Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod rhithwir

Cyswllt: Ms J Nicholls - Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

66.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Brencher a M Norris, yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol.

 

67.

Datganiad o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant personol canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda: Gwerthu Rhan o Safle Hen Lofa Lady Windsor, Ynys-y-bwl

 

Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol P Jarman - "Rydw i'n aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu"

 

Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol G Caple - "Rydw i'n Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu

 

Y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Bonetto - "Rydw i'n aelod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu"

 

68.

Adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu pdf icon PDF 1 MB

Galw i Mewn: Gwerthu Rhan o Safle Hen Lofa Lady Windsor, Ynysyb?l

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad a oedd yn amlinellu'r broses ar gyfer y cyfarfod, fel sydd wedi'i nodi yn rheol 17 Rheolau Gweithdrefn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod bod y cais galw i mewn wedi cael ei dderbyn o fewn y terfynau amser oedd wedi'u nodi ar 4 Awst 2020 yn enwau'r tri llofnodwr, sef y Cynghorwyr M Powell, H Fychan a M Fidler Jones. Roedd yr achos galw i mewn wedi gofyn bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystyried penderfyniad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo'r Cyngor mewn perthynas â Gwerthu Rhan o Safle Hen Lofa Lady Windsor, Ynys-y-bwl, a gyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wybod nad oedd yr holl resymau wedi'u nodi yn yr achos galw i mewn yn ddilys, felly dydy'r ffurflen ddim wedi'i chynnwys yn rhan o'r atodiadau. Mae'r rhesymau sydd wedi'u derbyn yn rhai dilys wedi'u nodi yn adran 4.1 o'r adroddiad, mae gofyn i Aelodau drafod y cynnwys sydd wedi'i nodi ar ddiwedd adran 4. Mae'r adran yma'n argymell bod y Pwyllgor yn trafod y materion yma'n ofalus gan ei bod hi'n bosibl y bydd y materion yn codi yn rhan o waith cynllunio yn y dyfodol.

 

Bydd y tri llofnodwr a gyflwynodd y ffurflen galw i mewn yn cael eu gwahodd i annerch y Pwyllgor gan amlinellu'r rhesymau a roddwyd ganddynt wrth ofyn am alw i mewn gan nodi pam y dylai'r penderfyniad gael ei gyfeirio yn ôl at y sawl sy'n gwneud y penderfyniad, sef Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiddo'r Cyngor, Mr David Powell. Byddan nhw'n gwneud hynny gyda chymorth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, ac yntau'n gweithredu fel y swyddog priodol. Bydd y Cadeirydd yn galw ar y Swyddog a'r Aelod o'r Cabinet priodol, sydd wedi cael ei gynghori ar y mater, er mwyn annerch y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Croesawodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Cynghorydd Amanda Ellis, Is-gadeirydd Cyngor Cymuned Ynys-y-bwl, a oedd wedi cael ei gwahodd, gyda chytundeb y Cadeirydd, y Cynghorydd Adams, i annerch y Pwyllgor ar ôl gwneud cais i siarad.

 

Cafodd Aelodau wybod y bydd y Cadeirydd yn gwahodd Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i drafod y rhesymau dilys sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad ynghyd â sylwadau'r Swyddog a'r Aelod o'r Cabinet priodol er mwyn gwneud penderfyniad yngl?n â chyfeirio'r mater yn ôl. Yna, bydd y Swyddog a'r Aelod o'r Cabinet priodol yn cael eu gwahodd i ymateb i'r cwestiynau sy'n cael eu codi gan aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Cadarnhawyd bod gan un o'r llofnodwyr enwebedig o bob achos galw i mewn yr hawl i wneud ei anerchiad olaf i'r Pwyllgor yn union cyn cynnal pleidlais ar ffurf cofrestr yngl?n â chyfeirio'r mater yn ôl i'r swyddog sy'n gwneud y penderfyniad i'w ailystyried. Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fydd yn gyfrifol am egluro a chrynhoi effaith penderfyniad y Pwyllgor.

 

I gloi, rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod bod gwybodaeth ychwanegol wedi cael ei rhannu â'r Pwyllgor ddoe, yn dilyn cais am wybodaeth bellach  ...  view the full Cofnodion text for item 68.