Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod a derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol E. Webster a S. Powderhill.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael. Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r Ddeddf Trosedd ac Anrhefn I'w nodi: Pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn. Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi pan fydd Aelodau'n ystyried y materion trwyddedu a chofrestru sydd ger eu bron, mae dyletswydd arnyn nhw i beidio â gweithredu mewn modd sy'n anghydnaws â'r confensiwn ar Hawliau Dynol a'r Ddeddf Trosedd ac Anhrefn.
|
|
Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd 25 Chwefror 2020. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gafodd ei gynnal ar XXXX yn adlewyrchiad cywir o'r cyfarfod.
|
|
(i) Trwyddedu Anifeiliaid (ii) Tyllu’r Croen a That?o (iii) Trwydded Casglwyr Metal Sgrap Teithiol (iv) Trwydded Safle Metal Sgrap Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn ei adroddiad, rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd – fanylion i'r Aelodau am drwyddedau a chofrestriadau a roddwyd yn ystod y cyfnod 10 Chwefror 2020 i 27 Medi 2020.
PENDERFYNWYD cydnabod y diweddariad.
|
|
Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad “Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.
|
|
Ystyried y ceisiadau canlynol ar gyfer Trwyddedu a/neu gofrestru: Mr TH – Hirwaun Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Diogelwch y Cyhoedd fanylion y cais canlynol am adolygu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat.
Yn unol â'r gweithdrefnau wedi eu mabwysiadu, cafodd Mr TH o Hirwaun ei groesawu gan yr Aelodau – roedd ei gais am adolygiad o Drwydded Yrru Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat ger bron y Pwyllgor.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth ger ei fron, PENDERFYNODD y Pwyllgor ganiatáu'r cais yn amodol ar y telerau ac amodau safonol arferol; gan roi rhybudd.
|
|
Crynodeb Gorfodi (gan gynnwys data apeliadau/erlyniadau) ar gyfer y cyfnod: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd yr adroddiad yn amlinellu'r gwaith gorfodi diweddaraf, gan gynnwys y diweddaraf am apeliadau ac erlyniadau ar gyfer y cyfnod 14 Chwefror 2020 i 28 Medi 2020.
PENDERFYNODD y Pwyllgor nodi'r diweddariad.
|
|
Crynodeb o'r Trwyddedau a gyhoeddwyd o dan ddarpariaeth awdurdod dirprwyedig ar gyfer y cyfnod: (i) Trwyddedau gyrru ar y cyd – Cerbyd Hacni / Cerbyd Hurio Preifat (ii) Trwyddedau Cerbyd Hacni (iii) Trwyddedau Cerbyd Hurio Preifat (iv) Trwyddedau Gweithredwyr Hurio Preifat Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd adroddiad i'r Aelodau'n amlinellu'r Trwyddedau a/neu Gofrestriadau a gafodd eu rhoi o dan ddarpariaeth Awdurdod Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 10 Chwefror 2020 i 27 Medi 2020.
PENDERFYNODD y Pwyllgor nodi'r diweddariad.
|