Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Julia Nicholls - Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Eitemau
Rhif eitem

6.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Gynghorwyr  y Fwrdeistref y Sirol H. Boggis, W. Jones a D. Macey. Derbyniwyd ymddiheuriad hefyd gan yr Aelodau Cyfetholedig Mr J. Fish a Mr C. Jones (GMB) 

 

7.

Datgan Buddiant

 

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:

 

1.  Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Rosser y buddiant personol canlynol mewn perthynas â'r mater – "Rwy'n Aelod o Fwrdd Coleg y Cymoedd".

 

2.  Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher y buddiant personol canlynol mewn perthynas â'r mater – "Roeddwn i arfer dysgu yn Ysgol Uwchradd Pontypridd ac rwy'n Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Coed-y-lan".

 

3.  Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Bonetto y buddiant personol canlynol mewn perthynas â'r mater – "Rwy'n aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen".

 

4.  Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol E. M. Griffiths y buddiant personol canlynol mewn perthynas â'r mater – "Rwy'n Ymddiriedolwr ar Gylch Meithrin Evan James ac yn rhiant i blentyn sy'n mynd i Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James".

 

5.  Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Belzak y buddiant personol canlynol mewn perthynas â'r mater – "Rwy'n Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Cilfynydd ac Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton".

 

6.  Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Powell y buddiant personol canlynol mewn perthynas â'r mater – "Rwy'n Aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen".

 

7.  Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol H. Fychan y buddiant personol canlynol mewn perthynas â'r mater – "Rwy'n Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James".

 

8.  Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L. Hooper y buddiant personol canlynol mewn perthynas â'r mater – "Mae aelod o'm teulu yn mynychu un o'r ysgolion sy'n destun yr adroddiad".

 

9.  Datganodd Mr C. Bradshaw y buddiant personol canlynol mewn perthynas â'r mater – "Cefais fy mhenodi i Gorff Llywodraethu Coleg Morgannwg (bellach Coleg y Cymoedd) am gyfnod o 4 blynedd yn 22ain Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor (17 Mai 2017)."

 

 

8.

Adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu pdf icon PDF 109 KB

Rhaglen Ysgolion Yr 21ain Ganrif – Cynigion I Wella'r Ddarpariaeth Addysg Yn Ardal Ehangach Pontypridd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, yr adroddiad a oedd yn cynnwys manylion y ddwy ffurflen 'galw i mewn' ddilys a ddaeth i law yn enwau'r tri llofnodwr ar gyfer pob achos galw i mewn, a hynny yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 18 Gorffennaf 2019 mewn perthynas â'r Rhaglen Ysgolion yr 21ain - Cynigion i Aildrefnu Ysgolion Cynradd, Ysgolion Uwchradd a'r Ddarpariaeth Chweched Dosbarth yn ardal ehangach Pontypridd. Cyfeiriwyd yr Aelodau Etholedig a'r rhai a oedd yn bresennol at adran 4.1 yn yr adroddiad a oedd yn nodi'r weithdrefn ar gyfer y cyfarfod galw i mewn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai pob un o'r llofnodwyr 'galw i mewn' yn annerch y Pwyllgor gan amlinellu'r rhesymau a roddwyd ganddynt wrth ofyn am alw i mewn (copïau ynghlwm yn Atodiad D (i) a (ii) o'r adroddiad). Byddai'r Swyddogion Perthnasol ac Aelodau Cabinet wedyn yn cael cyfle i ymateb i'r pwyntiau a godwyd. Cadarnhawyd y byddai gan un o'r llofnodwyr enwebedig o bob achos galw i mewn yr hawl i wneud eu hanerchiad olaf i'r Pwyllgor yn union cyn cynnal pleidlais yngl?n â chyfeirio'r mater yn ôl i'r Cabinet i'w ailystyried. Nodwyd, pe bai'r pwyllgor yn penderfynu na ddylid cyfeirio'r mater yn ôl, yna byddai penderfyniad y Cabinet o 18 Gorffennaf 2019 yn dod i rym ar unwaith, ar ddiwedd y cyfarfod. Byddai'r broses yma'n cael ei hailadrodd ar gyfer yr ail achos galw i mewn a mater i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fydd egluro a chrynhoi'r canlyniad ar y ddau achlysur.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth hefyd nad oedd yr Aelod Cyfetholedig a oedd yn bresennol yn gymwys i bleidleisio ar y mater dan sylw.

ACHOS GALW I MEWN 1

 

Y Cynghorydd M. Powell

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd M. Powell y byddai hefyd yn gwneud yr anerchiad olaf i'r Pwyllgor ar ran tri llofnodwr yr achos galw i mewn cyntaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Powell at sylwadau honedig y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yng nghyfarfod y Cabinet ar y 18 Gorffennaf 2019, a oedd yn awgrymu bod y Cyngor yn ariannu un ysgol gyfan yn yr ardal, ar £4 miliwn y flwyddyn, gyda'r cyhoedd yn talu am hyn heb gael unrhyw beth yn ôl am eu harian. Gofynnodd y Cynghorydd Powell pryd ddaeth yr wybodaeth yma'n amlwg i'r Cyfarwyddwr, gan nad oes sôn am hyn yn yr adroddiad. Ailadroddodd na fyddai'r gost hon yn dod â budd i'r disgyblion.

 

Holodd y Cynghorydd Powell am y 785 o leoedd dros ben mewn ysgolion uwchradd yn ardal ehangach Mhontypridd a gofynnodd am eglurhad ar ddalgylchoedd 'Ardal Ehangach Pontypridd'. A oedd hyn yn cynnwys Abercynon neu Ysgol Gyfun Bryncelynnog, Beddau? Yn ogystal â hynny, cwestiynodd y Cynghorydd Powell sut mae cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cael ei wario a sut mae arian yn cael ei 'wastraffu', gan nad oes sôn am y £4 miliwn yn yr adroddiad, swm bosibl o £16 miliwn dros dair blynedd, a allai, yn ei farn ef, gael ei wario'n well mewn man arall. Anogodd  ...  view the full Cofnodion text for item 8.