Agenda item

Derbyn canlyniadau Arolwg Ieuenctid 2022-23 ac adborth cysylltiedig gan y Gwasanaethau Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr holl swyddogion a phobl ifainc i'r Siambr, gan ddiolch iddyn nhw am ddod i'r cyfarfod a rhoi cyflwyniad i'r Pwyllgor.

 

Gyda chymorth nifer o'r bobl ifainc a oedd yn bresennol, cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Ieuenctid adroddiad a chyflwyniad powerpoint i'r Aelodau. Roedd y rhain yn cynnwys canlyniadau'r Arolwg Eich Llais a gynhelir bob dwy flynedd. Dywedodd fod dros 5000 o bobl ifainc ar draws ysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid y Fwrdeistref wedi cwblhau'r arolwg.  Roedd yr arolwg yn cynnwys cwestiynau a oedd yn amrywio o ddiogelwch yn yr ysgol, y cyfnod pontio rhwng yr Ysgol Gynradd a'r Ysgol Uwchradd, opsiynau ôl-16 (Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant) a chwestiynau am eu hiechyd meddwl a'u lles.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, cafodd Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau, rhoi sylwadau a thrafod sut y gallai'r gwaith hwn lywio Rhaglenni Gwaith y Pwyllgorau Craffu priodol.

 

Nododd nifer o Aelodau'r cynnydd yn nifer y materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ar y cyd â'r rhestri aros hir y mae gweithwyr proffesiynol ym maes Iechyd Meddwl i Blant yn eu gweld.

 

Dymunodd Aelod longyfarch y bobl ifainc am eu cyfraniad nhw gan nodi eu bod nhw'n ychwanegiad gwych i'r cyflwyniad. Cododd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant sawl mater, gan gynnwys Plant sydd ddim mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant (NEET), dewisiadau ôl-16 ac ymgysylltiad â sefydliadau Addysg Uwch, ymgysylltiad â'r Fforwm Ieuenctid a hyrwyddo rôl y Cyngor mewn perthynas â phobl ifainc a'u cynnwys nhw yn rhan o'r broses ddemocrataidd. Dywedodd wrth y swyddogion y byddai'n ystyried cynnwys rhai o'r materion uchod yn rhan o Raglen Waith y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant ar gyfer blwyddyn newydd y Cyngor.   

 

Cododd yr Aelod bryderon hefyd ynghylch ymatebion y plant hynny sydd ddim yn mwynhau'r ysgol a'r plant a nododd nad oedden nhw'n hapus gyda'r profiad pontio. Roedd yr Aelod wedi digalonni o glywed bod cyn lleied o'r bobl ifainc yn ymwybodol o'r fforwm ieuenctid a dywedodd ei bod yn bwysig cynnwys pob dysgwr yn rhan o'r gwaith yma fel bod gyda nhw ddealltwriaeth o waith y Cyngor. Ychwanegodd Aelod ei bod hi'n bosibl y bydden nhw'n fwy tebygol o ymgysylltu â'r broses pe byddai modd iddyn nhw weld canlyniadau'r Cyngor. Gan gyfeirio at nifer y bobl a oedd wedi ymateb i'r arolwg drwy ddweud nad oedden nhw'n teimlo'n gyfforddus yn rhoi gwybod am drosedd, holodd Aelod a oedd rhwystrau yn eu hatal nhw rhag rhoi gwybod am droseddau.

 

Argymhellodd Aelod y dylai gwaith pellach yn y dyfodol gynnwys amcanion campus a Dangosyddion Cyflawniad Allweddol er mwyn galluogi Aelodau i fesur canlyniadau ac effeithiolrwydd yr arolwg a hefyd gweithio i archwilio pam nad yw plant yn teimlo'n ddiogel yn eu cymunedau. Ymatebodd Rheolwr y Gwasanaethau Ieuenctid drwy ddweud bod targedau a Dangosyddion Cyflawniad Allweddol yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd a bydd y rhain yn cael eu datblygu fel bod modd iddyn nhw ddadansoddi'u cyflawniad.

 

Holodd Aelodau beth arall y mae modd ei wneud i ymgysylltu â phobl 16+ oed i sicrhau bod eu barn nhw'n cael eu nodi hefyd. Ymatebodd Rheolwr y Gwasanaethau Ieuenctid drwy ddweud bod y gr?p oedran yma'n anoddach i ymgysylltu ag ef yn draddodiadol. Dywedodd fod gan y garfan swyddogion ym mhob ysgol sy'n gweithio'n benodol gyda'r gr?p oedran yma, aeth ymlaen i ddweud bod lefelau ymgysylltu'n gwella ond cydnabu fod gwaith pellach i'w wneud o hyd. I gloi, dywedodd eu bod nhw'n gweithio gyda cholegau a phrifysgolion a hefyd yn croesawu cyngor y bobl ifainc ac yn addasu'r arolwg yn dilyn eu hadborth nhw. 

 

Holodd Aelod sut y gallwn ni ddylanwadau ar y ffynonellau sy'n cael eu defnyddio gan bobl ifainc i ddod o hyd i wybodaeth, a sicrhau bod yr wybodaeth yma'n gywir. Roedd yn pryderi bod pobl ifainc yn cael gwybodaeth anghywir ar sianelu cyfryngau cymdeithasol. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid wybod bod y cyfryngau cymdeithasol yn cyflwyno her sylweddol, a bod hyn wedi bod yn arbennig o amlwg drwy gydol y pandemig. Dywedodd eu bod nhw'n gweithio'n agos gyda Chlybiau Ieuenctid, yn cynnal cyfarfodydd un wrth un mewn ysgolion ac yn annog deialog agored gyda'r bobl ifainc lle bynnag y bob modd. I gloi, dywedodd fod gwaith ar y gweill i sicrhau bod modd cynnig rhagor o wybodaeth a chyngor yn y clybiau ieuenctid.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

  1. Craffu ar yr wybodaeth sydd yn yr adroddiad yma a chyflwyno sylwadau.
  2. Trafod a ydyn nhw'n dymuno craffu'n fanylach ar unrhyw faterion sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: