Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX
Cyswllt: Julia Nicholls - Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd 01443 424098
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J. Harries, P. Jarman, S. Morgans ac E. Stephens.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiad o fuddiant canlynol ei wneud yngl?n â'r agenda:
Mewn perthynas ag Eitem 4 yr Agenda, y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl): Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple – "Fi yw Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu".
|
|
Derbyn cofnodion o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gafodd ei gynnal ar 13 Ionawr 2020.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gafodd ei gynnal ar 13 Ionawr 2020 yn adlewyrchiad cywir o'r cyfarfod.
|
|
Dolenni Ymgynghori Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau gydnabod yr wybodaeth oedd wedi'i darparu trwy'r dolenni ymgynghori mewn perthynas ag ymgynghoriadau agored, ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r materion hynny y mae'r awdurdod lleol yn cynnal ymgynghoriadau yngl?n â nhw.
|
|
Adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf PDF 155 KB Paratoi CDLl diwygiedig ar gyfer Rhondda Cynon Taf.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Amlinellodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu diben yr adroddiad ar y cyd a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth y Pwyllgor i sefydlu Gr?p Llywio trawsbleidiol i chwarae rôl ffurfiol wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig fel y cytunwyd yn y Cytundeb Cyflawni gan y Cyngor Llawn ar 27 Tachwedd 2019.
Cafodd yr Aelodau wybod y byddai'r gr?p llywio arfaethedig yn ymgysylltu ag aelodau yn rhan o'r broses, ond ni fyddai'n gweithredu fel Gweithgor Craffu traddodiadol, h.y. ni fyddai'r aelodau'n craffu ar y cynigion ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol na'n chwarae rhan wrth benderfynu ar y dogfennau terfynol sy'n gysylltiedig â'r Cynllun. Byddai'r gr?p llywio'n cyfarfod i lywio'r gwaith o baratoi a llunio'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, a bod o gymorth yn hynny o beth, a gweithredu'n gylch trafod. Awgrymwyd y byddai croeso i Aelodau sydd â diddordeb amlwg ym materion y cynllun, ei weledigaeth a'i nodau.
Cynigiwyd bod y Gr?p Llywio yn cynnwys 11 Aelod, yn unol â chylch gwaith y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ac y dylid cael cynrychiolaeth ddaearyddol deg o bob rhan o'r Fwrdeistref Sirol. Yn ogystal â hynny, cynigiwyd gofyn i Arweinwyr y Grwpiau enwebu aelodau addas a byddai Cadeirydd yn cael ei benodi yn ystod y cyfarfod cyntaf. I gloi, atgoffodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Pwyllgor y byddai'n ddoeth i aelodau a chanddynt fuddiannau sy'n amlwg yn gwrthdaro, fel perchen ar dir, beidio â bod yn rhan o'r gr?p llywio.
Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu (Polisi Cynllunio) yr adroddiad cefndir er budd yr Aelodau ac esboniodd broses adolygu'r CDLl. Ychwanegodd y Rheolwr Materion Cynllunio y byddai adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol yn ystyried deddfwriaeth newydd, materion fel newid yn yr hinsawdd a dyrannu tai, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Dywedodd y byddai'r broses yn cynnwys ymgynghori â nifer o sefydliadau, fel Cadw, Cynghorau Cymuned, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Bwrdd Iechyd.
Croesawodd aelodau’r Pwyllgor y cynnig i sefydlu Gr?p Llywio i oruchwylio proses adolygu'r CDLl a phwysleisiwyd pwysigrwydd ehangu’r ymgysylltiad a darparu gwybodaeth i’r cyhoedd ar bob cam o’r adolygiad.
Yn dilyn rhagor o drafod, PENDERFYNWYD:
1. Y dylai'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gymeradwyo sefydlu Gr?p Llywio trawsbleidiol, sy'n gynrychioladol yn ddaearyddol, i oruchwylio'r broses adolygu fel sydd wedi'i bennu yn y cytundeb cyflawni (a gytunwyd yn ffurfiol gan y Cyngor Llawn ar 27 Tachwedd 2019);
2. Bod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cyfarwyddo'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i ofyn i Arweinwyr y Grwpiau i enwebu aelodau priodol i'r gr?p llywio, ac i raeadru manylion y cyfarfodydd maes o law.
|
|
Canllaw Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol ar gyfer Aelodau Etholedig Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar cynnydd ar ddatblygiad canllaw Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol ar gyfer Aelodau Etholedig yn dilyn cais gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Cofnodion: Darparodd y Blaen Swyddog Rheoli Gwybodaeth a Diogelu Data ddiweddariad ar lafar yngl?n â chynnydd y Canllaw ar y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol ar gyfer Aelodau Etholedig. Roedd hyn ar gais aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn eu cyfarfod cychwynnol ar 8 Ebrill 2019. Yn y cyfarfod hwnnw ac yn dilyn y cyflwyniad, gofynnodd aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i Ganllaw ar y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol i Aelodau Etholedig gael ei lunio a'i gyhoeddi, i gynnig arweiniad ac i fod o gymorth i Aelodau Etholedig wrth gydymffurfio a deddfwriaeth diogelu data.
Amlinellodd y Blaen Swyddog Rheoli Gwybodaeth a Diogelu Data sut yr oedd hi wedi dewis themâu allweddol i'w cynnwys yn y canllaw hyd yma, o ganlyniad i drafodaethau ag Aelodau am eu gwaith achos, trafodaethau â'r Gwasanaethau Democrataidd, a gwaith ymchwil. Soniodd am rai o'r penawdau a'r cynnwys canlynol:
• Rolau’r Aelod Etholedig / sut mae’r gyfraith yn berthnasol; • Gwahanu dyletswyddau; • Bod yn agored, yn onest ac yn dryloyw gydag unigolion; • Cadw t?, storio a chadw data
Croesawodd y Blaen Swyddog Rheoli Gwybodaeth a Diogelu Data gyfraniadau pellach oddi wrth yr Aelodau i'r Canllaw cyn i'r drafft terfynol gael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 16 Mawrth 2020. Yn ddibynnol ar unrhyw sylwadau yn y cyfarfod hwnnw, bydd gofyn i'r Aelodau gymeradwyo'r Canllaw ar y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol i Aelodau Etholedig i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ym mis Ebrill 2020 i'w gytuno a'i gyhoeddi. Awgrymodd y Cadeirydd y byddai modd adolygu'r fersiwn derfynol yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn addas i bwrpas.
Yn dilyn trafodaeth bellach o ran y materion allweddol yr hoffai'r Aelodau eu cynnwys yn y canllaw, fel hawliau gwybodaeth, PENDERFYNWYD:
1.Cydnabod y cynnydd hyd yma mewn perthynas â'r Canllaw ar y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol i Aelodau Etholedig;
2.Y bydd yr Aelodau'n parhau i gyfrannu at gynnwys y llawlyfr drafft trwy gysylltu â'r Blaen Swyddog Rheoli Gwybodaeth a Diogelu Data;
3. Derbyn drafft terfynol y Canllaw ar y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol i Aelodau Etholedig yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 16 Mawrth 2020, ac yn ddibynnol ar unrhyw sylwadau pellach, cymeradwyo'r fersiwn derfynol i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ym mis Ebrill 2020.
|
|
Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau i'w dwyn ymlaen.
Cofnodion: Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau'r Pwyllgor Craffu a'r Swyddogion am y trafodaethau a'r argymhellion a gyflwynwyd. Atgoffwyd yr aelodau y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 16 Mawrth 2020 pan fyddai'r Pwyllgor yn eistedd yn ei rôl fel Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn dynodedig y Cyngor i adolygu'r pynciau a ganlyn:
'Llinellau Cyffuriau ac Amddiffyn Pobl sy'n Agored i Niwed' a Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol'
Dywedodd y Cadeirydd hefyd y byddai'r Pwyllgor yn derbyn drafft terfynol y Canllaw ar y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol i Aelodau Etholedig i'r Aelodau ei gytuno, ynghyd ag Adroddiad Cydymffurfio'r â Safonau'r Gymraeg
|