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau i Blant, sy'n rhannu manylion y trefniadau cyfredol ar gyfer darparu gwasanaethau gofal plant mewn meithrinfeydd sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor. Mae'r adroddiad hefyd yn pennu opsiynau darparu gwasanaeth diwygiedig i'w hystyried er mwyn gwella'r cynnig gofal plant sydd ar gael yn lleol i deuluoedd, mae hyn wedi'i lywio gan waith profi'r farchnad.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Pennaeth Materion Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned fanylion y trefniadau cyfredol ar gyfer darpariaeth gofal plant mewn meithrinfeydd sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor gan fynd ati i bennu opsiynau i'w trafod er mwyn gwella'r cynnig gofal plant lleol sydd ar gael i deuluoedd. Mae'r rhain wedi'u llywio gan waith profi'r farchnad a gafodd ei gynnal yn ddiweddar. 

 

Nododd y swyddog yr opsiwn a ffefrir, sef Opsiwn 4, er mwyn i'r Cabinet ei drafod. Mae'r opsiwn yma'n cynnwys trosglwyddo trefniadau rheoli'r 4 feithrinfa sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor i ddarparwyr gofal plant cofrestredig profiadol, cafodd yr opsiwn yma ei lywio gan waith profi'r farchnad.

 

Dymunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Ieuenctid a'r Gymraeg ddiolch i'r swyddogion am lunio'r adroddiad manwl ac am gynnal yr adolygiad. Roedd yr Aelod o'r Cabinet o blaid dewis Opsiwn 4 fel y ffordd ymlaen gan nodi bod yna nifer o ddarparwyr Trydydd Sector yn RhCT sydd â mynediad i gronfeydd cyllid mawr, a byddai modd iddyn nhw fod yn fwy hyblyg gan gynnig ystod ehangach o wasanaethau. Roedd yr Aelod o'r Cabinet o blaid trosglwyddo'r gwasanaethau gan y byddai hyn yn cael effaith fach neu dim effaith o gwbl ar ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd a staff. Roedd yr Aelod o'r Cabinet hefyd yn falch o nodi bod Mynegiant o Ddiddordeb wedi'i dderbyn gan ddarparwyr y Trydydd Sector yn y pedwar lleoliad.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi adleisio'r sylwadau blaenorol a PHENDERFYNWYD:

1.     Trafod:

·       y trefniadau darparu gwasanaeth presennol a'r adnoddau cysylltiedig fel y maen nhw'n cael eu nodi yn Adran 5 yr adroddiad;

·       yr opsiynau darparu gwasanaeth arfaethedig sydd wedi'u nodi yn Adran 6 yr adroddiad; a

·       canfyddiadau'r gwaith profi'r farchnad a gynhaliwyd fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 6.5 i 6.7 yr adroddiad.

2.     Rhoi'r opsiwn a ffefrir (Opsiwn 4) ar waith, hynny yw trosglwyddo trefniadau rheoli'r pedair meithrinfa sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor i ddarparwyr gofal plant cofrestredig profiadol, fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 6.4 yr adroddiad;

3.     Cytuno i gynnal gwaith caffael ffurfiol mewn perthynas â darparwyr gofal plant cofrestredig profiadol, fel sydd wedi'i nodi ym mharagraff 6.7 a 6.9 yr adroddiad;

4.     a Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Dros Dro'r Gwasanaethau Cymdeithasol, ar y cyd â'r Aelod cyfrifol, er mwyn dyfarnu contractau yn dilyn y broses gaffael ac i wneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer y broses drosglwyddo ddilynol

 

 

105.

Polisi Ffioedd a Thaliadau'r Cyngor 2021/22 pdf icon PDF 271 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol, sy'n cyflwyno adolygiadau arfaethedig i ffioedd a thaliadau'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24, (gyda phob newid yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023 neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl wedi hynny).

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafod papur trafod gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol, sy'n cyflwyno i'r Cabinet y diwygiadau arfaethedig i lefelau ffïoedd a thaliadau’r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24 (pob un i'w gweithredu o 1 Ebrill 2023 neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny) a manylion penderfyniadau o ran ffïoedd a thaliadau sydd eisoes wedi'u cymeradwyo ac sydd wedi'u cynnwys yn Strategaeth Gyllideb arfaethedig 2023/24.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Newid yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol fod yr incwm sy'n dod o'r ffioedd a thaliadau yn rhan allweddol o drefniadau cyllido'r Cyngor ar gyfer nifer o wasanaethau.  Esboniodd yr Aelod o'r Cabinet fod y cynigion yn ceisio sicrhau darpariaeth gwasanaeth barhaus ac o safon i drigolion am bris fforddiadwy, a hynny ar lefel leol. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi bod y cynigion yn ategu gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o ran helpu i ddarparu adnodd a gwasanaethau digonol sydd wir eu hangen ac sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

 

Roedd yr Arweinydd yn gefnogol o'r adroddiad gan esbonio y bydd y Cyngor yn talu am y diffygion mewn sawl maes i sicrhau nad yw trigolion yn wynebu'r holl gostau cynyddol yn ystod yr argyfwng costau byw.  Roedd yr Arweinydd o'r farn bod y cynigion yn gytbwys gan esbonio bod lefelau chwyddiant oddeutu 10%, ond mae nifer o'r ffioedd a'r costau wedi cynyddu gan oddeutu 5%, er mwyn tynnu rhywfaint o'r pwysau oddi ar drigolion. Ychwanegodd yr Arweinydd fod sawl pris yn cystadlu â phrisiau Awdurdodau Lleol eraill, sydd wedi bod yn cynnal adolygiad tebyg o'r gyllideb.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Trafod y diwygiadau arfaethedig i ffioedd a thaliadau'r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24;

2.    Cytuno y bydd y cynigion mewn perthynas â'r ffioedd a thaliadau (fel sydd wedi'u nodi ym mharagraff 5.2.1 i 5.2.29 o'r adroddiad) yn destun ymgynghoriad yn rhan o gam 2 o'r Ymgynghoriad ar Gyllideb 2023/24 y Cyngor. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu rhannu â'r Cabinet yn rhan o'r broses ar gyfer llunio'r Strategaeth Gyllideb wedi'i hargymell ar gyfer 2023/24

3.    Nodi'r ffioedd a'r taliadau sydd wedi'u cymeradwyo eisoes ac wedi'u cynnwys yn strategaeth gyllideb arfaethedig ar gyfer 2023/24.

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod y bydd yn ceisio caniatâd Llywydd y Cyngor er mwyn eithrio'r eitem yma o'r drefn Galw i Mewn, fel bod modd cychwyn yr ymgynghoriad ar unwaith.

 

 

 

106.

Cyllideb Refeniw'r Cyngor ar gyfer 2023-2024 pdf icon PDF 139 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol, sy'n rhoi gwybodaeth i'r Cabinet am setliad llywodraeth leol 2023/24 a chanlyniadau cam 1 o ymgynghoriad y gyllideb, i gynorthwyo gyda'i drafodaethau wrth lunio'r strategaeth cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, y bydd yn ei hargymell i'r Cyngor i'w chymeradwyo.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Digidol wybodaeth i'r Cabinet am setliad llywodraeth leol 2023/24 a chanlyniadau cam 1 o ymgynghoriad y gyllideb, i gynorthwyo gyda'i drafodaethau wrth lunio'r strategaeth cyllideb refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 y bydd yn ei hargymell i'r Cyngor i'w chymeradwyo.

 

Dymunodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Newid yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad gan gydnabod bod holl Awdurdodau Lleol Cymru yn wynebu amser heriol o ran gwneud penderfyniadau ar faterion cyllid. Nododd yr Aelod o'r Cabinet fod yr adroddiad yn dangos sut y byddai modd darparu cyllideb gytbwys yn 2023-2024, heb unrhyw ddiswyddiadau gorfodol a thrwy wneud newidiadau bach i wasanaethau o'u cymharu ag Awdurdodau Lleol eraill.  Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi bod y cynnydd arfaethedig i gyfraddau Treth y Cyngor yn debygol o fod ymhlith yr isaf yng Nghymru, ac mae'n bosibl y bydd cynnydd o ran ffioedd a chostau yn is na lefelau chwyddiant.

 

Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd pa mor bwysig yw hi i gynnal ymgynghoriad ar y Gyllideb gan fynd ati i sôn am y meysydd gwahanol sy'n destun ymgynghoriad i lunio'r strategaeth gyllideb. O ran yr ymatebion i'r ymgynghoriad, nododd y Dirprwy Arweinydd fod canran uchel o'r bobl a ymatebodd o blaid y cynnig ac yn gefnogol o sut mae'r Cyngor yn rheoli materion ariannol yn y sefyllfa sydd ohoni. 

 

Siaradodd yr Arweinydd am y cynnydd sylweddol ar gyfer ysgolion a gafodd ei nodi yn yr adroddiad, gan esbonio bod cynnydd gwerth £13.7miliwn wedi bod o ran adnoddau'r Cyngor. Esboniodd yr Arweinydd y bydd bwlch yn y gyllideb gwerth £9.1miliwn hyd yn oed ar ôl gwneud y newidiadau arfaethedig i wasanaethau, yr arbedion a nodwyd a’r setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru. Byddai modd defnyddio £5miliwn o’n cronfeydd ynni wrth gefn a byddai modd defnyddio £4.1miliwn o’n cronfeydd pontio wrth gefn.

 

PENDERFYNODDy Cabinet:

1.    Nodi bod y gweithdrefnau sy'n ymwneud ag adeiladu cyllideb refeniw, y broses ymgynghori cyllideb, ac adrodd i'r Cyngor, wedi'u nodi yn "Y Gyllideb a'r Fframwaith Polisi", sy'n cael ei gynnwys yng Nghyfansoddiad y Cyngor;

2.    Nodi a thrafod canlyniadau proses cam 1 o ymgynghori ar y gyllideb;

3.    Adolygu a thrafod drafft o Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23, y manylir arni yn y Papur Trafod sydd ynghlwm 'Atodiad A';

4.    Adolygu a phennu lefel y cynnydd yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2023/24 y byddai’n dymuno ei gynnwys yn y strategaeth i ffurfio’r sail ar gyfer cynnal ail gam o'r ymgynghoriad.

5.    Cytuno amserlen ddrafft ar gyfer pennu cyllideb refeniw 2023/24 fel sydd wedi'i nodi yn Atodiad A2 o'r adroddiad;

6.    Derbyn adborth o ail gam yr ymgynghoriad cyllideb er mwyn trafod a phenderfynu ar y strategaeth gyllidebol derfynol i'w chyflwyno i'r Cyngor;

7.    Bod y Cyngor yn parhau i gefnogi'r strategaeth ariannol tymor canolig gyda'r nod o sicrhau'r effeithlonrwydd parhaus o ran darparu gwasanaethau, trawsnewid gwasanaethau wedi'u targedu a newidiadau eraill sy'n cynnal uniondeb ariannol y Cyngor wrth barhau i anelu cymaint â phosibl  ...  view the full Cofnodion text for item 106.