Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX
Cyswllt: Ms J Nicholls - Principal Democratic Services Officer 01443 424098
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiad o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: PENDERFYNWYD – yn unol â Chod Ymddygiad Aelodau, gwneud y datganiadau buddiant canlynol:-
1. Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L M Adams y buddiannau personol canlynol sy'n ymwneud ag Eitem 5 ar yr Agenda - Ailagor Ysgolion - “Rwy'n gweithio fel athro mewn ysgol gyfagos ac yn Gadeirydd y Llywodraethwyr mewn ysgol yn RhCT”;
2. Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher y budd personol canlynol yn ymwneud ag eitem 4 ar yr Agenda - Diweddariad ar Sefyllfa Covid-19 yn Rhondda Cynon Taf “Rwy'n Gyfarwyddwr yr YMCA”.
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Cox. Daeth ymddiheuriad o absenoldeb hefyd gan S Rees-Owen, M Powell (Cadeirydd Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc a Phwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad yn y drefn honno) ac A Cox.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol yn rhai cywir:-
1. 20 Ionawr 2020; a 2. 10 Chwefror 2020
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD – cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar yr 20 Ionawr 2020 a'r 10 Chwefror, 2020 yn rhai cywir yn amodol ei bod yn cael ei nodi: -
Hepgorwyd yr 'Ymddiheuriadau' yn anfwriadol o'r fersiwn Saesneg o Gofnodion o gyfarfod 20 Ionawr 2020 a dylai gynnwys ymddiheuriad gan yr Aelodau a ganlyn: -
Y Cynghorwyr J Harries, G Caple a L Walker.
|
|
Rhaglenni Gwaith drafft y Cabinet a'r Pwyllgorau Craffu PDF 281 KB Trafod y blaengynlluniau drafft o ran Busnes y Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019/20 (wedi'i hymestyn) ar gyfer y cyfnod penodol rhwng mis Mehefin 2020 a mis Awst 2020.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu gyfle i aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu drafod, adolygu a herio’r wybodaeth lefel uchel sydd wedi'u cynnwys yn adroddiadau’r Cabinet sydd ynghlwm, a gyflwynwyd ar 21 Mai a 25 Mehefin 2020. Dywedodd wrth y pwyllgor y byddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan yn darparu diweddariad a lle bo hynny'n briodol, byddai aelodau o Uwch Garfan y Rheolwyr yn darparu ymatebion i unrhyw ymholiadau. I gloi, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth mai Aelodau oedd i benderfynu pa faterion yr hoffen nhw dderbyn gwybodaeth bellach a rhagor o fanylion dros y tri chyfarfod nesaf.
Rhoddodd yr Arweinydd drosolwg o ddigwyddiadau dros y tri mis diwethaf a ddechreuodd gyda'r Cyngor yn atal rhai gwasanaethau yn dilyn y cyfyngiadau symud, cau ysgolion a gweithredu'r cymorth cysgodi/gwarchod i gefnogi preswylwyr, a hynny heb fawr o rybudd. Cofrestrodd cyfanswm o 1160 o wirfoddolwyr cymunedol gyda'r Cyngor ar adeg pan oedd gweithwyr y cyngor yn hunan-ynysu neu'n cysgodi/gwarchod.
Fe symudodd y Cyngor 700 o weithwyr i wasanaethau eraill, gyda 365 ohonyn nhw yn y gwasanaeth gofal cymdeithasol i gefnogi'r gofal critigol a 200 o staff yn cefnogi'r hybiau lle roedden nhw'n darparu nwyddau siopa, yn gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr, yn casglu meddyginiaeth ar ran y preswylwyr hynny oedd yn cysgodi/gwarchod, a mynd â'u c?n am dro. Cafodd 25 aelod o staff eu hadleoli i'r ganolfan dosbarthu bwyd yn Aberdâr i ddarparu bwyd i'r rhai ar y rhestr gysgodi/gwarchod ac i'r rhai nad oeddwn nhw'n rhan o'r rhaglen, ond roedd angen cymorth ychwanegol. Mae preswylwyr wedi rhoi croeso mawr i weithio ochr yn ochr â'r trydydd sector a grwpiau cymunedol. Yn RhCT mae tua 10,000 o drigolion yn y rhaglen gysgodi/gwarchod y cysylltwyd â nhw, a rhagor y tu allan i'r rhaglen gysgodi.
Pwysleisiodd yr Arweinydd roedd y sefyllfa dybiedig waethaf yn ystod dyddiau cynnar y pandemig, ac yn seiliedig ar y modelu a'r wybodaeth a ddarparwyd i'r cyngor, yn awgrymu y byddai'r gwasanaethau claddu ac amlosgi wedi cael eu llethu. O ystyried hyn, gwnaed penderfyniadau er budd y cymunedau, ac felly caiff nifer sylweddol o wasanaethau eu blaenoriaethu megis gwasanaethau gwastraff, gwasanaethau ailgylchu (roedd y ddau ohonyn nhw yn gweithredu hyd eithaf eu gallu). Er mwyn sicrhau bod y meysydd blaenoriaeth hyn yn rhedeg yn effeithlon roedd meysydd eraill yn gweithredu ar gapasiti cyfyngedig megis glanhau a gwasanaethau eraill fel canolfannau ailgylchu a daeth y gwasanaeth casglu eitemau swmpus i ben. Atgoffwyd yr aelodau bod y gwaith yma yn dal i ddigwydd yn fuan ar ôl Storm Dennis pan oedd staff yn dal i ddelio ag effaith ac ar ôl y difrod storm.
Rhoddwyd nifer o wasanaethau ychwanegol ar waith pan gaeodd ysgolion y sir gan agor y canolfannau/hybiau gofal plant brys ar gyfer gweithwyr hanfodol a sicrhau bod pob teulu sydd â hawl i Brydau Ysgol Am Ddim yn derbyn eu taliadau BACS (bellach dros 10,000 o blant cymwys am brydau ysgol am ddim). Gweithredwyd y system talu trwy BACS nid y system ... view the full Cofnodion text for item 55. |
|
Y Diweddaraf ynglŷn â COVID-19 yn Rhondda Cynon Taf PDF 386 KB Derbyn diweddariad am y camau y mae'r Cyngor wedi'u rhoi ar waith o ganlyniad iargyfwng cenedlaethol COVID-19 (Fel yr adroddwyd i'r Cabinet ar 21 Mai a 25 Mehefin 2020).
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu gyfle i aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu drafod, adolygu a herio’r wybodaeth lefel uchel sydd wedi'u cynnwys yn adroddiadau’r Cabinet sydd ynghlwm, a gyflwynwyd ar 21 Mai a 25 Mehefin 2020.
Dywedodd wrth y pwyllgor y byddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd A Morgan yn darparu diweddariad a lle bo hynny'n briodol, byddai aelodau o Uwch Garfan y Rheolwyr yn darparu ymatebion i unrhyw ymholiadau. I gloi, nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth mai Aelodau oedd i benderfynu pa faterion yr hoffen nhw dderbyn gwybodaeth bellach a rhagor o fanylion dros y tri chyfarfod nesaf.
Rhoddodd yr Arweinydd drosolwg o ddigwyddiadau dros y tri mis diwethaf a ddechreuodd gyda'r Cyngor yn atal rhai gwasanaethau yn dilyn y cyfyngiadau symud, cau ysgolion a gweithredu'r cymorth cysgodi/gwarchod i gefnogi preswylwyr, a hynny heb fawr o rybudd. Cofrestrodd cyfanswm o 1160 o wirfoddolwyr cymunedol gyda'r Cyngor ar adeg pan oedd gweithwyr y cyngor yn hunan-ynysu neu'n cysgodi/gwarchod.
Fe symudodd y Cyngor 700 o weithwyr i wasanaethau eraill, gyda 365 ohonyn nhw yn y gwasanaeth gofal cymdeithasol i gefnogi'r gofal critigol a 200 o staff yn cefnogi'r hybiau lle roedden nhw'n darparu nwyddau siopa, yn gweithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr, yn casglu meddyginiaeth ar ran y preswylwyr hynny oedd yn cysgodi/gwarchod, a mynd â'u c?n am dro. Cafodd 25 aelod o staff eu hadleoli i'r ganolfan dosbarthu bwyd yn Aberdâr i ddarparu bwyd i'r rhai ar y rhestr gysgodi/gwarchod ac i'r rhai nad oeddwn nhw'n rhan o'r rhaglen, ond roedd angen cymorth ychwanegol. Mae preswylwyr wedi rhoi croeso mawr i weithio ochr yn ochr â'r trydydd sector a grwpiau cymunedol. Yn RhCT mae tua 10,000 o drigolion yn y rhaglen gysgodi/gwarchod y cysylltwyd â nhw, a rhagor y tu allan i'r rhaglen gysgodi.
Pwysleisiodd yr Arweinydd roedd y sefyllfa dybiedig waethaf yn ystod dyddiau cynnar y pandemig, ac yn seiliedig ar y modelu a'r wybodaeth a ddarparwyd i'r cyngor, yn awgrymu y byddai'r gwasanaethau claddu ac amlosgi wedi cael eu llethu. O ystyried hyn, gwnaed penderfyniadau er budd y cymunedau, ac felly caiff nifer sylweddol o wasanaethau eu blaenoriaethu megis gwasanaethau gwastraff, gwasanaethau ailgylchu (roedd y ddau ohonyn nhw yn gweithredu hyd eithaf eu gallu). Er mwyn sicrhau bod y meysydd blaenoriaeth hyn yn rhedeg yn effeithlon roedd meysydd eraill yn gweithredu ar gapasiti cyfyngedig megis glanhau a gwasanaethau eraill fel canolfannau ailgylchu a daeth y gwasanaeth casglu eitemau swmpus i ben. Atgoffwyd yr aelodau bod y gwaith yma yn dal i ddigwydd yn fuan ar ôl Storm Dennis pan oedd staff yn dal i ddelio ag effaith ac ar ôl y difrod storm.
Rhoddwyd nifer o wasanaethau ychwanegol ar waith pan gaeodd ysgolion y sir gan agor y canolfannau/hybiau gofal plant brys ar gyfer gweithwyr hanfodol a sicrhau bod pob teulu sydd â hawl i Brydau Ysgol Am Ddim yn derbyn eu taliadau BACS (bellach dros 10,000 o blant cymwys am brydau ysgol am ddim). Gweithredwyd y system talu trwy BACS nid y system ... view the full Cofnodion text for item 56. |
|
Y Diweddaraf o ran Ailagor Ysgolion Derbyn diweddariad ar lafar yngl?n ag ailagor ysgolion yn Rhondda Cynon Taf, a hynny'n dilyn cynnig Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru i ailagor pob ysgol ar 29 Mehefin 2020.
Cofnodion: .Darparodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ddiweddariad ar lafar yngl?n ag ailagor ysgolion yn Rhondda Cynon Taf, a hynny'n dilyn cynnig Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru i ailagor pob ysgol ar 29 Mehefin 2020.
Trafododd y Cyfarwyddwr y newid i dymor estynedig yr haf ac, er gwaethaf yr ymrwymiad cychwynnol a'r ewyllys da ymhlith staff ac arweinwyr ysgolion i ymestyn y tymor am wythnos ychwanegol, roedd problemau cymhleth o ran telerau ac amodau staff a heriau gofal plant felly gwnaed y penderfyniad i gau ar 20 Gorffennaf 2020 yn ôl y cynllun gwreiddiol. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod ysgolion a charfanau wrthi'n brysur yn paratoi ar gyfer trosglwyddo plant ar draws y 25 canolfan (hwb) gofal plant mewn ysgolion a dychwelyd hyd at draean o'r holl ddisgyblion i'r ysgol ar unrhyw ddiwrnod penodol. Mae'r staff yn awyddus i groesawu'r disgyblion yn ôl i'r ysgol.
Rhoddodd y Cyfarwyddwr ddiweddariadau yngl?n â'r meysydd allweddol canlynol: -
Gofal Plant - Bu twf sylweddol yn nifer y plant sy'n manteisio ar ddarpariaeth gofal plant ledled y Fwrdeistref Sirol, ac mae nifer y canolfannau wedi cynyddu o 12 i 25 yn unol â hynny. Ar hyn o bryd mae 720 o blant yn manteisio ar y ddarpariaeth gofal plant yn yr ysgol bob dydd. Arweiniodd y ceisiadau am ddarpariaeth gofal plant ar draws yr ysgolion at 1,672 o geisiadau am ofal plant brys, a chafodd pob un ohonynt eu cymeradwyo. Mae lleoliadau gofal plant wedi'u blaenoriaethu ar gyfer disgyblion agored i niwed a gweithwyr hanfodol. Bu 350 o blant rhwng 0 a 4 oed yn derbyn gofal plant bob wythnos.
Cefnogi Ysgolion - Cyhoeddwyd gwybodaeth leol sy'n adlewyrchu canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru yn rheolaidd i bob ysgol yn brydlon, a hynny mewn perthynas â nifer o faterion megis hylendid, cadw pellter cymdeithasol, asesiadau risg a chyfarpar diogelu personol. Rhannwyd canllawiau hefyd mewn perthynas â lleoliadau cyn-ysgol, Cyrff Llywodraethu, cyfathrebu â rhieni a gofalwyr er mwyn lliniaru unrhyw bryderon, a rhannu gwybodaeth ar wefan y Cyngor. Yn ogystal â hynny, dosbarthwyd gwybodaeth i'r rheiny sy'n dysgu o bell ac yn dysgu gartref.
Cynlluniau Adfer - Cynhelir cyfarfodydd wythnosol i drafod cynlluniau adfer awdurdodau lleol, ac maen nhw'n cynnwys cynrychiolaeth traws-gyfarwyddiaeth a Phrifathrawon er mwyn sicrhau bod strategaethau addas ar waith a bod y cynllun cyflawni hefyd yn cael ei fonitro yn y cyfarfodydd.
Pryderon o ran Ysgolion - Mae'r awdurdod lleol wedi darparu canllawiau manwl ar faterion iechyd a diogelwch er mwyn sicrhau bod trefniadau ar waith mewn ysgolion a bod asesiadau risg wedi'u cynnal a'u hadolygu gan Swyddogion Iechyd a Diogelwch y Cyngor, ac wedi'u llofnodi gan Gadeiryddion y Cyrff Llywodraethu. Mae cyfarpar diogelu personol, dyfeisiau thermol ac arwyddion sy'n rhoi gwybod am fesurau hylendid a chadw pellter cymdeithasol priodol wedi'u dosbarthu i bob ysgol. Mae pob ysgol wedi cyflwyno cynlluniau manwl ar sut maen nhw'n bwriadu integreiddio eu disgyblion ar 29 Mehefin i gynnwys y ddarpariaeth gofal plant a fydd yn cyd-fynd ag agor ysgolion i ddisgyblion. Mae trefniadau ... view the full Cofnodion text for item 57. |
|
Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben Adlewyrchu ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.
Cofnodion: Diolchodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i'r Aelodau am eu presenoldeb yn y cyfarfod rhithwir ac am eu trafodaeth a'u hargymhellion, a gaiff eu dwyn ymlaen fel y ganlyn: -
Derbyn diweddariad am y llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â'r gofynion adrodd statudol o ran llifogydd;
Derbyn diweddariad ar sefyllfa Covid-19 yn Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â'r cynlluniau adfer fydd yn sail i'r rhaglen waith Trosolwg a Chraffu ar gyfer y dyfodol
O ran y diweddariad am y llifogydd, cydnabu'r Cadeirydd gais rhai aelodau o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu bod D?r Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal ag aelodau lleol o'r wardiau dan sylw, yn cael eu gwahodd i'r cyfarfod pan gaiff y mater ei drafod. |
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
|