Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 07385401954
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol y Cyngor. Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, Rheolwr Datblygu Rhaglenni'r Theatrau a Chynulleidfaoedd a'r Prif Lyfrgellydd.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â'r Cod Ymddygiad, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher y buddiant personol canlynol mewn perthynas ag eitemau ar yr agenda: 'Rhag ofn y bydd unrhyw gyfeiriad at YMa, Pontypridd, neu drafodaeth amdano, rwy'n gyn-ymddiriedolwr.'
|
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2023 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNODD y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2023 yn rhai cywir.
|
|
Rhaglen Waith y Grŵp Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol 2023-2024 PDF 128 KB Derbyn Rhaglen Waith Ddrafft y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol ar gyfer Blwyddyn 2023-2024 y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Swyddog Busnes Rheoleiddiol a Gweithredol Rhaglen Waith (Ddrafft) y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2023-24.
Nododd y Swyddog fod y rhaglen waith ddrafft yn ddogfen hyblyg a byddai modd ei diwygio i adlewyrchu unrhyw newidiadau i anghenion busnes yn ystod y flwyddyn.
Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r swyddog am yr adroddiad a PHENDERFYNWYD: 1. Cyflwyno sylwadau a chymeradwyo'r rhaglen waith ddrafft, gan nodi y bydd modd ei diwygio i adlewyrchu unrhyw flaenoriaethau sy'n newid yn ystod y flwyddyn.
|
|
Theatrau Rhondda Cynon Taf - Cynlluniau Lleihau Carbon PDF 158 KB Derbyn gwybodaeth am gynlluniau Lleihau Carbon Theatrau Rhondda Cynon Taf.
Cofnodion: Rhannodd y Rheolwr Strategol - Y Celfyddydau a Diwylliant y newyddion diweddaraf â'r Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol am gynlluniau lleihau carbon Theatrau RhCT. Roedd hyn yn cynnwys manylion am sut mae'r gwasanaeth yn cefnogi'r Cyngor i gyflawni'r Strategaeth Hinsawdd Ystyriol 2022-2025.
Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, a hithau'n Aelod o Is-bwyllgor y Cabinet ar faterion yr Hinsawdd, ei bod hi'n falch o weld bod staff yn nodi cyfleoedd lleihau carbon posibl yn ein theatrau, gan rannu'r dulliau cadarnhaol o weithio gyda grwpiau sy'n defnyddio'r theatrau, megis defnyddio conffeti bioddiraddadwy. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn partneriaeth ag Adran Eiddo'r Cyngor, sydd wedi arwain at arbedion ariannol a charbon.
Roedd un Aelod wedi siarad am yr heriau ariannol y mae pob Awdurdod Lleol yn eu hwynebu, gan adleisio'r sylwadau blaenorol am yr arbedion a nodwyd. Gan gyfeirio at Adran 4.7 o'r adroddiad, holodd yr Aelod a oes unrhyw gyfleoedd cyllid ar gael ar gael i fwrw ymlaen ag uchelgeisiau'r Llyfr Gwyrdd ar gyfer y Theatrau. Roedd y Rheolwr wedi cydnabod bod sicrhau cynaliadwyedd yn yr adeiladau hanesyddol yma'n cyflwyno heriau ym mhob rhan o sector y Celfyddydau a rhoddodd wybod bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cynnal arolwg o'r anghenion cyfalaf ym mhob rhan o'r sector yn ddiweddar. Mae'n bosibl y bydd cyllid ar gael o ganlyniad i hynny, os yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod hyn yn addas.
Roedd un Aelod yn falch o nodi'r arbedion ynni blynyddol amcangyfrifedig ar gyfer y Cyngor a'r blaned. Gan gyfeirio at yr ymchwil sy'n cael ei drafod yn Adran 4, holodd yr Aelod p'un a oedd y gwaith yma wedi'i gynnal gan RCT neu gorff arall. Rhoddodd y Rheolwr wybod bod y gwaith ymchwil wedi'i gynnal gan y sector, ni chafodd y gwaith ei gomisiynu gan RCT.
Roedd y Cadeirydd wedi cydnabod bod Cymru wedi datgan argyfyngau Hinsawdd a Natur, ac roedd y Cadeirydd o'r farn bod yr adroddiad yn enghraifft gadarnhaol o sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i chwarae'i ran wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau yma.
Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r Swyddog am yr adroddiad a PHENDERFYNODD y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol: 1. Trafod cynnwys yr adroddiad a chyflwyno sylwadau am yr wybodaeth sydd wedi'i darparu.
|
|
Y Rhaglen Gynyrchiadau a Chyd-gynyrchiadau PDF 227 KB Derbyn Rhaglen Gynyrchiadau a Chyd-gynyrchiadau Theatrau Rhondda Cynon Taf.
Cofnodion: Rhannodd Rheolwr Strategol - Y Celfyddydau a Diwylliant y newyddion diweddaraf â'r Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol am Raglen Gynyrchiadau a Chyd-gynyrchiadau'r Gwasanaeth Celfyddydau.
Tynnodd y Rheolwr sylw'r Aelodau at Adran 5 yn yr adroddiad, sy'n darparu trosolwg o bob un o'r cynyrchiadau a'r cyd-gynyrchiadau canlynol: · Turning the Wheel - cyd-gynhyrchiad gan Theatrau RhCT a'r ysgrifennydd a chynhyrchydd, Keiran Bailey; · Knuckles - cyd-gynhyrchiad gan Theatrau RhCT a Gurnwah Productions; · Ink'd - cyd-gynhyrchiad gan Theatrau RhCT a Gurnwah Productions; · Sue (the Hippopotamus Who Doesn't Identify as a Hippopotamus) - cynhyrchiad gan Theatrau RhCT, wedi'i ddatblygu gan drigolion creadigol, Menna Rogers a Jemima Nicholas; · Pantomeim RhCT - cynhyrchiad gan Theatrau RhCT wedi'i gyfarwyddo gan Richard Tunley; · Carwyn - cyd-gynhyrchiad gyda Gareth Bale ac Owen Thomas, ysgrifenwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd; · No Man's Land - cyd-gynhyrchiad gan Theatrau RhCT a'r cynhyrchydd lleol, Kyle Stead; a · Gen Z Fest - wedi'i gynhyrchu gan Kyle Stead, gyda chymorth Theatrau RhCT.
Roedd Aelod yn edrych ymlaen at weld y cynyrchiadau yma yn y dyfodol. Nododd Aelod mai un o amcanion y gwasanaeth yw sicrhau bod achlysuron a gweithgareddau Cymraeg yn llunio rhan annatod o'n rhaglen ar gyfer y celfyddydau a holodd sawl cynhyrchiad sydd wedi'u nodi sydd ar gael yn Gymraeg, gofynnodd am wybodaeth ynghylch faint o arian sy'n cael ei wario ar ddatblygu artistiaid Cymraeg ledled y Fwrdeistref Sirol.
Rhoddodd y Swyddog wybod bod o leiaf 2 o'r cynyrchiadau uchod yn cynnwys elfen o'r Gymraeg, boed hynny'n brosiect Cymraeg neu brosiect sy'n mabwysiadu dull dwyieithog. O ran gwariant, rhoddodd y swyddog wybod nad oedd canran uchel yn cael ei wario ar gynyrchiadau Cymraeg, yn rhannol o ganlyniad i argaeledd y cynnyrch sy'n addas ar gyfer y lleoliad a'r cynulleidfaoedd. Siaradodd y Swyddog yn gadarnhaol am gynhyrchiad 'Shirley Valentine' a gafodd ei gyflwyno yn Gymraeg yn Theatr y Parc a'r Dâr y llynedd ond pwysleisiodd fod y sector gyfan wedi sylweddoli bod angen i raglenni Saesneg a Chymraeg fod yn berthnasol i'r gynulleidfa. Siaradodd y Swyddog yn gadarnhaol am Ganolfan Garth Olwg, lle mae'r rhan fwyaf o'r rhaglen yn cael ei darparu'n Gymraeg, mae hyn yn rhoi cyfle i'r gwasanaeth dyfu'r gynulleidfa yn y lleoliad yma ac ymgysylltu â rhaglenni Cymraeg. Esboniwyd mai'r uchelgais yw cynyddu nifer y cynyrchiadau Cymraeg yn y rhaglen wrth i ni baratoi ar gyfer Eisteddfod 2024. Nodwyd ei bod hi'n bosibl y bydd gwaddol yr Eisteddfod yn arwain at gynnydd yn nifer y rhaglenni Cymraeg ledled y Fwrdeistref Sirol.
Roedd yr Aelod wedi diolch i'r Swyddog am yr ymateb a holodd pa waith sy'n cael ei wneud gyda phobl ifainc drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn dod â'r bobl yma ynghyd i ddatblygu gwaith. Roedd y Swyddog wedi cydnabod bod cyfleoedd i hyrwyddo'r iaith a datblygu gwaith gyda phobl ifainc, a chyfeiriodd at achlysur 'Make It!' a gafodd ei gynnal yn Theatr y Parc a'r Dâr yn ddiweddar. Roedd y Swyddog wedi nodi ei bod hi'n galonogol gweld nifer o'r bobl ifainc oedd wedi cymryd rhan yn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn rhai brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Cofnodion: Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i ddiolch i Reolwr y Celfyddydau a'r Diwydiannau Creadigol, ar ran Aelodau'r Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol, am ei gwaith hi gan ddymuno pob dymuniad da iddi wrth iddi ymddeol o'r Awdurdod Lleol. |