Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 07385401954
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn bresennol i gyfarfod y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol D. Grehan.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â'r Cod Ymddygiad, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher y buddiant personol canlynol mewn perthynas ag eitem ar yr agenda: 'Rwy'n ymddiriedolwr yr YMCA ym Mhontypridd. Mae'n bosibl y caiff hyn ei gyfeirio ato mewn trafodaethau'.
|
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2022 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNODD Aelodau gymeradwyo cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2022.
|
|
Rhaglen Waith 2022-2023 PDF 128 KB Derbyn Rhaglen Waith Ddrafft y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol ar gyfer Blwyddyn 2022-2023 y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Blaen Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd y rhaglen waith ddrafft ar gyfer Blwyddyn 2022-2023 y Cyngor i'r Gr?p Llywio.
Cafodd Aelodau wybod bod yr Arweinydd wedi rhoi gwybod am sawl newid i'w Gynllun Dirprwyo yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2022. Un o'r newidiadau oedd y Cylch Gorchwyl diweddaraf ar gyfer y Gr?p Llywio. Esboniwyd bod gan y Gr?p Llywio gylch gwaith ehangach nawr, a hynny er mwyn trafod llyfrgelloedd a threftadaeth. Byddai hyn yn cael ei adlewyrchu mewn adroddiadau yn y dyfodol.
Nododd y Swyddog fod y rhaglen waith yn ddogfen hyblyg a byddai modd ei diwygio i adlewyrchu unrhyw newidiadau i anghenion busnes yn ystod y flwyddyn, a gofynnodd i Aelodau nodi ei chynnwys.
PENDERFYNODDAelodau: 1. Rhoi sylwadau, fel y bo'n briodol, ar y rhaglen waith ddrafft; 2. Cymeradwyo'r rhaglen waith ddrafft, a bydd modd ei diwygio i adlewyrchu unrhyw flaenoriaethau sy'n newid yn ystod y flwyddyn.
|
|
Adolygiad Buddsoddi a Chynllun Busnes Cyngor y Celfyddydau PDF 151 KB Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas ag Adolygiad Buddsoddi a Chynllun Busnes Cyngor y Celfyddydau.
Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Strategol Dros Dro - Y Celfyddydau a Diwylliant wybod i Aelodau'r Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol am y cais y mae Theatrau RhCT yn bwriadu ei gyflwyno i Adolygiad Buddsoddi 2023 Cyngor Celfyddydau Cymru, a'i ganolbwynt arfaethedig ar gyfer y dyfodol.
Nododd y Cadeirydd yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar wasanaeth y Celfyddydau a Diwylliant ond roedd yn falch o nodi'r uchelgeisiau sydd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad mewn perthynas â Hwb Diwylliannol Treorci a datblygiadau Theatr y Colisëwm.
Adleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg sylwadau'r Cadeirydd ac roedd yn falch o nodi uchelgeisiau'r gwasanaeth. Roedd o'r farn y dylid canmol hyn. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am waith y gwasanaeth dros y blynyddoedd diwethaf, a gafodd ganmoliaeth ffafriol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chafodd ei adlewyrchu yn y setliadau refeniw a dderbyniwyd gan yr Awdurdod Lleol. Aeth yr Aelod o'r Cabinet ati i gydnabod y sefyllfa ariannol bresennol ond roedd wedi gobeithio y byddai cyllid yn parhau. Canmolodd y gwasanaeth mewnol sy'n gwneud cysylltiadau â phob gwasanaeth y Cyngor. Daeth yr Aelod o'r Cabinet i gasgliad trwy bwysleisio pa mor werthfawr oedd y gwasanaeth, a'i bwysigrwydd o ran yr Eisteddfod Genedlaethol, fyddai'n cael ei chynnal yn RhCT yn 2024.
Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden yn gadarnhaol am gynnwys yr adroddiad a'r datblygiadau cyffrous. Canmolodd yr Aelod o'r Cabinet y garfan am feddwl yn rhagweithiol ac am wneud cysylltiadau â phynciau pwysig megis yr argyfwng hinsawdd.
Siaradodd un Aelod am y datblygiadau cadarnhaol ym Mhontypridd megis y llyfrgell, Canolfan Gelf y Miwni a'r YMCA, a chanmolodd Reolwr y Celfyddydau a'r Diwydiannau Creadigol am ei gwaith. Siaradodd yr Aelod am fywiogrwydd yng nghanol y dref ac roedd yn falch o nodi bod y gwasanaeth mor groesawgar ac amrywiol wrth ymgysylltu â phobl ifainc a chydnabod talent.
Nododd cynrychiolydd Cyngor Celfyddydau Cymru fod RhCT yn un o'r Awdurdodau Lleol mwyaf deinamig yn ddiwylliannol yng Nghymru a siaradodd am y sector diwylliannol bywiog yn broffesiynol ac yn wirfoddol. Mewn perthynas â'r adolygiad buddsoddi sydd ar y gweill, nododd CCC fod RhCT mewn sefyllfa dda o ystyried y gwaith sydd wedi'i gynnal dros y blynyddoedd diwethaf, ac esboniodd fod y theatrau yn bodloni nifer o flaenoriaethau CCC gyda'r Awdurdod Lleol yn dangos awydd i fodloni rhagor. Rhoddwyd sicrwydd i Aelodau y byddai trafodaethau mwy manwl yn cael eu cynnal rhwng CCC a swyddogion mewn perthynas â'r broses ymgeisio cyn gynted ag y bydd dogfennau a chanllawiau terfynol yn cael eu cyhoeddi.
Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am y sylwadau a chyn dod â'r cyfarfod i ben, rhoddodd wybod i Aelodau mai dyhead G?yl Celfyddydau Cwm Rhondda, Treorci oedd rhannu'r achlysur ledled RhCT ac edrychodd ymlaen at weithio tuag at hynny yn y dyfodol.
PENDERFYNODDAelodau: 1. Ystyried cynnwys yr adroddiad a gwneud sylwadau ar y blaenoriaethau allweddol arfaethedig.
|