Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes Y Cyngor  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

11.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Barton.

 

12.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

13.

Cofnodion pdf icon PDF 163 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2022 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2022 yn rhai cywir.

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod i Aelodau y byddai dyddiad yn cael ei rannu yn fuan ar gyfer yr ymweliad â'r mawnogydd lleol.

 

14.

Cynllun Trydan Dŵr yng Nghored Trefforest pdf icon PDF 179 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor sy'n rhoi trosolwg o'r gwaith dichonoldeb a gynhaliwyd mewn perthynas â datblygu Cynllun hydro-electrig cwymp bychan yng Nghored Trefforest, Afon Taf, Trefforest, Pontypridd. Mae'r adroddiad yma'n seiliedig ar astudiaeth ddichonoldeb a luniwyd gan gwmni arbenigol sy'n adolygu'r cyfleoedd Ynni D?r sydd ar gael yng Nghored Trefforest.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor drosolwg i'r Is-bwyllgor o waith dichonoldeb sydd wedi'i gwblhau ar gyfer datblygu Cynllun Trydan D?r cwymp bychan yng Nghored Trefforest ar yr Afon Taf, Trefforest, Pontypridd. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar adroddiad dichonoldeb rhagarweiniol wedi'i lunio gan gwmni arbenigol sy'n adolygu'r opsiynau ynni d?r yng Nghored Trefforest.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad gan nodi bod RhCT a'r cymoedd ehangach yn ffodus o gael digonedd o dd?r, a'i bod hi'n gwneud synnwyr i edrych ar y d?r fel ffynhonnell bosibl o gynhyrchu ynni gwyrdd. Roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn bod hyn yn gam cyffrous a chadarnhaol ymlaen ac roedd yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn y dyfodol.

 

Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu y sylwadau blaenorol a gofynnodd i Aelodau edrych am brosiectau tebyg yn eu hardaloedd lleol. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am y cynnydd yng nghostau ynni, sydd wedi gwneud prosiectau o'r fath yn fwy dichonadwy, a chytunodd y byddai gwerthu'r ynni trwy wifren breifat yn arbed mwy o arian.

 

Mewn ymateb i sylwadau'r Aelod o'r Cabinet, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i Aelodau y byddai adroddiad hollgynhwysol sydd â gwybodaeth am tua 30 safle posibl yn RhCT yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf yr Is-bwyllgor.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad o ran y derminoleg 'gwifrau preifat' ac esboniwyd bod y term 'gwifren breifat' yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwahaniaethu rhwng y wifren yn dod o Western Power neu'r Grid Cenedlaethol. Roedd y Cyfarwyddwr wedi gobeithio y byddai'r wifren yn mynd i adeilad sy'n eiddo i'r Cyngor, a hynny er mwyn gwneud yn fawr o'r ynni sy'n cael ei gynhyrchu. Esboniodd na fyddai rhaid i'r Cyngor brynu pob cilowat o ynni wedi'i ddefnyddio gan y grid am bris sy'n bedair gwaith yn fwy.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad llawn gwybodaeth a PHENDERFYNODD yr Is-bwyllgor:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad yn rhan o agenda gwaith Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd;

2.    Ehangu gwariant ymhellach wrth ddatblygu'r cynigion, fel sydd wedi'i nodi yn adran 10.3, er mwyn cynnal astudiaethau dylunio pellach i asesu potensial llawn a datblygu cynigion prosiect manwl; a

3.    Derbyn adroddiadau cynnydd pellach, ar adegau priodol, wrth ddatblygu'r cynigion.

 

 

15.

Cynllun Trydan Dŵr ym Mharc Gwledig Cwm Dâr pdf icon PDF 384 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor sy'n rhoi trosolwg o'r gwaith dichonoldeb a gwblhawyd mewn perthynas â datblygu Cynllun hydro-electrig cwymp mawr ym Mharc Gwledig Cwm Dâr. Mae'r adroddiad yma'n seiliedig ar astudiaeth ddichonoldeb a luniwyd gan gwmni arbenigol a adolygodd hyfywedd cynllun a drafodwyd yn flaenorol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor drosolwg i'r Is-bwyllgor o waith dichonoldeb sydd wedi'i gwblhau ar gyfer datblygu Cynllun Trydan D?r cwymp mawr ym Mharc Gwledig Cwm Dâr. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar astudiaeth ddichonoldeb wedi'i llunio gan gwmni arbenigol a adolygodd ddichonoldeb cynllun wedi'i ystyried o'r blaen.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden yn gadarnhaol am y prosiect gan nodi'r elw ffafriol a'r cyflenwad parhaus o dd?r yn y safle, hyd yn oed mewn cyfnod o sychder. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am yr opsiynau amrywiol ar y safle i gynhyrchu ynni, megis gwesty, caffi a pharc carafanau Parc Gwledig Cwm Dâr, ac roedd yn edrych ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn y dyfodol yn dilyn yr astudiaethau dichonoldeb ac ymgynghoriad.

 

Er gwybodaeth i Aelodau, rhoddodd y Rheolwr Ynni a Lleihau Carbon drosolwg cryno o'r gwahaniaeth rhwng Cynllun Trydan D?r cwymp mawr a chwymp bychan. Cafodd Aelodau wybod bod cwymp bychan yn ymwneud â phwysedd isel a llif mawr o dd?r, ond mae cwymp mawr yn ymwneud â llif bach o dd?r a phwysedd uchel.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad a PHENDERFYNODD yr Is-bwyllgor:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad yn rhan o agenda gwaith Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd;

2.    Ehangu gwariant ymhellach wrth ddatblygu'r cynigion yma, fel sydd wedi'i nodi yn adran 10.2 yr adroddiad, er mwyn cynnal astudiaethau dylunio pellach sy'n asesu potensial llawn y prosiect ac yn helpu i ddatblygu cynigion prosiect manwl; a

3.    Derbyn adroddiadau cynnydd pellach, ar adegau priodol, wrth ddatblygu'r cynigion.

 

 

 

16.

Diweddariad mewn perthynas â'r Prosiect Ôl Troed Carbon ac Adroddiad Carbon Sero-Net Sector Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2021-2022 pdf icon PDF 180 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion  yr Hinsawdd ynghylch Cynllun Carbon Sero-Net Sector Cyhoeddus Cymru a'r adroddiad a gafodd ei gyflwyno gan  Gyngor Rhondda Cynon Taf yn rhan o'r cynllun hwnnw ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2021/22.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Is-bwyllgor am Gynllun Carbon Sero-Net Sector Cyhoeddus Cymru a'r hyn a gyflwynwyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf o dan y drefn honno ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2021/22.

 

Esboniodd y Blaen Swyddog Lleihau Carbon fod y cynllun yn dal i ddatblygu felly roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno tri gofyniad adrodd allyriadau carbon ychwanegol o 2021/22, sef:

 

·       Teithio staff at ddibenion busnes

·       Teithio staff o'r cartref i'r gwaith ac yn ôl

·       Gweithio gartref

 

Talodd y swyddog deyrnged i gydweithwyr ar draws yr Awdurdod Lleol gan fod angen iddyn nhw gasglu data erbyn hyn, pan nad oes rhaid o'r blaen.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Ffyniant a Datblygu ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am y gwaith sylweddol wrth gasglu'r wybodaeth a chreu'r dangosfwrdd hawdd ei ddefnyddio.

 

Adleisiodd y Cadeirydd y sylwadau gan ddiolch i swyddogion am gynnal y gwaith mewn ffordd mor amserol.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg ansawdd y data, a fyddai'n rhoi cyfle i Aelodau a Swyddogion olrhain cynnydd a gwella ymdrechion i ddatgarboneiddio fel Awdurdod Lleol. Nododd yr Aelod o'r Cabinet y newidiadau sydd wedi'u cyflwyno gan Lywodraeth Cymru o ran gofynion cofnodi allyriadau ond roedd o'r farn bod allyriadau'n lleihau ar y cyfan, er gwaethaf yr allyriadau corfforedig yn y gadwyn gyflenwi. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi mentrau megis cynnig y Cyngor i Lywodraeth Cymru am adeiladu ysgolion newydd. Roedd gan un o'r rhain opsiwn sero-net wedi'i ariannu'n llawn.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad a PHENDERFYNODD yr Is-bwyllgor:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad yn rhan o'r gwaith parhaus o dan gylch gwaith Is-Bwyllgor y Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd;

2.    Cyhoeddi'r data ar Ddangosfwrdd Ôl Troed Carbon y Cyngor; a

3.    Derbyn adroddiadau pellach sy'n rhoi diweddariadau ychwanegol am gynnydd pan fydd hi'n addas.

 

 

17.

Strategaeth Cyngor RhCT - Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd pdf icon PDF 156 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu sy'n rhoi cyfle i'r Is-bwyllgor drafod cynigion Plannu Coed ar gyfer RhCT.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu gyfle i'r Is-bwyllgor drafod yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar Strategaeth Ddrafft Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd RhCT.

 

Yn ogystal â hyn, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Is-bwyllgor am adborth a sylwadau'r Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant yn dilyn ei waith cyn y cam craffu ar y Strategaeth Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2022.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden wedi'i siomi gyda diffyg ymatebion gan y cyhoedd i'r ymgynghoriad, ond roedd wedi gwerthfawrogi sylwadau'r rheiny oedd wedi ymateb ac aelodau'r Pwyllgor Craffu. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Cabinet bwysigrwydd plannu coed, a hynny mewn ardaloedd trefol ac mewn parciau.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad a thynnodd sylw at bwysigrwydd gofalu am y coed a gwrychoedd presennol, yn ogystal â phlannu rhai newydd.

 

PENDERFYNODDyr Is-bwyllgor:

1.    Nodi sylwadau ac arsylwadau'r Pwyllgor Craffu – Materion yr Hinsawdd, Gwasanaethau Rheng Flaen a Ffyniant; a

2.    Cymeradwyo'r Strategaeth Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd.

 

 

18.

Dyletswydd Bioamrywiaeth A6 y Cyngor: Adroddiad Tair Blynedd ar gyfer Llywodraeth Cymru 2020-2022 pdf icon PDF 202 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Ffyniant a Datblygu, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Is-bwyllgor am y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran datblygu a gweithredu Cynllun Gweithredu Dyletswydd Bioamrywiaeth A.6 y Cyngor; a cheisio caniatâd i gyflwyno’r Cynllun Gweithredu i Lywodraeth Cymru a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor fel sy’n ofynnol yn ôl Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu y diweddaraf i'r Is-bwyllgor am y cynnydd o ran datblygu a gweithredu Cynllun Gweithredu Dyletswydd Bioamrywiaeth A.6 y Cyngor. Ceisiodd gymeradwyaeth er mwyn cyflwyno'r Cynllun Gweithredu i Lywodraeth Cymru a'i gyhoeddi ar wefan y Cyngor, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad ac i'r swyddogion am y gwaith.

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor:

1.      Ystyried yr wybodaeth yn yr adroddiad a'r cynnydd sydd wedi'i wneud i gynnwys bioamrywiaeth ym mhob gwasanaeth y Cyngor, ers yr adroddiad ffurfiol diwethaf yn 2019; a

2.      Cymeradwyo'r adroddiad ac Atodiad A i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru a'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor.