Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  07385401954

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

6.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan.

 

7.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

8.

Cofnodion pdf icon PDF 150 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD Aelodau gymeradwyo cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2022.

 

 

9.

Darpariaeth Cerddoriaeth Ieuenctid pdf icon PDF 124 KB

Derbyn diweddariad mewn perthynas â mentrau cerddoriaeth ieuenctid.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Reolwr y Celfyddydau a Diwydiannau Creadigol ddiweddariad manwl i’r Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol mewn perthynas â'r ddarpariaeth cerddoriaeth ieuenctid sy'n cael ei darparu gan y Gwasanaeth Celfyddydau.

 

Tynnodd y swyddog sylw'r Aelodau at Adran 5 o'r adroddiad, sy'n amlinellu sawl prosiect ar gyfer pobl ifainc rhwng 8 a 25 oed, sy'n ceisio gwella'u hunan-barch a datblygu cydnerthedd.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r swyddog am yr adroddiad cynhwysfawr gan dynnu sylw at fanteision gwerthfawr sydd wedi'u nodi megis hunan-barch, llesiant a chydnerthedd ymhlith pobl ifainc. Roedd y Cadeirydd wedi canmol y Rhwydwaith Hyrwyddwyr Ifainc a'r cyfleoedd sydd ar gael i helpu pobl i ragori.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden yn gadarnhaol am yr wybodaeth a ddarparwyd gan nodi gwerth prosiectau o'r fath a rhaglenni sy'n cynnig cyfleoedd i bobl ifainc ymgysylltu ag eraill a dysgu sgiliau newydd. Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet y bartneriaeth gydweithio  rhwng y Gwasanaeth Celfyddydau a'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid gan nodi pwysigrwydd sicrhau bod pobl ifainc yn dysgu sgiliau newydd a chyfleoedd gwaith, yn ogystal â magu hyder a chymryd rhan mewn arddangosfeydd proffesiynol.

 

Roedd Aelod arall wedi adleisio sylwadau blaenorol gan bwysleisio manteision y rhaglenni o ran iechyd a lles.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Ieuenctid a'r Gymraeg wedi canmol y mentrau ac roedd o'r farn bod modd gweld y manteision i bobl ifainc o ran cyflogaeth, iechyd a lles, ledled y Fwrdeistref Sirol.  Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi siarad am y pwysau sydd ar bobl ifainc, ysgolion a theuluoedd o ganlyniad i bandemig Covid-19 ac roedd o'r farn bod yr adroddiad yn enghraifft o arfer gorau y dylid ei rannu.

 

Roedd cynrychiolydd Cyngor Celfyddydau Cymru wedi awgrymu bod yr adroddiad yn cael ei rannu â'r Rheolwr Portffolio newydd ar gyfer y Celfyddydau a Phobl Ifainc fel enghraifft o arfer gorau.

 

PENDERFYNODDyGr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol:

1.    Trafod cynnwys yr adroddiad a chyflwyno sylwadau ar yr wybodaeth a ddarparwyd.

 

10.

Prosiect Treftadaeth Diwygio Delweddau pdf icon PDF 183 KB

Derbyn gwybodaeth am brosiect Diwygio Delweddau, sy'n cael ei gefnogi gan grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a'i arwain gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

 

Cofnodion:

Rhannodd y Prif Lyfrgellydd wybodaeth â'r Gr?p Llywio am brosiect 'Diwygio Delweddau', sy'n cael ei gefnogi gan grant Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a'i arwain gan Wasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

 

Cafodd Aelodau wybod am gynnydd y prosiect, a roddodd gyfle i ailadeiladu capasiti yn Rhondda Cynon Taf a'r gymuned mewn perthynas â threftadaeth; a cheisio ymgysylltu ag ystod o bartneriaid ac unigolion ledled y Fwrdeistref.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r Swyddog am yr adroddiad cynhwysfawr gan bwysleisio pwysigrwydd treftadaeth a'r angen i ddathlu ystod o bobl adnabyddus o RCT.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Ieuenctid a'r Gymraeg hefyd wedi nodi ei fod e'n gyffrous am y prosiect a chytunodd fod gan RCT hanes diwydiannol a chynddiwydiannol. Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi sôn bod archwilio hanes yn allweddol wrth sicrhau ymdeimlad o berthyn a chymuned ac roedd e'n falch o nodi bod sawl gwirfoddolwr wedi ymgysylltu â'r prosiect, fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad.

 

Roedd Aelod arall wedi siarad yn gadarnhaol am y Prosiect Treftadaeth gan awgrymu bod swyddogion yn ymgysylltu â churadur newydd Amgueddfa Pontypridd i wella'r ddarpariaeth sydd ar gael ledled y Fwrdeistref.

 

PENDERFYNODD yr Aelodau:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad mewn perthynas â'r prosiect, cynnydd a'r camau nesaf.

 

 

 

 

11.

Aelodaeth y Grŵp pdf icon PDF 116 KB

Derbyn diweddariad mewn perthynas â'r newidiadau arfaethedig i aelodaeth Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol, yn unol â blaenoriaethau Adolygiad Buddsoddi 2023 Cyngor Celfyddydau Cymru.

 

Cofnodion:

Rhannodd Reolwr Strategol - Y Celfyddydau a Diwylliant fanylion am y newidiadau arfaethedig i Aelodaeth y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol, yn unol â blaenoriaethau Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2023.

 

Tynnodd y swyddog sylw'r Aelodau at Adran 6 o'r adroddiad, cynigwyd bod:

·       Aelod o Banel Dinasyddion y Fwrdeistref, Fforwm Ieuenctid RhCT a'r Gr?p Cynghori Pobl H?n yn cael eu gwahodd i ymuno â'r Gr?p Llywio, gan ystyried y ffordd y mae modd dod o i hyd i ragor o gynrychiolwyr o'r gymuned yn y dyfodol;

·       Bydd gweithiwr proffesiynol allanol o'r celfyddydau yn cael ei recriwtio, yn dilyn ymddiswyddiad yr Aelod Cyfetholedig a oedd yn cyflawni'r rôl yma; a

·       Bod Cadeirydd y panel hefyd yn dod yn Aelod o'r Gr?p Llywio a hynny'n dilyn y penderfyniad i sefydlu Panel Cymunedol yn y dyfodol.

 

Pwysleisiodd y swyddog fod trafodaethau am faterion aelodaeth yn y camau cynnar ar hyn o bryd a dydy'r Panel Cymunedol sydd wedi'i nodi uchod ddim wedi cael ei sefydlu hyd yn hyn.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r Swyddog am y diweddariad gan nodi bod ymgysylltu â'r gymuned yn hollbwysig.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden wedi manteisio ar y cyfle i ddiolch i'r Aelod Annibynnol, a oedd wedi ymddiswyddo o'i rôl yn ddiweddar gan nodi bod ei gyfraniad ef wedi annog rhyngweithio da a herio. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn cytuno gyda sylwadau'r Cadeirydd mewn perthynas ag ymgysylltu gan groesawu'r cyfle i glywed barn y gymuned er mwyn cwrdd ag anghenion lleol.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Ieuenctid a'r Gymraeg wedi croesawu'r cynigion ond yn effro i'r ffaith bod modd i grwpiau mwy colli ffocws. Roedd yr Aelod o'r Cabinet wedi sôn am bwysigrwydd ystyried priodoleddau, diddordebau ac arbenigedd unrhyw benodiadau pellach. Roedd y Swyddog wedi pwysleisio bod y cynigion yn y camau cynnar gan nodi sylwadau'r Aelod o'r Cabinet.

 

PENDERFYNODDy Gr?p Llywio:

1.    Cymeradwyo'r cynnig i newid aelodaeth y Gr?p Llywio; a

2.    Bod Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yn rhoi diweddariad i'r Arweinydd yngl?n â'r newid i aelodaeth er mwyn i'r Arweinydd gymeradwyo'r newid.

 

 

12.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn rhai brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd wedi siarad am achlysur Ogof Siôn Corn a'r pantomeim a gafodd ei gynnal yn Theatr y Parc a'r Dâr, gan ddiolch i bawb oedd ynghlwm â'r achlysuron gwych dros y Nadolig.

 

Roedd Aelod arall wedi adleisio sylwadau'r Cadeirydd gan siarad yn gadarnhaol am ei phrofiad hi yn y pantomeim. Roedd yr Aelod wedi sôn bod y pantomeim ymhlith y gorau mae hi erioed wedi'i weld.