Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX
Cyswllt: Ms J Nicholls - Principle Democratic Services Officer 01443 424098
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiad o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Côd Ymddygiad y Cyngor.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:
· Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E. Stephens y budd personol canlynol yn ymwneud ag eitem 4 ac eitem 3 ar yr Agenda, yn y drefn honno: “Rwy’n gweithio i’r Adran Gwaith a Phensiynau ac weithiau byddaf yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau o’r Garfan Cymunedau am Waith yn rhan o fy swydd”.
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A. Cox a S. Evans.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2020.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2020 yn rhai cywir.
|
|
Y Diweddaraf ynglŷn â COVID-19 yn Rhondda Cynon Taf PDF 364 KB Derbyn diweddariad am y camau y mae'r Cyngor wedi'u rhoi ar waith o ganlyniad i argyfwng cenedlaethol COVID-19 (Fel yr adroddwyd i'r Cabinet ar 28 Gorffennaf 2020)..
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, gyfle i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu graffu ar yr wybodaeth yn yr adroddiad mewn perthynas ag ymateb y Cyngor i bandemig Covid-19, ei gynllun adfer a'r wybodaeth yn yr Adroddiad i'r Cabinet ar 28 Gorffennaf 2020, yn ogystal â'u hadolygu a'u herio. Dywedodd wrth y Pwyllgor fod y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd M. Webber a'r Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol, y Cynghorydd R. Lewis, yn bresennol ac y bydden nhw'n darparu diweddariad lle bo hynny'n briodol.
Parhaodd y trafodaethau a dywedodd y Cynghorydd Webber wrth yr Aelodau fod y Cyngor wedi agor y gwasanaeth ailgylchu yn y gymuned yn raddol, a bod ysgolion hefyd wedi ailagor yn ddiweddar fel bod modd i ddisgyblion baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi. Nodwyd bod adborth cadarnhaol wedi dod i law a bod hyn wedi'i drafod gan y Pwyllgor Craffu - Plant a Phobl Ifainc ar 22 Mehefin 2020. Er gwaethaf y cyfyngiadau hynny a achoswyd gan Covid-19, pwysleiswyd bod y nifer helaeth o wasanaethau'r Cyngor wedi dal ati i weithio, er bod hynny mewn ffordd wahanol. Y gobaith yw y bydd y Cyngor yn parhau i adeiladu ar y ffordd newydd yma o weithio, ac y bydd modd iddo ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon ac effeithiol yn y dyfodol. Clywodd yr Aelodau y bydd y system Profi, Tracio ac Olrhain yn rhan bwysig iawn o ddull gweithredu'r Cyngor o ran ymateb i wasanaethau yn y dyfodol, a bydd y gwasanaeth yn rhan allweddol o strategaeth adfer y Cyngor wrth edrych i'r dyfodol. Diolchodd y Cynghorydd Webber i holl staff y Cyngor am eu diwydrwydd, eu gwaith caled a'u hymroddiad dros y pedwar mis diwethaf a diolchodd i Uwch Arweinwyr y Cyngor am ddangos y fath ymrwymiad ac ymroddiad.
Yn dilyn diweddariad gan y Dirprwy Arweinydd, derbyniodd Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ddiweddariad pellach gan y Cynghorydd R. Lewis, Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol. Nodwyd bod staff y Cyngor wedi bod yn gweithio'n galed i ailagor llyfrgelloedd yn raddol, ac y bydd llyfrgelloedd symudol yn ailagor o 20 Awst. O ran rheoli plâu, mae'r staff wedi cael y cyfarpar diogelu personol angenrheidiol a bydd y gwasanaethau'n ailgychwyn o 29 Gorffennaf, gyda gwasanaethau'r Warden Anifeiliaid yn ailgychwyn o 29 Mehefin. O ran Gwasanaethau Cofrestrydd, bydd priodasau a seremonïau sifil yn ailgychwyn o 30 Gorffennaf, ailgychwynnodd cofrestriadau genedigaeth wyneb yn wyneb yn o 13 Gorffennaf, a bydd nifer y galarwyr mewn gwasanaethau angladd yn cynyddu i ddeg ar hugain o 3 Awst.
Parhaodd y trafodaethau ac atgoffodd y Cynghorydd R. Lewis yr Aelodau y bydd y Cyngor yn cynnig rhagor o gymorth o ran swyddi wrth i'r economi ddechrau gwella yn dilyn y pandemig, ac y bydd hyn yn fater allweddol i'r Cyngor wrth edrych i'r dyfodol. O ran archwiliadau diogelwch bwyd dan gyfarwyddyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, rydyn ni wedi ailddechrau archwilio safleoedd bwyd, a bydd archwiliadau trwyddedau tacsi yn ailgychwyn ... view the full Cofnodion text for item 63. |
|
Adroddiad ar Gyflawniad y Cyngor – 31 Mawrth 2020 (diwedd blwyddyn) PDF 4 MB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol sy'n rhoi trosolwg o gyflawniad y Cyngor o ran materion ariannol a gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, Adroddiad ar Gyflawniad y Cyngor, Chwarter 4, hyd at 31 Mawrth 2020, i'r Aelodau. Pwysleisiwyd bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystyried y mater yma'n rhan o'r trefniadau dros dro sydd ar waith er mwyn sefydlu cyfarfodydd pwyllgorau ar-lein a bwrw ymlaen â nhw.
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cyllid a Gwella'r adroddiad yn fanylach a nodwyd bod yr adroddiad diwedd blwyddyn wedi'i osod yng nghyd-destun Storm Dennis a dechrau pandemig Covid-19, sydd yn anochel wedi cael effeithiau niweidiol ar sefyllfa ariannol y Cyngor a'i gyflawniad yn ystod blwyddyn ariannol 2019-20. Ychwanegodd y cyfeiriwyd atyn y golblygiadau yma drwy gydol yr adroddiad ac yn yr atodiadau manwl, lle bo hynny'n briodol.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas â: -
ØCyflawniad o ran refeniw a chyllideb cyfalaf; ØDangosyddion darbodus Rheoli'r Trysorlys; ØGwybodaeth Iechyd Sefydliadol gan gynnwys trosiant staff, salwch a risgiau strategol y Cyngor; ØDiweddariadau am gynllun gweithredu blaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol; ØMesurau a thargedau cenedlaethol eraill.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cyllid a Gwella drosolwg i'r Pwyllgor o'r wybodaeth allweddol sy'n rhan o'r adroddiad mewn perthynas â data ariannol a chynnydd yn erbyn blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor. Hefyd, rhoddwyd gwybodaeth i'r Aelodau ynghylch eithriadau a amlygwyd ym mhob un o'r adrannau manwl sy'n ymwneud â mateion ariannol a chyflawniad ac i gloi, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod 46 o blith y 71 o ddangosyddion cyflawniad y Cynllun Corfforaethol yr adroddwyd arnynt gyda tharged ar ddiwedd y flwyddyn, yn bwrw'r targed. Dywedodd fod 9 o fewn 5% o'r targed ac nid oedd 16 yn bwrw'r targed o fwy na 5%.
Mewn ymateb, cododd yr Aelodau nifer o gwestiynau gyda'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Brencher y Pwyllgor ar gostau ymateb i Storm Dennis (Tabl 1 o fewn y Crynodeb Gweithredol), a gofynnodd am ragor o wybodaeth am lefel y cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a'r effaith ar y Cyngor yn y tymor canolig a'r tymor hir. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cyllid a wella, wybod i'r Pwyllgor bod y Cyngor wedi rhoi camau prydlon ar waith yn dilyn Storm Dennis, fel bod modd cofrestru'r digwyddiad tywydd sylweddol yma o dan Gynllun Cymorth Ariannol Brys Llywodraeth Cymru. Hyd yma, mae'r Cygor wedi derbyn £1.697 miliwn gan Lywodraeth Cymru er mwyn cyfrannu at y costau tymor byr. Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ymlaen i ddweud wrth y Pwyllgor fod gwaith yn mynd rhagddo i asesu'r difrod i isadeiledd y Cyngor o ganlyniad i Storm Dennis, a bod y Cyngor yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan er mwyn manteisio ar bob cyfle i ddiogelu'r cyllid ychwanegol sydd ei angen. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y drafodaeth yma'n dal i fynd rhagddi ar hyn o bryd. Gwnaeth y Cynghorydd Walker ymholiad pellach ynghylch y gorwariant o ran y gyllideb refeniw ragweledig ym maes 'Diogelu a Chymorth (gan gynnwys Plant sy'n Derbyn Gofal)' ar dudalen 101 yr adroddiad. Nododd yr Aelod fod ymyrraeth gynnar yn flaenoriaeth ... view the full Cofnodion text for item 64. |
|
Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben Adlewyrchu ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.
Cofnodion: Crynhodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r pwyntiau trafod allweddol ac estynnodd ei ddiolch i'r Aelodau a'r Swyddogion am eu presenoldeb ac am gyfarfod adeiladol a heriol. |