Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
Cyswllt: Jess Daniel - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ac Ymgysylltu 07385401877
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r agenda.
|
|
DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
|
|
DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU'R DYFODOL (CYMRU) 2015 Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.
|
|
Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 05.10.2023 yn rhai cywir .
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 05.10.23 yn rhai cywir.
|
|
NEWID I DREFN YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei hystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.
|
|
CAIS RHIF: 22/1163/10 PDF 166 KB Datblygu pedwar fflat, maes parcio, gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 04/08/23) TIR ODDI AR HEOL SANT IOAN, TONYREFAIL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datblygu pedwar fflat, maes parcio, gwaith tirlunio a gwaith cysylltiedig. (Derbyniwyd Cynlluniau Diwygiedig ar 04/08/23) TIR ODDI AR HEOL SANT IOAN, TONYREFAIL
(Nodwch: Ar yr adeg yma, datganodd Cynghorydd y
Fwrdeistref Sirol S Emanuel fuddiant personol sy'n rhagfarnu mewn
perthynas â'r cais yma a gadawodd y cyfarfod cyn y
drafodaeth.
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor y siaradwyr cyhoeddus canlynol a gafodd bum munud yr un i annerch yr Aelodau yngl?n â'r cynnig uchod:
· Mr R Jones (Asiant) · Mr G Evans (Gwrthwynebydd) Siaradodd yr Aelod Lleol, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Owen-Jones, nad yw'n aelod o'r Pwyllgor, am y cais gan fynegi ei bryderon o ran y datblygiad arfaethedig.
Cynigiwyd y cyfle i'r Asiant, Mr R Jones, ymateb i'r Gwrthwynebydd ond gwrthododd wneud hynny. Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais a gafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn wreiddiol ar 9 Mawrth 2023 lle penderfynodd Aelodau ohirio'r cais er mwyn rhoi cyfle i'r ymgeisydd ddiwygio'r cynllun i fynd i'r afael â phryderon mewn perthynas ag effaith bosibl y cynllun parcio arfaethedig ar natur agored y safle. Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio yr adroddiad pellach i'r Pwyllgor ac yn dilyn trafodaeth,PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu yn amodol ar Gytundeb Adran 106 i sicrhau bod modd i'r cyhoedd ddefnyddio'r 5 lle parcio o flaen y datblygiad am byth ac yn amodol ar yr amodau sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad diweddaraf.
(Nodwch: Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol D Grehan am gofnodi ei fod wedi pleidleisio yn erbyn cymeradwyo'r cais uchod). (Nodwch: Ar yr adeg yma, dychwelodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol S Emanuel i'r cyfarfod.)
|
|
CAIS RHIF: 23/0896/10 PDF 146 KB Dymchwel estyniadau presennol i gefn ac ochr yr adeilad, adeiladu estyniad deulawr i ochr yr adeilad ac estyniad llawr cyntaf. Mae hefyd yn cynnwys newid strwythur yr eiddo presennol a chynnal gwaith adnewyddu cyffredinol (Derbyniwyd cynllun lleoliad safle diwygiedig ar 13/09/2023) Byngalo Cartref, Lôn Hobbs, Hirwaun, Aberdâr, CF44 9BU
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dymchwel estyniadau presennol i gefn ac ochr yr adeilad, adeiladu estyniad deulawr i ochr yr adeilad ac estyniad llawr cyntaf. Mae hefyd yn cynnwys newid strwythur yr eiddo presennol a chynnal gwaith adnewyddu cyffredinol (Derbyniwyd cynllun lleoliad safle diwygiedig ar 13/09/2023) Byngalo Cartref, Lôn Hobbs, Hirwaun, Aberdâr, CF44 9BU
Yn unol â'r gweithdrefnau a gafodd eu mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Ms N Brennan (Ymgeisydd) a gafodd bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Nododd y Pwyllgor fod Mr B Snape (Ymgeisydd) a oedd wedi gofyn am gael annerch yr Aelodau yngl?n â'r cais wedi gwrthod y cyfle. Nododd y Pwyllgor nad oedd modd i Ms R Smith (Gwrthwynebydd), a oedd wedi gofyn am gael annerch yr Aelodau yngl?n â'r cais, wneud hynny o ganlyniad i broblemau technegol. Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais a gafodd ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn wreiddiol ar 19 Hydref 2023 lle penderfynodd Aelodau ohirio'r cais ar gyfer trafodaeth bellach gyda'r ymgeisydd er mwyn goresgyn pryderon Aelodau mewn perthynas â'r cais cychwynnol, sef dyluniad blaen arfaethedig y datblygiad a'r gymhareb ffenestri i waliau yn benodol. Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio yr adroddiad pellach i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, yn amodol ar yr amodau sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad diweddaraf.
|
|
Codi 3 annedd hunan-adeiladu pwrpasol sydd bron yn ddi-garbon o fewn cwrtil yr annedd presennol a gwaith cysylltiedig. T? DEWI SANT, HEOL CASTELLAU, BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2RA
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Codi 3 annedd hunan-adeiladu pwrpasol sydd bron yn ddi-garbon o fewn cwrtil yr annedd presennol a gwaith cysylltiedig. T? DEWI SANT, HEOL CASTELLAU, BEDDAU, PONTYPRIDD, CF38 2RA
Yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u mabwysiadu, derbyniodd y Pwyllgor Mr S Courtney (Asiant). Cafodd e bum munud i gyflwyno'r cais uchod i'r Aelodau.
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth, PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu oherwydd y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.
|
|
Defnyddio tir ar gyfer hyfforddiant tactegau heddlu allanol gan gynnwys offer tactegau allanol, mynediad ar gyfer cynnal a chadw, tirweddu, peirianneg a gwaith seilwaith (mewn cysylltiad â chyfleuster tactegau heddlu arfaethedig ar safle cyfagos ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn amodol ar gais cynllunio ar wahân i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr) (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig a gwybodaeth ategol ar 09/08/23, 18/08/23 a 21/08/23). TIR TUA'R DE O HEOL FELINDRE, PENCOED LLANHARAN
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Defnyddio tir ar gyfer hyfforddiant tactegau heddlu allanol gan gynnwys offer tactegau allanol, mynediad ar gyfer cynnal a chadw, tirweddu, peirianneg a gwaith seilwaith (mewn cysylltiad â chyfleuster tactegau heddlu arfaethedig ar safle cyfagos ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn amodol ar gais cynllunio ar wahân i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr) (derbyniwyd cynlluniau diwygiedig a gwybodaeth ategol ar 09/08/23, 18/08/23 a 21/08/23). TIR I'R DE O HEOL FELINDRE, PENCOED LLANHARAN
Cyflwynodd Arweinydd Carfan Ceisiadau Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
(Nodwch: Ymatalodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hughes o'r bleidlais gan nad oedd e'n bresennol ar gyfer yr holl ddadl.)
|
|
Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach - Cam 2 HEN REILFFORDD FWYNAU O HEOL YR ORSAF, MAERDY, I GYFEIRNOD GRID SS 98809 97765
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach - Cam 2 HEN REILFFORDD FWYNAU O HEOL YR ORSAF, MAERDY, I GYFEIRNOD GRID SS 98809 97765
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
Decin pren yng nghefn yr eiddo. 65 HEOL-Y-COED, PONT-Y-CLUN, PONT-Y-CLUN, CF72 9AT
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Decin pren yng nghefn yr eiddo. 65 HEOL-Y-COED, PONT-Y-CLUN, CF72 9AT
(Nodwch: Ar ôl datgan buddiant personol mewn perthynas â'r cais (Cofnod Rhif 120), gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W Lewis y cyfarfod.)
Cyflwynodd Arweinydd Carfan Ceisiadau Cynllunio'r cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
|
|
CAIS RHIF: 22/1261/10 PDF 147 KB Newid defnydd i droi sied gwartheg yn uned breswyl. (Derbyniwyd Asesiad ac Arolygon Clwydo Ystlumod rhagarweiniol ar 17/8/22) Gorllewin Caerlan, Stryd yr Ysgol, Llantrisant, Pont-y-Clun, CF72 8EN
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Newid defnydd i droi sied gwartheg yn uned breswyl. (Daeth Adroddiad Clwydo Ystlumod Rhagarweiniol a phob Arolwg i law ar 17/08/23) Gorllewin Caerlan, Stryd yr Ysgol, Llantrisant, Pont-y-clun, CF72 8EN
Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio'r cais a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 5 Hydref 2023, pan gymeradwyodd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.
Trafododd yr Aelodau'r adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau posibl cymeradwyo'r cais yn groes i argymhelliad Swyddogion. Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais, a hynny'n groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu, oherwydd y rhesymau sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad pellach.
|
|
Rhoi gwybod i Aelodau am y canlynol, ar gyfer y cyfnod 09/10/2023 – 27/10/2023
Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd. Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau. Trosolwg o Achosion Gorfodi. Penderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Materion Cynllunio mewn perthynas â'r Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd, Penderfyniadau Dirprwyedig – Ceisiadau wedi'u cymeradwyo a'u gwrthod gyda rhesymau, Trosolwg o Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi Dirprwyedig ar gyfer y cyfnod rhwng 09/10/2023 – 27/10/2023.
|