Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Ms J Nicholls - Principle Democratic Services Officer  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

7.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, gwnaed y datganiad canlynol yn ddiweddarach yn y cyfarfod (mae Cofnod Rhif 13 yn cyfeirio ato) ynghylch Eitem 6 ar yr Agenda - Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Rheoliadau Drafft i sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CJCs)

 

Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Griffiths- “Mae fy ng?r wedi bod yn gweithio ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)”

 

8.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L. Walker.

 

9.

Cofnodion pdf icon PDF 379 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gafodd ei gynnal ar 14 Hydref 2020.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 14 Hydref, 2020 yn rhai cywir.

 

10.

ADOLYGU ASESIAD RISG TÂN pdf icon PDF 5 MB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol mewn perthynas ag Asesiadau Risg Tân - Adolygiad o'r gweithdrefnau ar gyfer adeiladau sy'n eiddo i'r Cyngor neu'n cael eu defnyddio ganddo.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Cyngor adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol, a oedd yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am broses Asesu Perygl Tân y Cyngor, yn dilyn cais yn y cyfarfod Trosolwg a Chraffu ar 12 Tachwedd 2019. Atgoffwyd yr Aelodau bod y pwyllgor craffu wedi penderfynu y byddai'r pwyntiau canlynol yn cael eu rhoi ar waith: -

 

Ø  Ymgorffori'r modiwlau E-ddysgu sydd newydd eu datblygu ym mhob cwrs ar gyfer sefydlu gweithwyr newydd;

 

Ø  Y caiff 'hapwiriadau' eu cynnal mewn ysgolion ac adeiladau sy'n eiddo i'r Cyngor, yn ogystal â'r asesiadau diogelwch tân rheolaidd a drefnwyd ymlaen llaw, er mwyn sicrhau cydymffurfiad llawn;

 

Ø  Bod aseswyr risg tân y Cyngor yn gyfrifol a, gynnal asesiadau risg tân mewn ysgolion ac adeiladau sy'n eiddo i'r Cyngor ar sail cylchdro er mwyn atal cynefindra posibl; a

 

Ø  Bod adroddiad pellach yn cael ei ddwyn yn ôl i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu mewn pedwar mis i sicrhau bod y camau a godwyd gan Aelodau Craffu yn cael eu rhoi ar waith.

 

Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch, yn unol â chyfarwyddyd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, fod y materion a grybwyllwyd uchod wedi'u rhoi ar waith, ac ers  3 Tachwedd 2020, mae 364 o weithwyr wedi cwblhau'r cwrs e-ddysgu ymwybyddiaeth diogelwch tân, ac mae 67 wedi cwblhau'r cwrs e-ddysgu Diogelwch Tân ar gyfer Rheolwyr Safle. Bod dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r modiwlau e-ddysgu ar gyfer rheolwyr safle bellach wedi'i nodi, sef 31 Mawrth 2021, a byddai hyn yn cael ei fonitro trwy'r Cyfarwyddwyr perthnasol.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ynghylch targedu'r modiwlau e-ddysgu at ddirprwy reolwyr, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch  y bydd rheolwyr safle a dirprwyon yn cyrchu'r rhaglen.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod hapwiriadau bellach yn cael eu cynnal ar gyfer ysgolion ac adeiladau eraill sy'n eiddo i'r Cyngor yn ogystal ag asesiadau/archwiliadau diogelwch tân a drefnwyd ymlaen llaw, ac mae aseswyr risg tân yn gyfrifol am gynnal Asesiadau Risg Tân ar sail cylchdro er mwyn osgoi unrhyw gynefindra posibl a oedd yn peri pryder i'r Aelodau.

 

Trwy ei drafodaethau gyda'r Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch, gofynnodd y pwyllgor a allai Asesiadau Risg Diogelwch Tân y Cyngor gwmpasu adeiladau cyngor gwag er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel, er enghraifft drwy edrych ar drefniadau diogelwch ac a oes angen unrhyw reolaethau ychwanegol.

Dysgodd yr aelodau bod yr Undebau Llafur yn cael cyfarfod ar wahân, bob chwe wythnos ar hyn o bryd, ac yn cael diweddariad ar hynt y Gweithgor Materion Diogelwch Tân. Holodd y Pwyllgor a fyddai modd gwahodd yr Undebau Llafur i ffurfio rhan o'r Gweithgor Materion Diogelwch Tân, gan dderbyn adroddiadau cydymffurfio asesiad risg tân a monitro cyflawniad, gan sicrhau bod camau addas yn cael eu cymryd lle bo angen. Mae'r gr?p hefyd yn trafod yr holl faterion diogelwch tân eraill gan gynnwys, er enghraifft, anghenion hyfforddi, tueddiadau a phryderon sy'n dod i'r amlwg.

 

Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch fod archwiliadau bwrdd gwaith wedi'u llunio i gyfyngu  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

DOLENNI YMGYNGHORI

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol, i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau gydnabod yr wybodaeth oedd wedi'i darparu trwy'r dolenni ymgynghori mewn perthynas ag ymgynghoriadau agored, ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r materion hynny y mae'r awdurdod lleol yn cynnal ymgynghoriadau yngl?n â nhw.

 

12.

Datganiad Sefyllfa - Craffu ar ymateb y Cyngor i'r llifogydd yn ystod 2020 pdf icon PDF 622 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhoi diweddariad ynghylch y dystiolaeth a ystyriwyd hyd yma a'r camau nesaf

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ei adroddiad a oedd yn rhoi cyfle i aelodau dderbyn gwybodaeth yn ymwneud â'r llifogydd difrifol a ddigwyddodd ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod 2020. Cafodd hwn ei ddarparu a'i drafod mewn cyfarfodydd Trosolwg a Chraffu a Chyngor llawn, fel y nodir isod:

 

Ø  Cyflwyniadau ysgrifenedig gan Aelodau ward unigol neu bleidiau;

Ø  Tystiolaeth lafar gan aelodau lleol;

Ø  Adroddiad a chyflwyniad PowerPoint i'r Cyngor llawn (25 Tachwedd 2020);

Ø  Crynodeb amgaeedig o'r wybodaeth a gasglwyd dros y ddau fis diwethaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth y Pwyllgor y bydd y dystiolaeth a’r wybodaeth a drafodwyd gan aelodau lleol, drwy’r sesiwn craffu a’r cyflwyniadau ysgrifenedig a ddaeth i law, yn llywio canfyddiadau adolygiad mewnol y Cyngor a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’w drafod yn ddiweddarach y mis yma. Cadarnhaodd hefyd y byddai'r pwyllgor yn cael cyfle i graffu ar sut y bydd y cyngor yn ymateb i'r adroddiad Adran 19 statudol y mae'n ofynnol i'r Cyngor ei wneud mewn perthynas â llifogydd ym mis Chwefror fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) o dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r 2010 (FAWMA 2010).

 

Cofnodwyd y newidiadau canlynol i'r cyflwyniadau llafar gwreiddiol: -

Y Cynghorydd Jarman

“Aberpennar - roedd yr holl waddod a malurion o gylfat Nant Ffrwd yn golygu bod dim mynediad i Aberpennar am ddyddiau. A oedd unrhyw fwriad i hysbysu trigolion bod ymgynghorwyr wedi cael eu cyflogi gan yr awdurdod lleol ynghylch llifogydd Caegarw? Pam na chefais fy hysbysu fel bod modd i mi gydlynu hyn ac annog trigolion i ymgysylltu? ”

 

Y Cynghorydd S. Rees-Owen.

“Yn dilyn adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru nid oes gan drigolion ffydd mewn sefydliadau sy’n ymchwilio i’w hunain, dyna’r rheswm dros alw am Ymchwiliad Annibynnol”

Y Cynghorydd E Webster

“Roedd llifogydd mawr yn Stryd Dumfries a lifodd i lawr o Stryd Callum pan fethodd y cwlfert oherwydd malurion o’r cwrs d?r. Efallai bod achos dros ymgyfreitha gan y bu adroddiadau bod strwythurau anghyfreithlon yn cael eu hadeiladu yn y cwrs d?r i fyny'r afon. Nid yw'r geuffos yn addas i ddelio â'r malurion gormodol. Mae problemau difrifol ac rydym yn gofyn i'r cyngor sicrhau system ddraenio wrth gefn ychwanegol i roi hyder i drigolion.

 

Roedd llifogydd o Stryd Dumfries hyd at y brif stryd a Stag Square ac roedd trigolion yn dal i glirio un o'r ceuffosydd ymhell i'r bore canlynol.

 

Hoffwn ddiolch i Owen Griffiths am edrych ar fesurau ar ochr y mynydd i symud y cwrs d?r y tu ôl i'r fynwent er mwyn sicrhau y bydd llai o dd?r yn dod i mewn i'r system ac yn effeithio ar yr ardal breswyl yn y dyfodol.

 

Swn-Yr-Afon - Roedd wal yr afon wedi erydu ac agorodd llyncdwll gan symud y tir. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Cyngor yn gwrthod mai nhw sy'n gyfrifol, ac yn y cyfamser mae'r twll yn mynd yn fwy.  

 

Y Stryd Fawr - Mae hon wedi dioddef llifogydd dair gwaith  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU: RHEOLIADAU (DRAFFT) AR GYFER SEFYDLU CYDBWYLLGORAU CORFFORAETHOL pdf icon PDF 299 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Y Gwasanaethau Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd A Chyfathrebu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad ar y cyd gyda'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a geisiodd ddiweddaru Aelodau ar gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CJCs) fel y darperir ar ei gyfer yn y Mesur Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sydd ar hyn o bryd yn aros am Gydsyniad Brenhinol (rhagwelir y bydd yn cael ei roi yn gynnar yn 2021) ; ystyried rheoliadau drafft a fyddai'n cael eu gwneud o dan y ddeddfwriaeth honno mewn perthynas â sefydlu a gweithredu CJCs; a gofyn i'r Aelodau roi adborth ar yr ymgynghoriad a gychwynnwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r rheoliadau drafft hynny.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu gefndir i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, a oedd yn croesawu mewnbwn gan aelodau a swyddogion i helpu i lunio'r cynigion erbyn  4 Ionawr 2021.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CJCs) yn gyrff corfforaethol ac endidau cyfreithiol ar wahân i'w cynghorau cyfansoddol, a fydd yn gallu cyflogi staff yn uniongyrchol, dal asedau a chyllidebau, a bod yn uniongyrchol gyfrifol am arfer swyddogaethau. Bydd gan y rhain swyddogaethau sy'n ymwneud â lles economaidd, cynllunio strategol (bydd CDLlau yn aros o dan ALlau) a thrafnidiaeth.

ByddAelodaeth y cyd-bwyllgorau yma'n cynnwys Arweinwyr yr awdurdodau lleol cyfansoddol, a bydd modd cyfethol aelodau ychwanegol (naill ai aelodau cabinet neu bartneriaid eraill) iddo ef neu unrhyw un o'i is-bwyllgorau (os yw wedi dewis sefydlu unrhyw rai) yn ôl yr angen.

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at adran 5.30 i 5.34 sy'n nodi'r angen i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Ychwanegodd fod gan Aelodau gyfle i ddylanwadu ar yr angen am drefniadau craffu ar y cyd clir o'r dechrau trwy eu hadborth.

 

Rhannoddaelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu eu pryderon ynghylch rhai elfennau o’r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol megis y diffyg craffu, diffyg atebolrwydd a diffyg democrataidd y gallen nhw ei greu. Fe wnaethon nhw drafod y dull gweithredu arfaethedig, 'Un Bleidlais Fesul Aelod' ac roedden nhw o'r farn ei bod yn annheg o ystyried meintiau amrywiol yr awdurdodau. Byddai hyn yn tanseilio atebolrwydd. Maen nhw'n cydnabod y buddion posibl o ran cydweithredu a dylanwad llywodraeth leol ar ysgogiadau allweddol.

 

I gloi PENDERFYNWYD awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, i gyflwyno sylwadau ac ymatebion aelodau'r pwyllgor i Lywodraeth Cymru cyn i'r ymgynghoriad ddod i ben. 

 

 

14.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Adlewyrchu ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

Cofnodion:

Crynhodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu y pwyntiau allweddol sydd wedi codi o'r cyfarfod a'r argymhellion i'w cyflwyno gan gynnwys diweddariad mewn perthynas â'r llifogydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r holl Aelodau am eu presenoldeb a'u hatgoffa o'r dyddiad ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu nesaf ar y 18 Ionawr 2021.