Lleoliad: Siambr y Cyngor, 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH
Cyswllt: Jess Daniel - Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Emanuel, S Rees a M Powell.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2024 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar XXXXX yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
Newid defnydd garej i salon trin gwallt. 34 STRYD DAVIS, ABERAMAN, ABERDÂR, CF44 6UR
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd garej i salon trin gwallt. 34 STRYD DAVIS, ABERAMAN, ABERDÂR, CF44 6UR Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais,PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer newid defnydd arfaethedig o annedd C3(a) i Gartref Preswyl i Blant C2 ar gyfer hyd at 2 o blant. 134 HEOL TURBERVILLE, PORTH, CF39 0ND
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Tystysgrif Cyfreithlondeb ar gyfer newid defnydd arfaethedig o annedd C3(a) i Gartref Preswyl i Blant C2 ar gyfer hyd at 2 o blant. 134 HEOL TURBERVILLE, PORTH, CF39 0ND Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Davis, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei gwrthwynebiad a'i phryderon yngl?n â'r dystysgrif cyfreithlondeb arfaethedig. Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth, penderfynodd Aelodau wrthod cymeradwyo'r dystysgrif cyfreithlondeb a hynny gan fod Aelodau o'r farn y byddai'r newid arfaethedig yn cyfrif fel newid defnydd sylweddol gan y bydd yn gweithredu fel busnes 24 awr y dydd yn hytrach na chartref, gyda staff yn gweithio sifftiau yn yr eiddo. O ganlyniad i hynny, cafodd y mater ei ohirio tan y cyfarfod priodol nesaf o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu fel bod modd derbyn adroddiad gan Gyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, a gaiff ei lunio drwy ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ôl yr angen. Bydd yr adroddiad yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl sydd ynghlwm â dod i benderfyniad sy’n mynd yn groes i argymhelliad Swyddog, neu unrhyw reswm dros ddod i benderfyniad o'r fath ar sail cynllun arfaethedig neu gynllun posibl.
|
|
Gosod pont newydd. (Derbyniwyd Adroddiad Dyfrgwn ar 20/07/23) (Derbyniwyd Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol newydd, Arolygon Ystlumod, Arolwg Rhywogaethau Goresgynnol, Asesiad Coed Lefel y Tir Rhagarweiniol ac Asesiad o'r Effaith ar Goedyddiaeth ar 24/01/24) PONT Y BIBELL GLUDO ODDI AR Y DRAMFFORDD, TREHARRIS, CF46 5EF
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gosod pont newydd. (Derbyniwyd Adroddiad Dyfrgwn ar 20/07/23) (Derbyniwyd Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol newydd, Arolygon Ystlumod, Arolwg Rhywogaethau Goresgynnol, Asesiad Coed Lefel y Tir Rhagarweiniol ac Asesiad o'r Effaith ar Goedyddiaeth ar 24/01/24) PONT Y BIBELL GLUDO ODDI AR Y DRAMFFORDD, TREHARRIS, CF46 5EF
Amlinellodd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful sy’n nodi nad oes unrhyw bryderon yngl?n â'r cais.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Datblygu adeilad rhestredig yn 5 annedd breswyl. HEN STABLAU, HEOL T? ABERAMAN, ABERAMAN, ABERDÂR
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datblygu adeilad rhestredig yn 5 annedd breswyl. HEN STABLAU, HEOL T? ABERAMAN, ABERAMAN, ABERDÂR
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio / Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais i'r Pwyllgor, ac yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD y byddai'r penderfyniad mewn perthynas â'r cais yn cael ei ohirio a bydd yn cael ei drafod yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol, a hynny er mwyn rhoi cyfle i Swyddogion ddarparu rhagor o wybodaeth.
|
|
Estyniad llawr cyntaf i greu swyddfa ychwanegol (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 14/12/2023). SBM CAR SALES, YR HEOL FAWR, TON-TEG, PONTYPRIDD, CF38 1PW
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Estyniad llawr cyntaf i greu swyddfa ychwanegol (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 14/12/2023). SBM CAR SALES, YR HEOL FAWR, TON-TEG, PONTYPRIDD, CF38 1PW
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Paneli solar ar do adeilad pad sblasio. PARC ABERDÂR, HEOL GLAN, GADLYS, ABERDÂR
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Paneli solar ar do adeilad pad sblasio. PARC ABERDÂR, HEOL GLAN, GADLYS, ABERDÂR
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid defnydd o lety gwely a brecwast i D? Amlfeddiannaeth (HMO) ag 11 ystafell wely (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 01/12/2023) T? LLETY CENTRAL HOUSE, BRYN STOW, TREFFOREST, PONTYPRIDD, CF37 1RZ
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o lety gwely a brecwast i D? Amlfeddiannaeth (HMO) ag 11 ystafell wely (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 01/12/2023) T? Llety Central House, Bryn Stow, Trefforest, Pontypridd, CF37 1RZ
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 25 Ionawr 2024, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu. Trafododd yr Aelodau'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad Swyddogion. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais, a hynny'n groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, oherwydd y rhesymau sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad pellach.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 29/01/2024 – 09/02/2024.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd, Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod rhwng 29/01/2024 – 09/02/2024.
|