Lleoliad: HYBRID - Llys Cadwyn, Pontypridd & ZOOM
Cyswllt: Sarah Daniel E-bost: scrutiny@rctcbc.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad. Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n tynnu'n ôl o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Roedd y Cynghorydd Sera Evans wedi datgan buddiant personol mewn perthynas ag eitem 2 "Mae fy mhlant o fewn ystod oedran yr arolwg, felly mae'n bosibl eu bod nhw wedi'i gwblhau." |
|
Adborth o Arolwg Eich Llais RhCT PDF 143 KB Derbyn canlyniadau Arolwg Ieuenctid 2022-23 ac adborth cysylltiedig gan y Gwasanaethau Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr holl swyddogion a phobl ifainc i'r Siambr, gan ddiolch iddyn nhw am ddod i'r cyfarfod a rhoi cyflwyniad i'r Pwyllgor.
Gyda chymorth nifer o'r bobl ifainc a oedd yn bresennol, cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Ieuenctid adroddiad a chyflwyniad powerpoint i'r Aelodau. Roedd y rhain yn cynnwys canlyniadau'r Arolwg Eich Llais a gynhelir bob dwy flynedd. Dywedodd fod dros 5000 o bobl ifainc ar draws ysgolion, colegau a chlybiau ieuenctid y Fwrdeistref wedi cwblhau'r arolwg. Roedd yr arolwg yn cynnwys cwestiynau a oedd yn amrywio o ddiogelwch yn yr ysgol, y cyfnod pontio rhwng yr Ysgol Gynradd a'r Ysgol Uwchradd, opsiynau ôl-16 (Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant) a chwestiynau am eu hiechyd meddwl a'u lles.
Yn dilyn y cyflwyniad, cafodd Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau, rhoi sylwadau a thrafod sut y gallai'r gwaith hwn lywio Rhaglenni Gwaith y Pwyllgorau Craffu priodol.
Nododd nifer o Aelodau'r cynnydd yn nifer y materion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ar y cyd â'r rhestri aros hir y mae gweithwyr proffesiynol ym maes Iechyd Meddwl i Blant yn eu gweld.
Dymunodd Aelod longyfarch y bobl ifainc am eu cyfraniad nhw gan nodi eu bod nhw'n ychwanegiad gwych i'r cyflwyniad. Cododd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant sawl mater, gan gynnwys Plant sydd ddim mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant (NEET), dewisiadau ôl-16 ac ymgysylltiad â sefydliadau Addysg Uwch, ymgysylltiad â'r Fforwm Ieuenctid a hyrwyddo rôl y Cyngor mewn perthynas â phobl ifainc a'u cynnwys nhw yn rhan o'r broses ddemocrataidd. Dywedodd wrth y swyddogion y byddai'n ystyried cynnwys rhai o'r materion uchod yn rhan o Raglen Waith y Pwyllgor Craffu - Addysg a Chynhwysiant ar gyfer blwyddyn newydd y Cyngor.
Cododd yr Aelod bryderon hefyd ynghylch ymatebion y plant hynny sydd ddim yn mwynhau'r ysgol a'r plant a nododd nad oedden nhw'n hapus gyda'r profiad pontio. Roedd yr Aelod wedi digalonni o glywed bod cyn lleied o'r bobl ifainc yn ymwybodol o'r fforwm ieuenctid a dywedodd ei bod yn bwysig cynnwys pob dysgwr yn rhan o'r gwaith yma fel bod gyda nhw ddealltwriaeth o waith y Cyngor. Ychwanegodd Aelod ei bod hi'n bosibl y bydden nhw'n fwy tebygol o ymgysylltu â'r broses pe byddai modd iddyn nhw weld canlyniadau'r Cyngor. Gan gyfeirio at nifer y bobl a oedd wedi ymateb i'r arolwg drwy ddweud nad oedden nhw'n teimlo'n gyfforddus yn rhoi gwybod am drosedd, holodd Aelod a oedd rhwystrau yn eu hatal nhw rhag rhoi gwybod am droseddau.
Argymhellodd Aelod y dylai gwaith pellach yn y dyfodol gynnwys amcanion campus a Dangosyddion Cyflawniad Allweddol er mwyn galluogi Aelodau i fesur canlyniadau ac effeithiolrwydd yr arolwg a hefyd gweithio i archwilio pam nad yw plant yn teimlo'n ddiogel yn eu cymunedau. Ymatebodd Rheolwr y Gwasanaethau Ieuenctid drwy ddweud bod targedau a Dangosyddion Cyflawniad Allweddol yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd a bydd y rhain yn cael eu datblygu fel bod modd iddyn nhw ddadansoddi'u cyflawniad.
Holodd Aelodau beth arall y mae modd ei wneud i ymgysylltu â phobl 16+ oed ... view the full Cofnodion text for item 71. |
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Cofnodion: Doedd dim materion brys i'w trafod. |
|
Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben Cofnodion: Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r Swyddogion a'r Aelodau am ddod i'r cyfarfod, yn enwedig y bobl ifainc a ddaeth i'r cyfarfod Pwyllgor i gyflwyno i'r Aelodau. |