Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Julia Nicholls - Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd  01443 424098

Eitemau
Rhif eitem

34.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Apologies for absence were received from County Borough Councillors J. Harries, G. Caple and L. Walker.

 

35.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

 

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.   Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiad o fuddiant canlynol ei wneud yngl?n â'r agenda:

 

Cyfeiriodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol P Jarman at y gollyngiad a gafodd hi gan y Pwyllgor Safonau ar 29 Tachwedd 2019, gan nodi'r canlynol: "Yr hawl i siarad a phleidleisio ar bob mater tra bod proses pennu Cyllideb 2020-2021 yn mynd rhagddi" ac yn cael ei mabwysiadu, a hynny fel Arweinydd yr Wrthblaid.

 

36.

Cofnodion pdf icon PDF 115 KB

Derbyn cofnodion o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gafodd ei gynnal ar 12 Tachwedd 2019.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2019 yn rhai cywir.

 

 

 

37.

Sylwadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai'r agenda'n cael ei hystyried mewn trefn wahanol, ac y byddai'r eitem yngl?n â Rhaglen Waith y Cabinet yn cael ei ystyried yn gyntaf o ganlyniad i'r hyfforddiant sydd ar y gweill o ran 'Deall Cyllideb 2019/20 y Cyngor'.

 

 

 

38.

Rhaglen Waith y Cabinet pdf icon PDF 133 KB

Derbyn Rhaglen Waith y Cabinet i nodi unrhyw gyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer gwaith cyn-graffu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (mae'r Rhaglen Waith Trosolwg a Chraffu wedi'i hatodi i hwyluso'r drafodaeth).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, raglen waith y Cabinet, gyda'r bwriad o nodi eitemau ar gyfer gwaith cyn-craffu (cafodd y Rhaglen Waith Trosolwg a Chraffu ei hatodi hefyd er gwybodaeth).

 

Cadarnhawyd y byddai'r materion canlynol yn cael eu hadrodd fel y ganlyn:-

 

Ø  Byddai'r adroddiad Arolwg ISOS yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc cyn cyfarfod y Cabinet, fel bod modd i'r Pwyllgor roi adborth ar yr adroddiad;

Ø  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, y byddai Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael ei drefnu er mwyn trafod yr adborth o'r ymgynghoriad ar 'Foderneiddio Gofal Preswyl a Gofal Oriau Dydd i Bobl H?n'. Byddai'r holl drigolion yn cael eu gwahodd, gyda chydnabyddiaeth arbennig ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Craffu - Iechyd a Lles.

 

Trafododd yr Aelodau Raglen Waith y Cabinet a chydnabod Rhaglen Waith ar gyfer y dyfodol - y Pwyllgor Trosolwg a Craffu rhwng Ionawr ac Ebrill 2020.

 

PENDERFYNWYD cydnabod rhaglenni gwaith y Cabinet a'r Pwyllgor Trosolwg a Craffu ar gyfer y dyfodol, a chydnabod y trefniadau sydd ar waith ar gyfer trafod materion sydd i ddod.

 

39.

Deall Cyllideb y Cyngor 2019/20 pdf icon PDF 303 KB

Darparu trosolwg o Gyllideb Refeniw'r Cyngor ar gyfer 2019/20 a'r Rhaglen Gyfalaf 3 blynedd. 

 

Cofnodion:

Gyda chymorth cyflwyniad Power Point, rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o Gyllideb Refeniw 2019/20 a Rhaglen Gyfalaf 3 blynedd y Cyngor i gynorthwyo eu dealltwriaeth o gyllidebau refeniw a chyfalaf y Cyngor. Caiff y cyflwyniad ei rannu â'r holl Bwyllgorau Craffu dros y misoedd nesaf a'i deilwra i'r Pwyllgorau Craffu ar thema unigol.

 

Derbyniodd yr aelodau drosolwg o gyllideb refeniw'r Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, sy'n manylu ar gyllidebau ysgolion unigol a dadansoddiad o'r gyllideb fesul maes gwasanaeth ar gyfer y rhan o'r Gr?p nad yw'n ysgolion. Cafodd manylion eu darparu am y pwysau ariannol posibl ar ysgolion, megis costau athrawon cyflenwi a chostau uwch o ran pensiynau athrawon.

 

Wrth ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyflawniad Gwasanaethau a'u Gwella fod cyllideb ddigonol ar gyfer cyfraniad yr awdurdod lleol yma i Gonsortiwm Canolbarth y De o'r gyllideb 'sefydliadau nad yw'n ysgolion'. Darparwyd eglurhad hefyd mewn perthynas â'r cyllid ar gyfer darpariaeth Prydau Ysgol Am Ddim ar gyfer teuluoedd sydd ar gael tan ddiwedd sector Sector Cynradd a/neu Uwchradd y disgybl unigol o'r gyllideb ychwanegol sydd ar gael i dalu costau PYDd.

 

Yn dilyn trafodaeth, derbyniodd yr Aelodau gyflwyniad gan y Pennaeth Cyllid - Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, a roddodd ddadansoddiad cyllidebol mewn perthynas â Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant, Hamdden, Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Thai a Thrawsnewid. Cadarnhawyd bod y ddarpariaeth Gwasanaethau Oedolion ar gael i bobl ifainc 18 oed, ond caiff cymorth gadael gofal ei ddarparu hyd at pan maen nhw'n 25 oed.

 

Amlygodd y Pennaeth Cyllid - Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant bwyntiau allweddol eraill mewn perthynas â'r gyllideb refeniw, gan gynnwys pwysau a heriau o ran demograffig. Rhoddodd esboniad mewn perthynas â'r 'model ffioedd tecach' sy'n ymwneud â gofal preswyl, sy'n sicrhau bod yr awdurdod lleol yn talu ffi deg i'w ddarparwyr yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Cafodd gwybodaeth cyllideb refeniw ei gyflwyno i'r Aelodau ar gyfer y maes gwasanaeth hwn yn 2019/20, a hynny o ran Ffyniant a Datblygiad (£2.912 miliwn), Gwasanaethau Rheng Flaen (£53.897 miliwn), Prif Weithredwr (£25.812 miliwn) a chyllidebau corfforaethol (£67.852 miliwn).

 

I gloi, amlinellodd y Pennaeth Cyllid - Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen Raglen Gyfalaf y Cyngor 2019/20 - 2021/22 sy'n rhaglen dreigl tair blynedd. Cyfeiriodd at y cynlluniau allweddol yn y Rhaglen Gyfalaf fel Unedau Busnes Tresalem a Choed-elái, YMCA Pontypridd a'r Rhaglen Amnewid y Fflyd. O ran y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant, nodwyd nad yw ffigurau eleni yn cynnwys Ysgolion Band B yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sy'n cael eu cyflwyno fel achosion busnes unigol i Lywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach a'r sylwadau i gloi a oedd yn ymwneud â rhagolwg heriol y cynllun Ariannol Tymor Canolig, atgoffwyd yr Aelodau o'r cynllunio a'r craffu cyson a chadarn ar draws y Cyngor mewn perthynas â'r cyllidebau a'r prosesau sydd ar waith. Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am ddarparu trosolwg manwl o gyllidebau'r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD cydnabod yr wybodaeth a ddarperir mewn perthynas â Chyllideb Refeniw 2019/20 y Cyngor  ...  view the full Cofnodion text for item 39.

40.

Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad Gwella Blynyddol - Cynnydd Diweddaraf y Cyngor pdf icon PDF 614 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Adroddiad Gwelliant Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru 2018/19 a drafodwyd gan y Cyngor ar 18 Medi 2019. Gofynnwyd i'r Aelodau ystyried y cynnydd a wnaed gan y Cyngor hyd yma wrth roi'r cynigion ar gyfer gwella ar waith.

 

Atgoffwyd yr Aelodau ei bod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Craffu i ystyried adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ac i werthuso cynnydd y cyngor yn erbyn y camau y cytunwyd arnynt.

 

Gofynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, i'r Aelodau benderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach ar ôl ystyried y cynigion a/neu a oes angen unrhyw atgyfeiriadau at Bwyllgor Archwilio'r Cyngor.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach PENDERFYNWYD cyfeiriomaterion cydymffurfio Cam-drin Domestig y Cyngor i'r Pwyllgor Archwilio i'w hystyried a'u hadolygu ymhellach.

 

41.

Adroddiad am y Strategaeth Gynnwys pdf icon PDF 279 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, ei adroddiad a roddodd gyfle i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ymgymryd â gwaith cyn-craffu o ran y Fframwaith Cynnwys ac Ymgysylltu newydd arfaethedig (2020-2024).

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, fod achlysuron ymgynghori’r Cyngor yn cael eu harwain gan y garfan Polisi Corfforaethol gyda threfniadau cadarn pellach ar waith i gryfhau unrhyw weithgarwch yn y dyfodol. Cyfeiriwyd at y Fframwaith Cynnwys ac Ymgysylltu drafft atodol sy'n nodi sut y bydd y Cyngor yn adeiladu ar ei drefniadau cyfredol i ymgysylltu, ymgynghori a chynnwys ei breswylwyr a'i randdeiliaid yn y prosesau ymgynghori.

 

Wrth lunio'r fframwaith, mae'r Cyngor yn cyd-fynd â gofynion Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol, ac er y bydd hyn yn heriol, bydd e'n dilyn dull cyson gyda'i ymgynghoriadau, gan geisio barn a chryfhau'r diwylliant o ran cynnwys unigolion. Mae nifer o grwpiau eisoes yn rhan o'r broses ymgysylltu ehangach â rhanddeiliaid, fel y Fforwm Ieuenctid a Chynghorau Cymunedol a nifer o eraill

 

Yn ei trafodaeth, croesawodd aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r fframwaith, a chydnabod bod angen manteisio ar  ddulliau arloesol er mwyn cyrraedd pob gr?p megis defnyddio cyfryngau cymdeithasol, arolygon barn, Twitter. Teimlai'r Aelodau y dylid cynnwys y cysyniad o 'Gyd-gynhyrchu' yn y fframwaith drafft er mwyn sicrhau bod y broses yn gynhwysol, ac annog preswylwyr i deimlo eu bod nhw'n allweddol o ran datblygu'r atebion ac yn rhan annatod o'r broses.

 

PENDERFYNWYD:

 

  1. Cydnabod cynnwys Fframwaith Cyfranogiad ac Ymgysylltu Rhondda Cynon Taf 2020-2024 gan gynnwys defnyddio'r swyddogaeth Craffu i ddilysu cyfranogiad; a
  2. Bod y term Cyd-gynhyrchu 'yn cael ei gynnwys yn y fframwaith i nodi bod preswylwyr a rhanddeiliaid yn rhan sylfaenol o'r broses gynnwys'

 

42.

Dolenni Ymgynghori

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

Trafodwyd y cysylltiadau ymgynghori diweddar fel y'u cylchredwyd yn flaenorol i holl Aelodau'r Cyngor. Cyfeiriwyd yn benodol at ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn cynnig newidiadau i drefniadau llywodraethu gweithredol y prif gyngor (awdurdodau lleol) gyda'r dyddiad cau ar 27 Chwefror 2020.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cyflwyno ymateb generig i'r ymgynghoriad.

 

43.

Adolygiad Y Cadeirydd A Dod Â'r Cyfarfod i Ben

Myfyrio ar y Cyfarfod a’r camau dilynol.

 

Cofnodion:

 Daeth y Cadeirydd â'r cyfarfod i ben trwy estyn ei ddiolch i'r holl Aelodau am gyrraedd yn brydlon am 4.30pm i dderbyn yr hyfforddiant mewn perthynas â 'Deall Cyllideb Refeniw 2019/20 a Rhaglen Gyfalaf 3 blynedd y Cyngor'.

 

Atgoffodd yr Aelodau y byddai'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu nesaf yn cael ei gynnal ar 10 Chwefror 2020 i adolygu'r adroddiadau canlynol: -

 

Ø  Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor

Ø  Diweddaru'r Llawlyfr GDPR i'r Aelodau

Ø  Ymateb y Cabinet i argymhellion Cerbydau Carbon Isel