Lleoliad: Siambr y Cyngor, 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH
Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriadau am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Bonetto, J Smith ac M Powell.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 07.03.24 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar XXXXX yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Newid defnydd o d? annedd C3 i d? amlfeddiannaeth C4 (HMO) (5 ystafell wely) a dymchwel hen gyntedd yn y cefn. 35 MAES GYNOR, YNYS-HIR, PORTH, CF39 0NR
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o d? annedd C3 i d? amlfeddiannaeth C4 (HMO) (5 ystafell wely) a dymchwel hen gyntedd yn y cefn. 35 MAES GYNOR, YNYS-HIR, PORTH, CF39 0NR
(Nodwch: Ar yr adeg yma, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes fuddiant personol ar gyfer y cais yma: "Rwy'n adnabod dau o'r siaradwyr cyhoeddus yn bersonol.")
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr S Davies (Gwrthwynebydd) · Mr J Jones (Gwrthwynebydd) · Ms P Holland (Gwrthwynebydd) · Mr S Jones (Gwrthwynebydd) · Ms J Williams (Gwrthwynebydd)
Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Edwards, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei phryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi ei gais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, penderfynodd yr Aelodau wrthod y cais uchod, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn oherwydd bod yr Aelodau o'r farn nad yw'r adeilad yn bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer datblygiad o'r fath.
O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â gwneud penderfyniad yn groes i argymhelliad swyddog, neu unrhyw reswm arfaethedig neu reswm cynllunio dros wneud penderfyniad o'r fath. Caiff yr adroddiad yma ei ystyried cyn dod i benderfyniad ar y mater.
|
|
Y newid defnydd arfaethedig o dir gwag i’r gogledd o Earthmovers House ar gyfer creu ardal â llawr caled ar gyfer parcio a storio cerbydau, gan gynnwys dargyfeirio Hawl Tramwy Cyhoeddus Llantrisant 223, a gwaith cysylltiedig (derbyniwyd cynlluniau a dogfennau diwygiedig 29/06/22). UNED 16 EARTHMOVERS HOUSE, PARC BUSNES LLANTRISANT, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LF (CAM 2)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y newid defnydd arfaethedig o dir gwag i’r gogledd o Earthmovers House ar gyfer creu ardal â llawr caled ar gyfer parcio a storio cerbydau, gan gynnwys dargyfeirio Hawl Tramwy Cyhoeddus Llantrisant 223, a gwaith cysylltiedig (derbyniwyd cynlluniau a dogfennau diwygiedig 29/06/22). UNED 16 EARTHMOVERS HOUSE, PARC BUSNES LLANTRISANT, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 8LF (CAM 2)
Ar ôl i'r Pwyllgor drafod y mater, PENDERFYNWYD gohirio'r cais fel bod modd i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Ymweliad Safle yng nghwmni cynrychiolydd Iechyd y Cyhoedd er mwyn ystyried y materion o ran s?n a'r bwnd.
Yng ngoleuni'r penderfyniad uchod, dywedodd y Cadeirydd wrth y sawl a oedd yn bresennol er mwyn annerch y Pwyllgor yngl?n â'r cais yma y byddai rhaid iddyn nhw wneud cais i annerch y Pwyllgor eto pan fyddai'r mater yn cael ei drafod, pe hoffen nhw wneud hynny.
|
|
Newid defnydd o d? annedd (Dosbarth C3) i gartref gofal preswyl (Dosbarth C2) ar gyfer hyd at 4 o blant, ac ail-greu lle parcio. GWYNFRYN, HEOL BRYNBEDW, TYLORSTOWN, GLYNRHEDYNOG, CF43 3AE
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o d? annedd (Dosbarth C3) i gartref gofal preswyl (Dosbarth C2) ar gyfer hyd at 4 o blant, ac ail-greu lle parcio. GWYNFRYN, HEOL BRYNBEDW, TYLORSTOWN, GLYNRHEDYNOG, CF43 3AE
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr R Chichester (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau. Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais,PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar ddiwygio Amod 2 i gyfeirio at gynllun sydd wedi'i ddiweddaru.
|
|
Cyflawni amodau 7 (Rheoli traffig) ac 8 (manylion draenio) a osodwyd ar ganiatâd cynllunio 23/0575/15 ar gyfer adeiladu 3 t? tair llofft ar DIR GER 15 STRYD GROVER, GRAIG, PONTYPRIDD, CF37 1LD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoi amodau 7 (Rheoli traffig) ac 8 (manylion draenio) a osodwyd ar ganiatâd cynllunio 23/0575/15 ar gyfer adeiladu 3 fflat tair ystafell wely ar DIR GER 15 STRYD GROVER, GRAIG, PONTYPRIDD.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms J Richards (Ymgynghorydd i'r Gwrthwynebwyr). Cafodd hi bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais yr adroddwyd arno’n wreiddiol i’r Pwyllgor ar 7 Mawrth 2024 pan ohiriwyd y cais gan yr Aelodau, er mwyn rhoi rhagor o amser i swyddogion ymchwilio i gynnwys y llythyr hwyr a ddaeth i law oddi wrth D?r Cymru (Cofnod Rhif 226). Bu trafodaeth ymysg yr Aelodau yngl?n â'r adroddiad pellach, a PHENDERFYNWYD y byddai'r Aelodau'n cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad gwreiddiol y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Cais Amlinellol gyda'r holl faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer 4 t? ar wahân gyda modurdai dwbl (Ailgyflwyno cais cynllunio - cyfeirnod 23/0143/13) (Cyfeirnod y Cynllun Diwygiedig - 25/01/24) TIR YM MAES MOSS, ABER-NANT, ABERDÂR
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cais Amlinellol gyda'r holl faterion a gadwyd yn ôl ar gyfer 4 t? ar wahân gyda modurdai dwbl (Ailgyflwyno cais cynllunio - cyfeirnod 23/0143/13) (Derbyniwyd y Cynllun Diwygiedig ar 25/01/24) TIR YN MAES MOSS, ABER-NANT, ABERDÂR
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 23/1318/09 PDF 137 KB Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer newid defnydd arfaethedig o annedd C3(a) i Gartref Preswyl i Blant C2 ar gyfer hyd at 2 o blant, ynghyd â 2 aelod o staff cymorth 24 awr y dydd, sy'n gweithio mewn sifftiau, a rheolwr cofrestredig. 142 STRYD KENRY, TONYPANDY, CF40 1DD
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer newid defnydd arfaethedig o annedd C3(a) i Gartref Preswyl i Blant C2 ar gyfer hyd at 2 o blant, ynghyd â 2 aelod o staff cymorth 24 awr y dydd, sy'n gweithio mewn sifftiau, a rheolwr cofrestredig. 142 STRYD KENRY, TONYPANDY, CF40 1DD
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 7Mawrth 2024, pan wrthododd yr Aelodau'r Dystysgrif Cyfreithlondeb, a hynny'n groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl mynd yn groes i argymhelliad swyddogion ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y Dystysgrif Cyfreithlondeb yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu am y rhesymau canlynol: Fyddai dull gweithredu cartref plant ddim yn adlewyrchu cymeriad cyffredinol yr anheddau cyfagos a'r ardal gyfagos ac felly byddai'n cael ei ystyried yn newid defnydd sylweddol am y rhesymau canlynol: • byddai'r nifer ychwanegol o bobl sy'n mynd a dod o ran yr eiddo, a lefel a phatrwm y gweithgarwch a'r aflonyddwch, yn uwch na'r hyn a ystyrir yn nodweddiadol o d? o'r math yma; • y math o alwedigaeth, cynhalwyr ar ddyletswydd drwy'r nos, mwy o fynd a dod nag arfer a phatrymau bywyd yn wahanol i rai'r rhan fwyaf o gartrefi teuluol; • byddai'r traffig ychwanegol i'r eiddo, gan y staff a'r rheolwyr a gyflogir yno ac ar amser newid sifft, yn ogystal ag ymwelwyr proffesiynol, yn cael ei waethygu gan absenoldeb cyfleusterau parcio oddi ar y stryd; • capasiti'r yr eiddo ar gyfer y defnydd dwys arfaethedig, oherwydd yr angen i ddarparu gofod ar wahân i dri oedolyn ar gyfer defnydd swyddfa, egwyliau gwaith ac ystafell wely ar gyfer y cynhaliwr dros nos, yn ogystal ag ystafelloedd gwely ar wahân ar gyfer y ddau blentyn, gyda nifer cyfyngedig o gyfleusterau ystafell ymolchi. O ganlyniad i hyn, ni fyddai’r datblygiad yn gyfreithlon i bwrpas cynllunio, ac mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn gwrthod rhoi tystysgrif cyfreithlondeb ar gyfer y defnydd arfaethedig, felly byddai angen caniatâd cynllunio.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 11/03/2024 –29/03/2024.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod XXXX a XXXX.
|