Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX
Cyswllt: Julia Nicholls - Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd 01443 424098
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorwyr S Evans, H Boggis ac M Griffiths
Derbyniwyd ymddiheuriad hefyd gan y Cynghorydd S Rees-Owen, Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Plant a Phobl Ifainc a'r Cynghorydd G Thomas Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad.
|
|||
Cadarnhau cofnodion o gyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar:-
· Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Arbennig, 1 Mai 2019; · Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, 8 Ebrill 2019; · Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Arbennig, 3 Ebrill 2019
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion o gyfarfodydd canlynol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn adlewyrchiad cywir o'r cyfarfod:-
Cyfarfod Arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu – 1 Mai 2019 Pwyllgor Trosolwg a Chraffu – 8 Ebrill 2019 Cyfarfod Arbennig y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu – 3 Ebrill 2019
|
|||
Rhaglen Waith y Cabinet PDF 392 KB Derbyn y rhestr arfaethedig o faterion y mae angen i'r Cabinet eu trafod ystod blwyddyn y Cyngor 2019/20. Os yw'n addas, bydd modd canfod a oes modd i'r Pwyllgor yma neu unrhyw un o'r pedwar Pwyllgor Craffu 'thematig' gynnal gwaith cyn-graffu arnyn nhw.
(Mae copi o'r adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mehefin, 2019, wedi'i atodi)
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion busnes y Cyngor a Dirprwy Arweinydd y Cyngor flaenraglen fusnes arfaethedig y Cabinet ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019/20. Cafodd yr aelodau eu hatgoffa bod y rhaglen waith yn debygol o newid o ganlyniad i unrhyw newidiadau i adroddiadau sydd angen sylw brys.
Cydnabu'r Aelod o'r Cabinet bwysigrwydd rhoi rhagor o gyfleoedd i'r Pwyllgor Craffu ymgymryd â gwaith cyn craffu, sydd wedi cryfhau'r broses graffu ac sy'n cyflawni canlyniadau mwy ystyrlon. Cyfeiriwyd hefyd at y camau sydd wedi'u cymryd i wella ymgysylltiad y cyhoedd â phroses graffu'r Cyngor, fel protocol ymgysylltu â'r cyhoedd y Pwyllgorau Craffu, a'r bwriad i hyrwyddo gwaith y Pwyllgorau Craffu yn bellach ar y cyfryngau cymdeithasol. Atgoffodd yr Aelod o'r Cabinet y Pwyllgor hefyd fod proses ymgynghori'r Cyngor yn gynyddol wedi cynnwys y broses graffu.
Cwestiynodd Aelod y mecanweithiau adrodd sydd ar waith ar gyfer trefniadau Cydbwyllgor y Cyngor fel Cydbwyllgor y Fargen Ddinesig. Mewn ymateb, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y byddai'r Adroddiadau Blynyddol priodol yn cael eu cyflwyno i'r cynghorau unigol yn y dyfodol ac eglurodd nad oedd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu i graffu ar y Cydbwyllgorau.
Awgrymodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor efallai y byddai'n fuddiol i'r Aelodau unigol a benodwyd gan Gyngor RhCT i'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu a Chydbwyllgor y Fargen Ddinesig (y Cynghorwyr Caple a Thomas) gyflwyno adroddiad cynnydd anffurfiol i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn rheolaidd.
Gofynnodd Aelod a fyddai diweddariad/datganiad gan y Cyngor mewn perthynas â Brexit ar gael. Awgrymodd y Cadeirydd y byddai'n ddoeth aros am ganlyniad yr etholiad i ddewis Prif Weinidog nesaf er mwyn deall y camau nesaf. Sicrhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr Aelodau y byddai Llywodraeth Cymru neu'r holl awdurdodau lleol yn llywio sut i symud ymlaen.
Atgoffodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor y Pwyllgor Craffu fod y Prif Weithredwr wedi rhoi diweddariad o'r blaen o ran Brexit. Sicrhaodd hi'r Aelodau fod Arweinydd y Cyngor mewn deialog gyson â Llywodraeth Cymru, sy'n cyfathrebu â'r Llywodraeth Ganolog, ac ar yr adeg briodol, byddai briff yn cael ei ddarparu i bob Aelod Etholedig.
Ar ôl ystyried blaenraglen fusnes arfaethedig y Cabinet ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019/20 PENDERFYNWYD cydnabod cynnwys Rhaglen Waith y Cabinet ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019/20.
|
|||
Adolygiad – Trosolwg a Chraffu 'Addas ar gyfer y Dyfodol' PDF 366 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ei adroddiad ac atgoffodd yr Aelodau fod yr adolygiad wedi'i gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor Craffu ar 1 Mai 2019, i'r Cyfarfod Arbennig a drefnwyd i dderbyn y cynigion i wella trefniadau craffu'r Cyngor. Clustnodwyd nifer o elfennau i'w gwella er enghraifft adolygu a gwella cylch gorchwyl pob Pwyllgor Craffu, symleiddio'r blaenraglenni gwaith a darparu strwythur mwy ffurfiol i'r Rhybuddion o Gynnig. Ystyriwyd hefyd y defnydd o gyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo craffu a gwella ymgysylltiad â'r cyhoedd.
Yn dilyn cefnogaeth yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar gyfer y cynigion, mae nifer o addasiadau eisoes wedi cael eu datblygu fel trefniadau mwy ffurfiol ar gyfer cyfarfodydd y Cadeiryddion a'r Is-gadeiryddion Craffu, a chyhoeddi eu hagendâu a'u cofnodion ar wefan y Cyngor, yn ogystal ag ymgysylltu'n llawn â chyfeiriad gwaith y Pwyllgorau Craffu.
Mae'r canlynol hefyd wedi'u datblygu:- • Mae'r cylchoedd gorchwyl wedi cael eu hadolygu a'u diweddaru gyda newidiadau allweddol i gynnwys gosod y thema 'economi' o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad fel sy'n briodol ac yn unol â gwaith presennol y pwyllgor penodol hwnnw; • Mae'r Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn, a oedd yn arfer bod yn rhan o gylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu – Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant, bellach yn rhan o gylch gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Mae hyn er mwyn cydnabod rôl fwy strategol y pwyllgor trosfwaol gan fod y pynciau sy'n cael eu hystyried gan y Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn yn rhai sy'n effeithio ar y Cyngor yn ei gyfanrwydd; a • Blaenraglenni gwaith mwy penodol a chryno sy'n fwy hwylus eu defnyddio. Mae'r rhaglenni gwaith yn cael eu llunio bob chwe mis yn y lle cyntaf er mwyn rhoi cyfle i Aelodau eu gwerthuso i asesu a ydyn nhw'n cyflawni'u swyddogaeth.
Crynhodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu hefyd weithgarwch y Pwyllgor Craffu ers mis Mai 2019 drwy'r tabl a nodwyd yn adran 5 yr adroddiad a oedd yn manylu ar drefn yr achlysuron. Dywedodd fod sesiynau ymgysylltu ag Aelodau'r Cabinet/Cadeiryddion y Pwyllgorau Craffu wedi'u cynnal yn rheolaidd gydag adborth cadarnhaol. Atgoffwyd yr Aelodau hefyd fod Uwch Reolwyr y Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd y broses graffu, ac yn ymgysylltu'n llawn â hi, fel y'i hyrwyddir gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu.
Eglurodd y Cadeirydd fod Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu wedi cael cyfle i ystyried y cylch gorchwyl drafft ar gyfer pob un o'r pwyllgorau craffu cyn gofyn am gytundeb y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Cyfeiriodd ef yr Aelodau hefyd at y rhaglenni gwaith craffu unigol ger eu bron i'w cymeradwyo i'r pedwar pwyllgor craffu thematig, ac at yr angen i gytuno ar ei raglen waith ei hun. Tynnodd y Cadeirydd sylw at rai eitemau allweddol ar raglen waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu fel y Cyfarfod Arbennig ar 22 Gorffennaf 2019 i dderbyn adborth yr ymgynghoriad ar Foderneiddio Gofal Preswyl ac ymateb y Cyngor i adroddiad y Comisiwn Ffiniau. Argymhellion y Gweithgor Craffu ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|||
Hyfforddiant Penderfynu ar ofynion hyfforddiant aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019/20.
Cofnodion: Gofynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i'r Aelodau ystyried eu hanghenion hyfforddi ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan ystyried a fyddai unrhyw hyfforddiant penodol yn eu cynorthwyo i gyflawni eu rôl graffu'n well. Cadarnhawyd y byddai sesiwn hyfforddi sgiliau cadeirio yn cael ei chynnal ar gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu ar y 6 Awst 2019.
PENDERFYNWYD cydnabod y cais i aelodau'r Pwyllgor Craffu ystyried eu hanghenion hyfforddi.
|
|||
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
|