Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr y Cyngor, 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH

Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

218.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

 

219.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

220.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

 

221.

COFNODION pdf icon PDF 135 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 08.02.24 yn rhai cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 08.02.24 yn rhai cywir.

 

222.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

223.

CAIS RHIF: 23/1169 pdf icon PDF 137 KB

Annedd ar wahân a gwaith uwchraddio ar y lôn fynediad.  (Derbyniwyd Asesiad Risg Mwyngloddio ar 21/11/23) (Derbyniwyd y ffin llinell goch a'r cynlluniau diwygiedig ar 15/12/23)

Y TIR Y TU ÔL I STRYD MILDRED, BEDDAU

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Annedd ar wahân a gwaith uwchraddio ar y lôn fynediad. (Derbyniwyd Asesiad Risg Mwyngloddio ar 21/11/23) (Derbyniwyd y ffin llinell goch a'r cynlluniau diwygiedig ar 15/12/23) Y TIR Y TU ÔL I STRYD MILDRED, BEDDAU

 

PENDERFYNODD Aelodau ohirio'r cais fel bod modd i'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu arolygu'r safle i weld y mynediad fyddai, o bosibl, yn cael ei ledu.

 

Yng ngoleuni'r penderfyniad uchod, dywedodd y Cadeirydd wrth y sawl a oedd yn bresennol er mwyn annerch y Pwyllgor yngl?n â'r cais yma y byddai raid iddyn nhw wneud cais i annerch y Pwyllgor eto pan fyddai'r mater yn cael ei drafod, pe hoffen nhw wneud hynny.

 

 

224.

CAIS RHIF: 23/1125 pdf icon PDF 127 KB

Adfer y llety byw sydd ar y llawr cyntaf, uwchraddio a newid yr adeilad ac adeiladu estyniad (Derbyniwyd cynlluniau a disgrifiad diwygiedig ar 14/11/2023) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 05/12/2023 a 16/02/2024)

OLD YNYSYBWL INN, HEOL Y FELIN, YNYS-Y-BWL, PONTYPRIDD, CF37 3LS

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adfer y llety byw sydd ar y llawr cyntaf, uwchraddio a newid yr adeilad ac adeiladu estyniad (Derbyniwyd cynlluniau a disgrifiad diwygiedig ar 14/11/2023) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 05/12/2023 a 16/02/2024) OLD YNYSYBWL INN, HEOL Y FELIN, YNYS-Y-BWL, PONTYPRIDD, CF37 3LS

 

Amlinellodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi gynnwys llythyr 'hwyr' a ddaeth i law gan gymydog a oedd yn gwrthwynebu'r cais.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, newid i Amod 2 i'w gwneud hi'n ofynnol cadw'r sgrîn, a gafodd ei chymeradwyo, yn barhaol ar ôl hynny ac Amod 3 ychwanegol sy'n golygu y caiff ardal y balconi ei defnyddio at ddefnydd preswyl yn unig, nid mewn cysylltiad â'r dafarn.

 

(Nodwch: Ymunodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Dennis â'r cyfarfod yn ystod yr eitem yma felly ymatalodd rhag pleidleisio.)

 

 

 

225.

CAIS RHIF: 23/1244 pdf icon PDF 161 KB

Datblygu 18 annedd fforddiadwy, cyfleusterau parcio, tirlunio, draenio cynaliadwy a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig, sy'n cynnwys gosod paneli solar ar anheddau, ar 13 Rhagfyr 2023. Derbyniwyd y Cynllun Safle Diwygiedig, Manylion Tirlunio Meddal a Datganiad Isadeiledd Gwyrdd, Manyleb Tirlunio a'r Cynllun Rheoli ar 14 Chwefror 2023)

Y TIR I'R DWYRAIN O STRYD Y DWYRAIN, TYLORSTOWN, GLYNRHEDYNOG

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datblygu 18 annedd fforddiadwy, cyfleusterau parcio, tirlunio, draenio cynaliadwy a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd y cynlluniau diwygiedig, sy'n cynnwys gosod paneli solar ar anheddau, ar 13 Rhagfyr 2023. Derbyniwyd y Cynllun Safle Diwygiedig, Manylion Tirlunio Meddal a Datganiad Isadeiledd Gwyrdd, Manyleb Tirlunio a'r Cynllun Rheoli ar 14 Chwefror 2023) Y TIR I'R DWYRAIN O STRYD Y DWYRAIN, TYLORSTOWN, GLYNRHEDYNOG

 

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Bevan, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan nodi ei fod e'n cefnogi'r datblygiad arfaethedig wrth hefyd amlinellu rhai pryderon mewn perthynas â'r datblygiad.

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gwblhau cytundeb adran 106 sy'n gofyn am y canlynol:

 

i)                 Sicrhau bod yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal fel unedau fforddiadwy, a hynny at y diben parhaus o ddiwallu anghenion tai sydd wedi'u nodi yn yr ardal leol. Hefyd, mae'r nifer llai o leoedd parcio oddi ar y stryd, o'u cymharu â Chanllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor ar gyfer Mynediad, Cylchrediad a Pharcio, wedi cael ei ystyried yn dderbyniol ar y sail y dangosir bod preswylwyr tai cymdeithasol yn berchen ar lai o geir. ii) sicrhau cyfraniad hamdden oddi ar y safle gwerth £18,000 (£1,000 ar gyfer pob eiddo) ar gyfer gwella'r ardal chwarae bresennol ar Stryd Edmondes, yn unol â Chanllawiau Cynllunio Atodol y Cyngor ar gyfer Rhwymedigaethau Cynllunio.

(Nodwch: Gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Dennis y cyfarfod yn ystod yr eitem yma o ganlyniad i broblemau technegol felly ni chymerodd ran yn y bleidlais na thrafodaeth unrhyw eitem arall ar agenda'r cyfarfod yma.)

 

 

226.

CAIS RHIF: 23/1277 pdf icon PDF 127 KB

Cyflawni amodau 7 (mesurau rheoli traffig) ac 8 (manylion draenio llawn) mewn perthynas â chais 23/0575/15 sydd eisoes wedi'i gymeradwyo (Amrywio amod 1 o gais 18/0617/15 (cais gwreiddiol: 13/0758/10 - Datblygiad preswyl, adeiladu 3 uned dai gysylltiedig â 3 ystafell wely).

TIR GER 15 STRYD GROVER, GRAIG, PONTYPRIDD

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflawni amodau 7 (mesurau rheoli traffig) ac 8 (manylion draenio llawn) mewn perthynas â chais 23/0575/15 sydd eisoes wedi'i gymeradwyo (Amrywio amod 1 o gais 18/0617/15 (cais gwreiddiol: 13/0758/10 - Datblygiad preswyl, adeiladu 3 uned dai gysylltiedig â 3 ystafell wely). TIR GER 15 STRYD GROVER, GRAIG, PONTYPRIDD

 

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gohirio'r drafodaeth ar y cais tan gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyn rhoi rhagor o amser i Swyddogion Cynllunio i drafod cynnwys llythyr gwrthwynebu hwyr a ddaeth i law gan Dd?r Cymru. 

 

227.

CAIS RHIF: 23/1318 pdf icon PDF 115 KB

Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer newid defnydd arfaethedig  o annedd C3(a) i Gartref Preswyl i Blant C2 ar gyfer hyd at 2 o blant.

142 STRYD KENRY, TONYPANDY, CF40 1DD

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer newid defnydd arfaethedig o annedd C3(a) i Gartref Preswyl i Blant C2 ar gyfer hyd at 2 o blant.  142 STRYD KENRY, TONYPANDY, CF40 1DD

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 22 Chwefror 2024, pan wrthododd yr Aelodau roi'r dystysgrif cyfreithlondeb, a hynny'n groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

Trafododd yr Aelodau'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl gwrthod y cais yn groes i argymhelliad Swyddogion. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYDgwrthod y dystysgrif cyfreithlondeb, a hynny'n groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, oherwydd y rhesymau sydd wedi'u nodi ar dudalennau 4 a 5 yr adroddiad pellach.

 

 

228.

CAIS RHIF: 23/1335/09 pdf icon PDF 124 KB

Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer newid defnydd arfaethedig o annedd C3(a) i Gartref Preswyl i Blant C2 ar gyfer hyd at 2 o blant.

134 HEOL TURBERVILLE, PORTH, CF39 0ND

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer newid defnydd arfaethedig o annedd C3(a) i Gartref Preswyl i Blant C2 ar gyfer hyd at 2 o blant, yn ogystal â 2 aelod o staff cymorth 24 awr y dydd, fydd yn gweithio sifftiau, a rheolwr cofrestredig. 134 HEOL TURBERVILLE, PORTH, CF39 0ND

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl trafodaeth, penderfynodd Aelodau wrthod rhoi tystysgrif cyfreithlondeb gan yr oedd Aelodau o'r farn y byddai'r newid arfaethedig yn cyfateb i newid defnydd sylweddol a byddai natur gweithrediad arfaethedig yr eiddo yn arwain at gynnydd o ran mynd a dod, a lefel o weithgarwch ac aflonyddwch sy'n fwy na'r hyn fyddai'n cael ei ystyried yn nodweddiadol ar gyfer annedd o'r fath; felly byddai'r newid defnydd yn sylweddol.

O ganlyniad i hynny, cai'r mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â dod i benderfyniad yn groes i argymhelliad Swyddog, neu unrhyw reswm dros ddod i benderfyniad o'r fath ar sail cynllun arfaethedig neu gynllun posibl.

 

 

229.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 52 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 12/02/2024 –23/02/2024

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau.

Trosolwg o Achosion Gorfodi.

Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd, Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod rhwng 12/02/2024 – 23/02/2024.