Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX
Cyswllt: Julia Nicholls - Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd 01443 424098
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Buddiant To receive disclosures of personal interest from Members in accordance with the Code of Conduct
Note:
1. Members are requested to identify the item number and subject matter that their interest relates to and signify the nature of the personal interest: and 2. Where Members withdraw from a meeting as a consequence of the disclosure of a prejudicial interest they must notify the Chairman when they leave.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
Cyflwyno a Gweithdrefnau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Aelodau a'r cyhoedd i Gyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Cyflwynodd y Cadeirydd y Swyddog i'r Aelodau a'r cyhoedd, gan esbonio'r rheolau gweithdrefn i bawb.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai tri aelod o'r cyhoedd, hynny yw Mrs A Tritschler, Dr L Arthur, a Ms H Cooke, yn cael gwahoddiad i annerch y Pwyllgor mewn perthynas â moderneiddio gofal preswyl a gofal oriau dydd ar gyfer pobl h?n.
|
|
Cyn craffu – Moderneiddio Gofal Preswyl a Gofal Oriau Dydd ar gyfer Pobl Hŷn. PDF 4 MB Derbynadroddiad yn amlinellu’r ymgynghoriadau cyhoeddus yngl?n â’r model darparu gwasanaethau a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer Cartrefi Gofal Preswyl y Cyngor a Gwasanaethau Gofal Dydd yn Rhondda Cynon Taf yn y dyfodol a rhoi'r cyfle i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i gynnal gwaith cyn y cam craffu ar y maes er mwyn llywio argymhellion ar gyfer mynd â'r maen i'r wal ac adrodd yn ôl i'r Cabinet.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gan roi gwybod i Aelodau, a hynny'n rhan o drefn y cyfarfod, i dri aelod i'r cyhoedd wneud cais am gael siarad gerbron y Pwyllgor, sef Dr L Arthur, Mrs A Tritschler, a Mrs H Locke, ac y bydden nhw'n cael gwahoddiad i wneud hynny.
Esboniodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ddiben yr adroddiad yngl?n â moderneiddio gofal preswyl a gofal oriau dydd ar gyfer pobl h?n. Aeth e yn ei flaen i egluro'r rhesymau dros yr adroddiad sy'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu heno, sef caniatáu i Aelodau ymgymryd â gwaith cyn craffu ar yr adroddiad sy'n nodi canlyniad y broses ymgynghori 12 wythnos â'r cyhoedd, trigolion, a staff. Esboniodd y byddai sylwadau'r Aelodau yn rhan o'r adborth y bydd y Cabinet yn ei gael, pan fydd yn trafod y mater yma. Tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu sylw Aelodau y bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn parhau i gael newyddion rheolaidd ynghylch cynnydd y mater, a lle bo angen, rhoi adborth i'r Cabinet i sicrhau bod y Pwyllgor Craffu yn parhau i gyfrannu at y cynigion.
Bwriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Demcrataidd a Chyfathrebu olwg yn ôl dros ran y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu hyd yma, gan gyfeirio at y gwaith craffu blaenorol gan y Pwyllgor ar Strategaeth Gofal Ychwanegol y Cyngor (Medi 2017) a'r opsiynau sy'n cael eu ffafrio gan Swyddogion ar gyfer ymgynghori posibl (Rhagfyr 2018). Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu fod ymgymgymryd â gwaith cyn craffu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar hyn o bryd yn y broses dod i benderfyniad yn gwella atebolrwydd ac yn cynorthwyo'r Cabinet yngl?n â dod i benderfyniadau ar y materion yma yn y dyfodol. Galwodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ar Gyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant ynghyd â'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Oedolion i gyflwyno'r adroddiad i'r Aelodau a'r Cyhoedd.
Esboniodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant y rhesymau dros yr angen i foderneiddio Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a'u gwella'n barhaus, yn Rhondda Cynon Taf. Soniwyd bod poblogaeth Rhondda Cynon Taf yn cynyddu a bod pobl yn byw'n hirach, ynghyd â'r disgwyl y bydd dementia a salwch cyfyngedig, hir tymor yn effeithio ar ragor ohonyn nhw. O ganlyniad i hynny, mae rhaid i'r Cyngor barhau i gynnal gwasanaethau gofal mor effeithiol ag sy'n bosbl i wneud y mwyaf o'r buddion a rheoli pwysau o ran costau. Rydyn ni o'r farn o hyd bod pobl eisiau aros yn eu cartrefi'u hunain lle y bo'n bosibl, ac mae buddsoddi yn rhaglen datblygu Gofal Ychwanegol a pharhau i foderneiddio gwasanaeth Cymorth Gartref a gwasanaethau cymorth eraill i oedolion yn anelu at ddiwallu anghenion a disgwyliadau newidiol ein cymuned yn well. Byddwn ni hefyd yn parhau i geisio ymateb yn y modd mwyaf addas i anghenion unigolion yn y cyswllt o'r hyn sy'n bwysig ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Adolygu Trefniadau Etholiadol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru PDF 91 KB Ystyried Cynigion Drafft Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ynghylch ei adolygiad o Drefniadau Etholiadol y Cyngor Cofnodion:
Hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau cyn i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol gyflwyno'r adroddiad mewn perthynas â'r 'Adolygiad o Drefniadau Etholiadol y Cyngor gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Lleol Cymru', ei fod e wedi derbyn cyflwyniadau ysgrifenedig gan Aelodau unigol sef y Cynghorwyr Bwrdeistref Sirol G. Thomas, R. Turner, M. Griffiths a T. Leyshon a fyddai’n cael eu hystyried fel rhan o'r broses adrodd i’r Cyngor llawn.
Amlinellodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol gefndir yr adroddiad ac eglurwyd bod y Comisiwn bellach wedi llunio ei Gynigion Drafft mewn perthynas â'i adolygiad ac mae'r rhain wedi'u cynnwys yn yr Adroddiad Cynnig Drafft, y byddai'r Aelodau wedi cael cyfle i'w hystyried cyn y cyfarfod.
Parhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol i egluro bod y Comisiwn bellach wedi cychwyn cyfnod o 12 wythnos o ymgynghori statudol ar yr Adroddiad Cynigion Drafft, sy'n rhedeg o 26 Mehefin 2019 i 17 Medi 2019 ac yn gwahodd sylwadau, sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ffeithiau sy'n berthnasol i'r cynnig penodol dan sylw.
Gofynnwyd i'r aelodau ystyried crynodeb y cynnig drafft ar gyfer pob Ward Etholiadol a chyflwyno eu sylwadau fel rhan o adborth yr ymgynghoriad - naill ai yn y cyfarfod neu cyn cyfarfod y Cyngor a fyddai'n ystyried yr Adroddiad Cynigion Drafft.
Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod i'r Aelodau am eu barn a'u sylwadau.
O ran y Wardiau yn Ardal Rhondda Fach cytunodd yr aelodau yn gryf y dylai lefel y gynrychiolaeth aros fel y mae ar hyn o bryd. Teimlai aelodau y byddai gostwng y niferoedd o chwe Aelod i bedwar Aelod er anfantais i'r preswylwyr sy'n byw yn yr ardal yn enwedig gan nad oedd Cyngor Cymuned a maint yr ardaloedd Ward Etholiadol arfaethedig. Teimlai'r aelodau y byddai nifer yr ysgolion yn yr ardaloedd arfaethedig hefyd yn dioddef, gan y gallai rhai ysgolion fod heb gynrychiolaeth Cynghorydd ar eu cyrff llywodraethu.
Gofynnodd Aelod am eglurhad yn ymwneud â mapiau ardal Pentre'r Eglwys. Sylwodd yr Aelod nad yw eiddo yn ardal Dyffryn y Coed yn cael ei ddarlunio ar y map a gynhwysir yn yr Adroddiad Cynigion Drafft a gofynnodd am eglurhad ynghylch a oedd nifer yr anheddau a'r etholwyr yn yr ardal honno wedi'u hystyried wrth baratoi'r adroddiad. Cadarnhaodd swyddogion y byddai hyn yn cael ei wirio ond roedden nhw ar ddeal eu bod wedi'u cynnwys, er nad yw map yr Arolwg Ordnans a oedd yn cael ei ddefnyddio yn dangos y datblygiad.
Cododd Aelod y cynigion yn ymwneud â chyfuno'r Wardiau Trefforest a'r Graig presennol ac er ei fod yn cydnabod y gallai rhai rhannau o Drefforest drosglwyddo i Ward y Graig dylen nhw aros yn wardiau ar wahân.
O ran y trefniadau arfaethedig ar gyfer Ward Etholiadol Aberpennar, cododd Aelod bryderon ynghylch tangynrychiolaeth a theimlai ei fod yn ymarfer 'chwarae â rhifau' ac mae angen cadw'r trefniadau presennol er budd trigolion yn y cymunedau.
O ran cynnig Treorci, nododd Aelod fod Treorci yn ardal lewyrchus ac yn 'brifddinas y Rhondda' ac mae lleihau'r ward i ward dau Aelod yn dangos diffyg gwybodaeth.
Mewn perthynas â ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Materion brys To consider any items, which the Chairman, by reason of special circumstances, is of the opinion should be considered at the meeting as a matter of urgency.
|