Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Ms J Nicholls - Principle Democratic Services Officer  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

69.

Datganiad o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Côd Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

70.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriadau oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol W Jones a M Forey.

 

71.

Cofnodion pdf icon PDF 526 KB

Cymeradwyo cofnodion o gyfarfodydd rhithwir canlynol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn adlewyrchiad cywir o'r cyfarfodydd:-

 

·         Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, 30 Gorffennaf 2020;

·         Cyfarfod Arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu – 12 Awst 2020

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf a 12Awst 2020 yn rhai cywir.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jarman gwestiwn mewn perthynas â'r penderfyniad ym mharagraff olaf y cofnodion o'r 12 Awst gan ofyn am eglurhad ynghylch y cam nesaf yn y broses. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu mai penderfyniad Mr Powell, Cyfarwyddwr Materion Eiddo Corfforaethol, ar y cyd â'r Aelod o'r Cabinet priodol yw hynny ac, hyd yma, nid yw penderfyniad wedi cael ei wneud.

 

72.

Trafod Effaith Llifogydd yn RHCT yn ystod 2020 pdf icon PDF 289 KB

Trafod effaith llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2020.

 

 

 

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod yn dilyn trefn wahanol i'r hynny sydd wedi'i nodi yn yr agenda. Bydd eitem 4 yn cael ei thrafod yn gyntaf ac yna eitem 3.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a

Chyfathrebuei adroddiad mewn perthynas ag effaith y llifogydd yn RhCT yn

ystod 2020. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethwybod i'r Aelodau mai

pwrpas yr adroddiad yw rhoi cyfle i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu drafod

yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r llifogydd difrifol a ddigwyddodd ar draws y

Fwrdeistref Sirol yn ystod 2020. Cafodd yr aelodau'u hatgoffa bod y broses hon

hefyd yn rhoi cyfle iddyn nhw gyfrannu at waith datblygu gofynion adrodd

statudol gan y Cyngor (yn rhan o'i rôl fel yr awdurdod rheoli llifogydd).

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y broses yn cynnig mecanwaith er mwyn ceisio barn yr Aelodau Etholedig hynny sy'n gyfrifol am yr adrannau etholiadol a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd yma.

 

Aeth Rheolwr Perygl Llifogydd, D?r a Thomenni ymlaen i roi cyflwyniad i Aelodau mewn perthynas ag effaith Storm Dennis ac i rannu manylion am ymateb a gwaith adfer y Cyngor. Rhoddodd y swyddog gyflwyniad sy'n mynd i'r afael â'r materion canlynol;

 

  • Storm Dennis;
  • Paratoi Digwyddiad;
  • Effaith y Digwyddiad; ac,
  • Ymateb ac Adfer

 

Yn dilyn y cyflwyniad, dymunodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A. Morgan, ddiolch i'r swyddog am rannu cyflwyniad manwl gan gydnabod effaith fawr Storm Dennis ar gymunedau RhCT. Aeth yr Arweinydd ati i gydnabod bod digwyddiadau fel hyn yn mynd yn fwy difrifol a diolchodd i swyddogion y Cyngor a’r uwch garfan arwain am eu gwaith caled a’u hymroddiad yn ystod amser hynod heriol. Rhoddodd yr Arweinydd wybod i'r Aelodau bod y Cyngor wedi prynu adnoddau ychwanegol cyn Storm Dennis, fodd bynnag, roedd maint y storm yn ddigynsail. Roedd yr Arweinydd yn dymuno cydnabod cyfranogiad y gymuned, gan ddiolch i'r holl breswylwyr am eu cymorth yn ystod y broses adfer. O ran yr ymateb ariannol, cafodd Aelodau wybod bod y Cyngor wedi derbyn £2.5miliwn gan y gronfa cymorth brys yn yr achos gyntaf. Cafodd oddeutu £2miliwn o adnoddau'r Cyngor eu defnyddio (roedd £800,000 o'r swm yma'n gysylltiedig â'r grantiau a roddwyd i ddeiliaid tai a busnesau). Cadarnhaodd yr Arweinydd hefyd fod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru yn tanysgrifennu hyd at £6.5miliwn tuag at gostau trwsio seilwaith a ddifrodwyd a phwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn dal i apelio am arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU. Ar ben hynny, cadarnhaodd yr Arweinydd fod y Cyngor hefyd wedi sicrhau £2.5miliwn gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith yn ardal Tylorstown. Cafodd Aelodau'r Pwyllgor wybod hefyd y bydd gwaith trwsio'r difrod ar draws y Fwrdeistref Sirol yn costio tua £82.5miliwn a bydd y Cyngor yn parhau i apelio i Lywodraeth y DU am adnoddau ychwanegol.

 

Yn dilyn diweddariad gan Arweinydd y Cyngor, cafodd Aelodau gyfle i ofyn cwestiynau. I gychwyn, dymunodd y Cadeirydd longyfarch Cyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen ar ran Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu  ...  view the full Cofnodion text for item 72.

73.

Rhaglenni Gwaith y Cabinet a'r Pwyllgorau Craffu 2020-2021 pdf icon PDF 278 KB

Trafod y blaengynlluniau drafft o ran Busnes arfaethedig y Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ei adroddiad er mwyn rhoi rhaglen waith i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2020/21.

 

Gofynnwyd i Aelodau drafod pynciau craffu a nodwyd yn y rhaglen waith 3 mis cychwynnol a oedd yn canolbwyntio ar ymateb y Cyngor i COVID-19 a'i waith adfer.

 

Hefyd, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, wybod i Aelodau efallai y bydd angen bod yn hyblyg gyda'r Blaenraglen Waith dros y tri mis nesaf er mwyn ystyried Bil Setliad Llywodraeth Leol. Cafodd Aelodau eu hatgoffa y bydd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r Cydbwyllgor Corfforaethol yn dod i ben ym mis Ionawr, a bydd angen ystyried hyn yn rhan o'r Rhaglen Waith.

 

Rhoddodd y Cadeirydd, y Cynghorydd M. Adams, wybod i Aelodau y bydd cyfarfod y Gr?p Llywio i Aelodau'r Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei gynnal cyn bo hir, ac y bydd argymhellion yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu maes o law.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Webber yr angen i fod yn hyblyg wrth gyflawni gwaith craffu a dymunodd gofnodi ei chydymdeimlad dwysaf i ddioddefwyr y llifogydd yn RhCT, yn ogystal â'i diolchgarwch i bob Cynghorydd am eu gwaith caled yn ystod digwyddiad heb ei debyg.

 

Holodd y Cynghorydd Brencher a fyddai goblygiadau Brexit yn eitem ar agenda'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, wybod i Aelodau mai penderfyniad Aelodau'r Pwyllgor yw hyn. Aeth y Cadeirydd ati i atgoffa Aelodau mai dyma'r Rhaglen Waith ar gyfer y 3 mis cychwynnol yn unig, a bydd hi'n anodd cynnwys hyn yn y Blaenraglen Waith nes bod y manylion mewn perthynas â Brexit yn glir. Cytunodd Aelodau â'r cynnig yma.

 

Nododd y Cynghorydd Jarman ei bod hi'n cytuno o ran cael rhaglen waith hyblyg. Serch hynny, mynegodd y Cynghorydd Jarman ei bod hi wedi siomi na chafodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gyfle i gyflawni gwaith cyn y cam craffu ar adroddiad y Cabinet o'r enw '’Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif – Model Buddsoddi Cydfuddiannol’ – a gafodd ei drafod yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi. Holodd y Cynghorydd Jarman pam nad oedd eitem mor bwysig wedi'i chynnwys fel eitem ar ei phen ei hun yn rhan o Flaenraglen Waith y Cabinet ac felly heb gael ei thrafod gan Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i'r Aelodau bod gan y Cyngor dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymateb, fodd bynnag, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ei bod hi'n bosibl y bydd modd nodi'r model newydd ar gyfer gwaith cyn y cam craffu yn y dyfodol. Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod amserlenni wedi bod yn dynn iawn, yn enwedig o ran gofynion Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, pwysleisiodd ein bod ni'n parhau i fod yn y camau cynnar iawn ac y bydd nifer o adroddiadau yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet yn y dyfodol gan gynnig cyfle i'r Pwyllgor Craffu gyfrannu.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jarman mai prif  ...  view the full Cofnodion text for item 73.

74.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fusnes brys o ystyried.

 

75.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Adlewyrchu ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

Cofnodion:

Aeth y Cadeirydd ati i grynhoi'r argymhellion allweddol a'r deilliannau ar gyfer y cyfarfod, gan ddiolch i'r Aelodau am ddod i'r cyfarfod a chymryd rhan mewn trafodaeth adeiladol a manwl.