Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Ms J Nicholls - Principle Democratic Services Officer  01443 424098

Eitemau
Rhif eitem

16.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

  1. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad

i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

17.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Bonetto, J Brencher, M Griffiths, J Harries ac E Stephens

18.

Cynllun Corfforaethol 2020-2024 pdf icon PDF 1 MB

I Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ymgymryd â gwaith cyn craffu ar Gynllun Corfforaethol drafft y Cyngor 2020-2024 ac argymell ffordd ymlaen a llywio'r adborth i'r Cabinet.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a oedd wedi'i drefnu er mwyn rhoi'r cyfle i Aelodau'r Pwyllgor ymgymryd â gwaith cyn craffu ar Gynllun Corfforaethol drafft y Cyngor 2020-2024 ac argymell ffordd ymlaen a llywio'r adborth i'r Cabinet.

 

Atgoffodd y Prif Weithredwr y Pwyllgor Craffu fod y Cyngor wedi cymeradwyo ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2016-2020 ym mis Chwefror 2016 yn dilyn cyfnod o ymgynghori yngl?n â'r weledigaeth, y pwrpas a'r tair blaenoriaeth ar y pryd, yr Economi, Pobl a Lle. Roedd y Cynllun Corfforaethol wedi llwyddo i lywio'r ffordd y mae'r Cyngor yn gweithio ac mae wedi gwneud cynnydd mewn perthynas â materion lleihau fel gofod swyddfa'r Cyngor a buddsoddiad mawr i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

 

O ran Cynllun Corfforaethol drafft y Cyngor 2020-2024, gofynnwyd i aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ystyried a oedd yn nodi gweledigaeth a phwrpas clir ar gyfer y Cyngor ac a oedd y blaenoriaethau, Pobl, Lleoedd a Ffyniant, yn briodol. Atgoffwyd yr aelodau bod y flaenoriaeth 'Ffyniant' wedi disodli'r flaenoriaeth flaenorol,'Economi', i adlewyrchu'n well faterion sy'n ymwneud â chanol ein trefi a'r ffordd y mae preswylwyr yn cynnal eu gwaith a'u busnes a sut maen nhw'n cymdeithasu.

 

Cyfeiriodd Aelod at weledigaeth y Cyngor ac awgrymodd y canlynol: - “Bod y lle gorau yng Nghymru i fyw, gweithio a chwarae…” nid De Cymru yn unig, i adlewyrchu’n well mai’r Cyngor hwn yw’r gorau yng Nghymru.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y weledigaeth ar gyfer ein cymunedau yn y cynllun a chyfeiriodd at ddata Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016/17 a roddodd RCT yn y 19eg safle allan o 22 Awdurdod Lleol, islaw'r cyfartaledd Cenedlaethol gan nad yw trigolion yn teimlo eu bod yn cyfranogi o'u cymunedau. Mewn ymateb, cytunodd y Prif Weithredwr y byddai cynnal arolwg cyhoeddus gan y Cyngor ei hun yn ffordd o weld gwir adlewyrchiad o farn y cyhoedd ar wasanaethau'r Cyngor, ymgysylltu â'r gymuned ac ofn trosedd gan fod modd i rai arolygon sampl fod yn isel a darparu darlun camarweiniol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fod adroddiad i'r Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad nesaf yn nodi dull y Cyngor o ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion yn enwedig o ran newidiadau i wasanaethau, ymgynghori ar y gyllideb ac ymgysylltu â'r cynllun corfforaethol.

 

Atgoffodd yr aelod cyfetholedig a oedd yn bresennol y pwyllgor o bwysigrwydd ymgysylltu â phobl ifainc ac er bod y Cynllun Corfforaethol yn gadarn ac yn llawn dyheadau, roedd yn teimlo nad oedd yn apelio at bobl ifainc. Ar y cam yma, cadarnhawyd mai dim ond ceisio adborth gan Aelodau oedd y bwriad, ond byddai cyfle i ymgynghori â'r gymuned ehangach ar sawl ffurf gan gynnwys ar-lein, sioeau teithiol hygyrch ac achlysuron ymgysylltu penodol ar gyfer pobl ifainc a phobl h?n.

 

Awgrymodd Aelod mai thema allweddol i bobl ifainc, a rhywbeth sy'n peri pryder iddyn nhw, yw newid yn yr hinsawdd ac efallai fyddai cynnwys y pwnc yma yn ennyn eu diddordeb. Tynnwyd sylw at y ffaith bod nifer  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

 

20.

EITEM BRYS - RHYBUDD O GYNNIG pdf icon PDF 430 KB

Cynnig trefniadau craffu er mwyn bwrw ymlaen â'r Rhybudd o Gynnig ar gyfer datblygu rheilffyrdd yn y dyfodol yn y Sir, yn dilyn cymeradwyaeth gan y Cyngor Llawn ar 18 Medi 2019.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad brys yn cynnig trefniadau er mwyn i'r Pwyllgor Craffu symud y Rhybudd o Gynnig (fel y'i diwygiwyd) mewn perthynas â datblygu rheilffyrdd a metro yn y Sir yn y dyfodol yn ei flaen, fel y cefnogwyd gan y Cyngor Llawn ar 18 Medi 2019.

 

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sefydlu Gweithgor i ddelio â'r mater a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Awgrymwyd y dylid gwahodd cynigydd ac eiliwr y cynnig i bob cyfarfod a bod cylch gorchwyl ac amserlen cyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu sefydlu yn y cyfarfod cychwynnol.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad, fod y buddsoddiadau ymrwymiad yn fanteisiol i RCT gan fod modd i'r awdurdod lleol wneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ychwanegu gwerth at y buddsoddiad cyfredol ac y gallai hynny gynnwys seilwaith a gwasanaethau rheilffordd newydd neu estynedig, trenau, tramiau, bysiau cyflym a theithio llesol ar adeg dyngedfennol pan fydd y Cabinet a'r Cyngor yn adolygu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) y Cyngor.

 

Cadarnhawyd y byddai'r Cynghorydd D Macey yn dod i'r Gweithgor Craffu fel yr Aelod Plaid Cymru sylweddol gyda'r Cynghorwyr K Morgan a G R Davies yn dod yn ôl yr angen.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r aelodau ystyried y ffordd orau o dderbyn barn aelodau sydd ddim yn rhan o'r pwyllgor mewn perthynas â'r mater, p'un ai trwy gyflwyniad llafar neu gyflwyniad ysgrifenedig. Cytunwyd y byddai aelodau sydd ddim yn rhan o'r pwyllgor yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu barn yn bersonol gan roi cyfle i'r holl Aelodau gyfrannu at y mater hwn ledled y Sir.

 

PENDERFYNWYD sefydlu Gweithgor Craffu i ddelio â'r mater ac i dderbyn enwebiadau gan aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i'w cyflwyno i'r Prif Swyddog Craffu. Ymhellach, mae gwahoddiad i aelodau sydd ddim yn rhan o'r pwyllgor gyflwyno eu sylwadau i gyfarfod o'r Gweithgor yn y dyfodol.