Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Theatr y Parc a'r Dâr, Station Road, Treorci, CF42 6NL

Cyswllt: Sarah Handy - Graduate Scrutiny Research Officer  01443 424099

Eitemau
Rhif eitem

8.

Croeso

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Gr?p Llywio’r Pwyllgor Gweithredu Celfyddydau a Diwylliant Strategol a diolchodd i bawb am ddod.

 

9.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher y buddiant personol canlynol: "Rwy'n Ymddiriedolwr yr YMCA".

10.

Cofnodion pdf icon PDF 60 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2019 yn rhai cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2019 yn rhai cywir.

 

11.

RHAGLEN DYLUNIO GWERTH CYHOEDDUS AT DDIBEN - CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU pdf icon PDF 125 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol yngl?n â Rhaglen Dylunio Gwerth Cyhoeddus at Ddiben Cyngor Celfyddydau Cymru. 

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant ddiweddariad i'r Pwyllgor mewn perthynas â chynnydd Theatrau RhCT ar Raglen Dylunio Gwerth Cyhoeddus â Phwrpas Cyngor Celfyddydau Cymru.

 

Atgoffodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant yr Aelodau fod 'Dylunio Gwerth Cyhoeddus â Phwrpas' yn rhaglen 7 mis a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac a ddatblygwyd ac a ddarperir gan The Experience Business ar gyfer tri o'i leoliadau celfyddydau perfformio Portffolio Celfyddydol Cymru. Atgoffwyd yr aelodau mai Theatrau RhCT, Theatr Felinfach yn Llanbedr Pont Steffan a Chanolfan Ucheldre yng Nghaergybi oedd y tri lleoliad a ddewiswyd i gymryd rhan yn y rhaglen, ar ôl cyflwyno mynegiant o ddiddordeb. Bydd RhCT yn canolbwyntio ar Theatr y Parc a'r Dâr yn Nhreorci at ddibenion y rhaglen hon.

 

Wrth siarad am y sefyllfa bresennol, dywedodd y Rheolwr wrth yr Aelodau fod ymchwil ddiweddar wedi nodi bod gan Theatr y Colisëwm ddalgylch mwy ymgysylltiedig o fewn amser gyrru 20 munud, tra bod dalgylch y Parc a'r Dâr yn dangos bod gan 85% lefel isel o ymgysylltiad gyda'r celfyddydau. Rhoddodd y Rheolwr wybod felly fod angen dull sy'n cynnwys rhagor o gymorth ar Theatr y Parc a'r Dâr a thargedu'r sawl i'w cynnwys.

 

O ran y ffordd ymlaen, dywedodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant wrth yr Aelodau, o ganlyniad i ddatblygu'r Canolfannau Cymuned ledled Rhondda Cynon Taf, mae Theatrau RhCT yn hyrwyddo lleoliad Theatr y Parc a'r Dâr yng nghanol y dref a ger y llyfrgell fel cyfle i archwilio'i photensial fel Canolfan Ddiwylliannol yn y Gymuned. Cafodd yr Aelodau wybod am y canlyniadau disgwyliedig canlynol: cysylltu cymunedau; galluogi pobl i gyflawni'u potensial; gwneud y mwyaf o les corfforol a meddyliol pobl; darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell sy'n hygyrch, yn gost effeithiol ac wedi'u cyd-gysylltu; hyrwyddo a diogelu cymunedau, diwylliant a threftadaeth.

 

O ran Gwerth Cyhoeddus, cafodd yr Aelodau eu hatgoffa o'r gweithdy dau ddiwrnod a gafodd ei gynnal ym mis Mehefin 2019, wedi'i hwyluso gan 'The Business Experience'. Cafodd yr Aelodau wybod y cafodd cyfres o aseiniadau eu gosod yn dilyn y gweithdy, er mwyn tynnu canlyniadau'r gweithdy ynghyd. Cafod y rhain eu rhannu mewn diwrnod Dysgu Cymheiriaid ym mis Medi 2019. Rhoddodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant wybod i'r Aelodau bod y gweithdy nesaf wedi canolbwyntio ar ddatblygu mentrau newydd ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd, yn seiliedig ar Theori Newid, a nodi prototeipiau i'w datblygu'n Theori Gweithredu.

 

I grynhoi, atgoffodd y Rheolwr yr Aelodau fod cymryd rhan yn y rhaglen wedi galluogi'r Cyngor i ddeall ei gyd-destun gweithredu o fewn Treorci ac i bennu pum gwerth craidd ar gyfer Theatr y Parc a'r Dâr Theatrau RhCT: Creadigrwydd; Gwreiddiau; Calon; Cysylltedd; a, Llawenydd. 

 

Cafwyd trafodaethau a chanmolodd y Cadeirydd y rhaglen, yn enwedig y sesiynau gweithdy a'r ffordd yr anogwyd Aelodau i feddwl am Theatrau RhCT a'i rôl yn y gymuned ehangach.

 

Rhybuddiodd Aelod yngl?n â rhoi'r ffocws ar drigolion Treorci  a phwysleisiodd fod angen i RCT annog ystod ehangach o ymwelwyr i fynd i Theatr y  ...  view the full Cofnodion text for item 11.

12.

RHAGLEN GWYDNWCH CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU A DATBLYGIAD Y BLWCH DU

Derbyn diweddariad ar lafar

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu a Gweithrediadau’r Theatrau ddiweddariad ar lafar i'r Aelodau mewn perthynas â Rhaglen Gwydnwch Cyngor Celfyddydau Cymru a Datblygiad y Blwch Du.

 

Diweddarodd y Rheolwr yr Aelodau mewn perthynas â'r gwaith adnewyddu yn Theatr y Parc a'r Dâr. Dywedodd y Rheolwr wrth yr Aelodau fod y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau bythefnos yn ôl a bod ardal y bar wedi'i henwi'n 'Stiwdio 1'. Cafodd yr Aelodau wybod mai'r dyddiad lansio swyddogol yw 6 Chwefror 2020 (i'w gadarnhau).

 

Cafwyd trafodaethau ac roedd y Gr?p Llywio yn falch o ddysgu am ddatblygiadau diweddar yn y maes hwn. Nododd y Cadeirydd y bydd y gofod yn hynod ddefnyddiol ar gyfer cynyrchiadau bach. Holodd Aelod a oedd unrhyw ddarpariaethau wedi'u gwneud ar gyfer defnyddio sain yn yr ardal. Cadarnhaodd y Rheolwr fod y rheolwr technegol yn y theatr yn y broses o'i hadolygu a chadarnhaodd y bydd gan yr ardal ei defnydd ei hun o offer sain.

 

Parhaodd y trafodaethau a holodd y Cadeirydd a fyddai'r Awdurdod Lleol yn rhan o raglen ariannu Cyngor Celfyddydau Cymru. Cadarnhaodd Rheolwr Datblygu a Gweithrediadau’r Theatrau mai RhCT oedd yr unig Awdurdod Lleol yn achlysur Gwydnwch Cyngor Celfyddydau Cymru yng Nghaerdydd ac felly bydd ganddo lais mewn perthynas â chyllid. Canmolodd yr aelod cyfetholedig RCT a'i agwedd ragweithiol tuag at y Celfyddydau yn y Fwrdeistref Sirol. Pwysleisiodd Aelod arall bwysigrwydd annog pobl ifainc yn y Fwrdeistref Sirol i fwynhau'r Celfyddydau. Cytunodd yr aelod cyfetholedig a nododd fod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn rhoi pwyslais ar y Celfyddydau a phwysigrwydd annog pobl ifainc i gymryd rhan yn y Celfyddydau.

 

Wrth ddod i gasgliad, diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr am y diweddariad, gan nodi ei fod e'n edrych ymlaen at weld y gwaith adnewyddu yn y dyfodol.

 

13.

ADOLYGIAD BUDDSODDI CYNGOR CELFYDDYDAU CYMRU

Derbyn diweddariad ar lafar

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu a Gweithrediadau’r Theatrau ddiweddariad llafar i'r Gr?p yngl?n ag Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru. 

 

Rhoddodd y Rheolwr wybod i'r Aelodau bod Adolygiad Buddsoddi yn y Celfyddydau 2020 yn dechrau gyda cham ymgynghori, sy'n gorffen ar 10 Ionawr 2020. Cadarnhaodd y Rheolwr fod y ddolen i'r ymgynghoriad wedi'i hanfon trwy'r Swyddog Craffu Graddedig ac y bydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu i'r Gr?p Llywio ar 6 Chwefror 2020.

 

Cafwyd trafodaethau a chanmolodd yr aelod cyfetholedig RCT a'i raglen Gelfyddydol. Serch hynny, rhybuddiodd yngl?n â'r posibilrwydd o doriadau ariannol pellach yn y maes hwn. Cytunodd y Cadeirydd, a nododd fod Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru 2015 yn rhoi pwyslais arbennig ar ddiwylliant, y celfyddydau a pherfformio. Siaradodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cymuned am y Celfyddydau yn RhCT a phwysleisiodd y rôl allweddol y maen nhw'n ei chwarae wrth ffurfio cymunedau.

 

Parhaodd y trafodaethau a chododd Aelod bryderon mewn perthynas â'r anghydbwysedd rhwng bechgyn a merched yng Nghymuned y Celfyddydau. Pwysleisiodd yr Aelod pa mor anodd y mae'n gallu bod i gael bechgyn ifainc i gymryd rhan yn y Celfyddydau a phwysleisiodd bwysigrwydd ennyn diddordeb pobl ifainc a magu eu hyder.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Datblygu a Gweithrediadau’r Theatrau am y diweddariad a gofynnodd i ddiweddariadau gael eu hadrodd i'r Gr?p Llywio yn y dyfodol.

 

14.

BUDDSODDIAD YN Y CELFYDDYDAU YN RHCT - 2018/19 A 2019/20

Derbyn diweddariad ar lafar

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant ddiweddariad llafar i'r Gr?p Llywio mewn perthynas â Buddsoddi yn y Celfyddydau yn RhCT ar gyfer 2018/19 a 2019/20.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant fod adroddiad wedi'i gyflwyno i'r Cabinet ar 17 Hydref 2019. Cadarnhawyd bod dolen i'r adroddiad wedi'i hanfon at Aelodau'r Gr?p Llywio trwy'r Swyddog Craffu Graddedig.

 

Cafodd yr aelodau wybod bod Theatrau RCT Gwasanaethau Celfyddydau Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gleient Portffolio Celfyddydol Cymru Cyngor Celfyddydau Cymru ac wedi derbyn cyllid refeniw o £150,821 yn 2018/19 ac y byddan nhw'n derbyn yr un swm yn 2019/20. Dywedwyd wrth yr aelodau mai'r unig leoliadau eraill sy'n cael eu rhedeg gan Awdurdod Lleol sy'n derbyn cyllid refeniw blynyddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw Sefydliad Glowyr y Coed Duon (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) a Theatr Clwyd (Cyngor Sir y Fflint).

 

O ran ysgolion a Buddsoddiadau Cyngor Celfyddydau Cymru, dywedodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant wrth y Gr?p Llywio fod llawer o ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol wedi llwyddo i ennill cyllid trwy raglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod gan y rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau dri opsiwn cyllido ar gyfer ysgolion; Ysgolion Creadigol Arweiniol, eu cynlluniau Ewch i Weld a Chydweithio Creadigol, sef dau opsiwn cyllido o dan y gronfa Profi'r Celfyddydau.

 

O ran buddsoddiadau eraill Cyngor Celfyddydau Cymru yn RhCT, cadarnhaodd y Rheolwr fod Valleys Kids a Chymuned Artis yn parhau i dderbyn cyllid refeniw blynyddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Derbyniodd Valleys Kids £122,383 yn 2018/19 ac mae’n aros yr un fath ar gyfer 2019/20 a derbyniodd Cymuned Artis £199,960 yn 2018/19 ac mae’n aros yr un fath ar gyfer 2019/20.

 

Mewn perthynas â chyllid y Loteri Genedlaethol, dywedwyd wrth yr Aelodau fod £136,218 wedi'i ddyfarnu hyd yma yn 2019/20 i sefydliadau cenedlaethol sy'n gwasanaethu Rhondda Cynon Taf.

 

Rhoddodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant wybod i'r Aelodau bod £2,490 wedi'i ddyfarnu i Wales Arts Review yn ystod 2018/19 ar gyfer datblygu ei Fforwm Beirniaid Ifainc a Chelfyddydau Ieuenctid.Dywedwyd wrth yr aelodau hefyd fod Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd wedi buddsoddi £25,000 ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn rhan o'i raglen i feithrin capasiti Byrddau Iechyd ledled Cymru.

 

O ran heriau posibl o'n blaenau, rhestrodd Rheolwr Strategol – Y Celfyddydau a Diwylliant y 'Rhaglen Teuluoedd Cydnerth: Comisiwn Teuluoedd yn Gyntaf' a nododd y byddai digomisiynu neu ostwng y comisiwn yn effeithio ar ddarparu cyfleoedd i blant a phobl ifainc ymgysylltu â'r celfyddydau a chymryd rhan ynddyn nhw, ynghyd â cholli gwybodaeth ac arbenigedd yng Ngharfan y Celfyddydau a'r Diwydiannau Creadigol. Yn ogystal â hynny, byddai cyfyngu ar argaeledd cyllid loteri ar gyfer Gwasanaeth y Celfyddydau a Theatrau RhCT yn cael effaith ar y cyfleoedd i drigolion ymgysylltu â'r celfyddydau a'r diwydiannau creadigol, ac i gymryd rhan ynddyn nhw, er enghraifft datblygu gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth, a chynyrchiadau theatr fyw sydd wedi'u creu ar y cyd â thrigolion ac sy'n berthnasol  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod Eitem 5, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

16.

TROSGLWYDDO ASED GYMUNEDOL - CANOLFAN GELF Y MIWNI

Derbyn diweddariad ar lafar

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned ddiweddariad ar lafar i'r Gr?p Llywio mewn perthynas â Throsglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Gelf y Miwni.

 

Yn dilyn trafodaeth hir, ystyriodd Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol y crynodeb a'r asesiad. PENDERFYNWYD y byddai'r Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned yn rhannu'r sylwadau â'r Cabinet er mwyn eu hystyried ar 17 Rhagfyr 2019

17.

Drafft Rhaglen Gwaith 2019/20 pdf icon PDF 77 KB

Cofnodion:

 Cyflwynodd y Cadeirydd Raglen Waith Ddrafft Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a'r Celfyddydau Strategol 2019/20 i'r Gr?p Llywio a chadarnhaodd y bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal ym Mharlwr y Maer, Prif Adeiladau'r Cyngor o hyn ymlaen.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo Rhaglen Waith Ddrafft Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a'r Celfyddydau Strategol ar gyfer 2019/20.

18.

Busnes Brys

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau yn y Gymuned wybod i'r Gr?p Llywio bod yr Awdurdod wedi hysbysebu swydd mewn perthynas ag Eisteddfod Genedlaethol 2022, ond nid oedd wedi llwyddo i benodi ymgeisydd addas. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod i'r Gr?p Llywio fod cyfarfod wedi'i drefnu gyda'r Cyfarwyddwr Artistig o ran Eisteddfod Genedlaethol 2022 a'i rhaglen gysylltiedig o ddigwyddiadau celfyddydol. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am y diweddariad