Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Jess Daniel - Democratic Services 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso ac Ymddiheuriadau Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Tomkinson.
|
|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 09.11.23 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 09.11.23 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Cofnodion: |
|
Annedd newydd â phedair ystafell wely gyda garej ar wahân a dau le parcio ychwanegol. TIR GER 4 STRYD NASH, ABERCYNON, ABERPENNAR, CF45 4PB
Cofnodion: Annedd newydd â phedair ystafell wely gyda garej ar wahân a dau le parcio ychwanegol. TIR GER 4 STRYD NASH, ABERCYNON, ABERPENNAR, CF45 4PB
PENDERFYNODD yr Aelodau ohiriopenderfynu ar y cais hyd nes cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol er mwyn caniatáu rhagor o amser i Swyddogion Cynllunio adolygu gwybodaeth bellach a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais.
|
|
CAIS RHIF: 23/0514/10 PDF 208 KB Datblygiad preswyl o 20 o fflatiau ag un a dwy ystafell wely, gyda gwaith tirlunio, trin ffiniau a mannau parcio cysylltiedig (Diwygiwyd y disgrifiad wrth dderbyn y cynlluniau diwygiedig ar 31/10/23, lleihau nifer yr unedau a chael gwared ar y llawr uchaf). Safle'r Hen Glwb Cymdeithas y Llynges Frenhinol, 233 Stryd y Llys, Tonypandy, CF40 2RF.
Cofnodion: Datblygiad preswyl o 20 o fflatiau ag un a dwy ystafell wely, gyda gwaith tirlunio, trin ffiniau a mannau parcio cysylltiedig (Diwygiwyd y disgrifiad wrth dderbyn y cynlluniau diwygiedig ar 31/10/23, lleihau nifer yr unedau a chael gwared ar y llawr uchaf). Safle Hen Glwb Cymdeithas y Llynges Frenhinol, 233 Stryd y Llys, Tonypandy, CF40 2RF.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr N Ahmed (Asiant) · Mr A Silver (Gwrthwynebydd)
Arferodd yr Asiant, Mr N Ahmed, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 5 Hydref 2023, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughesam gofnodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn cymeradwyo'r cais uchod).
|
|
Estyniad deulawr ar un ochr, estyniad un llawr ar yr ochr arall, trawsnewid yr atig a gwaith peirianneg i'r cefn sy'n cynnwys gwaith i wneud y tir yn wastad a grisiau mynediad. 45 STRYD Y BRYN, HENDREFORGAN, GILFACH-GOCH, PORTH, CF39 8TW
Cofnodion: Estyniad deulawr ar un ochr, estyniad un llawr ar yr ochr arall, trawsnewid yr atig a gwaith peirianneg i'r cefn sy'n cynnwys gwaith i wneud y tir yn wastad a grisiau mynediad. 45 STRYD Y BRYN, HENDREFORGAN, GILFACH-GOCH, PORTH, CF39 8TW
(Nodwch: Ymunodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell â'r cyfarfod ar yr adeg yma.)
(Nodwch: Cyhoeddodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis fuddiant personol sy'n rhagfarnu mewn perthynas â Chais 23/0641: "Mae'r Ymgeisydd yn fy nghyflogi ac rydw i wedi gweithio ar y safle yma.") Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms A Davies (Ymgeisydd). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Amlinellodd y Pennaeth Materion Cynllunio gynnwys llythyr 'hwyr' a gyflwynwyd gan eiddo cyfagos yn esbonio eu gwrthwynebiad i'r datblygiad arfaethedig.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais,PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Powell o'r bleidlais gan nad oedd e'n bresennol ar gyfer yr eitem cyfan.)
|
|
Datblygu 10 annedd fforddiadwy a gwaith cysylltiedig. TIR YN HEOL Y DDERWEN, YSTRAD, PENTRE, CF41 7QQ
Cofnodion: Datblygu 10 annedd fforddiadwy a gwaith cysylltiedig. TIR YN HEOL Y DDERWEN, YSTRAD, PENTRE, CF41 7QQ
(Nodwch: Ar yr adeg yma, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Emanuel fuddiant personol sy'n rhagfarnu ar gyfer y cais yma: "Mae'r ymgeisydd, Trivallis, yn fy nghyflogi." Felly, gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem yma ac ni chymerodd ran yn y ddadl na'r bleidlais.)
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms Abi Hawke (Asiant). Cafodd hi bum munud i gyflwyno'r cais wedi'i nodi uchod i'r Aelodau.
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor ac ar ôl trafodaeth PENDERFYNWYD caniatáu’r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu. Roedd hyn yn ddarostyngedig i gwblhau cytundeb Adran 106 i sicrhau bod yr anheddau'n cael eu sefydlu a'u cynnal a'u cadw yn unedau fforddiadwy, i'r diben parhaus o ddiwallu anghenion tai lleol a nodwyd.
|
|
Cydymffurfio ag amod 34 (Strategaeth Datblygiad Cynaliadwy) o 10/0845/34 (i'r graddau ag y bo'n berthnasol i Gamau 3 a 4). TIR AR HEN SAFLE GLO BRIG A THIR I'R GOGLEDD O'R A473, LLANILID (CAMAU 3 A 4)
Cofnodion: Cydymffurfio ag amod 34 (Strategaeth Datblygiad Cynaliadwy) o 10/0845/34 (i'r graddau ag y bo'n berthnasol i Gamau 3 a 4). TIR AR HEN SAFLE GLO BRIG A THIR I'R GOGLEDD O'R A473, LLANILID (CAMAU 3 A 4)
(Nodwch: Dychwelodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Emanuel i'r cyfarfod ar ddechrau'r eitem yma a gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes y cyfarfod ar yr adeg yma ac ni ddychwelodd.)
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Eiliwyd cynnig i ohirio'r cais ond methodd.)
|
|
Troi hen dafarndy'n fflatiau. GWESTY'R FULL MOON, HEOL CAERDYDD, ABERAMAN, ABERDÂR, CF44 7HH
Cofnodion: Troi hen dafarndy'n fflatiau. GWESTY'R FULL MOON, HEOL CAERDYDD, ABERAMAN, ABERDÂR, CF44 7HH
(Nodwch: Ar yr adeg yma, dychwelodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis i'r cyfarfod.)
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Estyniadau i greu gwesty â 10 gwely gyda bar, bwyty, mannau lles ac estyniad i'r maes parcio. Estyniad i gefn yr eiddo i gynnwys paneli solar (Derbyniwyd Arolwg Coed ar 05/06/23) (Derbyniwyd Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol ar 12/06/23) (Derbyniwyd Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol newydd ar 29/06/23) (Derbyniwyd Arolygon Ystlumod Ychwanegol ar 06/10/23) GWESTY T?'R NAVIGATION, Y BASN, HEOL CILFYNYDD, ABERCYNON, ABERPENNAR, CF45 4RR
Cofnodion: Estyniadau i greu gwesty â 10 gwely gyda bar, bwyty, mannau lles ac estyniad i'r maes parcio. Estyniad i gefn yr eiddo i gynnwys paneli solar (Derbyniwyd Arolwg Coed ar 05/06/23) (Derbyniwyd Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol ar 12/06/23) (Derbyniwyd Gwerthusiad Ecolegol Rhagarweiniol newydd ar 29/06/23) (Derbyniwyd Arolygon Ystlumod Ychwanegol ar 06/10/23) GWESTY NAVIGATION HOUSE, Y BASN, HEOL CILFYNYDD, ABERCYNON, ABERPENNAR, CF45 4RR
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Adeiladu parc sglefrio ar gyfer pob math o sglefrio – byrddau sglefrio, BMX, WCMX, sgwteri, ac ati, gyda gwaith tirlunio a draenio cysylltiedig. PARC LLANHARI, HEOL LLANHARI, LLANHARI, PONT-Y-CLUN
Cofnodion: Adeiladu parc sglefrio ar gyfer pob math o sglefrio – byrddau sglefrio, BMX, WCMX, sgwteri, ac ati, gyda gwaith tirlunio a draenio cysylltiedig. PARC LLANHARI, HEOL LLANHARI, LLANHARI, PONT-Y-CLUN
Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 13/11/2023 – 01/12/2023.
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd, Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod rhwng 13/11/2023 a 01/12/2023.
|