Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Julia Nicholls - Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Eitemau
Rhif eitem

9.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol E. Stephens

 

10.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

11.

Cofnodion pdf icon PDF 312 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar:-

 

           Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, 1 Gorffennaf 2019;

           Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Arbennig, 22 Gorffennaf 2019; a

           Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Arbennig, 31 Gorffennaf 2019

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion o gyfarfodydd canlynol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn adlewyrchiad cywir o'r cyfarfod:-

 

  • Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, 1 Gorffennaf 2019;
  • Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Arbennig, 22 Gorffennaf 2019; a
  • Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Arbennig, 31Gorffennaf 2019

 

12.

Materion sy'n Codi:

Cofnodion:

Cofnodion 22 Gorffennaf 2019

Adolygu Trefniadau Etholiadol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

 

Gofynnodd Aelod a oedd gofyn i Aelodau Cwm Rhondda Fach gofrestru eu gwrthwynebiadau ymhellach yn dilyn eu sylwadau yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2019.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fod y sylwadau a gyflwynwyd gan Aelodau yn y cyfarfod wedi bod yn rhan o adborth yr ymgynghoriad, ac y byddan nhw'n cael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn ym mis Medi 2019, lle bydd ymateb cyffredinol y Cyngor yn cael ei bennu.

13.

Cynllun Adborth Corfforaethol y Cyngor pdf icon PDF 449 KB

Derbyn trosolwg o Gynllun Adborth Corfforaethol y Cyngor gyda'r bwriad o nodi themâu, tueddiadau a gwelliannaui'w hadolygu yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad ar y cyd mewn perthynas ag adroddiad blynyddol cyntaf y Cynllun Adborth Cwsmeriaid - Rhoi Sylwadau, Canmol a Chwyno 2018/19. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod yr adroddiad yn ceisio argymhellion y Pwyllgorau Craffu ac yn awgrymu meysydd i'w gwella o ran cynnwys a chyhoeddi adroddiadau blynyddol y Cynllun Adborth Cwsmeriaid yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau at adran 5 yn yr adroddiad a oedd yn nodi cyfranogiad y pwyllgor craffu ac ychwanegodd fod hwn yn gyfle i Aelodau nodi tueddiadau a themâu ynghyd â chytuno ar lefel adrodd briodol yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Rheolwr Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid, mai hwn oedd y tro cyntaf i adroddiad y Cynllun Adborth Cwsmeriaid gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu. Er nad oedd unrhyw ofyniad statudol i'r awdurdod lleol gynhyrchu adroddiad blynyddol, ystyriwyd ei bod yn bwysig rhoi gwybod i'r pwyllgorau craffu am natur yr adborth gan gwsmeriaid, a sut mae'r Cyngor yn casglu sylwadau, cwynion a chanmoliaeth trigolion ac ymwelwyr â'r Fwrdeistref Sirol. Amlygodd y Rheolwr Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid rai o'r gwelliannau a wnaed i'r Cynllun Adborth Cwsmeriaid ers mis Ionawr 2019, fel cofnodi adborth yn fwy cywir, cyflwyno cyfarfodydd chwarterol ar gyfer cydgysylltwyr y Cynllun Adborth Cwsmeriaid a gwelliannau i'r wybodaeth sydd ar y wefan a'r cyfryngau cymdeithasol yngl?n â'r y Cynllun Adborth Cwsmeriaid.

 

Adroddwyd bod newidiadau deddfwriaethol i bwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (PSOW) wedi dod i rym ar 1 Mai 2019. Mae hyn yn golygu bod mwy o bwerau ymchwilio bellach mewn grym, yn ogystal â rôl fonitro safonau, tueddiadau a phatrymau ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Esboniodd y Rheolwr Adborth, Ymgysylltu a Chwynion Cwsmeriaid ei bod hi'n amser da i'r adroddiadau ddechrau cael eu cyflwyno i'r Pwyllgorau Craffu oherwydd, yn y dyfodol, gallai adroddiadau hefyd gynnwys canlyniadau fel y'u cofnodwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a data cymharol gan awdurdodau lleol eraill.

 

I gloi, cyfeiriwyd yr Aelodau at Atodiad 1 a oedd yn nodi trosolwg o'r cynllun adborth cwsmeriaid, a dadansoddiad byr ar gyfer 2018/19.

 

Gofynnodd Aelod a yw ymholiadau/sylwadau a gaiff eu cofrestru drwy Twitter a mathau eraill o gyfryngau cymdeithasol yn cael eu monitro. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fod y sylwadau'n cael eu cofnodi, a bod unrhyw sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn cael eu cyfeirio at y garfan gofal cwsmer. Dywedodd e eu bod nhw'n cael eu adrodd i uwch reolwyr y cyngor fel sy'n briodol.

 

Gofynnodd Aelod am ddiffinio cwyn a gofynnodd sut y gellir nodi ymholiad dros y ffôn fel cwyn neu gais am wasanaeth. Eglurwyd bod gwybodaeth am gwyno yn cael ei darparu i'r cyhoedd yn ystod y sgwrs ffôn ac, yn gyffredinol, os yw'r mater yn cael ei gofnodi am y tro cyntaf, fe'i ystyrir yn gais am wasanaeth. Pwysleisiwyd mai aelodau'r cyhoedd eu hunain sydd i benderfynu a yw eu hymholiad yn g?yn neu'n sylw.

 

Yn dilyn pryder a godwyd ynghylch sut mae Ysgolion yn nodi eu  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Pecyn Cymorth Craffu (Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)) Argymhellion y Gweithgor pdf icon PDF 175 KB

Derbyn adroddiad ac argymhellion sydd wedi'u llunio gan y Gweithgor Craffu a sefydlwyd i ystyried datblygu Seilwaith i gefnogi Perchnogaeth Cerbydau Carbon Isel yn Rhondda Cynon Taf (yn dilyn yr Hysbysiad o Gynnig i'r Cyngor ar 28 Chwefror 2018)

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad mewn perthynas â'r canfyddiadau a deg argymhelliad y Gweithgor Craffu a sefydlwyd i ystyried y seilwaith cerbydau carbon isel i gefnogi perchnogaeth cerbydau carbon isel yn Rhondda Cynon Taf. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi cytuno i ddefnyddio'r pwnc i brofi'r defnydd o Becyn Cymorth Craffu Cenedlaethau'r Dyfodol er mwyn helpu'r Cyngor i fodloni ei ofynion mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Wrth ymgymryd â'i waith, cynhaliodd y Gweithgor Craffu drafodaethau eang ar y prosiect, gan alw am dystiolaeth o nifer o ffynonellau megis Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, ymchwil ar bolisïau a chynlluniau ar lefelau byd-eang, y DU, cenedlaethol a lleol. Yn ystod y cyfnod yma, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei adroddiad 'Ffyniant i bawb: Cymru Carbon Isel 2019' a chyhoeddodd yr awdurdod lleol ei ymateb i Net Zero: y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod yr argymhellion yn cydnabod bod Cymru ar ei hôl hi, a'u bod yn canolbwyntio ar y paratoadau ar gyfer dyfodol yr awdurod lleol, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol ac ystyried gwaith ymgysylltu â thrigolion. Aeth ati i gydnabod fod modd cyflawni llawer o'r gwelliannau trwy'r Fargen Ddinesig. 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, o ran pris ac ystod y cerbydau, fod y gweithgor yn teimlo bod rhywfaint o'r wybodaeth sydd ar gael yn tanamcangyfrif y defnydd o gerbydau carbon isel yn y dyfodol, gan fod arferion yn debygol o newid. Ychwanegodd fod y gweithgor o'r farn y dylai'r Cyngor alw ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o arweiniad o ran seilwaith Cerbydau Trydan ledled Cymru ac annog Llywodraeth y DU i gyflwyno'r cymhellion a'r seilwaith sydd eu hangen i annog gyrwyr i ddefnyddio ceir trydan.

I gloi, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r canfyddiadau'n cael eu hadrodd i'r Cyngor yn dilyn yr Hysbysiad o Gynnig gwreiddiol, ac y byddai'r argymhellion yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet yn ei gyfarfod ar 24 Medi 2019.

Cyfeiriodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu yr Aelodau at y tabl a nodwyd yn yr adroddiad, sy'n dangos y nifer o bobl y mae  disgwyl iddynt ddefnyddio ceir 'plug-in' yn Rhondda Cynon Taf erbyn 2030. Atgoffodd y Pwyllgor hefyd fod grantiau ar gyfer ceir hybrid 'plug-in' wedi'u torri yn y DU, a fydd yn cael effaith sylweddol ar werthiant ceir trydan ac yn lleihau'r cymhelliant i gyflawni'r nodau amgylcheddol. Yn ogystal, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, fod y Gweithgor wedi cael gwybod am yr opsiwn dan arweiniad masnachol, lle byddai Llywodraeth Cymru yn arwain y gwaith o sefydlu seilwaith Cerbydau Trydan. Gallai hyn fod yn ddewis da ac yn fodel gwell i'r awdurdod lleol ei ddilyn.

Gofynnodd un Aelod a gafodd ymarfer addas ei gynnal i nodi lleoliadau'r cyfleusterau gwefru presennol ar draws RhCT. Cadarnhaodd y Cadeirydd fod hyn wedi'i ystyried, a gwelwyd bod nifer y pwyntiau gwefru yn gyfyngedig, er bod y pwyslais ar sicrhau seilwaith a fydd yn cefnogi teithiau hirach trwy  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Y Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn (Yn ei rôl fel y Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn dynodedig (o dan Adrannau 19 ac 20 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006)) pdf icon PDF 114 KB

Gwerthuso a dewis llinynnau priodol o Gynllun Cyflawni Partneriaeth Cymunedau Diogel Cwm Taf i'w hadolygu'n fanylach fel rhan o'i rôl fel y Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn (O dan adrannau 19 a 20 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006)

 

https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Council/CouncillorsCommitteesandMeetings/Meetings/PublicServiceDeliveryCommunitiesandProsperityScrutinyCommitteeCrimeandDisorder/2019/02/11/Reports/CwmTafCommunitySafetyDeliveryPlan1821V5FINALJune18.pdf

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Diogelwch y Cyhoedd adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned,  a rhoddodd drosolwg o Gynllun Cyflenwi Cymunedau Diogel Cwm Taf 2018-21 i Bwyllgor Trosedd ac Anhrefn dynodedig y Cyngor (o dan adrannau 19 a 20 o Ddeddf Cyfiawnder yr Heddlu 2006).

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth strwythur Bwrdd Partneriaeth Cymunedau Diogel Cwm Taf, fel y nodir yn Ffigur 1 yn yr adroddiad. Mae hwn yn cynnwys awdurdodau cyfrifol sy'n gweithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth fel rhan o'r Bwrdd Partneriaeth Cymunedau Diogel, ac yn adrodd i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Cafodd y Pwyllgor Craffu wybod nad yw Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o'r Bwrdd Partneriaeth Cymunedau Diogel ar hyn o bryd a bod ganddo ei drefniadau Cymunedau Diogel ar wahân ei hun, ond gallai hyn fod yn destun newid yn y dyfodol yn dilyn canlyniad adolygiad o ffiniau Heddlu De Cymru.

 

Mae Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd Cymunedau Diogel ddatblygu strategaeth ar gyfer lleihau trosedd ac anhrefn yn yr ardal. Ymhellach, cafodd asesiad diogelwch cymunedol 2017 ei lunio er mwyn llywio'r strategaeth honno a chanolbwyntio ar chwe maes blaenoriaeth. Mae'n nodi'r argymhellion allweddol sydd angen i'r Bwrdd Cymunedau Diogel eu datblygu'n rhan o Gynllun Gweithredu Partneriaeth Cymunedau Diogel 2018-21. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth mai pwrpas y Cynllun yw sicrhau bod Partneriaeth Cymunedau Diogel Cwm Taf yn atebol am gyflawni camau gweithredu sy'n ymateb i'r blaenoriaethau a nodwyd gan Asesiad Anghenion Cymunedau Diogel Cwm Taf 2017.

 

I gloi, ceisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sylwadau'r Pwyllgor Craffu mewn perthynas â pha bynciau o Gynllun Cyflenwi Cymunedau Diogel Cwm Taf 2018-21 yr hoffai'r aelodau graffu'n fanylach arnyn nhw mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oes gan Bartneriaeth Diogelu Cwm Taf y grym i fwrw ymlaen ag unrhyw argymhellion, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Diogelwch y Cyhoedd y mecanwaith adrodd; byddai argymhelliad gan Fwrdd y Bartneriaeth Cymunedau Diogel i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn golygu bod modd datblygu ymrwymiad corfforaethol ar lefel uwch a chyflawni gweithredoedd yn rhan o benderfyniad aml-asiantaeth rhwymol.

 

Gofynnodd Aelod arall o’r Pwyllgor am eglurhad yngl?n â llywodraethu’r Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn, ac awgrymodd mai rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw monitro Cynllun Cyflenwi Cymunedau Diogel Cwm Taf 2018–21, gan adael y Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn i ddelio â materion mwy lleol fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, diogelwch cymunedol a phroblemau iechyd meddwl. Tynnodd yr Aelod sylw at y ffaith bod y cylch gorchwyl ar gyfer Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf yn eithrio materion y mae modd i bwyllgor Trosedd ac Anrhefn yr Awdurdod Lleol. Hefyd, nid yw'r Cydbwyllgor wedi cyfarfod eto i osod ei raglen waith ar gyfer y dyfodol.

 

Mewn ymateb, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu at Gonsortiwm Canolbarth y De, y gwasanaeth addysg ar y cyd ar gyfer y pum awdurdod lleol sy'n edrych ar ddatblygu gwasanaeth gwella ysgolion sy'n herio, monitro a chefnogi  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.