Lleoliad: Siambr y Cyngor, 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH
Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Dennis.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees wedi datgan buddiant personol mewn perthynas â Chais 23/144: Dymchwel adeiladau presennol, bwriad i adeiladu 4 annedd breswyl a 4 fflat, gwaith tirlunio, lliniaru clwydo ystlumod, storfa finiau, storfa feiciau a gwaith cysylltiedig. YR HEN YSGOL, FFORDD MERTHYR, LLWYDCOED, ABERDÂR, CF44 0UT. "Rydw i'n adnabod dau o'r siaradwyr cyhoeddus o ganlyniad i fy ngwaith yn y gymuned"
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 22.02.24 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 22.02.24 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Dymchwel adeiladau presennol, bwriad i adeiladu 4 annedd breswyl a 4 fflat, gwaith tirlunio, lliniaru clwydo ystlumod, storfa finiau, storfa feiciau a gwaith cysylltiedig YR HEN YSGOL, FFORDD MERTHYR, LLWYDCOED, ABERDÂR, CF44 0UT
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dymchwel adeiladau presennol, bwriad i adeiladu 4 annedd breswyl a 4 fflat, gwaith tirlunio, lliniaru clwydo ystlumod, storfa finiau, storfa feiciau a gwaith cysylltiedig. YR HEN YSGOL, FFORDD MERTHYR, LLWYDCOED, ABERDÂR, CF44 0UT
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu gynnal Ymweliad Safle. Bwriad hyn yw ystyried effaith y datblygiad arfaethedig ar ddiogelwch y briffordd a chynaliadwyedd y lleoliad.
|
|
Estyniad unllawr a deulawr 20 HEOL Y PINWYDD, GLYNFACH, PORTH, CF39 9NL
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Estyniad unllawr a deulawr, 20 HEOL Y PINWYDD, GLYNFACH, PORTH, CF39 9NL
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
- Ms A Gregory (Gwrthwynebydd) - Ms C Walters (Gwrthwynebydd) - Ms B Tatchell (Gwrthwynebydd)
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD gohirio penderfynu ar y cais i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyn gofyn i'r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth bellach sy'n dangos effaith weledol y datblygiad arfaethedig ar eiddo cyfagos.
(Nodwch: Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Tomkinson wedi ymuno â'r cyfarfod yn ystod yr eitem yma, felly ni chymerodd ran yn y bleidlais)
|
|
Newid defnydd yn rhannol o swyddfeydd (dosbarth defnydd B1) i gampfa (dosbarth defnydd D2) T? FAIRLEAP, HEOL ABERHONDDU, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9NS
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd yn rhannol o swyddfeydd (dosbarth defnydd B1) i gampfa (dosbarth defnydd D2) T? FAIRLEAP, HEOL ABERHONDDU, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9NS
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
- Mr M Harris (Cefnogwr) - Ms S Tuck (Cefnogwr)
Rhoddodd y Pennaeth Materion Cynllunio amlinelliad o gynnwys dau lythyr 'hwyr' a dderbyniwyd oddi wrth yr Aelod Lleol nad yw'n Aelod o'r Pwyllgor, y Cynghorydd A Rogers, o blaid y cais a llythyr gan drigolion o eiddo cyfagos sy'n nodi'u pryderon mewn perthynas â'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal â'r amod ychwanegol yma: 6:
Amod 6: Er gwaethaf y cynlluniau sydd wedi'u cyflwyno, ni fydd gwaith ar y datblygiad yn dechrau nes y bydd y cynllun peirianneg llawn a manylion y gwaith i ledu'r mynediad preifat a rennir i 4.5metr, gan gynnwys y cysylltiad â Heol Aberhonddu, wedi'u cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig. Rhaid i'r datblygiad gael ei wneud yn unol â'r manylion sydd wedi'u cymeradwyo cyn meddiant llesiannol.
RHESWM: Sicrhau digonoldeb y datblygiad arfaethedig a hynny er budd diogelwch y briffordd ac yn unol â Pholisi AW5, Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.
|
|
Adeiladu 14 annedd fforddiadwy gyda system ddraenio gynaliadwy, mannau parcio a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd cynllun diwygiedig y safle, cynigion tirlunio meddal, Manyleb Tirlunio a Chynllun Rheoli, Datganiad Isadeiledd Gwyrdd, Cynllun Rheoli Cynefin a Strategaeth Digolledu Rhywogaethau ar 22 Chwefror 2024) SAFLE HEN YSGOL FABANOD RHIW-GARN, WAUN WEN, TREBANOG, PORTH, CF39 9LX
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeiladu 14 annedd fforddiadwy gyda system ddraenio gynaliadwy, mannau parcio a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd cynllun diwygiedig y safle, cynigion tirlunio meddal, Manyleb Tirlunio a Chynllun Rheoli, Datganiad Isadeiledd Gwyrdd, Cynllun Rheoli Cynefin a Strategaeth Digolledu Rhywogaethau ar 22 Chwefror 2024) SAFLE HEN YSGOL FABANOD RHIW-GARN, WAUN WEN, TREBANOG, PORTH, CF39 9LX
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar Gytundeb 106. i) Bydd yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal fel unedau fforddiadwy, a hynny at y diben parhaus o ddiwallu anghenion tai sydd wedi'u nodi yn yr ardal leol; a ii) Sicrhau cyfraniad oddi ar y safle gwerth £14,000 (£1,000 fesul annedd) er mwyn gwella'r man chwarae presennol yn Henllys.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 26/02/2024 –08/03/2024
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd, Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod rhwng 26/02/2024 - 08/03/2024.
|