Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Jones - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

8.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan a Mr A Owen-Hicks, Cyngor Celfyddydau Cymru.

 

9.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant.

 

10.

Cofnodion pdf icon PDF 142 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD Aelodau gymeradwyo cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023.

 

11.

Cyllid Allanol sy'n cael ei ddefnyddio gan Wasanaeth y Celfyddydau yn ystod 2023/24 pdf icon PDF 149 KB

Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllid allanol sy'n cael ei ddefnyddio gan Wasanaeth y Celfyddydau yn ystod 23/24 a'r cyllid fydd ar gael yn y dyfodol o ran Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Gronfa Ffyniant Bro.

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr Strategol - Y Celfyddydau a Diwylliant ddiweddariad i'r Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol am gyllid allanol sy'n cael ei ddefnyddio gan Wasanaeth y Celfyddydau yn ystod 23/24 a'r cyllid fydd ar gael yn y dyfodol o ran Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Gronfa Ffyniant Bro.

 

Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r swyddog am yr adroddiad addysgiadol gan ganmol Gwasanaeth y Celfyddydau am sicrhau cyllid gwerth dros £1.28miliwn ar gyfer Blwyddyn 2023/24 y Cyngor. Pan gafodd hi ei holi am gyfnod y grantiau, dywedodd y swyddog fod yr holl grantiau sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad, ar wahân i gyllid Cyngor Celfyddydau Cymru a'r Gronfa Ffyniant Bro, yn cynrychioli grantiau sy'n cael eu dyfarnnu bob blwyddyn. Mae hyn yn arwain at lefelau o ansicrwydd bob blwyddyn.

 

Siaradodd Aelod yn gadarnhaol am y Gronfa Ffyniant Bro gan nodi y byddai'n rhoi hwb sylweddol i'r ardaloedd lleol. Gan gyfeirio at y cyllid sydd ar gael i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, gofynnodd yr Aelod a oes proses fonitro ar waith i sicrhau bod y cyllid yma'n cael ei ddyrannu'n deg ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a nododd bwysigrwydd datblygu Ardal y Celfyddydau ym Mhontypridd.

 

Rhoddodd Pennaeth y Celfyddydau, Diwylliant a Gwasanaeth y Llyfrgelloedd wybod bod Llywodraeth y DU yn rhoi dyraniad i bob Awdurdod Lleol ac yna mae'r Cabinet yn mynd ati i gymeradwyo cynllun sy'n ymwneud â sut y bydd y cyllid yn cael ei wario. Esboniwyd bod swyddogion yn cynnal trafodaethau ar raddfa ehangach gyda'r diwydiannau creadigol er mwyn cynyddu a chryfhau sgiliau'r gweithlu yn RhCT a hynny drwy weithio gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Er enghraifft, siaradodd y swyddog am ddarpariaeth Prifysgol De Cymru, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd a phwysleisiodd pa mor bwysig yw sicrhau bod y ddarpariaeth yn ymestyn i ardal RhCT trwy'r ddarpariaeth addysg uwch. Roedd y swyddog hefyd wedi sôn am sgwrs ddiweddar gyda Phrifysgol De Cymru yngl?n â gweithio'n well gyda'n gilydd.

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden ar y cyfle i longyfarch swyddogion ar sicrhau'r cyllid sylweddol gan nodi y bydd trigolion RhCT yn elwa o'r cyllid yma. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi bod Theatrau RhCT wedi derbyn cynnig amodol o £153,065 y flwyddyn ar gyfer y tair blynedd nesaf a siaradodd am yr arlwy amrywiol sydd ar gael yn y theatrau.

 

O ran cyllid Teuluoedd yn Gyntaf, nododd yr Aelod o'r Cabinet bwysigrwydd gweithio gyda phobl ifainc er mwyn meithrin eu hyder. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch iawn o glywed bod pobl ifainc o RCT, sydd wedi bod yn rhan o'r rhaglen Fortitude drwy Miwsig, bellach yn llwyddiannus ar y radio.

 

Adleisiodd y Cadeirydd y sylwadau blaenorol a siaradodd am y gwelliannau sylweddol sydd wedi'u cyflwyno i'r theatrau o ganlyniad i gyllid y Gronfa Ffyniant Bro. Siaradodd y Cadeirydd am raglen Metro De Cymru ac roedd yn gobeithio y byddai cynnydd yn nifer y trenau sy'n rhedeg gyda'r nos a'r bwriad i sefydlu cynllun parcio a theithio yn cynyddu'r galw yn y theatrau a'u gwneud nhw'n  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

Y Newyddion Diweddaraf ynglŷn â Gwasanaeth y Llyfrgelloedd pdf icon PDF 183 KB

Derbyn y newyddion diweddaraf am gyflawniad Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Blaen Swyddog y Llyfrgelloedd ddiweddariad ar gyflawniad Gwasanaeth y Llyfrgelloedd y Cyngor. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad manwl o'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu, nifer yr ymwelwyr a lefelau gweithgarwch.

 

Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r swyddog am y diweddariad manwl gan adleisio casgliad yr adroddiad, sy'n nodi: ‘RCT council is proud of its Library Service and the manner in which it adapted its services during the Covid pandemic and the hard work it’s staff have carried out to return service delivery to pre-pandemic levels after the lifting of Covid restrictions’.

 

Siaradodd y Cadeirydd am amrywiaeth y llyfrgelloedd yn RhCT, sydd i'w gweld yn yr adroddiad sy'n cael ei gyflwyno i Aelodau. Roedd y Cadeirydd wedi canmol amrywiaeth eang y mentrau sy'n cael eu cynnal yn y llyfrgelloedd, megis y Caffi Dementia, yn rhan o ymgyrch Treorci i ddod yn dref sy'n deall dementia. Roedd y Cadeirydd wedi canmol yr ystod eang o adnoddau sydd ar gael yn y llyfrgelloedd a'r e-lyfrgell.

 

O ran yr adborth sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad, roedd y Cadeirydd yn fodlon gyda lefel y gwaith ymgysylltu sydd wedi'i gynnal gan bwysleisio pa mor bwysig yw hi i blant a phobl ifainc ddod yn rhan o bethau a hynny i sicrhau bod hanes RhCT yn fyw.

 

Cyn iddo ddod â'r drafodaeth i ben, roedd y Cadeirydd yn cydnabod bod pob Awdurdod Lleol yn wynebu amser heriol ond pwysleisiodd bwysigrwydd y gwasanaeth gwerthfawr yma.

 

Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden y sylwadau am gyfleusterau bywiog y llyfrgelloedd a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch a chanmol y staff sy'n gweithio yn y llyfrgelloedd.

 

Gofynnodd Aelod a fydd y llyfrgelloedd yn chwarae rhan yn Eisteddfod RhCT yn 2024. Rhoddodd y swyddog wybod y bydd elfennau o gasgliad hanes lleol y Llyfrgelloedd yn cael eu harddangos yn ein llyfrgelloedd yn ystod yr Eisteddfod a bydd pob llyfrgell yn cael ei defnyddio i rannu'r gwaith ar hyd a lled RhCT a sicrhau bod pob ardal leol yn rhan o'r llwyddiant.

 

Holodd Aelod pa waith sy'n cael ei wneud i ddenu plant a phobl ifainc i'r llyfrgelloedd ac a yw llais y disgybl yn dylanwadu ar y detholiad o lyfrau sydd ar gael yn y llyfrgelloedd. Rhoddodd y Swyddog sicrwydd fod y gwasanaeth yn ymgysylltu â charfan Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor ac yn ymweld ag ysgolion os yw'n bosibl. O ran gofyn i blant pa lyfrau hoffen nhw eu gweld yn y llyfrgelloedd, rhoddodd y swyddog wybod nad oes proses ar waith ond gan amlaf, caiff unrhyw lyfrau y mae unigolyn yn gofyn amdanyn nhw eu prynu, boed hynny'n gais gan oedolyn neu blentyn. Rhoddodd y swyddog wybod y bydd yn gwrando ar argymhelliad yr Aelod. 

 

PENDERFYNODD y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol:

1.    Trafod cynnwys yr adroddiad a nodi'r wybodaeth sydd wedi'i darparu.