Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Jess Daniel - Democratic Services 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
CROESO AC YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J Smith ac L Tomkinson.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 11.01.24 yn rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 11.01.24 yn rhai cywir.
|
|
Polisi Cynllunio Cymru 12 - Diweddariad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Pennaeth Materion Cynllunio wrth y Pwyllgor fod fersiwn ddiwygiedig (Argraffiad 12) o ddogfen Polisi Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhoeddi ar 7 Chwefror 2024. Nododd, oherwydd bod yr adroddiadau sydd ar yr agenda wedi'u llunio cyn y dyddiad yma, eu bod nhw oll yn cyfeirio at Argraffiad 11 o Bolisi Cynllunio Cymru yn hytrach nag Argraffiad 12. Serch hynny, dywedodd y Pennaeth Cynllunio ymhellach fod swyddogion wedi ystyried y ceisiadau yng ngoleuni'r newidiadau a gyflwynwyd yn Argraffiad 12 o Bolisi Cynllunio Cymru a chadarnhaodd y byddai'r materion a amlygwyd yn yr asesiadau cynllunio a'r argymhellion ynghylch y penderfyniad yn parhau heb eu newid ar gyfer yr holl geisiadau ar agenda'r cyfarfod. PENDERFYNODD y Pwyllgor nodi cyhoeddiad Argraffiad 12 o Bolisi Cynllunio Cymru a chyngor y Pennaeth Materion Cynllunio.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
CAIS RHIF: 23/1056/10 PDF 167 KB 4 t? pâr ac 1 annedd ar wahân (Ailgyflwyno cais rhif 21/0373/10), TIR RHWNG RHIFAU 37 I 43 HEOL TREBANOG, TREBANOG, CF39 9EP Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 4 t? pâr ac 1 annedd ar wahân (Ailgyflwyno cais rhif 21/0373/10), TIR RHWNG RHIFAU 37 A 43 HEOL TREBANOG, TREBANOG, CF39 9EP
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr P Norman (Ymgeisydd) · Ms N Lewis (Gwrthwynebydd)
Arferodd yr Ymgeisydd, Mr P Norman, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 25 Ionawr 2024, pan wrthododd yr Aelodau'r cais, a hynny'n groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Newid defnydd o d? llety a byngalo ategol i ganolfan adsefydlu cyffuriau ac alcohol breswyl (Defnydd Dosbarth C2). T? LLETY FIFTH AVENUE, FIFTH AVENUE, YSTAD DDIWYDIANNOL HIRWAUN, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9UN
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd o d? llety a byngalo ategol i ganolfan adsefydlu cyffuriau ac alcohol breswyl (Defnydd Dosbarth C2). T? LLETY FIFTH AVENUE, FIFTH AVENUE, YSTAD DDIWYDIANNOL HIRWAUN, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9UN
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr A Archard (Ymgeisydd) · Ms J Oats (Cefnogwr) · Ms S Baker (Cefnogwr) · Mr N Wakeford (Cefnogwr)
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adnewyddu Pont Heol Berw. (Rhan 3 o'r gwaith y mae'r cais yma'n ei gefnogi) (Manylion draenio diwygiedig, Asesiad o'r Effaith ar Dreftadaeth (HIA) a llai o waith argloddio a chadw coed - wedi dod i law 15/11/2023), Pont Heol Berw (Y Bont Wen), Pontypridd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adnewyddu Pont Heol Berw. (Cam 3 o'r gwaith y mae'r cais yma'n ei gefnogi) (Manylion draenio diwygiedig, Asesiad o'r Effaith ar Dreftadaeth a llai o waith argloddio a chadw coed – wedi dod i law 15/11/2023), Pont Heol Berw (Y Bont Wen), Pontypridd.
(Noder: Ar yr adeg yma, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams fuddiant personol ar gyfer y cais yma: “Rydw i'n adnabod y siaradwr cyhoeddus drwy fy ngwaith ar brosiectau eraill.")
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms M Kamish (Gwrthwynebydd). Cafodd hi bum munud i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod.
Amlinellodd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' a dderbyniwyd gan Ecolegydd y Cyngor.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ogystal â'r ddau amod ychwanegol yma: 4. Bydd y CEMP y cyfeirir ato yn amod 3 (uchod) yn ymgorffori’r argymhellion a’r mesurau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiadau a ganlyn:
• Adroddiad Memo Pont Heol Berw, Chwefror 2019; • Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol (PEA) Heol Berw, Redstart, Medi 2020; • Gwaith Brys Heol Berw, Datganiad Dull Ecolegol, Mehefin 2021; a • Pont Heol Berw – Adroddiad Arolwg Dyfrgwn, Mehefin 2021.
Rheswm - Gwella mesurau diogelwch ar gyfer rhywogaethau anifeiliaid a phlanhigion yn unol â Pholisïau AW5 ac AW8, Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf a Phennog 6, Argraffiad 12 o Bolisi Cynllunio Cymru (Chwefror 2024).
5. Cyn cwblhau'r datblygiad sydd wedi'i gymeradwyo, bydd y manylion am ddarparu blychau ystlumod ac adar (a fydd yn cael eu hymgorffori'n rhan o'r cynllun) yn cael eu cyflwyno i'r Awdurdod Datblygu Lleol, a'u cymeradwyo yn ysgrifenedig. Rhaid cwblhau'r datblygiad yn unol â'r manylion sydd wedi'u cymeradwyo a'i gadw felly wedi hynny.
Rheswm: Am resymau cadwraeth natur yn unol â Pholisïau AW5 ac AW8, Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf a Phennod 6, Argraffiad 12 o Bolisi Cynllunio Cymru (Chwefror 2024).
|
|
Adeiladu cyfadeilad iechyd a man gyda chyfleusterau cysylltiedig a fydd yn cynnwys dosbarthiadau defnydd A3, D2 a Sui Generis ac unioni 52no. Maes Parcio Ychwanegol. (Ffin Llinell Goch Diwygiedig wedi dod i law 08/07/22) (Disgrifiad diwygiedig wedi dod i law 08/07/22) (Dadansoddiad o'r llwybr i gerbydau a manylion y maes parcio wedi dod i law 09/09/22) T? MAELWG, HEOL YN ARWAIN AT DREM Y GOEDWIG, YNYSMAERDY, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 9JS
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adeiladu cyfadeilad iechyd a man gyda chyfleusterau cysylltiedig a fydd yn cynnwys dosbarthiadau defnydd A3, D2 a Sui Generis ac unioni 52 o leoedd Parcio Ychwanegol. (Ffin Llinell Goch Ddiwygiedig wedi dod i law 08/07/22)(Disgrifiad diwygiedig wedi dod i law 08/07/22)(Dadansoddiad o'r llwybr i gerbydau a manylion y maes parcio wedi dod i law 09/09/22) T? MAELWG, FFORDD I DREM Y GOEDWIG, YNYSMAERDY, LLANTRISANT, PONT-Y-CLUN, CF72 9JS
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr Amodau a amlinellir yn yr adroddiad a diwygiad amod 12 i gynnwys cyfeiriad yr eiddo.
(Noder: Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell fuddiant personol mewn perthynas â'r cais yma. “Rydw i'n adnabod yr ymgeisydd”.
|
|
Datblygu 10 annedd fforddiadwy a gwaith cysylltiedig. DKS TRIMMINGS LTD, CILGANT CATRIN, CYMER, PORTH, CF39 9AF
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datblygu 10 annedd fforddiadwy a gwaith cysylltiedig. DKS TRIMMINGS LTD, CILGANT CATRIN, CYMER, PORTH, CF39 9AF
(Noder: Gan iddo eisoes ddatgan buddiant personol sy'n rhagfarnu yngl?n â'r cais uchod, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Emanuel y cyfarfod ar yr adeg yma, ac ni wnaeth ddychwelyd i'r cyfarfod.) (Noder: Gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Rees y cyfarfod ar yr adeg yma ac ni ddychwelodd i'r cyfarfod. Parhaodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis yn Gadeirydd am weddill y cyfarfod.)
Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio/Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar gwblhau cytundeb adran 106 sy'n gofyn bod y datblygwr yn llofnodi cytundeb sy'n sicrhau y bydd y datblygiad yn cynnwys tai fforddiadwy am byth.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 15/01/2024 – 26/01/2024.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a ddaeth i law, Cymeradwyaethau Penderfyniadau a Gwrthodiadau Dirprwyedig gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod 15/01/2024 – 26/01/2024.
|