Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX
Cyswllt: Ms J Nicholls - Principle Democratic Services Officer 01443 424098
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiad o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Côd Ymddygiad y Cyngor.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol W Jones a M Forey.
|
|
Cymeradwyo cofnodion o gyfarfodydd rhithwir canlynol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn adlewyrchiad cywir o'r cyfarfodydd:-
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, 30 Gorffennaf 2020; · Cyfarfod Arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu – 12 Awst 2020
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf a 12Awst 2020 yn rhai cywir.
Gofynnodd y Cynghorydd Jarman gwestiwn mewn perthynas â'r penderfyniad ym mharagraff olaf y cofnodion o'r 12 Awst gan ofyn am eglurhad ynghylch y cam nesaf yn y broses. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu mai penderfyniad Mr Powell, Cyfarwyddwr Materion Eiddo Corfforaethol, ar y cyd â'r Aelod o'r Cabinet priodol yw hynny ac, hyd yma, nid yw penderfyniad wedi cael ei wneud.
|
|
Trafod Effaith Llifogydd yn RHCT yn ystod 2020 PDF 289 KB Trafod effaith llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2020.
Cofnodion: Nododd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod yn dilyn trefn wahanol i'r hynny sydd wedi'i nodi yn yr agenda. Bydd eitem 4 yn cael ei thrafod yn gyntaf ac yna eitem 3.
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebuei adroddiad mewn perthynas ag effaith y llifogydd yn RhCT yn ystod 2020. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethwybod i'r Aelodau mai pwrpas yr adroddiad yw rhoi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu drafod yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r llifogydd difrifol a ddigwyddodd ar draws y Fwrdeistref Sirol yn ystod 2020. Cafodd yr aelodau'u hatgoffa bod y broses hon hefyd yn rhoi cyfle iddyn nhw gyfrannu at waith datblygu gofynion adrodd statudol gan y Cyngor (yn rhan o'i rôl fel yr awdurdod rheoli llifogydd).
Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y broses yn cynnig mecanwaith er mwyn ceisio barn yr Aelodau Etholedig hynny sy'n gyfrifol am yr adrannau etholiadol a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd yma.
Aeth Rheolwr Perygl Llifogydd, D?r a Thomenni ymlaen i roi cyflwyniad i Aelodau mewn perthynas ag effaith Storm Dennis ac i rannu manylion am ymateb a gwaith adfer y Cyngor. Rhoddodd y swyddog gyflwyniad sy'n mynd i'r afael â'r materion canlynol;
Yn dilyn y cyflwyniad, dymunodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A. Morgan, ddiolch i'r swyddog am rannu cyflwyniad manwl gan gydnabod effaith fawr Storm Dennis ar gymunedau RhCT. Aeth yr Arweinydd ati i gydnabod bod digwyddiadau fel hyn yn mynd yn fwy difrifol a diolchodd i swyddogion y Cyngor a’r uwch garfan arwain am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn ystod amser hynod heriol. Rhoddodd yr Arweinydd wybod i'r Aelodau bod y Cyngor wedi prynu adnoddau ychwanegol cyn Storm Dennis, fodd bynnag, roedd maint y storm yn ddigynsail. Roedd yr Arweinydd yn dymuno cydnabod cyfranogiad y gymuned, gan ddiolch i'r holl breswylwyr am eu cymorth yn ystod y broses adfer. O ran yr ymateb ariannol, cafodd Aelodau wybod bod y Cyngor wedi derbyn £2.5miliwn gan y gronfa cymorth brys yn yr achos gyntaf. Cafodd oddeutu £2miliwn o adnoddau'r Cyngor eu defnyddio (roedd £800,000 o'r swm yma'n gysylltiedig â'r grantiau a roddwyd i ddeiliaid tai a busnesau). Cadarnhaodd yr Arweinydd hefyd fod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru yn tanysgrifennu hyd at £6.5miliwn tuag at gostau trwsio seilwaith a ddifrodwyd a phwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn dal i apelio am arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Ar ben hynny, cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor hefyd wedi sicrhau £2.5miliwn gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith yn ardal Tylorstown. Cafodd Aelodau'r Pwyllgor wybod hefyd y bydd gwaith trwsio'r difrod ar draws y Fwrdeistref Sirol yn costio tua £82.5miliwn a bydd y Cyngor yn parhau i apelio i Lywodraeth y DU am adnoddau ychwanegol.
Yn dilyn diweddariad gan Arweinydd y Cyngor, cafodd Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau. I gychwyn, dymunodd y Cadeirydd longyfarch Cyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen ar ran Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ... view the full Cofnodion text for item 72. |
|
Rhaglenni Gwaith y Cabinet a'r Pwyllgorau Craffu 2020-2021 PDF 278 KB Trafod y blaengynlluniau drafft o ran Busnes arfaethedig y Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/2021.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ei adroddiad er mwyn rhoi rhaglen waith i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/21.
Gofynnwyd i Aelodau drafod pynciau craffu a nodwyd yn y rhaglen waith 3 mis cychwynnol a oedd yn canolbwyntio ar ymateb y Cyngor i COVID-19 a'i waith adfer.
Hefyd, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, wybod i Aelodau efallai y bydd angen bod yn hyblyg gyda'r Blaenraglen Waith dros y tri mis nesaf er mwyn ystyried Bil Setliad Llywodraeth Leol. Cafodd Aelodau eu hatgoffa y bydd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Cydbwyllgor Corfforaethol yn dod i ben ym mis Ionawr, a bydd angen ystyried hyn yn rhan o'r Rhaglen Waith.
Rhoddodd y Cadeirydd, y Cynghorydd M. Adams, wybod i Aelodau y bydd cyfarfod y Gr?p Llywio i Aelodau'r Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei gynnal cyn bo hir, ac y bydd argymhellion yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu maes o law.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Webber yr angen i fod yn hyblyg wrth gyflawni gwaith craffu a dymunodd gofnodi ei chydymdeimlad dwysaf i ddioddefwyr y llifogydd yn RhCT, yn ogystal â'i diolchgarwch i bob Cynghorydd am eu gwaith caled yn ystod digwyddiad heb ei debyg.
Holodd y Cynghorydd Brencher a fyddai goblygiadau Brexit yn eitem ar agenda'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, wybod i Aelodau mai penderfyniad Aelodau'r Pwyllgor yw hyn. Aeth y Cadeirydd ati i atgoffa Aelodau mai dyma'r Rhaglen Waith ar gyfer y 3 mis cychwynnol yn unig, a bydd hi'n anodd cynnwys hyn yn y Blaenraglen Waith nes bod y manylion mewn perthynas â Brexit yn glir. Cytunodd Aelodau â'r cynnig yma.
Nododd y Cynghorydd Jarman ei bod hi'n cytuno o ran cael rhaglen waith hyblyg. Serch hynny, mynegodd y Cynghorydd Jarman ei bod hi wedi siomi na chafodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gyfle i gyflawni gwaith cyn y cam craffu ar adroddiad y Cabinet o'r enw '’Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif – Model Buddsoddi Cydfuddiannol’ – a gafodd ei drafod yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi. Holodd y Cynghorydd Jarman pam nad oedd eitem mor bwysig wedi'i chynnwys fel eitem ar ei phen ei hun yn rhan o Flaenraglen Waith y Cabinet ac felly heb gael ei thrafod gan Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i'r Aelodau bod gan y Cyngor dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymateb, fodd bynnag, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei bod hi'n bosibl y bydd modd nodi'r model newydd ar gyfer gwaith cyn y cam craffu yn y dyfodol. Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod amserlenni wedi bod yn dynn iawn, yn enwedig o ran gofynion Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, pwysleisiodd ein bod ni'n parhau i fod yn y camau cynnar iawn ac y bydd nifer o adroddiadau yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet yn y dyfodol gan gynnig cyfle i'r Pwyllgor Craffu gyfrannu.
Dywedodd y Cynghorydd Jarman mai prif ... view the full Cofnodion text for item 73. |
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw fusnes brys o ystyried.
|
|
Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben Adlewyrchu ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.
Cofnodion: Aeth y Cadeirydd ati i grynhoi'r argymhellion allweddol a'r deilliannau ar gyfer y cyfarfod, gan ddiolch i'r Aelodau am ddod i'r cyfarfod a chymryd rhan mewn trafodaeth adeiladol a manwl.
|