Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a
2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â'r Cod Ymddygiad, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Bradwick fuddiant personol o ran eitem 5 Rhag-graffu – Gwasanaethau Oriau Dydd ar gyfer Pobl H?n. “Roeddwn i'n arfer gweithio i Tegfan.”
|
|
DOLENNI YMGYNGHORI Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.
Cofnodion: Aeth yr Aelodau ati i gydnabod yr wybodaeth oedd wedi'i darparu trwy'r dolenni ymgynghori mewn perthynas ag ymgynghoriadau agored, ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r materion hynny y mae'r awdurdod lleol yn cynnal ymgynghoriadau yngl?n â nhw.
|
|
Cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod ar-lein y Pwyllgor Craffu – Gwasanaethau Cymuned a gynhaliwyd ar 25 Medi 2022, yn rhai cywir.
Cofnodion: Amlinellodd Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd faterion sy'n deillio o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25.09.23, gan nodi bod gwybodaeth bellach wedi cael ei rhannu gydag Aelodau mewn perthynas â natur Cwynion yr Ombwdsmon a chyflawniad presennol rhestr aros ac amseroedd aros y Garfan Addasu ac Offer yn y Gymuned (ACE) ar gyfer asesiad ACE.
Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ddiweddariad ar lafar i Aelodau ar ddefnydd data byrddau gwyn ysbytai a materion rheoli gwybodaeth mewn perthynas â chydsyniad rhannu data. O ganlyniad i gyfyngiadau amser, doedd dim modd llunio adroddiad ar gyfer y cyfarfod yma. Felly rhoddwyd gwybod i Aelodau y byddai adroddiad pellach ar y mater yma'n cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2023 yn rhai cywir.
|
|
Rhag-graffu – Adroddiad Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth PDF 139 KB Trefniadau cyn y cam craffu Polisi ar gyfer Rheoleiddio Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) yn Rhondda Cynon Taf yn y Dyfodol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Amlinellodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai ddiffiniad Tai Amlfeddiannaeth a chefndir yr adroddiad. Cafodd Aelodau wybod bod gan dai amlfeddiannaeth risg uwch o ran tân, a bod angen rhagofalon tân ychwanegol o ganlyniad i hyn. Hefyd, gall nifer uwch o dai amlfeddiannaeth sy'n cael eu rheoli mewn ffordd wael ychwanegu pwysau at gymunedau lleol. Rhoddwyd gwybodaeth i Aelodau o ran nifer y tai amlfeddiannaeth yn Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd ac mae nifer uchel o'r rhain yn ward Trefforest lle mae nifer uchel o fyfyrwyr.
O ran deddfwriaeth, nodwyd yn yr adroddiad y daeth Deddf Tai 2004 (‘y Ddeddf’) i rym yng Nghymru ym mis Mehefin 2006 a chyflwynodd bwerau i Awdurdodau Lleol reoleiddio safonau yn y sector rhentu preifat, gan gynnwys y gofyniad i Awdurdodau Lleol drwyddedu mathau penodol o dai amlfeddiannaeth, sef Trwyddedu Mandadol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth. Rhoddodd y Ddeddf hawl i Awdurdodau Lleol gyflwyno mathau eraill o gynllun trwyddedu ar gyfer mathau gwahanol o dai amfeddiannaeth (Trwyddedu Ychwanegol) a thrwyddedu'r sector rhentu meddiannaeth unigol (Trwyddedu Dethol). Cafodd Aelodau wybod bod y ddau gynllun yn ddewisol.
Cafodd Aelodau wybodaeth bellach o'r adroddiad mewn perthynas â'r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol, a nododd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai fod y Cyngor wedi gweithredu Cynlluniau Trwyddedu Ychwanegol olynol ers 2006. Cafodd Cynllun Trwyddedu Ychwanegol 2014 ei adolygu yn 2018 lle penderfynwyd rhoi Cynllun Trwyddedu Ychwanegol pellach ar waith o 1 Ebrill 2019. Cafodd Aelodau wybod bod y Cynllun Trwyddedu Ychwanegol presennol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2024.
Nododd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai fod proses cyflwyno cais ar-lein, a gafodd ei chyflwyno yn 2019, wedi arwain at amser prosesu gwell ar gyfer trwyddedau. Hefyd, newidiwyd y ffordd y cafodd ffïoedd eu prosesu a chafodd taliad dwy ran ei gyflwyno i dalu am gostau rhoi'r Cynllun Trwyddedu Ychwanegol ar waith.
Cafodd Aelodau eu hatgoffa bod rhaid i'r penderfyniad i adnewyddu Cynllun Trwyddedu Ychwanegol fod yn seiliedig ar dystiolaeth o'r angen am gynllun o'r fath a thynnwyd eu sylw at yr adran berthnasol yn yr adroddiad ac Atodiad 1 sy'n cynnwys manylion y gwerthusiad llawn o'r Cynlluniau Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (Ychwanegol a Mandadol) ers 2019, a gafodd ei gynnal gan y Garfan Strategaeth Dai. Cafodd y canfyddiadau allweddol, fel sydd wedi'u hamlinellu yn adran 4 o Atodiad A, eu cyflwyno i Aelodau.
Tynnwyd sylw Aelodau at Atodiad 3 sy'n cynnwys canlyniadau llawn yr ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal rhwng 5 Medi 2023 a 17 Hydref 2023, sef cyfnod o 6 wythnos. ... view the full Cofnodion text for item 21. |
|
Rhag-graffu - Gwasanaethau Oriau Dydd ar gyfer Pobl Hŷn PDF 133 KB Cynnal gwaith rhag-graffu mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer darpariaeth Gwasanaethau Oriau Dydd y Cyngor ar gyfer pobl h?n yn Rhondda Cynon Taf yn y dyfodol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu bwrpas yr adroddiad er mwyn i Aelodau rag-graffu ar y manylion yn yr adroddiad a rhoi sylwadau i'r Cabinet cyn iddo ei drafod. Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol mai pwrpas yr adroddiad yw gwneud argymhellion mewn perthynas â darpariaeth Gwasanaethau Oriau Dydd y Cyngor ar gyfer pobl h?n yn y dyfodol.
Amlinellodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol gefndir yr adroddiad, gan nodi y cytunodd y Cabinet yn ei gyfarfod ar 11 Medi 2019, yn dilyn cyfnod o ymgynghori ffurfiol, ar fodel gwasanaethau oriau dydd newydd ar gyfer pobl h?n a fyddai'n newid y pwyslais cyfredol i ffwrdd o wasanaethau mewn adeiladau, lle mae'n ofynnol i'r unigolion gael eu cyfyngu gan y gwasanaethau sydd ar gael, tuag at wasanaeth mwy personol sy'n ymateb yn well i anghenion a deilliannau unigol. Mae bellach angen adolygu darpariaeth gwasanaethau oriau dydd ar gyfer pobl h?n.
Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol drosolwg i Aelodau o'r gwasanaethau oriau dydd presennol ar gyfer pobl h?n, fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad A. Rhoddodd wybod i Aelodau fod nifer y bobl sy'n mynd i Ganolfannau Oriau Dydd y Cyngor wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf er eu bod nhw'n parhau i fod yn boblogaidd ymhlith y bobl sy'n eu defnyddio nhw a'u bod nhw'n rhoi seibiant i gynhalwyr.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod lle i gredu bod angen i'r maes gwasanaeth ailgynllunio ei wasanaethau oriau dydd ar gyfer pobl h?n wrth ystyried yr wybodaeth sydd wedi'i hamlinellu yn adran 4 o Atodiad A. Mae hefyd angen sicrhau bod y gwasanaethau oriau dydd yn parhau i fodloni anghenion sydd wedi'u hasesu ac anghenion sy'n newid mewn ffyrdd sy'n fwy effeithiol ac effeithlon o ran cost, a hynny'n unol â gofynion cyffredinol model gwasanaethau oriau dydd y Cyngor ar gyfer pobl h?n.
Amlinellodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ddau gynnig fel sydd wedi'u nodi yn adran 5 o Atodiad A. Cafodd Aelodau wybod y byddai angen adolygu strwythurau staffio pe byddai'r cynigion yn cael eu cymeradwyo, a byddai angen ymgynghori ar unrhyw newidiadau â staff a chynrychiolwyr undebau cyn unrhyw newid i wasanaeth. Amlinellodd y Cyfarwyddwr y broses a fyddai'n cael ei chynnal gyda defnyddwyr gwasanaethau oriau dydd presennol i'w cefnogi nhw gydag unrhyw newidiadau.
Cafodd Aelodau wybod y bydd ailgynllunio gwasanaethau oriau dydd y Cyngor yn sicrhau bod darpariaeth yn hyrwyddo lles ac annibyniaeth unigolion wrth gefnogi darpariaeth gwasanaethau sy'n fwy effeithlon a defnyddio adnoddau'r Cyngor yn effeithiol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i Aelodau y gallai'r cynigion greu arbedion refeniw amcangyfrifedig gwerth tua £140,000 mewn blwyddyn gyfan pe bydden nhw'n cael eu cymeradwyo. Yr argymhelliad fyddai clustnodi'r arian yma a'i fuddsoddi'n ôl yng nghyllideb y Gwasanaethau i Oedolion, gan alluogi'r Cyngor i gynnal gwasanaethau gofal a chymorth hanfodol.
Cyfeiriodd Aelod at Ganolfan Oriau Dydd Tonyrefail a gofynnodd faint o'r 17 o unigolion sy'n mynd yno, a'r 64 o unigolion sydd wedi'u cofrestru i fynd, yn byw yn Nhonyrefail, a gofynnodd a oes capasiti ar gyfer ... view the full Cofnodion text for item 22. |
|
ADOLYGIAD Y CADEIRYDD A DOD Â'R CYFARFOD I BEN Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Swyddogion am eu hadroddiadau a chyflwyniadau cynhwysfawr. Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i Aelodau am gyfrannu at drafodaeth fanwl y ddau adroddiad a thynnodd sylw at yr effaith bwysig y mae rhag-graffu ar yr adroddiadau yn ei chael.
|
|
MATERION BRYS Cofnodion: Dim.
|