Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Ms J Nicholls - Principal Democratic Services Officer  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

4.

Croeso a Chyflwyniadau

Cofnodion:

Croesawodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ogystal ag Aelodau'r Pwyllgor Craffu ar faterion Iechyd a Lles i'r cyfarfod.

 

Roedd y Cadeirydd hefyd wedi croesawi cynrychiolwyr y Gr?p Cynghori Pobl H?n, Ms A Tritchler (Cadeirydd Bwrdd Cynghori Pobl H?n a Ms L Corre (Ysgrifennydd Bwrdd Cynghori Pobl H?n) yn ogystal â'r Aelod o’r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a’r Gymraeg.

 

5.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

  1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant personol canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:-

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis - “Roeddwn i wedi gweithio ar y cyfleuster Gofal Ychwanegol Nh? Heulog”

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher - "Fi yw'r aelod lleol yn yr ardal lle mae'r ddarpariaeth Gofal Ychwanegol yn cael ei datblygu, ardal Graig."

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Evans - “Fi yw'r aelod lleol yn yr ardal lle mae darpariaeth Gofal Ychwanegol Maes y Ffynnon yn cael ei datblygu."

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Cox - “Mae Dan Y Mynydd ychydig y tu allan i'm ward”

 

Ø  Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Caple - “Mae Dan Y Mynydd wedi'i leoli yn ward Y Cymer ac mae T? Bronwydd wedi'i leoli yn ward Porth”

 

6.

Gwaith cyn y cam craffu -Moderneiddio Gwasanaethau Gofal Preswyl pdf icon PDF 7 MB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod mai pwrpas yr adroddiad yw rhoi cyfle i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu drafod canlyniadau'r ymgynghoriad ar yr opsiynau a ffafrir ar gyfer dyfodol un ar ddeg cartref gofal preswyl ar gyfer pobl h?n ac i gyflawni gwaith cyn y cam craffu ar argymhellion a fydd yn cael eu trafod gan y Cabinet ar 3 Rhagfyr 2020.

Ychwanegodd fod aelodau’r pwyllgor hwn wedi cael cyfle i gyfrannu at y trafodaethau hyn trwy gydol y broses yn ystod ymgynghoriadau blaenorol yn 2018 a 2019 mewn perthynas â dyfodol y Gwasanaethau Cartref Gofal Preswyl y Cyngor ar gyfer Pobl H?n yn y dyfodol. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth at bresenoldeb Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau i Oedolion yn y cyfarfod er mwyn ateb unrhyw ymholiadau.

 

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant at yr adroddiad sy'n gofyn bod y Cabinet yn trafod deilliant yr ymgynghoriad ar yr opsiynau a ffafrir ar gyfer dyfodol yr un ar ddeg cartref gofal preswyl ar gyfer pobl h?n sy'n cael eu rheoli gan y Cyngor ac i wneud argymhellion pellach a fydd yn cynyddu nifer y cartrefi gofal preswyl sy'n cael eu rheoli gan y Cyngor i naw, gan gynnwys Garth Olwg ac Ystrad Fechan ac i ailddatblygu Dan y Mynydd a Bronllwyn er mwyn cwrdd â'r anghenion sydd wedi'u nodi o ran llety â gofal a chymorth ychwanegol a thai gofal ychwanegol. Cadarnhawyd y bydd adroddiad pellach a fydd yn nodi'r gofynion adnewyddu ar gyfer y cyfleusterau hynny yn cael ei gyflwyno maes o law. Roedd y Cyfarwyddwr Cyfadran hefyd wedi cydnabod y cyfle i gyflawni gwaith craffu er mwyn ymateb i ganlyniadau'r ymgynghoriad cyn i'r Cabinet fynd ati i drafod yr argymhellion.

 

Yn dilyn ei gyflwyniad mewn perthynas â'r adroddiad, roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg wedi rhoi gwybod ei fod ef wedi bod yn bresennol er mwyn gwrando ar sylwadau'r pwyllgor craffu ac adlewyrchu ar yr adborth cyn cyfarfod y Cabinet ar 3 Rhagfyr.

 

Cafodd Ms Tritschler a Ms Corre o'r Gr?p Cynghori Pobl H?n gyfle i annerch y Pwyllgor gan gyflwyno sawl sylw megis sut bydd y gwasanaethau oriau dydd i bobl ag anableddau dysgu/awtistiaeth a phobl h?n sy'n cael eu darparu ar hyn o bryd ar y safleoedd yma yn parhau a sut i wahaniaethu rhwng anghenion cymhleth ac anghenion safonol?

 

Roedden nhw wedi cydnabod y gwaith caled sydd wedi cael ei fuddsoddi yn y broses ymgynghori a'r adroddiadau hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen yn arw at ddatblygiad y Tai Gofal Ychwanegol ym Mhontypridd.

 

Wrth ymateb i'r ymholiadau ynghylch gwasanaethau oriau dydd ym Mronllwyn a Dan y Mynydd ac fel sydd wedi'i bennu yn yr adroddiad, cadarnhawyd y bydd gwaith ailddatblygu'r ddau safle yn gofyn am ailddosbarthu'r gwasanaethau oriau dydd/awtistiaeth a'r gwasanaethau oriau dydd i bobl h?n sy'n cael eu darparu yn y safleoedd hyn a byddai'r  ...  view the full Cofnodion text for item 6.