Cyswllt: Ms J Nicholls - Principal Democratic Services Officer 01443 424098
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol E. Stephens a L Walker
|
||
Croeso Cofnodion: Estynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu groeso i'r Aelodau a oedd yn bresennol, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu a Chyfarwyddwr Gwasanaeth, Cyflawniad Gwasanaethau a'u Gwella
|
||
Cyfleuster Ymchwil Craffu Cofnodion: Roedd y Cadeirydd wedi atgoffa'r Aelodau bod cyfleuster ymchwil craffu ar gael yn Uned Busnes y Cyngor i gynorthwyo Aelodau â'u cyfrifoldebau craffu a'u rolau'n Aelodau Etholedig. Dylai'r Aelodau anfon unrhyw geisiadau drwy e-bost.
|
||
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.
Nodwch:
2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
||
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2021 yn rhai cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2021 yn rhai cywir.
|
||
Dolenni Ymgynghori Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w ystyried gan y Pwyllgor. Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau nodi’r wybodaeth oedd wedi'i darparu trwy'r dolenni ymgynghori mewn perthynas ag ymgynghoriadau agored, ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a'r materion hynny y mae'r awdurdod lleol yn cynnal ymgynghoriadau yngl?n â nhw.
|
||
Swyddfa Archwilio Cymru: Crynodeb Archwilio Blynyddol 2020 PDF 434 KB Trafod 'Crynodeb Archwilio Blynyddol 2020' Swyddfa Archwilio Cymrua gyflwynwyd i'r Cyngor ar 10 Mawrth 2021.
Cofnodion:
|
||
Adroddiad Blynyddol 2021/22 – Trosolwg a Chraffu PDF 443 KB Derbyn y newyddion diweddaraf am Adroddiad Blynyddol - Trosolwg a Chraffu 2021/22.
Cofnodion: Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ati i gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2020/21 - Trosolwg a Chraffu, sy'n cynnig trosolwg o holl swyddogaethau craffu'r Cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y bydd yn mynd ati i ymgysylltu â Chadeiryddion y pwyllgorau craffu, os yw'r Pwyllgor yn cymeradwyo'r adroddiad blynyddol, i gadarnhau cynnwys yr adrannau gwahanol (bydd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu - Iechyd a Lles, Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad a'r Pwyllgor Craffu - Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant yn bresennol ar gyfer y cyfarfod er mwyn cyfrannu).
Cyn gofyn am sylwadau ac adborth gan yr Aelodau, awgrymodd y Cadeirydd fod y wybodaeth yn Atodiad 1 yn cael ei nodi ym mhob adran unigol o'r adroddiad blynyddol er mwyn sicrhau cysondeb.
Gofynnodd Aelodau eraill (gan gynnwys yr Aelod Cyfetholedig) bod y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud:
Sylwadau eraill:
Ø Wrth ymateb i ymholiad ynghylch y llifogydd a chategori tomenni - cadarnhawyd y bydd cyfle i gyflawni gwaith cyn y cam craffu mewn perthynas ag Adroddiad Adran 19 cyn cyflwyno'r adroddiad i'r Cabinet ym mis Mehefin 2021. Mae'r dyddiad yn adlewyrchu'r amser sydd ei angen i gasglu swm mawr o dystiolaeth, gwybodaeth dechnegol, sylwadau gan bartneriaid allweddol, cyfweliadau gan drigolion a gwybodaeth ategol; Ø Adroddiad Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu 2020/21 - Bydd yr adroddiad yma'n adroddiad ar wahân sy'n cael ei gyflwyno yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Mehefin/Gorffennaf 2021. Ø Roedd Cadeirydd y Pwyllgorau Craffu wedi trafod fformat/themâu'r adroddiad Blynyddol yn ystod ei gyfarfod ym mis Chwefror 2021; Ø Fel sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad, mae Gwasanaeth Gofal Preswyl i Bobl H?n y Cyngor, yn cynnig datblygiad cyffrous a chadarnhaol ar gyfer pobl h?n, mae'n adroddiad gwych.
Roedd yr Aelodau wedi cydnabod bod fformat syml yr adroddiad craffu blynyddol yn adlewyrchu dylanwad Covid-19, ond yn dyst i'r gwaith y mae'r Pwyllgorau Craffu wedi'i gyflawni yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2020/21. Cytunodd yr Aelodau nad oedd modd gorffwys ar ein rhwyfau a bod gwaith da wedi'i gyflawni gan bob un o'r Pwyllgorau Craffu a'u bod nhw wedi derbyn cymorth effeithiol gan Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu a'r Swyddogion perthnasol.
PENDERFYNWYD:
|
||
Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben Adlewyrchu ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.
Cofnodion: Roedd y Cadeirydd wedi diolch i Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am fynychu'r cyfarfod ac am eu cyfraniad gwerthfawr. Roedd y Cadeirydd wedi diolch iddyn nhw am eu gwaith caled ac am gefnogi'i gilydd drwy gydol y Flwyddyn. Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau am gyfarfod y Pwyllgor Trosedd ac Anrhefn a fydd yn cael ei gynnal ar yr 17 Mai 2021 am 5pm.
|