Agenda, Penderfyniadau a Chofnodion drafft

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu  07385401877

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

133.

CROESO AC YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol A Dennis.

 

134.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r agenda.

 

 

135.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

136.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

 

137.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

138.

COFNODION pdf icon PDF 111 KB

Cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2023 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 19/10/23 yn rhai cywir.

 

139.

CAIS RHIF: 23/0679 pdf icon PDF 135 KB

Newid defnydd o lety gwely a brecwast i D? Amlfeddiannaeth (HMO) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 30/08/2023)

T? LLETY CENTRAL HOUSE, BRYN STOW, TREFFOREST, PONTYPRIDD, CF37 1RZ

 

Cofnodion:

Newid defnydd o lety gwely a brecwast i D? Amlfeddiannaeth (HMO) (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 30/08/2023) T? LLETY CENTRAL HOUSE, BRYN STOW, TREFFOREST, PONTYPRIDD, CF37 1RZ

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD gohirio'r penderfyniad i gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn y dyfodol a hynny er mwyn rhoi cyfle i swyddogion ddarparu gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r storfa finiau a maint yr ystafelloedd fel bod modd mynd i'r afael â'r pryderon o ran gorddatblygu.

 

 

 

140.

CAIS RHIF: 22/1378/15 pdf icon PDF 318 KB

Amrywio Amod 1 o ganiatâd cynllunio rhif 15/1635/10 – ymestyn y terfyn amser ar gyfer cychwyn y gwaith datblygu am flwyddyn ychwanegol (Nodyn Gwybodaeth Draenio 10/02/23 Diwygiad 2 – 10/07/23, derbyniwyd 16/06/23).

FFERM LLWYNCELYN, LÔN HAFOD, PORTH, CF39 9UE

 

Cofnodion:

Amrywio Amod 1 o ganiatâd cynllunio rhif 15/1635/10 – ymestyn y terfyn amser ar gyfer cychwyn y gwaith datblygu am flwyddyn ychwanegol (Nodyn Gwybodaeth Draenio 10/02/23 Diwygiad 2 – 10/07/23, derbyniwyd 16/06/23) Fferm Llwyncelyn, Lôn Hafod, Porth, CF39 9UE

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

Mr M Todd-Jones (Asiant)

Mr P Thomas (Gwrthwynebydd)

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd modd i Mr M Popham (Ymgeisydd), a oedd wedi gofyn am gael annerch yr Aelodau yngl?n â'r cais, wneud hynny o ganlyniad i broblemau technegol. 

Arferodd yr Asiant, Mr M Todd-Jones, yr hawl i ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y gwrthwynebydd.

Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Edwards, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei phryderon yngl?n â'r datblygiad arfaethedig.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth hir ac ar ôl i'r Pennaeth Rheoli Asedau Isadeiledd a'r Rheolwr Materion Perygl Llifogydd, D?r a Thomenni ymateb i gwestiynau gan Aelodau mewn perthynas â sefydlogrwydd a'r system ddraenio, PENDERFYNWYDcymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

 

141.

CAIS RHIF: 23/0007 pdf icon PDF 149 KB

Atgyweirio ac ailadeiladu ffermdy. (Derbyniwyd Asesiad Risg Mwyngloddio ac Adroddiad Strwythurol ar 20/09/23)

FFERM GARTH HALL, FFORDD YN ARWAIN AT FFERM GARTH HALL, COED-ELÁI, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8HJ

 

Cofnodion:

Atgyweirio ac ailadeiladu ffermdy.  (Derbyniwyd Asesiad Risg Mwyngloddio ac Adroddiad Strwythurol ar 20/09/23) FFERM GARTH HALL, FFORDD YN ARWAIN AT FFERM GARTH HALL, COED-ELÁI, TONYREFAIL, PORTH, CF39 8HJ

 

Nodyn  Ar yr adeg yma, roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol L Tomkinson wedi datgan buddiant personol mewn perthynas â'r cais yma:

"Rydw i'n adnabod un o'r siaradwyr cyhoeddus - mae'r unigolyn yn gyn-aelod o'm teulu.")

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

Ms H Edmunds (Ymgeisydd)

Ms L Bryan (Cefnogwr)

Ms L Clee (Cefnogwr)

 

Nododd y Pwyllgor fod y siaradwyr cyhoeddus canlynol, a oedd wedi gwneud cais i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cais, ddim yn bresennol i wneud hynny:

 

Mr J Edmunds (Cefnogwr)

Ms E Lewis (Cefnogwr)

Ms J Maunder (Cefnogwr)

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

 

142.

CAIS RHIF: 23/0933 pdf icon PDF 162 KB

Creu tair llain i deithwyr, gan gynnwys un carafán sefydlog, carafán deithio ac ystafell ddydd/amlbwrpas ar bob llain, ardal arwyneb solet, ffens bren o gwmpas yr ymyl a sefydlu gwaith trin.

STABLAU TWELVE OAKS, HEOL LLANHARI, LLANHARI, CF72 9LY

 

Cofnodion:

Creu tair llain i Deithwyr, gan gynnwys un carafán sefydlog, carafán deithio ac ystafell ddydd/amlbwrpas ar bob llain, ardal arwyneb solet, ffens bren o gwmpas yr ymyl a sefydlu gwaith trin. STABLAU TWELVE OAKS, HEOL LLANHARI, LLANHARI, CF72 9LY

 

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr A Vaughan-Harries (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes o'r bleidlais gan nad oedd e'n bresennol ar gyfer yr holl ddadl.)

 

143.

CAIS RHIF: 23/0905 pdf icon PDF 105 KB

Cais ôl-weithredol i ddymchwel garej/sied a gosod sied a garej parod yn ei lle, ynghyd â ffens ymyl plu 1800mm o uchder.

16 RHES Y BEDYDDWYR, BLAENLLECHAU, GLYNRHEDYNOG, CF43 4NY

 

 

Cofnodion:

Cais ôl-weithredol i ddymchwel garej/sied a gosod sied a garej parod yn ei lle, ynghyd â ffens ymyl plu 1800mm o uchder. 16 RHES Y BEDYDDWYR, BLAENLLECHAU, GLYNRHEDYNOG, CF43 4NY

 

Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:

 

Mr R Cameron (Cefnogwr)

Mr D Hutchison (Cefnogwr)

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

144.

CAIS RHIF: 22/0823 pdf icon PDF 134 KB

Gosod t?r dellt 35 metr gyda 3 antena, 2 dysgl lloeren, 1 cwpwrdd offer, 1 cwpwrdd mesurydd a gwaith cysylltiedig, gan gynnwys generadur a thanc tanwydd cysylltiedig, cwrt â ffens ar gyfer y prosiect Rhwydwaith Gwledig a Rennir ar ran Cornerstone (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 25/05/2023 ac Asesiad Ecolegol ar 05/10/2023)

TIR AR GOEDWIGAETH RHIGOS, FFORDD Y RHIGOS, RHIGOS, ABERDÂR

 

Cofnodion:

Gosod t?r dellt 35 metr gyda 3 antena, 2 dysgl lloeren, 1 cwpwrdd offer, 1 cwpwrdd mesurydd a gwaith cysylltiedig, gan gynnwys generadur a thanc tanwydd cysylltiedig, cwrt â ffens ar gyfer y prosiect Rhwydwaith Gwledig a Rennir ar ran Cornerstone (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 25/05/2023 ac Asesiad Ecolegol ar 05/10/2023) TIR AR GOEDWIGAETH RHIGOS, FFORDD Y RHIGOS, RHIGOS, ABERDÂR

 

Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr J Dodd (Asiant). Cafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD  cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

145.

CAIS RHIF: 19/1258 pdf icon PDF 197 KB

Cais materion wedi'u cadw'n ôl ar gyfer ysgol gynradd newydd ac isadeiledd cysylltiedig, gan gynnwys mynediad a thirlunio (cyflwynwyd yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol (hybrid) 10/0845/34). (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 30 Medi 2021, 5 Ebrill 2022; derbyniwyd gwybodaeth ecolegol ddiwygiedig ar 22 Mehefin 2023, 9 Hydref 2023)

TIR AR YR HEN SAFLE GLO, LLANILID

 

Cofnodion:

Cais materion wedi'u cadw'n ôl ar gyfer ysgol gynradd newydd ac isadeiledd cysylltiedig, gan gynnwys mynediad a thirlunio (cyflwynwyd yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol (hybrid) 10/0845/34). (Derbyniwyd cynlluniau diwygiedig ar 30 Medi 2021, 5 Ebrill 2022; derbyniwyd gwybodaeth ecolegol ddiwygiedig ar 22 Mehefin 2023, 9 Hydref 2023) TIR AR YR HEN SAFLE GLO, LLANILID

 

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD  cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

146.

CAIS RHIF: 23/0994 pdf icon PDF 179 KB

Fferm solar, gan gynnwys paneli solar ar y ddaear, is-orsafoedd, gwrthdroyddion, traciau mynediad, ffensys diogelwch a gwifren breifat.

TIR YN HEN LOFA COED-ELÁI, ODDI AR YR A4119, COED-ELÁI.

 

 

Cofnodion:

Fferm solar, gan gynnwys paneli solar ar y ddaear, is-orsafoedd, gwrthdroyddion, traciau mynediad, ffensys diogelwch a gwifren breifat. TIR YN HEN LOFA COED-ELÁI, ODDI AR YR A4119, COED-ELÁI.

 

(Nodwch: Ar y pwynt yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Williams y cyfarfod, ac ni ddychwelodd.)

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais uchod i'r Pwyllgor. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

147.

CAIS RHIF: 23/0712/10 pdf icon PDF 150 KB

Cynnig i newid defnydd yr eiddo i Gartref Preswyl i Blant.

142 STRYD KENRY, TONYPANDY, CF40 1DD

 

Cofnodion:

Cynnig i newid defnydd yr eiddo i Gartref Preswyl i Blant, 142 STRYD KENRY, TONYPANDY, CF40 1DD

 

Cyflwynodd y Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi'r cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 19 Hydref 2023, pan wrthododd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

Trafododd yr Aelodau'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad Swyddogion. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais, a hynny'n groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, oherwydd y rhesymau sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad pellach.

 

 

148.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 52 KB

Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 30/10/2023 – 10/11/2023.

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau.

Trosolwg o Achosion Gorfodi.

Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd, Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod rhwng 30/10/2023 – 10/11/2023.