Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Ms J Nicholls - Princiipal Democratic Services Officer  01443 424098

Eitemau
Rhif eitem

31.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol H. Boggis a J. Brencher.

 

32.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.            Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

 

2.         Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiad o fuddiant canlynol ei wneud yngl?n â'r agenda:

 

Mr A. Wilkins, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol - "Yn fy swydd fel Swyddog Canlyniadau'r Cyngor, fel sydd wedi'i nodi ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)".

 

33.

Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) pdf icon PDF 382 KB

Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn trafod llunio safbwynt o ran y cynigion sydd wedi'u cynnwys yn y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i'w gymeradwyo gan y Cyngor llawn yn y dyfodol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Llywodraethol ei adroddiad mewn perthynas ag ymateb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i'r cynigion sy'n rhan o'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) drafft. Dywedodd fod y mater wedi'i drafod gan y Cyngor ar 27 Tachwedd 2019, a bod yr Aelodau wedi cydnabod yr amserlen heriol ar gyfer ymgysylltu. Ar ôl hynny, cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ei ymateb erbyn 3 Ionawr 2020.

 

Cafodd cais pellach ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol fel bod modd i aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu anfon ymateb. Cafodd y cais hwn ei gymeradwyo a chafodd y dyddiad cau ei ymestyn i 5pm ar 14 Ionawr 2020. Byddai hyn hefyd yn galluogi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth i gyflwyno'r ymateb i'r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2020.

 

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi darparu crynodeb ddefnyddiol sy'n amlygu'r prif benawdau sy'n rhan o'r Bil (Atodiad 3 yr adroddiad) er gwybodaeth. Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at y ffurflenni sydd ynghlwm, sy'n adlewyrchu'r meysydd i'w hystyried. Byddai hyn yn helpu'r Aelodau i roi trefn ar eu hadborth terfynol.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylai pob adran sy'n rhan o'r Bil gael ei hystyried ar wahân er mwyn rhoi strwythur a ffocws i'r ymatebion a ddarperir gan y Pwyllgor.

 

Ymgynghoriad - Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft

 

Mae'r Aelodau'n ymwybodol nad yw'r amserlenni yn ôl disgresiwn y Pwyllgor ac fe wnaethant gydnabod bod amserlenni ar gyfer cyflwyno ymatebion yn heriol. Wedi dweud hynny, mae Aelodau Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Cyngor yn ddiolchgar am yr estyniad ychwanegol i'w dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion, yn ogystal â'r cyfle i ymateb i'r cynigion sydd wedi'u cynnwys yn y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

 

 

Rhan 1: Etholiadau:

 

Croesawodd yr Aelodau’r cynigion ynghylch diwygio'r drefn etholiadol, serch hynny roeddent yn teimlo bod cyfleoedd i fynd â'r gwaith ymhellach, e.e. ystyried pleidleisio gorfodol, wedi'u colli.

 

Roedd y rhan fwyaf o'r Aelodau'n cefnogi'r etholfraint i bobl ifainc 16-17 oed, ac o'r farn ei bod hi'n bwysig ystyried sut mae'r system Addysg a'r cwricwlwm yn cefnogi pleidleiswyr newydd o safbwynt galluogi pobl ifainc i wneud penderfyniadau gwybodus mewn etholiadau yn y dyfodol.

 

Yn gyffredinol, cefnogodd yr Aelodau'r cynnig i ymestyn etholfraint llywodraeth leol i ddinasyddion o unrhyw wlad. Roedden nhw'n teimlo, pan fo dinasyddion a thrigolion yn defnyddio ein gwasanaethau ac yn ymrwymedig i'r ardal, y dylent fod â'r hawl i bleidleisio mewn etholiadau lleol yng Nghymru, ni waeth beth yw eu statws preswylio.

 

Arweiniodd y cynnig i ymestyn etholfraint llywodraeth leol i garcharorion at wahaniaeth barn ymhlith yr Aelodau, a chynhaliwyd pleidlais. Dangosodd hyn fod mwyafrif yr Aelodau yn erbyn y cynnig hwn.

 

Roedd nifer o Aelodau yn cefnogi'r cynnig i gyflwyno Pleidleisio Sengl Trosglwyddadwy (STV) mewn etholiadau llywodraeth leol, gan nodi bod y drefn yn fwy democrataidd. Serch hynny, nododd y rhan fwyf o'r aelodau eu bod nhw'n credu bod y drefn 'cyntaf i'r felin' gyfredol yn cynnig mwy o dryloywder, yn haws i'r  ...  view the full Cofnodion text for item 33.