Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Sarah Daniel  E-bost: Scrutiny@rctcbc.gov.uk

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

39.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.Nodwch:

1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'r cod ymddygiad, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

40.

Cofnodion pdf icon PDF 148 KB

Derbyn cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 31 Hydref a 13 Tachwedd 2023 i'w cymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cafodd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 31 Hydref 2023 a 13 Tachwedd 2023 eu cadarnhau'n gofnodion gwir a chywir o’r cyfarfodydd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Sera Evans i'w henw llawn a ac enw llawn y Cynghorydd Sheryl Evans gael eu defnyddio yn y cofnodion yn y dyfodol i osgoi dryswch ynghylch presenoldeb.

 

41.

Ymgynghori ar Gyllideb 2024–25 (Cam 1) pdf icon PDF 381 KB

Rhoi cyfle i Aelodau ymateb yn ffurfiol i gam cyntaf yr Ymgynghoriad ar Gyllideb 2024-25 y Cyngor, a hynny fel y pwyllgor craffu cyfrifol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i ymgynghori â nhw ac i ymateb yn ffurfiol i gam cyntaf Ymgynghoriad Cyllideb 2024–25 y Cyngor. Cafodd yr Aelodau wybod y bydd adborth y Pwyllgor yn cael ei gynnwys mewn adroddiad ar yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb, yn ogystal â'r holl adborth arall gan randdeiliaid. Bydd yr adroddiad yn cael ei ystyried gan y Cabinet yn rhan o lunio Strategaeth Cyllideb Refeniw ddrafft ar gyfer 2024/25. Bydd y Strategaeth Cyllideb Refeniw ddrafft wedyn yn cael ei rhag-graffu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn rhan o gam 2 y broses Ymgynghori ar y Gyllideb yn gynnar yn 2024.

 

Yna rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Gwella gyflwyniad i'r Aelodau ar gam 1 yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb.

 

Dywedodd Aelod y dylai'r Cyngor gyfathrebu'n well i drigolion sut mae cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn cael eu defnyddio gan fod camsyniad cyffredin bod gan y Cyngor arian dros ben.  Dywedodd yr Aelod hefyd, er eu bod nhw'n deall bod trigolion i gyd yn delio ag argyfwng costau byw, bod gan y Cyngor ddyletswydd o hyd i lunio cyllideb gytbwys.

 

Dywedodd Aelod fod angen i ni barhau i ddiogelu a blaenoriaethu'r gyllideb addysg a buddsoddi yn ein plant a'n pobl ifainc.

 

Gofynnodd Aelod sut mae'r Cyngor yn ymgysylltu â'r cyhoedd wrth ymgynghori ar y gyllideb ac roedd yn falch o nodi bod ymgysylltu wedi digwydd gyda phobl ifainc.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Gwella fod lleoliadau penodol yn cael eu dewis i sicrhau ein bod ni'n gwneud y mwyaf o'r cyfle i ymgysylltu wyneb yn wyneb gyda'r cyhoedd a bod carfan o swyddogion ym mhob achlysur ymgynghori i gynorthwyo ac ateb cwestiynau. Yna dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod yr ymgysylltu hyd yma wedi bod yn dda, a bod llawer o bobl ifainc hefyd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad trwy achlysuron ymgynghori mewn ysgolion uwchradd penodol.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cyfetholedig at y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar gyfer prosiectau penodol a gofynnodd a oes modd i'r Cyngor adolygu'r prosiectau i sicrhau eu bod nhw'n mynd yn eu blaenau ac, os nad ydyn nhw, bod yr arian yn cael ei ailddyrannu.  Roedd yr Aelod Cyfetholedig hefyd yn cwestiynu rôl y pwyllgor Craffu o ran nodi arbedion i wella effeithlonrwydd a sut mae'r Awdurdod yn cydweithio gydag Awdurdodau Lleol eraill i sicrhau arbedion.

 

Rhannodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Gwella bod £105 miliwn, sef tua 53% o gronfeydd wrth gefn y Cyngor, wedi'u clustnodi ar gyfer cyflawni'r Rhaglen Gyfalaf gyfredol a buddsoddi parhaus mewn seilwaith, gydag arian arall o'r cronfeydd wrth gefn wedi'i neilltuo at ddibenion penodol, megis rheoli prosiectau cyfredol a risgiau allweddol.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod cronfeydd wrth gefn yn cael eu hadolygu'n barhaus ac yn cael eu hadrodd i Aelodau etholedig o leiaf ddwywaith y flwyddyn i ddarparu opsiynau ar gyfer ail-flaenoriaethu cronfeydd wrth gefn penodol, lle bo'n briodol, i gefnogi buddsoddiad ychwanegol ym meysydd blaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol. Aeth y Cyfarwyddwr  ...  view the full Cofnodion text for item 41.

42.

CRAFFU AR NEWIDIADAU I WASANAETHAU YN AMODOL AR YMGYNGHORIAD pdf icon PDF 152 KB

Rhoi cyfle i Aelodau graffu ar yr ymgynghoriadau cyhoeddus a gychwynnwyd gan Gabinet y Cyngor, a chynnig sylwadau ffurfiol. 

 

A)   Parhad Darpariaeth Clwb Brecwast am Ddim mewn ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig a chyflwyno tâl am yr elfen gofal plant ychwanegol

 

B)   Adolygiad o Bolisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i'r Aelodau i ofyn am eu hadborth er mwyn ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriadau'r Cyngor ar Barhad Darpariaeth Clwb Brecwast Am Ddim mewn Ysgolion Cynradd ac Arbennig gyda thâl am yr elfen gofal plant ychwanegol i gael ei gyflwyno ac Adolygiad o Bolisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol y Cyngor.

 

Yn dilyn trafodaeth, derbyniwyd yr adborth, y cwestiynau a'r sylwadau canlynol gan yr Aelodau:

 

Parhad Darpariaeth Clwb Brecwast am Ddim mewn ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig a chyflwyno tâl am yr elfen gofal plant ychwanegol

 

Gofynnodd Aelod beth fydd yr effaith ar staff sy'n rhedeg y Gwasanaeth Clwb Brecwast presennol ac a fydd modd i'r nifer o staff ymdopi ag unrhyw newid i'r gwasanaeth.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, er ei bod hi'n anodd rhagweld yr effaith ar staff ar hyn o bryd, ni ragwelir effaith sylweddol. Os bydd y galw am y ddarpariaeth yn cynyddu, bydd angen i'r gwasanaeth sicrhau bod nifer priodol o staff.  Cafodd ei gydnabod gan y Cyfarwyddwr fod recriwtio yn y Gwasanaethau Arlwyo yn heriol a bod cael swyddi gwag yn y gwasanaeth yma'n weddol gyffredin. Rhoddodd sicrwydd y bydd hyn yn cael ei fonitro'n agos.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant nad oedd llawer o bobl wedi mynychu'r achlysuron Ymgysylltu â'r Gymuned hyd yn hyn, ond bod llawer mwy o ymateb wedi dod i law ar-lein. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y themâu sy'n dod i'r amlwg yn dangos bod rhai ymatebwyr wedi gofyn am hyblygrwydd o ran codi tâl am 5 diwrnod yr wythnos gan fod nifer ohonyn nhw ddim yn defnyddio'r gwasanaeth bob dydd.   Fodd bynnag, dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai trefniadau codi tâl hyblyg yn dod â chostau gweinyddol ychwanegol ac felly bydd angen safbwynt cytbwys. Adleisiodd sawl Aelod arall y pwynt yma gan na fydd angen i bob teulu ddefnyddio'r cyfleuster 5 diwrnod yr wythnos. Gofynnodd yr Aelodau i'r agwedd yma gael ei hadolygu ac ystyried opsiwn mwy hyblyg cyn gwneud penderfyniad terfynol.

 

Roedd Aelod yn pryderu ein bod ni'n ychwanegu at bwysau ariannol teuluoedd sydd eisoes yn cael trafferth gyda'r argyfwng costau byw a gofynnodd a oedd opsiynau eraill y byddai modd eu hystyried.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant fod yr Awdurdod eisoes yn darparu ystod o gymorth i deuluoedd a rhoddodd sicrwydd y bydd y cynnig yn cynnal brecwast am ddim mewn ysgolion fel y mae ar hyn o bryd, cynnig sydd fel arfer ar gael o 8.30am. Mae'r tâl arfaethedig ar gyfer y ddarpariaeth gofal plant o 8am. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr y bydd adborth yr ymgynghoriad yn cael ei gasglu a'i adrodd i'r Cabinet i'w ystyried yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau.

 

Mewn ymateb i sylwadau ynghylch amseru lle mae rhai ysgolion yn dechrau eu darpariaeth yn hwyrach, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant fod yr amseroedd cychwyn / gorffen yn cael eu pennu gan bob ysgol unigol ac yn unol â'u diwrnod ysgol. Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i ddweud y  ...  view the full Cofnodion text for item 42.

43.

Adroddiad Cyflawniad ac Adnoddau'r Cyngor (Chwarter 2) pdf icon PDF 209 KB

Rhoi trosolwg i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu o gyflawniad y Cyngor, o safbwynt ariannol a gweithredol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad ar Gyflawniad y Cyngor (Chwarter 2) hyd at 30 Medi 2023, i'r Aelodau.  Rhoddodd wybod am bwysigrwydd yr wybodaeth yma i'r broses graffu, yn enwedig o ran darparu gwasanaethau, ond hefyd o ran pennu materion i'w trafod ymhellach yn seiliedig ar yr wybodaeth am gyflawniad sy'n cael ei darparu. Ychwanegodd mai cyfrifoldeb y Pwyllgor yma yw cyfeirio unrhyw eithriadau at y pwyllgor craffu priodol i'w trafod ymhellach, a hynny o dan y cylch gorchwyl.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Gwella'r adroddiad i Aelodau a oedd yn cynnwys manylion am ddatganiadau o sefyllfa chwarter 2 ar gyfer refeniw a chyflawniad y gyllideb gyfalaf; dangosyddion darbodus Rheoli'r Trysorlys; gwybodaeth am Iechyd y Sefydliad gan gynnwys trosiant staff, salwch a risgiau strategol y Cyngor; cynlluniau gweithredu blaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol (gan gynnwys dangosyddion cyflawniad a buddsoddi); a rhaglen barhaus y Cyngor o waith i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, rhoddodd y Cadeirydd gyfle i'r Aelodau ofyn cwestiynau.

 

Nododd Aelod y lefel uchel o salwch staff mewn meysydd gwasanaeth penodol a gofynnodd a yw hyn yn cael ei fonitro a sut mae staff yn cael eu cefnogi i fod yn iach yn y gwaith.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Gwella fod Gwasanaeth Adnoddau Dynol y Cyngor yn rhoi cymorth wedi'i dargedu i wasanaethau i gefnogi staff i ddychwelyd i'r gwaith mor amserol â phosibl a nododd fod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i brofi heriau penodol o ran lefelau salwch. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y trefniadau'n cael eu llywio gan wybodaeth amser real a ddarperir i reolwyr gwasanaeth am bresenoldeb staff er mwyn llywio camau gweithredu amserol, gyda Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol y Cyngor yn cynnig ystod eang o gymorth a thriniaethau i staff.  

 

Gofynnodd Aelod pam fod oedi ar rai prosiectau rhaglen gyfalaf wedi bod.  Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau'r Priffyrdd, Gofal Strydoedd a Chludiant fod hyn yn rhannol oherwydd oedi gyda chontractwyr a fu'n anodd ei reoli ar ôl y pandemig o ganlyniad i heriau o ran cyflenwad a galw. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr fod Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn nifer fawr o brosiectau, ac yn gyffredinol, mae'r rhain yn cael eu cyflawni ar amser ac o fewn eu cyllidebau. Nododd y bydd y Cyngor yn parhau i gymhwyso ei drefniadau rheoli prosiect cadarn gyda chontractwyr i sicrhau eu bod nhw'n parhau i gyflawni prosiectau.

 

Tynnodd Aelod sylw at y graddfeydd coch a gwyrdd ar gyfer 'cynnydd hyd yn hyn' yn yr wybodaeth ddiweddaraf o ran cynllun gweithredu'r Cynllun Corfforaethol. Gofynnodd a ddylid ymgorffori graddiad ychwanegol lle mae camau gweithredu ar y trywydd iawn i gael eu cyflawni erbyn dyddiad targed yn y dyfodol. Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at y Gofrestr Risg ac awgrymodd fod angen mwy o sôn am nodi cynnydd yn erbyn rheolaethau a chamau gweithredu.

 

Nododd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Gwella y bydd yr adborth a ddarparwyd yn cael ei ystyried a, lle bo'n briodol, yn cael ei adlewyrchu  ...  view the full Cofnodion text for item 43.

44.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim

 

45.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Dogfennau ychwanegol:

45.

Lythyr