Lleoliad: Theatr y Parc a'r Dâr, Station Road, Treorci, CF42 6NL
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â chod ymddygiad y Cyngor, gwnaeth Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees-Owen ddatganiad o fuddiant personol yn Eitem 5 - Trosglwyddo Ased Cymunedol - Canolfan Gelf y Miwni, Pontypridd. 'Rydw i'n gweithio i sefydliad sydd â Chytundeb Lefel Gwasanaeth gydag un o'r sefydliadau.'
|
|
Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, 2019 yn gofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2019 yn rhai cywir.
|
|
Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelod 5 o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod Eitem 5, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.
|
|
Trosglwyddo Ased Cymunedol - Canolfan Gelf y Miwni, Pontypridd Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau'r Gymuned, sy'n manylu ar y cynigion a gyflwynwyd ar gyfer trosglwyddo ased gymunedol Canolfan Gelf y Miwni, Pontypridd.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned grynodeb ac asesiad i'r Gr?p o'r holl gynigion busnes sydd wedi'u derbyn mewn perthynas â'r gwaith arfaethedig o drosglwyddo ased cymunedol Canolfan Gelf y Miwni.
Yn dilyn trafodaeth hir, ystyriodd Gr?p Llywio'r Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol grynodeb ac asesiad y ddau gynllun busnes a dderbyniwyd. PENDERFYNWYD y byddai'r Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned yn rhannu'r sylwadau â'r Cabinet er mwyn eu hystyried.
(Nodwch: Yn ystod y drafodaeth datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher y buddiant personol canlynol 'Rwy'n Ymddiriedolwraig yr YMCA'.
|
|
Buddsoddi Cyfalaf Derbyn diweddariad ar lafar.
Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Gweithrediadau a Datblygiad y Theatrau ddiweddariad llafar i'r Gr?p yngl?n â grant llwyddiannus gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Gwnaeth y Cyngor gais am y grant yma ym mis Ionawr 2019. Cafodd £95,000 ei ddarparu gan y grant, yn ogystal â £119,000 gan yr Awdurdod Lleol, er mwyn trawsnewid y bar yn Theatr y Parc a'r Dâr yn ardal berfformio. Byddai'r gwaith adnewyddu'n cynnwys cael gwared ar y to ffals i greu lle grid ar y to go iawn, addurniadau, adnewyddu ystafelloedd gwisgo a chyfle i gael gwared ar y wal rhwng y bar a'r cyntedd er mwyn creu ardal sy'n fwy gweladwy ac agored.
Roedd y Gr?p Llywio'n falch o ddysgu am y llwyddiant o ran cyllid grant a'r cynlluniau cyffrous i ddatbygu'r theatr, a siaradodd yr Aelodau am y cynllun i wella'r toiledau yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr. Nodwyd mai'r gobaith yw y byddai'r cynlluniau i greu gofod mwy clyd yn Theatr y Parc a'r Dâr wedyn yn cyrraedd rhannau eraill o'r gymuned, ac y byddai hynny, yn ei dro, yn helpu i ddatblygu rhagor o artistiaid a sicrhau bod y theatr yn gwneud rhagor o arian. Mae cais am gyngor wedi'i anfon at raglen Gwydnwch Cyngor Celfyddydau Cymru yngl?n â'r arlwy o ran bariau ac arlwyo.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am y diweddariad, gan nodi ei fod e'n edrych ymlaen at weld y gwaith adnewyddu yn y dyfodol.
|
|
Rhaglen Cynllunio Gwerth at Ddiben Cyhoeddus Cyngor Celfyddydau Cymru Derbyn diweddariad ar lafar.
Cofnodion: Roedd y Rheolwr Diwylliant a Chelfyddydau Strategol yn falch o roi gwybod i'r Gr?p Llywio fod Rhondda Cynon Taf wedi llwyddo yn ei fynegiant o ddiddordeb i gymryd rhan mewn rhaglen dros saith mis. Mae hon wedi'i chomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chaiff ei darparu gan Lisa Baxter o Experience Business, gyda'r bwriad o ddylunio ac ailystyried profiadau cynulleidfaoedd mewn perthynas â'r celfyddydau. Siaradodd y Rheolwr Celfyddydau am flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Corfforaethol Cyngor Celfyddydau Cymru, sef 'ehanghu ymgysylltiad'. Dywedodd fod y rhaglen wedi'i sefydlu er mwyn helpu lleoliadau sy'n cael eu hariannu gan refeniw i ymgysylltu â chymunedau.
Dysgodd y Gr?p Llywio fod dau leoliad arall wedi bod yn llwyddiannus, a bod Rhondda Cynon Taf yn canolbwyntio ar Theatr y Parc a'r Dâr am ei bod hi'n ganolfan greadigol, gan ychwanegu bocs du. Cyfeiriodd y Rheolwr at y rhaglen saith mis llwyddiannus a'i ddeilliannau, gan gynnwys damcaniaeth newid, camau gweithredu, prototeipiau a syniadau i'w rhannu. Roedd y ffordd newydd yma o feddwl yn gyfle i swyddogion holi'u hunain "Beth yw ein hachos?" a "Pam ydyn ni'n gwneud hyn?"
Gan gyfeirio at y sefyllfa gyfredol, dywedodd y Rheolwr fod gwaith ymchwil yn mynd rhagddo i weithdai yn y dyfodol, a hynny gan ddefnyddio'r wybodaeth a ddysgwyd am y gymuned leol a rhanddeiliaid. Unwaith i hyn gael ei sefydlu, caiff cynrychiolwyr o'r gymuned eu gwahodd i weithdai er mwyn ceisio gwneud y newid.
Rhoddodd y Gr?p Llywio ganmoliaeth i'r rhaglen, gan nodi bod y ffordd newydd o feddwl yn hanfodol mewn cyfnod sy'n newid yn barhaus. Pan gafodd hi ei holi am gyflwyno'r ffordd newydd o feddwl, dywedodd y Rheolwr Celfyddydau ei bod hi'n gobeithio rhannu'r hyn a gafodd ei ddysgu â Theatr y Colisëwm, yn ogystal â'i gynnwys yn natblygiad y canolfannau cymunedol.
Cafwyd trafodaeth am y canolfannau cymunedol a'r dull cyfannol sydd ar waith ym mhob ardal, yn unol â'i anghenion. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau'r Gymuned, at y celfyddydau a'i fewnbwn allweddol o ran datblygu'r canolfannau. Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am y 'Lullaby Project', sef prosiect sy'n ceisio ymgysylltu â babanod a phobl sydd â dementia drwy hwiangerddi.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am rannu'r newyddion cyffrous a gofynnodd a fyddai modd i'r Gr?p Llywio gael y newyddion diweddaraf am hyn yn ôl yr angen.
|
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn rhai brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Rhaglen Theatrau a Datblygu Cynulleidfaoedd y rhestr ganlynol i'r Gr?p Llywio o uchafbwyntiau ac achlysuron i ddod ar gyfer Theatrau Rhondda Cynon Taf: · Teyrnged i Frank Vickery - 19 Mehefin 2019 · Pobl ifainc o academi Dimensions yw'r unig gr?p yng Nghymru i gael ei ddewis i berfformio yn rhan o gynllun 'Connections' y National Theatre yn Llundain - 29 Mehefin 2019 · Prosiect Caffis Eidalaidd - Mae hanesion yn cael eu casglu o'r gymuned leol yngl?n â mewnfudwyr o'r Eidal i Gymru. Caiff canlyniad y gwaith ymchwil a datblygu cyntaf ei rannu ar 24 Gorffennaf 2019. · Bydd cynhyrchiad Ned and the Whale gyda Flossy and Boo yn cael ei berfformio yng ng?yl Caeredin ym mis Awst 2019.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am y diweddariad, gan nodi'r amrywiaeth eang o berfformiadau sydd ar gael yn Theatrau Rhondda Cynon Taf, sy'n galluogi amrywiaeth eang o bobl i gymryd rhan. Yn ogystal â hynny, achubodd y Cadeirydd at y cyfle i gyfeirio at y dalent a ddenwyd a'r llwyddiant a gyflawnwyd. Manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i bawb a fu'n rhan ar ran y Gr?p Llywio.
Cyn dod â'r cyfarfod i ben, aeth y Cadeirydd ati i atgoffa'r aelodau o ?yl; Gelfyddydau Cwm Rhondda, Treorci, a fyddai'n cael ei gynnal ar 28 a 29 Mehefin 2019. Nod yr achlysur yw dathlu ac arddangos yr amrywiaeth eang o greadigrwydd celfyddydol sydd gyda ni ym mhob rhan o'r fwrdeistref.
|