Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Virtual

Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

164.

CROESO AC YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell.

 

165.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

 

166.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

167.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

 

168.

COFNODION 23.11.23 pdf icon PDF 118 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 23.11.23 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 23.11.23 yn rhai cywir.

 

169.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

170.

CAIS RHIF: 23/0953 pdf icon PDF 130 KB

Newid defnydd tir i'r gorllewin o 308 Heol y Parc i gwrtil gardd i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â'r annedd, a gosod ffens bren 1.8 metr o'i gwmpas (cais ôl-weithredol).

308 HEOL Y PARC, CWM-PARC, TREORCI, CF42 6LG

 

Cofnodion:

Newid defnydd tir i'r gorllewin o 308 Heol y Parc i gwrtil gardd i'w ddefnyddio mewn cysylltiad â'r annedd, a gosod ffens bren 1.8 metr o'i gwmpas (cais ôl-weithredol). 308 HEOL Y PARC, CWM-PARC, TREORCI, CF42 6LG

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·       Ms K Resoli (Ymgeisydd)

·       Mr F Tucker (Gwrthwynebydd)

Arferodd yr Ymgeisydd, Ms K Resoli, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYDcymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan rhag pleidleisio ar y cais yma gan nad oedd yn bresennol ar gyfer y drafodaeth gyfan.) 

 

 

 

171.

CAIS RHIF: 21/1309 pdf icon PDF 153 KB

Newid defnydd tir i Ddosbarth B8 (storio) gan gynnwys gosod 50 cynhwysydd storio, mynediad cysylltiedig a llociau (Derbyniwyd cynllun safle diwygiedig ar 16/03/22). 

FFERM NANTLLECHAU, HEOL YR ARHOSFA, RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9UN

 

Cofnodion:

Newid defnydd tir i Ddosbarth B8 (storio) gan gynnwys gosod 50 cynhwysydd storio, mynediad cysylltiedig a llociau (Derbyniwyd cynllun safle diwygiedig ar 16/03/22). FFERM NANTLLECHAU, HEOL YR ARHOSFA, RHIGOS, HIRWAUN, ABERDÂR, CF44 9UN

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

·       Mr Graham Thomas (Gwrthwynebydd)

·       Mr David West (Gwrthwynebydd)

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr – Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes rhag pleidleisio ar yr eitem yma gan nad oedd yn bresennol ar gyfer y drafodaeth gyfan).

 

 

 

172.

CAIS RHIF: 22/1413 pdf icon PDF 186 KB

Adeiladu a gweithredu fferm solar ffotofoltäig gan gynnwys mynediad, ffensys, teledu cylch cyfyng, llwybrau gwasanaeth mewnol, offer cynorthwyol a chynllun tirlunio (Derbyniwyd cynllun safle a gwybodaeth ategol ar 29/08/23)

FFERM RHIWFELIN FAWR, LLANTRISANT

 

Cofnodion:

Adeiladu a gweithredu fferm solar ffotofoltäig gan gynnwys mynediad, ffensys, teledu cylch cyfyng, llwybrau gwasanaeth mewnol, offer cynorthwyol a chynllun tirlunio (Derbyniwyd cynllun safle a gwybodaeth ategol ar 29/08/23) FFERM RHIWFELIN FAWR, LLANTRISANT

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr Mark Sandles (Ymgeisydd) a gafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

 

(Nodwch: Ar yr adeg yma, daethpwyd â'r cyfarfod i ben a chafodd yr eitemau a oedd yn weddill eu gohirio o ganlyniad i broblem dechnegol gyda'r rhwydwaith doedd dim modd ei datrys o fewn cyfnod rhesymol. Cafodd holl eitemau'r cyfarfod a oedd yn weddill eu gohirio tan y cyfarfod nesaf sydd wedi'i drefnu.)