Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Ms J Nicholls - Principle Democratic Services Officer  01443 424098

Eitemau
Rhif eitem

20.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

 

 Derbyniwydymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Bonetto, H Boggis, J Harries, E Stephens, M Griffiths a P Jarman.

 

21.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodyn:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

 

 Ynunol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

22.

Cofnodion pdf icon PDF 477 KB

Cymeradwyo cofnodion o gyfarfodydd canlynol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn adlewyrchiad cywir o'r cyfarfodydd canlynol:-

 

           Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 3 Medi 2019; a

           Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Arbennig a gynhaliwyd ar 23 Medi 2019;

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 PENDERFYNWYD cymeradwyocofnodion o gyfarfodydd canlynol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn adlewyrchiad cywir o'r cyfarfodydd canlynol:-

• Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 3 Medi 2019;

• Y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Arbennig a gynhaliwyd ar 23 Medi 2019.

Adroddiadau er gwybodaeth

Cyfeiriodd y

 

23.

Adroddiadau er gwybodaeth

D.S. Mae modd dod o hyd i Adroddiadau er Gwybodaeth ar ein tudalen we Craffu trwy glicio ar y dolenni hyn:

 

(I'r Aelodau gydnabod yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad(au). Mae modd anfon unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â'r eitem i Craffu@rctcbc.gov.uk)

 

 

Cofnodion:

 

 Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, at fformat newydd yr agendâu Craffu ar gyfer y dyfodol, sy'n cyflwyno'r eitemau perthnasol i'w hadrodd gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth. Bydd yr adran hon yn cynnwys eitemau fel adroddiadau gwybodaeth y mae modd eu cyrchu trwy ddolen i'r dudalen we bwrpasol. Gofynnwyd i'r aelodau nodi unrhyw faterion i'w hadrodd. Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â Strategaeth Hybu'r Gymraeg a'r meysydd heriol fel yr amlygwyd yn 5.4 yr adroddiad, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr wasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi cael cyfrifoldeb am graffu yn drawsbynciol ar thema'r cymraeg, ac y byddai'n ystyried y meysydd hyn mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

24.

Adborth – Gwaith cyn y cam Craffu pdf icon PDF 129 KB

Trafod gwybodaeth am faterion y mae'r Pwyllgor yma'n craffu arnynt - Cynllun Corfforaethol drafft y Cyngor 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, yr Aelodau at yr eitem Adborth – Gwaith cyn y cam Craffu ar yr agenda fel cyfle i dynnu sylw at ymateb y Cabinet i'r ymarfer cyn-graffu a roddwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Roedd y cyfle cyn-graffu yn golygu bod modd ymgorffori sylwadau Aelodau mewn perthynas â'r Cynllun Corfforaethol drafft yn y fersiwn derfynol, a ystyriwyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 17 Hydref 2019.

Dangosodd yr adroddiad ar eitem Adborth – Gwaith cyn y cam Craffu fod Craffu wedi bod yn effeithiol wrth ddylanwadu ar Gynllun Corfforaethol drafft y Cyngor, a'i fod yn atgyfnerthu'r broses graffu.

Canmolodd yr Aelod Cyfetholedig Brif Weithredwr y Cyngor am wrando ar sylwadau ac adborth y Pwyllgor Craffu, gan fod y rhan fwyaf o'r sylwadau a wnaed, os nad pob un, wedi'u hymgorffori yn fersiwn derfynol y Cynllun Corfforaethol.

 

PENDERFYNWYD cydnabod canlyniad y cyfle cyn-graffu a roddwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu drwy'r Hysbysiad Penderfyniad Cabinet atodol.

25.

Adolygiad o Raglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2019/20 pdf icon PDF 156 KB

Adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2019/20.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau a Chyfathrebu Democrataidd, ei adroddiad sy'n amlinellu'r Rhaglen Waith Trosolwg a Chraffu am y chwe mis nesaf - rhwng Ionawr 2020 ac Ebrill 2020. Gofynnwyd i'r aelodau adolygu'r rhaglen waith sydd ynghlwm wrth yr adroddiad a nodi unrhyw eitemau yr hoffent eu cynnwys yn ogystal â mabwysiadu agwedd hyblyg tuag at y rhaglen waith er mwyn darparu ar gyfer cyfleoedd cyn-graffu ac eitemau ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd yn y dyfodol.

 

Yn dilyn adolygiad Craffu a gynhaliwyd gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ac, wedi hynny, ei gyflwyniad i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Gorffennaf 2019, cynigiwyd a chytunwyd y byddai rhaglenni gwaith y dyfodol yn symlach ac yn cynnwys llai o eitemau er mwyn caniatáu adolygiadau manylach o bynciau ac atgyfeiriadau posibl gan y Cyngor, y Pwyllgor Archwilio a ffynonellau eraill. Byddai'r hyblygrwydd yma hefyd yn galluogi'r Pwyllgor i ymateb i faterion sydd ar y gweill. Adroddwyd bod nifer o sesiynau ymgysylltu â'r Cabinet/Craffu wedi'u cynnal trwy gydol mis Hydref, a lywiodd y rhaglen waith ar gyfer y dyfodol.

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau fod sesiwn hyfforddi craffu wedi'i chynnal yn ddiweddar, wedi'i hwyluso gan Dr Dave McKenna a'i bod yn atgoffa pe bai unrhyw Aelodau angen hyfforddiant pellach i ddatblygu eu  datblygiad, byddai ar gael trwy'r Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth yr Aelodau y bydd gofyn iddynt nodi meysydd i'r cyhoedd allu eu dewis trwy'r cyfryngau cymdeithasol. Bydd hyn yn gwella ymgysylltiad y cyhoedd o ran proses graffu'r Cyngor. Bydd hyn yn gwneud y Pwyllgor Craffu yn fwy gweledol i drigolion RhCT ac, yn y dyfodol, bydd yn galluogi aelodau'r cyhoedd i ymgysylltu â'r rhaglenni gwaith yn y dyfodol.

 

Aeth y Cadeirydd ati i atgoffa'r Aelodau fod y Cyngor wedi ymdrechu i ymgysylltu â'r cyhoedd ar faterion megis gwella tudalennau gwe'r Cyngor a mynd â chraffu i leoliadau heblaw lleoliadau'r Cyngor. Awgrymodd un Aelod y gallai lleoliad Pencadlys y Cyngor rwystro'r cyhoedd rhag dod i gyfarfodydd Craffu, er y cydnabuwyd bod eitemau o ddiddordeb i'r cyhoedd yn eu denu nhw i gyfarfodydd y Cyngor.

 

Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o'r gwaith o gyflwyno cyfleusterau gweddarlledu yn y dyfodol, yn ogystal ag uwchraddio'r cyfleusterau sydd ar gael i Aelodau yn y Siambr. Bydd hyn yn cefnogi rhagor o ymgysylltu â'r cyhoedd, yn enwedig pobl iau. Cytunodd yr aelodau bod angen meithrin pobl ifainc ysbrydoledig i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth trwy ein hysgolion a'n mentrau, a hynny gan ddefnyddio ffug etholiadau, ymarferion 'bod yn gynghorydd am ddiwrnod' a chraffu ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw.

 

Ar ôl trafod y rhaglen waith ar gyfer y dyfodol PENDERFYNWYD: -

 

1. Cytuno ar y rhaglen waith Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/2020; a

2. Cytuno i gynnwys hyblygrwydd i'r rhaglen waith i ddarparu ar gyfer cyfleoedd cyn craffu yn y dyfodol, yn ogystal ag eitemau a gynhyrchir trwy  ...  view the full Cofnodion text for item 25.

26.

Dolenni Ymgynghori

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthansol i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu at yr eitem newydd ar yr agenda, sef 'Dolenni Ymgynghori', sy'n rhoi cyfle i Aelodau weld yr ymgynghoriadau diweddar (a gylchredwyd i'r holl Aelodau yn fisol gan y Swyddog Ymchwil Craffu Graddedig).

 

Yn dilyn ymholiad gan Aelod mewn perthynas â dyrannu'r dolenni ymgynghori perthnasol o dan y Pwyllgor craffu unigol yn y dyfodol er mwyn ei gwneud hi'n haws i'r Aelodau nodi'r ymgynghoriadau agored priodol sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Craffu, cytunwyd y gallai hyn gael ei newid yn y dyfodol. Dywedodd Aelod arall y byddai derbyn gwybodaeth am ymatebion ar draws y Cyngor i ymgynghoriadau penodol yn ddefnyddiol.

 

PENDERFYNWYD cydnabod y dolenni ymgynghori a ddarperir.

27.

Adolygiad o'r Asesiad Risg Tân pdf icon PDF 242 KB

Derbyn yr adolygiad blynyddol o weithdrefnau ar gyfer adeiladau sy'n eiddo i'r Cyngor/sy'n cael eu meddiannu gan y Cyngor.

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor drosolwg o weithdrefnau a phrosesau'r Cyngor ar gyfer rheoli risg tân, a gofynnwyd iddynt ystyried yn benodol a oedd y camau a amlinellwyd yn yr adroddiad wedi mynd i'r afael yn ddigonol ag ymholiadau'r

Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 13 Rhagfyr 2018. Yn y cyfarfod hwnnw, penderfynodd yr Aelodau y byddai modiwl E-ddysgu yn cael ei ddatblygu i bob rheolwr safle ymgymryd ag ef a'i gwblhau trwy wefan Source y Cyngor, ac y byddai'r cynnydd yn cael ei adrodd yn ôl.

 

Ar ôl ystyried nifer o opsiynau ar gyfer symud ymlaen â'r modiwl E-ddysgu, cynigiwyd y dylid datblygu model 'mewnol' a'i uwchlwytho ar wefan Source RhCT a nodi'r angen i ddylunio dau fodiwl ymhellach, y naill ar gyfer cwrs ymwybyddiaeth diogelwch cyffredinol i'r holl weithwyr ei gwblhau, a'r llall yn benodol ar gyfer rheolwyr safle fel rhan o'u datblygiad parhaus. Mae'r ddau bellach ar waith ac yn 'fyw' ar wefan Source RhCT ers 31 Hydref 2019.

Cododd yr aelodau nifer o ymholiadau a phryderon ac fe ymatebwyd iddynt fel a ganlyn: -

 

• A ddylai'r E-ddysgu fod yn orfodol er mwyn sicrhau bod yr holl weithwyr a rheolwyr Safle yn cydymffurfio'n llawn? Ar hyn o bryd mae'r modiwl ymwybyddiaeth gyffredinol i weithwyr yn ddewisol a'r bwriad yw gwneud y modiwl i Reolwyr Safle yn orfodol;

 

• Sut mae ein hysgolion yn gymwys i ddelio â thân o ystyried y buddsoddiad diweddar a gyflwynwyd trwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif? Gwaith dylunio adeiladau effeithiol, Asesiadau Risg Tân, systemau ysgeintio, gweithdrefnau diogelwch tân a threfniadau rheoli cadarn, prosesau adolygu blynyddol yr Asesiadau Risg Tân a gwiriadau rheolaidd trwy adrodd ar archwiliadau er mwyn sicrhau y cedwir at ganllawiau llym;

 

• Sut mae eiddo gwag/adeiladau'r Cyngor yn cael eu hamddiffyn rhag tân? - Trwy deledu cylch cyfyng a'r Gwasanaeth Gwarchod ar ran Eiddo'r Cyngor yn ogystal â larymau i amddiffyn asedau'r Cyngor;

 

• Pwy sy'n atebol am reoli'r holl faterion sy'n ymwneud ag asesiadau / hyfforddiant risg tân yn ein hysgolion ac a oes modd nodi rhywbeth yn ffurfiol i egluro'r cyfrifoldebau? - Y Pennaeth, y Corff Llywodraethu a Chyngor RhCT, yn y pen draw, sy'n gyfrifol am reoli diogelwch tân yn yr ysgol; Mae modd gweld eglurhad o'r cyfrifoldebau ym mholisïau HS1 (Polisi Iechyd a Diogelwch Cyffredinol) a HS20 (Polisi Tân).

 

• A yw hapwiriadau yn cael eu cynnal mewn ysgolion ac yn adeiladau'r Cyngor yn rheolaidd? -Nac ydyn, mae pob ymweliad ag ysgolion ac adeiladau eraill y Cyngor wedi'u trefnu ymlaen llaw;

 

• A yw'r aseswyr risg tân y garfan diogelwch tân yn ymweld â'r un ysgolion/adeiladau'r Cyngor i ymweld bob blwyddyn ar yr un pryd? Gallai hyn feithrin hunanfoddhad. - Ar hyn o bryd, mae aseswyr risg tân yn ymweld â'r un eiddo ac adeiladau i'w hasesu, ond maent yn broffesiynol ac yn gymwys yn eu gwaith ac yn cynnal asesiadau trylwyr i safonau perthnasol sydd byth yn peri pryder o ran hunanfoddhad;

• Sut mae eiddo HMO/Landlord Preifat yn cael eu hasesu ar gyfer peryglon tân?  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

28.

Trosedd ac Anrhefn pdf icon PDF 158 KB

Archwilio'r data ansoddol a meintiol sy'n llywio'r trefniadau cyfredol ar gyfer monitro cynnydd Cynllun Cyflawni Cymunedau Diogel Cwm Taf 2018-21

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd adroddiad diweddaru yn unol â chais Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Medi 2019, pan wnaethant benderfynu bod angen gwybodaeth ac eglurhad pellach yngl?n â phob un o flaenoriaethau Cynllun Cyflenwi Cymunedau Diogel Cwm Taf 2018-21, yn ogystal â derbyn data ansoddol a'r mesurau o fewn y chwe blaenoriaeth strategol. Pwysleisiodd y Pwyllgor bwysigrwydd gallu mesur p'un a yw cymunedau RhCT yn teimlo'n ddiogel o ganlyniad i'r gweithredoedd, ac a ydyn nhw'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

Teimlai'r Pwyllgor y byddai cael gwybodaeth ychwanegol am effeithiau'r gweithredoedd o fewn pob un o'r blaenoriaethau yn eu cynorthwyo i nodi pa faterion o fewn Cynllun Cyflenwi Cymunedau Diogel Cwm Taf 2018-21 y maent am graffu arnynt yn fwy manwl.

 

Er mwyn cynorthwyo Aelodau gyda'u dewis o bynciau i'w craffu ymhellach, tynnodd y Cyfarwyddwr, Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Chymunedau sylw at rai o'r meysydd allweddol yn y Cynllun Cymunedau Diogel: -

 

Traisyn erbyn Menywod / Cam-drin Rhywiol / Domestig - Oherwydd newidiadau rheoliadol diweddar mae'r agenda bellach yn llawer ehangach, ond mae'n parhau i fod yn drosedd sylweddol a dim ond cyfran fach o'r angen y gall gwasanaethau ymateb iddo. Mae'r ffocws wedi symud o'r gwaith ataliol i fynd i'r afael â'r angen uniongyrchol ac acíwt.

 

TraisDifrifol a Phobl Agored i Niwed - Cyfeiriad arbennig at y gangiau cyffuriau 'Llinellau Cyffuriau' o ddinasoedd mawr yn ehangu eu gweithgarwch i drefi llai, gan ddefnyddio trais yn aml i yrru delwyr lleol allan a cham-fanteisio’n rheolaidd ar blant a phobl agored i niwed i werthu cyffuriau. Mae Partneriaethau Cymunedol yn ymateb i'r bygythiad yma ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Trafododd yr aelodau y chwe maes blaenoriaeth yn eu tro a gofyn am eglurhad yngl?n â sut mae ein cymunedau yn dawel eu meddwl yn dilyn trosedd ddifrifol yn eu cymuned. Esboniodd y Cyfarwyddwr y broses ar gyfer y troseddau difrifol hynny, sy'n brin yn RhCT, ond mewn ymateb i'r troseddau mwyaf arwyddocaol, yn enwedig achosion o ladd yn y cartref, mae'r ymateb yn cynnwys adolygiad a gynhaliwyd gan y Bartneriaeth Cymunedau Diogel i nodi gwersi a ddysgwyd, cyhoeddi adroddiadau a rhoi cynlluniau gweithredu ar waith.

 

Nododd Aelod fod troseddau lefel isel yn peri mwy o bryder i breswylwyr, gyda nifer cyfyngedig yn rhoi gwybod amdanyn nhw rhag ofn iddyn nhw brofi ôl-effeithiau. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer preswylwyr h?n.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Aelodau nodi a dewis dau o linynnau Cynllun Cyflenwi Partneriaeth Cymunedau Diogel Cwm Taf i'w hystyried ymhellach er mwyn craffu'n briodol ar y materion a sicrhau canlyniadau diriaethol. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr, Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Chymunedau y gellir ystyried unrhyw feysydd nad ydynt yn cael eu dewis ond sy'n berthnasol i waith y Pwyllgor fel adroddiadau gwybodaeth megis  ...  view the full Cofnodion text for item 28.

29.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r Pwyllgor am ei ymateb cadarnhaol mewn perthynas ag eitemau a ystyriwyd heddiw a'r argymhellion a gyflwynwyd.

Cyfarfod nesaf: - Atgoffwyd yr aelodau y bydd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael ei gynnal ar 2il Rhagfyr 2019 am 5pm yn Siambr y Cyngor i ystyried yr eitemau fel y'u cynhwysir ar y Rhaglen Waith

30.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.