Agenda

Lleoliad: Siambr y Cyngor, 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH

Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

2.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

3.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION 21.03.24 pdf icon PDF 123 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 21.03.24 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

CEISIADAU A ARGYMHELLIR AR GYFER EU CYMERADWYO GAN Y CYFARWYDDWR MATERION FFYNIANT A DATBLYGU

Dogfennau ychwanegol:

5.

CAIS RHIF:22/0982 pdf icon PDF 129 KB

Cynelau newydd i gathod a ch?n (Asesiad s?n amgylcheddol wedi'i dderbyn ar 10/01/2023) (Adolygiad o adroddiad Clear Acoustic Design Ltd wedi'i dderbyn ar 15/03/2023).

FFERM TREDEGAIN, HEOL PENYCOEDCAE, PENYCOEDCAE, PONTYPRIDD, CF37 1PU

 

Dogfennau ychwanegol:

6.

CAIS RHIF: 22/1149 pdf icon PDF 342 KB

Adeiladu cyfleuster adennill agregau. (Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol (PEA) diwygiedig, lluniadau ac adrannau ychwanegol wedi'u diweddaru ac Asesiad Ansawdd Aer wedi'u dderbyn ar 4 Mai 2023, Asesiad Trafnidiaeth Ddiwygiedig ac Adendwm Ansawdd Aer wedi'u derbyn ar 28 Medi 2023, Asesiad S?n wedi'i Ddiweddaru wedi'i dderbyn ar 14 Rhagfyr 2023. Datganiad Isadeiledd Gwyrdd a Chynllun Rheoli Ecolegol wedi'i Ddiweddaru wedi'u derbyn ar 5 Chwefror 2023).

CHWAREL FFOREST WOOD, HEOL Y BONT-FAEN, TALYGARN, PONT-Y-CLUN, PONT-Y-CLUN, CF72 9XD

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

CAIS RHIF: 23/0719 pdf icon PDF 145 KB

Adnewyddu adeilad Masnachol presennol a ddifrodwyd gan dân yn 6 fflat a 2 ofod masnachol llai.

4 - 5 STRYD Y FARCHNAD, ABERDÂR, CF44 7DY

 

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

CAIS RHIF: 23/1105 pdf icon PDF 179 KB

Cais amlinellol ar gyfer uned bwyd a diod gyrru drwodd (Defnydd Dosbarth A3) hyd at 160 metr sgwâr (holl faterion wedi'u cadw'n ôl ac eithrio mynediad) (Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd wedi'i ddiweddaru ac wedi'i dderbyn ar 05/02/24)

KENTUCKY FRIED CHICKEN, HEOL-Y-PWLL, YSTAD DDIWYDIANNOL TREFFOREST, FFYNNON TAF, CAERDYDD, CF15 7QX

 

Dogfennau ychwanegol:

9.

CAIS RHIF: 23/1255 pdf icon PDF 190 KB

8 o unedau preswyl gyda gwaith isadeiledd cysylltiedig (Arolwg Ystlumod wedi'i dderbyn ar 28/11/23)

TIR AR SAFLE'R HEN WAITH BRICS GER HEOL LLWYDCOED, LLWYDCOED, ABERDÂR

 

Dogfennau ychwanegol:

10.

CAIS RHIF: 24/0131 pdf icon PDF 154 KB

Adnewyddu strwythur y bont a bodloni'r gofynion gwaith dros dro cysylltiedig (Gwybodaeth ychwanegol wedi'i chyflwyno ar 13/03/24 a 26/03/24)

PONT Y BIBELL GLUDO ODDI AR Y DRAMFFORDD, TREHARRIS, CF46 5EF

 

Dogfennau ychwanegol:

ARCHWILIAD O'R SAFLE

Dogfennau ychwanegol:

11.

CAIS RHIF: 23/1169/10 pdf icon PDF 140 KB

Annedd ar wahân a gwaith uwchraddio i'r lôn fynediad. (Asesiad Risg Cloddio Glo wedi'i dderbyn ar 21/11/23) (Ffin llinell goch ddiwygiedig a chynlluniau wedi'u derbyn ar 15/12/23)

TIR Y TU ÔL I STRYD MILDRED, BEDDAU

 

Dogfennau ychwanegol:

ADRODDIAD ER GWYBODAETH

Dogfennau ychwanegol:

12.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 51 KB

Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 01/04/2024 –12/04/2024

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau.

Trosolwg o Achosion Gorfodi.

Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

13.

MATERION BRYS

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn rhai brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol: